Gardd Eifion/Rhad ras Duw
| ← Dymuniad | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Adgyfodiad y Saint → |
RHAD RAS DUW.
Pan ddeuodd y goruchel Dduw,
I'r ddaear lawr at ddynol ryw,
Yr Iuddew gaid, yn dweyd ar g'oedd,
Mai cyfaill pechaduriaid oedd.
Ni wadodd ddim,—dywedodd Ef,
Yn addfwyn genadwri'r nef,
Mai i alw'r wasgaredig ryw
Y daethai ef, yn ol at Dduw.
Dirmygus ganddynt oedd yr iaith,
Heb wybod yr ysgrythyr chwaith,
Y casglai Crist grwydredig lu,
Ei braidd i'w gorlan hardd yn gu
Dirmygu'r gras goruchel iawn,
I'r nefoedd sy'n llawenydd llawn;
Mae lluoedd hon yn llawenhau,
Pan fo i'r un edifarhau.
I dywallt gwarth ar falchder dyn,
Llychwino ymffrost gwag ei lun,
Gwan bethau'r byd etholodd Duw,
Y waelaf radd o ddynol ryw.
Mor ryfedd yw dy waith, O! Dduw,
Rhag doethion byd cuddiedig yw,
A boddlawn yn dy olwg hael,
Ei ddangos i rai bychain gwael.
Mae'n wir nad yw yn nyled un,
Ei ddeddf a dorwyd gan bob dyn!
Dangosodd ei drugaredd gu,
I'r gwrthryfelwyr gwaethaf fu.
Y lleidr gynt a Magdalen,
A'r gwyr a'i hoeliodd wrth y pren,
Y'nt flaenffrwyth ei gynhauaf gwiw;
A blaenffrwyth hefyd ŷnt i Dduw.
Maent yn effeithiol lawn goff had,
O'i ras a'i rydd drugaredd rad,
Rhag digaloni enaid byw,
Eto a ddel yn ol at Dduw.
Drwy'r aberth gwirfodd Iawn a gaed,
A'r ffynon werthfawr goch o waed,
Agored i dŷ Ddafydd yw,
I olchi pechod o bob rhyw.