Gardd Eifion/Y Mil Blynyddau
Gwedd
| ← Enaid a chorff y duwiol yn cyfarch eu gilydd | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Swydd y Lefiaid → |
Y MIL BLYNYDDAU.
Mae'r Sabbath mawr, ar fyr i fod,
Pan êl chwe diwrnod heibio;
A dyna'r pryd caift pawb o'r saint
Mewn uchel fraint orphwyso;
Bydd i'r ffyddlon, gywir dystion,
O dir a moroedd, ado'r meirwon,
Ar un cyfnod i gyfarfod,
A'u gwobrwyawl gywir Briod,
Pan fwrio ef y ddraig i lawr
I'r dulyn mawr diwaelod:
Yna union frenin Sion
Fydd a'i babell gyda dynion,
Ar fainc Dafydd, cyfiawn lywydd,
Y dirion nef a daear newydd,
A'i fawr lywodraeth tra fo chwyth
Ddiorfod byth ni dderfydd.