Gardd Eifion/Y Gwaed
| ← Gwaith gorphenol Crist | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Emyn → |
Y GWAED.
Mae'r gwaed a redodd ar y groes,
O oes i oes i'w gofio;
Rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn
I ddweyd yn iawn am dano.
Prif destyn holl ganiadau'r nef
Yw, "iddo Ef," a'i haeddiant;
A dyna sain telynau glân,
Ar uwchaf gân gogoniant.
Mae hynod rinwedd gwaed yr Oen,
A'i boen wrth achub enaid,:
Yn seinio'n uwch, ar dànau'r nef,
Na hyfryd lef seraphiaid.:
'Mhen oesoedd rif y tywod mân,
Ni bydd y gân ond dechiau;
Rhyw newydd wyrth o'i angau drud,
A ddaw o hyd i'r golau.
Nid yw caniadau'r nef yn awr
Ond megys gwawr yn tori,
Yr hon, fel amnaid fechan iawn,
Arddengys lawn oleuni
Pan ddelo torf y cystudd mawr
O'r anial dirfawr yno,
Dylenwir croth pob dwyfol dant
Ag uwch gogoniant iddo.
Er adrodd sain pob dosbarth glân
Ar ddirfawr gân ddiddarfod,
Ni fydd eu dawn ond isel fri
Am waed i olchi pechod.