Gardd Eifion/Tywydd drwg
Gwedd
| ← Ar adferiad iechyd merch ieuanc | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
I Ddafydd Ddu Eryri → |
Dygwyddodd ar ddamwain pan oeddwn ar ryw dro yn ymweled a'm perthynasau, i'r tywydd droi yn wlybyrog anarferol, fel y liifodd y traeth fel nad oedd modd i fyned trwyodd; a thra'r oeddwn yn gohirio, dygwyddodd i mi yn fy anesmythder ddywedyd fel hyn:
A oes le rhydd is law 'rhod—na dwthwn
I deithiaw i'm trigfod;
Rhag dygwydd i aflwydd ddod,
Meirionydd, fy marw ynod?
Af i wyneb Eifionydd,—o Feirion,
Y fory. neu drenydd;
Caf wlad deg, caf weled dydd,
A môr Lleyn mawr a llonydd.