Gardd Eifion/Twyll annghrist
Gwedd
| ← Cyfodi y Groes | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Emyn Cymedrolder → |
TWYLL ANNGHRIST.
Mae annghrist beunydd yn mhob oes,
Yn groes i'n Harglwydd Crist;
O bryd i bryd, ymdaenu wnaeth,
Ei draws hudoliaeth drist.
Y rhai wrthodo wrando'n wir,
Ar lais y cywir Oen,
I'r rhai'n pan ddelo'r tanllyd ddydd,
Y hydd tragwyddol boen.
Gochelwn ryfyg, twyll, a rhith,
O wael athrylith dyn,
Gan wrthod gair a deddfau gwiw,
Ein Harglwydd Dduw ei hun.
O'n calon rho'wn ufydd—dod clau,
I'w ordinhadau cu;
A'i lân orch'mynion yr un modd,
Ordeiniodd yn ei dŷ.
Efengyl Crist tros fryn a bro,
Ymdaeno is y nen;
Ac anghrist tan ei farwol glwy',
Heb wella mwy, Amen.