Gardd Eifion/Y Tir Pell
| ← Crist ac Aaron | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Dymuniad → |
Y TIR PELL.
Tyr'd, esgyn, gad, fyfyrdawd gu,
Holl barthau'r eang ddaear ddu,
Anturiaf dreiddio'n mhell uwchlaw
Y seren uchaf welir draw.
Ond O,'r fath ddosbarth sydd yn d'od,
I'm gwydd, heb derfyn iddo'n bod;
Llesmeirio'r wyf, gan syndod llawn,
Na chynwys deall, iaith, na dawn.
Er hyn, esgynaf yn ddifraw,
Tuhwnt i'r eangderau draw;
Os gallaf gyrhaedd, er o bell,
Un olwg ar y wlad sydd well.
O'r diwedd daethum i'r mwynhad,
Lle gwelaf ryw ddyeithrol wlad,
Nas gallaf edrych ar ei bri
Gan faint ei thegwch tanbaid hi,
Mae ofn a braw o fewn i'm bron,
Wrth wel'd yr olwg ryfedd hon,
Pa fro neu wlad frenhinol yw,
A phwy sy'n bod o'i mewn yn byw?
Pob blodau diflanedig sydd
Yn myn'd o'm golwg oll dan gudd;
Sylweddau didranc eu parhad,
Yw holl wrthrychau'r nefol wlad.
A thra mae ansawdd hyfryd hon
Yn pur ddysgleirio, ger fy mron;
Mil myrdd o ryfeddodau maith,
Yn awr a welaf ar un waith,
O! henffych goeth drigfanau gwiw
Lle mae pob harddwch yn ei liw;
Ni wywa gwedd un tegwch gwawr
Yn myd yr anfarwoldeb mawr.
O! henffych batriarchiaid glân
A'r cwmwl tystion, aeth drwy'r tân:
O! mor annhebyg yw eu pryd,
I'r wedd oedd arnynt yn y byd.
Cerubiaid ac angylion yw
Eu cyd frodorion byth i fyw,
Ai sant, ai seraff, pwy o rhai'n
A dery uchaf ar y sain?
Ol pa mor ddedwydd yw pob rhi'
O'i siriol hoff breswylwyr hi,
A'u mawl i'r Gwr fu ar y groes,
Yn nwyfol wledd y nefol oes.
Wrth wrando eu pereiddiaf lef,
Yn cyd anadlu drwy'r holl nef,
O'r braidd, yn nghlyw eu hanthem lân,
Na cheisiwn gynyg llais y gân.
Mae'r Hwn fu unwaith dan y llid,
Yn awr, a'i wedd gan ddwyfol wrid,
Yn hardd belydru drwy bob rhan
O'r danllyd, ogoneddus fan.
Ni ddaw o fewn y santaidd fro,
Un boen na thristwch byth na thro,
Ond cydfwynhau tragwyddol hedd,
Heb angau'n bod, nag ofn y bedd.
Mi welaf nad yw'r isel fyd
"Yn deilwng o fy serch a'm bryd;"
A bod trysorau pur y nef
Yn mhell uwchlaw ei gyrhaedd ef.
Ai yma clywodd Paul ei hun,
Ryw anoddefol iaith i ddyn?
Ai hon yw'r wlad lle gwelodd ef
Aneirif wyrth y drydedd nef;
Fal Moses gynt fu ar y bryn,
Yn gwel'd y Ganaan wlad cyn hyn,
O! na chawn inau gymhorth llon
I weled tegwch y wlad hon.
Tyr'd, fy nychymyg, edrych dro,
A gwel gyffiniau'r nefol fro;
Myrdd uwch yw clod ei harddwych dir
Na godidawgrwydd Canaan glir.
Os rhaid oedd dringo'r mynydd maith
Cyn gwel'd y Ganaan wiw un waith,
O! f' enaid, p'le mae d'ymdrech di
Am feddu'r wlad sydd well na hi?