Neidio i'r cynnwys

Gardd Eifion/Sicrwydd yr Addewid

Oddi ar Wicidestun
← Y Credadyn Cystuddiol Gardd Eifion

gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)


golygwyd gan William Williams (Caledfryn)
Dyfodol yr Eglwys →

SICRWYDD YR ADDEWID.

Wrth edrych ar y sail,
A'r wir addewid gref,
Er ofnau rif y dail,
Pa'm yr anmheuwn Ef.
A dyma air, pwy ŵyr ei werth?
Yn ol dy ddydd y bydd dy nerth.


Pa ham y beiaf ddim
Ar gyfoeth gras fy Nuw?
Lle rhoddwyd sicrwydd im'
Mai digyfnewid yw;
A dyma'r hen addewid gu,
Lle gallwn ni gael cysur cry'.

Nid oedd yn ngallu'r nef,
Ddim modd roi sicrwydd mwy,
Na'r wir addewid gref,
A seliodd gwaed ei glwy':
Ei air a saif yn un o hyd,
Pan doddo barn elfenau'r byd.

Y pererinion gynt,
A'r hen ferthyron glân,
Yn awr diangol ŷnt,
Er ymgyrch dwr a thân;
Mae'r llaw a'u daliodd hwynt i'r lan,
I tithau'n gymhorth, f'enaid gwan.


Nodiadau

[golygu]