Gardd Eifion/Yr Eglwys, mewn amseroedd terfysglyd
| ← Marwnad Angau, neu Fuddugoliaeth Crist | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Cyfodi y Groes → |
YR EGLWYS MEWN AMSEROEDD TERFYSGLYD.
O Sion! pa'm yr ofni,
Nag yr achwyni chwaith?
Ceir gweled yn mhob tywydd,
Wir gynydd ar y gwaith;
Ac enw Iesu hawddgar,
Ar led y ddaear lawr;
Saif gyda'i achos hefyd,
Hyd ddiwedd byd bod awr.
Ei ddyfnion ragluniaethau,
Bob oes er dechreu'r byd,
Y'nt gam wrth gam yn gymwys,
A'i eglwys ef o hyd,
Nas dichon cnawd llygredig,
O wael wyredig ryw,
Gan faint ei d'w'llwch diball,
Wir ddeall fawr am Dduw.
Ei ffyrdd y'nt anchwiliadwy,
Ofnadwy, gyfiawn Ior,
A'i daith uwchlaw'r wybrenau,
A manau dwfn y môr;
Mae'r cedyrn awdurdodau,
Drwy'r ymrysonau sydd,
Fel olwyn f'ai mewn olwyn,
Yn dirwyn at y dydd.
Mae annghrist a'i alluoedd,
Drwy leoedd daear lawr,
Mahomet, Pab, a'r Pagan,
Yn min eu hoedran mawr;
Daw'r Iuddew o'i gamsyniaeth,
A'i drom elyniaeth drist,
Adwneir y byd o newydd.
Heb ddim ond crefydd Crist,
Dy ddirfawr ddoeth amcanion,
Yn eon oll a wnair,
I wirio'r addewidion,
Sydd gyson yn y gair;
Yn mhob rhyw oes aeth heibio,
A'r oesoedd eto ddaw,
Mae pethau mawr dy deyrnas,
Diluddias, yn dy law.
Cyflawnir rhagfwriadau,
A doeth arfaethau Duw,
Yn nhrefn ei ras achubol,
Anedifeiriol yw,
Pan ddygir pob cysylltiad,
A'r bwriad mawr i ben,
Bydd diben terfynadwy,
Yn Iesu mwy, Amen.