Gardd Eifion/Ymddiried i Ragluniaeth
| ← Dydd y Farn | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Ar ddydd Genedigaeth → |
YMDDIRIED I RAGLUNIAETH.
Mewn hedd fy enaid gorphwys,
Yn dawel nos a dydd,
'R Hwn sy'n dy borthi'n oestad,
Yn agos atad sydd:
Hyd yma'r hwn a'm daliodd,
Byth ni ddiffygia Ef;
Bydd foddlon i lywodraeth
Rhagluniaeth ddoeth y nef.
Creadwr mawr y nefoedd
Y tir a'r moroedd maith,
Yr hwn ni all gyfnewid,
Na dweyd anwiredd chwaith;
Fe ddyry fara imi,
A dwfr yn wir ddi wall,
A phob peth angenrheidiol,
A buddiol yn ddi ball.
Mae fe'n dilladu'n gywrain,
Y cigfrain mawr eu chwant;
Gan hyny, a fydd iddo
Ef byth annghofio'i blant?
Mae fe'n dilladu'r llysiau,
A gwellt y maes heb ri',
A all y saint annghredu
Na wrendy ef eu cri?
Efe a wnaeth ein defnydd
Ac Awdwr bywyd yw,
Yr hwn sydd werthfawrocach
Na'r byd a'i berlau gwiw;
A gwallt ein pen, bob blewyn,
Rhag syrthio'r un ar goll,
Gan Iesu, 'n ddirgeledig,
Sydd gyfrifedig oll.
Am hyny, pa'm gofalwn,
Am bethau gwael y byd,
Nad ydynt ond oferedd,
A gwagedd ffol i gyd?
Fe ŵyr ein Harglwydd tirion,
Am ein hangenion maith,
Rhydd ini'r hyn fo'n eisiau,
Tra paro dyddiau'n taith.
Ein gofal penaf beunydd,
Tra fyddom dan y nef,
Yw ceisio'r deyrnas nefol,
A'i bur gyfiawnder Ef;
A'n dwyn i'r llawn drigfanau
Lle na bydd eisiau'n bod,
Ond seinio, yn oestadol
I'r Oen dragwyddol glod.