Neidio i'r cynnwys

Gardd Eifion/Y Cymod

Oddi ar Wicidestun
Esgyniad Crist Gardd Eifion

gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)


golygwyd gan William Williams (Caledfryn)
Eiriolaeth Crist

Y CYMOD.

Yr Iawn a dalwyd ar y groes,
Drwy ddyoddef loes hyd angau,
Sydd yn cymodi euog ddyn
A Duw ei hun, yn ddiau.

Mae bywyd i bechadur trist,
Yn angau Crist yr unig,
Gwag yw'r ddyledswydd oren er llun
At gadw dyn colledig.

Efe yw'r Iawn gerbron y Tad,
A'r aberth rhad dros bechod :
Hwn ydyw'r gwerth, a dyma'r gwaed!
Trwy'r hwn y caed y cymod.

Fe safodd dan ein beiau i gyd
Wrth ddyoddef ergyd angau;
Er iddo'n brudd ar waedlyd bren
Ogwyddo ei ben dan boenau.


Nodiadau

[golygu]