Gardd Eifion (testun cyfansawdd)
| ← | Gardd Eifion (testun cyfansawdd) gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
→ |
| I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Gardd Eifion |
GARDD EIFION:
SEF
Barddoniaeth
R AB GWILYM DDU
O Eifion.
Liverpool:
ARGRAFFWYD GAN I. FOULKES, 18, BRUNSWICK STREET.
1877
BYWGRAFFIAD.
GANWYD y bardd coeth a llednais hwn yn y Bettws Fawr, plwyf Llanystumdwy, yn nghwmwd. Eifionydd, sir Gaernarfon, yn 1767. Brodor o sir Feirionydd ydoedd William Williams, ei dad; ac efe oedd perchenog y Bettws Fawr, yr hwn le yn nghwrs amser a ddaeth i feddiant y Bardd Du. Yn yr amaethdy gwledig hwnw, heb ddim yn tori ar dawelwch unffurfiol y lle ond sibrwd didaw yr afon Ddwyfach gerllaw, y treuliodd yn ddedwydd rychwant einioes hyd o fewn ychydig flynyddau i'w therfyn, pan y symudodd i'r Monachdy, yn yr un gymydogaeth. Trwyddo ef, daeth y Bettws Fawr yn adnabyddus i feirdd a llenorion, ac yn gyrchle gwyr o nod; ac i'r ffaith fod Robert ab Gwilym wedi bod yn cyfaneddu yn y lle y rhaid cyfrif am enwogrwydd y Bettws Fawr rhagor ffermdai dinod eraill Eifionydd. Palph o ddyn cadarn gwladaidd ydoedd Robert Williams, ac ni buasai dyeithr ddyn byth yn meddwl oddiwrth ei olwg allanol fod yr awen yn gwneud ei nhyth mewn adeilad mor annhebyg. Ond dadblygai cydnabyddiaeth âg ef, yn y llanerch fynyddig hono, a than y cnwd annhrefnus hwnw o wallt, athrylith o radd uchel iawn. Yr oedd y Bardd Du yn hynafiaethydd medrus, ac wedi efrydu llawer ar y pwnc hwnw, yn arbenig yn ei ystyr leol; ac yr oedd ar ei fferm yn yr amser hwnw gryn lawer o adfeilion yr hen Gymry fu. Yr oedd hefyd yn gerddor deallgar, a'i athraw yn y gelfyddyd hono ydoedd Mr J. R. Jones, o Ramoth, fel y dywed y bardd yn ei farwnad i'r gwr hwnw. Darllenasai lawer ar ganghenau buddiol eraill o wybodaeth; ac nid oedd odid i bwnc nad oedd efe i rhyw raddau yn gydnabyddus âg ef, ac yn alluog i syniaw yn gywir am dano. Bedyddiwr ydoedd ar y pwnc o fedydd, ac yr oedd yn bleidiol iawn i'r Bedyddwyr Neillduol, prif ddyn yr hon blaid y pryd hwnw yn Nghymru ydoedd Jones o Ramoth; ond nid oedd efe yn aelod gydag unrhyw blaid grefyddol. Dywed Caledfryn yn y traithawd ar ei Athrylith a'i Weithiau yn y Traethodydd am 1852, t.d. 326, wrth son am rai o annghysonderau y bardd fel crefyddwr:—"Byddai pregethwyr o bob enwadau yn galw heibio iddo, a chaent groesaw mawr ganddo; ond anfynych yr elai i wrandaw ei gyfeillion penaf, os na fyddent yn Fedyddwyr; a phan elai i wrandaw, byddai yn gwneud hyny yn fwy o gymwynas i'r llefarwr, ac yn fwy fel beirniad, nag fel pechadur ag arno eisiau y pethau a gynygid iddo ei hunan. Helpu y pregethwr i drwsio y bregeth ar ol darfod oedd oreu ganddo, na derbyn ac ymborthi ar y pethau a glywai ei hunan. Goludog oedd, ac nid oedd arno eisiau dim, yn yr ystyr yma. Efe oedd cynathraw Dewi Wyn, a thrwy fod y ddau yn byw yn ymyl eu gilydd, yr oedd cryn undeb yn eu golygiadau a'u gweithrediadau. Digiodd y ddau tua'r un amser wrth yr eisteddfodau; ac ni chafwyd ohyny allan na'u gwaith na'u presenoldeb na'u geirda i'r un o'r cyfryw gyfarfodydd. Taflwyd y Bardd Du oddiar ei echel oherwydd rhoddi y wobr am englyn y "Delyn" i Walter Mechain yn Nghaerfyrddin, yn 1819; a chanodd y Bardd Gwyn yn iach iddynt am byth ar ol i'r Dryw gael y wobr yn Eisteddfod Dinbych oddeutu yr un amser am ei awdl ar "Elusengarwch." Yr oedd y ddau yn Fedyddwyr, a'r ddau onid gwrandawyr yn unig am yspaid hirfaith, a bu ganddynt ran flaenllaw eu dau yn nghodiad addoldy yn yr ardal, a adwaenid wrth yr enw, "Capel y Beirdd." Hyd y gwyddom, dyna yr unig dro yr ymwregysodd y y Bardd Du i faes yr ymrysonfa farddonol; a bu farw heb yr un ariandlws ar ei elw. Ni flaenddodir un dernyn o'i waith â'r geiriau, "Buddugol" mewn unrhyw Eisteddfod; ond er hyny, y mae llysiau Gardd Eifion mor beraidd eu blas, a'i blodeu mor swynol eu harogl, ac mor brydferth eu gwisg, ag odid i ddim a gyhoeddwyd yn yr iaith Gymraeg. Un o'r pethau hynotaf yn yr amaeth-fardd diniwaid hwn ydoedd y syniadau uchel oedd ganddo am ei waith ei hun. Byddai yn ymylu ar wynfydedd wrth ei adrodd a'i ganmol ei hunan; ac ychydig groesaw gai dyeithr-ddyn yn y Bettws Fawr os nad allai fawrygu barddoniaeth gwr y ty. Yn y Brython iv. 112, adrodda Talhaiarn am wr o'r enw Roberts, Dolymelynllyn, yn myned i edrych am y Bardd, ac ar ol cyfarch gwell, gwelai yn union mai rhyw groesaw lled sychlyd oedd yno iddo. Cofiodd, pa fodd bynag, fod ei westteiwr yn hoff o ganmoliaeth, a dechreuodd chwareu ar y nwyd hono, ac ebe fe wrtho, "Wyddoch chwi beth, Rhobert Williams, englyn rhagorol ydyw hwnw o'ch gwaith chwi." "P'run ydyw hwnw, y gwr dierth?" ebai y Bardd. "Hwn," meddai Roberts,
"Paham y gwneir cam a'r cymod—neu'r Iawn
A'i rinwedd tros bechod?
Dyweder maint y Duwdod—
Yr un faint yw'r Iawn i fod."
Ac ebai y Bardd, "Wel, yn wir, y mae o'n dlws! —dywelwch o eto, da chwi" a'r dyn yn cydsynio, nes oedd yr awdwr wedi ei lyncu i fynu gan ei swynion a'i brydferthwch, ac yn galw ar y wraig, "Gwnewch gwpanaid o dê o thipyn o doast i'r gwr dierth, yn union deg—dywedwch yr englyn unwaith eto, da chwi." Roberts yn ei ddweyd drosodd a throsodd drachefn. A fu erioed well engraifft o ddiniweidrwydd. Byddai ambell un yn gwneud camgymeriad mawr gyda golwg ar y ddor i serch y bardd. "Mae genym ninau yn sir Ddinbych acw fardd da iawn," ebai porthmon wrtho rhyw dro. "Pwy ydyw hwnw, y gwr dierth?" ebai yntau. "Robert Dafis o Nantglyn," ebai'r. porthmon. Ond atehodd y Bardd gyda dau ansoddair cryf, na waeth heb eu hail grybwyll, ond dangosent pa mor ddwfn ydoedd ei ddigofaint am y camwri a oddefodd ei gyfaill Dewi Wyn yn Eisteddfod Dinbych mewn rhan oddiar law Bardd Nantglyn. Torwyd cryn lawer ar ei yspryd at farddoni pan fu farw ei anwyl ac unig eneth, Jane Elizabeth, yr hon oedd yn ferch ieuanc 17 oed, brydferth, synwyrol, a dysgedig. Plentyn ei henaint ydoedd, canys bu efe yn hir iawn yn dwyn y teitl o "Hen Lanc y Bettws Farw," a pharodd y son am ei briodas gryn syndod yn yr ardaloedd. Yr oedd ei marwolaeth yn ergyd trwm iddo—nis gallai byth ddal clywed ei henw heb i'w lygaid lenwi o ddagrau, ac y mae ei farwnad iddi yn un o'i awdlau mwyaf teimladol yn yr iaith. Y mae coethder a dillynder anarferol yn nodweddu ei holl gyfansoddiadau, ac ystyrid ef yn bencampwr am englyn: ac nid heb achos, fel y prawf ei englynion i "Grist gerbron Pilat," "Pilat gerbron Crist," yr "Iawn," a'i feddargraffiadau tarawgar a a dysgrifiadol. Yn ei awdl farwnad i Jones o Ramoth, ceir meddyliau hynod o dlysion, ac arddengys lewder y llew pan yn canmol dyn oedd mor anmhoblogaidd gyda'r lluaws. Nodweddir ei ganiadau digynghanedd gan yr un dillynder, a destlusrwydd iaith a syniadau. Ysgrifenodd un neu ddwy o garolau da, a cherdd neu ddwy o gryn deilyngdod, ond fel emynwr yr adwaenir ef oreu gan y werin. Cenir rhai o'i emynau hyd ganiad yr udgorn, megis "Mae'r gwaed a redodd ar y groes," &c.; "Rhyfeddod oedd, rhyfeddod yw," &c.; "Gogoniant byth i'r Anwyl Un," &c,; ac amryw eraill ellid grybwyll. Yn wir, y mae y flaenaf a nodasom fel pe wedi ei chyfansoddi o bwrpas ar gyfer y nefoedd, i'w chanu ar "uwchaf lef seraphiaid," ond ddarfod ei dodi ar wefus y bardd fel y gallai "torf y cystudd mawr" ymgydnabyddu â hi ar eu taith tua gwynfyd. Cyhoeddwyd gwaith Robert ab Gwilym yn gyfrol fechan yn 1841, tan yr enw Gardd Eifion, gyda rhagymadrodd gan Caledfryn. Bu farw yn y Monachdy, Mehefin 11, 1850, yn 83 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Abererch, ger Pwllheli. Yr oedd cywydd marwnad iddo yn un o destunau Eisteddfod Porthmadog yn 1851, a chywydd
campus o waith Ioan Madog a enillodd y wobr.—Enwogion Cymru.RHAGDRAITH I'R ARGRAFFIAD 1af.
WELE, o'r diwedd, i'r darllenydd gasgliad o waith Barddonawl Mr. Robert Williams, Betws Fawr, neu Robert ab Gwilym Ddu, o Eifion. Yr oedd y wlad yn hiraethu am hyn er ys blynyddau a hyderir y rhydd cyhoeddiad y casgliad hwn foddlonrwydd cyffredinol i Gymru.
Y mae yn ddiamheuol fod Mr. Robert Williams yn un o'r Beirdd galluocaf a fu neu y sydd yn yr oes bresenol, fel y dengys pob llinell a ddaeth o dan ei law erioed.
Nid oes dim yn y gyfrol yma nad ellir ei arganmol i sylw pob math o ddyn a fedro ddarllen iaith y Cymry. Dichon y gwahaniaetha rhai oddiwrth olygiadau yr awdwr mewn rhai pethau; ond ni ddichon hyny filwrio yn erbyn teilyngdod y gwaith fel barddoniaeth. Y mae y farddoniaeth yn dda ac yn ddigoll; ie agos yn berffaith rydd oddiwrth y pethau a elwir yn wallau. Y mae pob dernyn, lle yr oedd eisiau dangos medr a chywreinrwydd wedi ei orphen. mor dda, fel nad oes un meddwl na chwaeth na chaiff hyfrydwch wrth ddarllen y cyfansoddiadau. Nid ydys yn tybio fod yn y casgliad hwn un linell y cyst i'r awdwr wylo deigryn o'i herwydd wrth ymadael â'r fuchedd hon. Y mae tuedd y cyfan at ddyrchafu moesoldeb a rhinwedd.
Caiff llawer Cristion felusder i'w enaid wrth ddar- llen a chanu ei Emynau blasus ac efengylaidd. Y mae yr Emynau wedi eu dodi yn gyntaf yn y llyfr, fel y caffo y neb a ddewiso gyfleusdra i'w rhwymo ar eu penau eu hunain, er eu dodi ar yr areithfa; nid ydym yn anmheu na chyferfydd hyn â chymeradwy- aeth llaweroedd, ac na chenir yr Emynau gyda blas pan fydd yr awdwr yn gorwedd yn dawel yn mro dystawrwydd.
CALEDFRYN.
Caernarfon, Meh. 21, 1841.GARDD EIFION.
CRIST GER BRON PILAT.
Dros fai, nas haeddai, mae'n syn,—ei weled
Yn nwylaw Rhufeinddyn;
A'i brofi gan wael bryfyn,
A barnu Duw ger bron dyn.
PILAT YN Y FARN.
Yn y dorf, mewn ofn dirfawr,—pwy welir,
Ow! ai Pilat rwysgfawr?
Ie'r trwm fradwr tramawr,
Foru'n fud, yn y farn fawr.
"HER OLLWNG GWAED," &c.
Heb loes, fu ar groes fawr gref,—i un oll,
Ni ellid cael tangnef;
Na gweddus fodd i'n goddef,
Na byw dyn heb ei waed Ef.
YR IAWN.
Paham y gwneir cam â'r cymod,—neu'r Iawn,
A'i rinwedd dros bechod?
Dywedwch faint y Duwdod,
Yr un faint yw'r Iawn i fod!
"YN Y DYDD Y BWYTAI O HONO."
Y gosb ddaeth arnom i gyd,—gwae a marw
Gymerodd le'r bywyd;
A mwy rhyfedd, marw hefyd
O'i boen fywhaodd y byd.
Os angau caeth, ddaeth ryw ddydd,—yn Eden
Niweidiawl yn gerydd,
O dir gwae, yn dragywydd,
Angau'r groes a'n rhoes yn rhydd.
GWEDDI.
Gwir wylaf ddagrau heli,—o lwyr och,
I lawr af dan waeddi,
At ei orsedd, mewn gweddi,
A gwaed y Mab gyda mi.
Drwy'r hoelion, a'r coroni,—draw, a'i gur,
Drwy y gwawd a'r poeri,
Drwy y gwinegr, dir gyni,
Drwy ei boen fawr, derbyn fi.
CRIST A'I WARADWYDDIADAU.
Dygodd ei oes fendigaid,—do'n wyrthiol,
Dan warth pechaduriaid;
Gwaedu'i fron, gwedi, fu raid;
Bron yr Oen, Brynwr enaid.
Y FARCHNAD YSBRYDOL.
Drwy'r newyn draw a'r niwaid,―at yr lawn
Tro unwaith dy lygaid,
Yno y ffoi—O! na phaid,
I brynu bara enaid.
CYNGOR I FOD YN DDYODDEFGAR.
Pan fych mewn poen afiechyd,—a phoethion.
Effeithiau dy glefyd;
Cofia Grist, yn dy dristyd,
A chwerw boen Iachawr y byd.
Y PECHADUR RHYFYGUS.
Rhedeg, ar redeg, mae'r adyn,—anwych,
I wyneb y poethlyn;
I'w lwyr gael, o law'r gelyn,
Ni all deddf ynill y dyn.
ERFYNIAD AM WLAW YN GORPH., 1826.
Dad eiddym, deued addas,—gawodydd,
Gwywedig yw'n teyrnas;
A mwyda di,'r crindir cras,
A da wlaw, Duw Elias.
UFFERN.
Ffwrn eirias, wynias, annuw,—hyll beiriant,
Lle bwrir pob didduw;
Llyn diwaelod, llawn diluw,
Dyna le tost, dan lid Duw.
"BYDDAF ANGAU I TI O, ANGAU," &c.
Poenau a gofid, ein Pen a gafodd,
Poen, a du lafur, pan y dolefodd,
Poen i'w gorff anwyl, pan y gorphenodd,
Poen a loesau mawrion, pan lesmeiriodd,
Poenau, arteithiau a'i tôdd,—a diau,
Poenwyd yr angau ei hun pan drengodd.
"BYDDAF DRANC I TI Y BEDD."
Yn ol ei arwain yn wael i orwedd,
O'i lwyrdost ofid, i lawr dystawfedd,
Gwylio, a selio, ar y gwir sylwedd,
Pylai drwy farw, bob pelydr o'i fawredd,
Er hyn bu'n ddychryn i'r bedd—arswydol,
Drwy ing cur dwyfol, bu'n dranc i'r dufedd.
"CUDDIWYD EDIFEIRWCH O'M GOLWG."
Er holl nerthoedd fy ingoedd cyfyngaf,
Hynod o fawrion, ni edifaraf,
Eithr, i ffynu, fy mawrwaith orphenaf,
O hyd, ar achos fy mhobl edrychaf,
Pyrth angau'n olau a wnaf,—a'm tlysau
O'u cauad fanaú eu codi fynaf.
EMYNAU.
AMGYLCHIADAU MARWOLAETH CRIST.
Pwy lefodd dan loes y groes farwol gref?
Ai f' Arglwydd ei hun, Duw ddyn, ydoedd Ef?
Ai Awdwr y bywyd, yn waedlyd ei wedd,
A wasgwyd dan bwysau ein beiau i'r bedd?
Tri hoeliwyd ar grog, dau'n euog a gaed;
Un cyfion o'r tri a weli'n rhoi'i waed;
Ac hwn yn y canol, mae'n wyrthiol i ni,
Yn fwyaf dirmygus, truenus, o'r tri!
Pa grynu mae'r llawr, arswydfawr mor syn,
P'am, greigiau,'r y'ch chwi yn hollti fel hyn?
Ganwriad, pa'm, meddi, y curi dy fron,
Os twyllwr a gafwyd i'r rhwyd yr awr hon?
Pa rwygaw o'r nen mae'r llen hyd y llawr?
Haul! pa'm yr wyt brudd, dan orchudd yn awr?
Chwi seintiau, gorphwyswch, y llwch yw eich lle,
Nid hwn yw'r dydd cyfri' i godi, nagê!
Och! angau di hedd, mor ryfedd dy rym,
Dy allu sy fawr drwy'r llawr yn dra llym—
O fedd! ymegnia, dal yna'n dy law,
Bob graddau dan gloion o ddynion a ddaw,
Cei filwyr o'th blaid yn geidwaid heb gel;
A'r maen trwm, yn wir, osodir dan sêl;
Myn gadw terfynau bro angau mewn bri,
Rhag digwydd bradwriaeth i'th deyrnas gaeth di.
Paham daeth gerbron genadon y nef,
I edrych lle bu ei oer wely Ef,
Na thraethu'r fath fawrion newyddion o hedd,
Os dyn i'n ffugdwyllo fu yno'n ei fedd?
Na na dyma'r gwr, Gwaredwr gwir yw,
Un dwyfol yn d'od o'i feddrod yn fyw;
Y maes pan wynebodd, o'i wirfodd ei hun,
Drwy wersyll marwolaeth y daeth Mab y dyn.
Yn ngafael y bedd, er gorwedd yn gaeth,
O'r frwydr yn rhydd a'i dywydd y daeth,
Pob gelyn orchfygwyd, symudwyd y maen,
Pyrth uffern ysbeiliodd, faluriodd o'i flaen.
Nid twyllwr, ond Duw, pur ydyw'r Mab rhad,
Oen hyfryd un hawl, Ior dwyfawl â'i Dad;
Addoled cenhedloedd a'r nefoedd yn un,
Gan berffaith gydnabod y Duwdod mewn dyn.
DOETHINEB DUW.
MAWR yw doethineb brenin nef,
A'i wyrthiau Ef sydd werthfawr:
Ni thraethir byth eu maint, ar g'oedd,
Hyd derfyn oesoedd dirfawr.
Gwynfyd y lluoedd dysglaer, llon,
Sy fry ger bron ei wyneb,
Yn gweled rhyfeddodau clir,
Gwaith hynod gwir ddoethineb.
Yr haul, a'r lloer, a'r ser uwch ben,
Sy'n harddu'r wybren siriol,
Gan ddangos ei ddoethineb maith,
A'i gywrain waith rhagorol.
Y ddaear lawn, a'i dirfawr lu,
Sy'n traethu am ei fawredd;
A'r eigion dwfn, a'r pysg sy'n gwau,
Dan dònau'r ddyfrllyd anedd.
Ond wele fwy rhyfeddol waith,
Doethineb maith sydd eglur,
Yn trefnu iachawdwriaeth rad,
A Cheidwad i bechadur.
Drwy ddirgel drefn doethineb gu,
Dwy natur fu elynol,
Yn mherson Crist, mewn undeb sydd,
Hyn fu, hyn fydd, ryfeddol.
O pa mor anchwiliadwy yw
Doethineb y Duw perffaith,
Ei wyrthiau'n llawn, ni ddeall neb,
I dragwyddoldeb hirfaith.
DYLEDSWYDD DYN.
O! cydnabydded dynol-ryw
Fod arnom ddyled fawr i Dduw;
Mae pob rhyw ddoniau îs y nef
Yn deilliaw o'i drugaredd ef.
Er bod ei rad haelioni'n fawr,
I holl gre'duriaid daear lawr,
Fe roes i ddyn fyrdd myrddiwn mwy
O roddion teg na'r eiddynt hwy.
Ni ffurfiodd Ef greadur byw,
Yn ol ei ddelw, anwyl Dduw,
Ond dyn yn unig, tan y nef,
I debygoli iddo Ef.
Ar ol diweddu dirfawr waith,
Ar dir, a llu y dyfnder llaith;
Gosododd ddyn fel unig ben,
Ar bob rhyw nifer is y nen.
Addurnodd y Creawdwr ef,
O'i dyner nawdd â doniau'r nef,
I draethu glân fynegawl glod
I'w nefol annherfynol fod.
Am hyny dylai dyn o hyd,
Fod megys genau tros y mud;
Cre'duriaid gwael iselaidd ryw,
A'u nefol dôn i foli Duw.
Os ydyw dyled dyn bob awr
Roi moliant i'r Jehofa mawr,
Am greadigol ddoniau rhad,
A roes y doeth haelionus Dad.
Pa faint yn fwy o ddyled sydd,
Ar ddyn i ganmol Duw bob dydd,
Am drefnu ffordd, o'i gariad hael,
I gadw'r gwan greadur gwael?
Rhyfeddod pa rhyfeddod fwy,
Na gweled Iesu tan ei glwy'?
Yn dyodde'n brudd ar ddirfawr bren,
A'r goron bigog ar ei ben!
Ac wedi dyoddef angau du,
Dros waelaf, annheilyngaf lu,
Agorodd ffordd i'r nefol wledd,
Fe dorodd byrth a dôrau'r bedd.
Pob poen a gofid maith a ga'dd,
A phob rhyw groesau o bob gradd,
Sydd yn diweddu yn gytun,
Er helaeth iachawdwriaeth dyn.
Am hyny rho'wn haeddianol glod,
A doniau rhydd o dan y rhod,
I enw pur ein Ior a'n pen,
Can's haeddawl yw o'r mawl, AMEN.
CWYMP DYN.
Mor wynfydedig ydoedd dyn,
Yn hardd ar lun ei Arglwydd!
Heb ing na chur, nac angau chwaith,
Yn berffaith mewn santeiddrwydd!
Ond wele, syrthiodd ef a'i ryw,
Tan ddigter Duw a'i soriant;
Trwy dwyll y ddraig a'i hudol iaith,
O ganol maith ogoniant.
Pan welodd y Jehofa cu.
Orchfygu'r pur gre'duriaid,
Addewid hylwydd rhoes y Tad,
O Grist yr had bendigaid.
Cyflawnodd ef ei air yn gu,
A ddarfu'n foreu addo,
Gan farnu'r ddraig,—daeth Crist i'r byd,
A'i phen a sigwyd ganddo.
Trwy ddyoddef poen, yr Iesu pur,
Mor wael dan gur marwolaeth,
Distrywiodd Ef uffernol rym
Y ddraig, a'i llym elyniaeth.
Adferodd ddyn colledig, gwan,
I fywyd annherfynol;
Preswylfa, well nag Eden yw,
Yn ngwyddfod Duw'n dragwyddol.
IACHAWDWRIAETH TRWY GRIST.
Rho'wn hyder ein gobaith yn lanwaith i lawr,
Ar gariad y Drindod mewn undod yn awr;
Ni chollir un enaid o'i ddeiliaid, medd Ef,
Cânt orphwys mewn urddas yn ninas y nef.
Crist ydyw blaguryn a gwreiddyn pob gras,
Fe lwyddodd yn erbyn y gelyn a'i gas;
Un aberth anfeidrol, ddigonol a gaed,
I enaid gresynus, on'd gweddus yw'r gwaed?
Rhyfeddwn ei boenau, a'i loesau, hael Ior!
Creawdwr y dyfnder a meithder y môr;
Y ddaear a'r nefoedd, a'u lluoedd yn llon,
Ei ben a goronwyd pan friwiwyd ei fron.
Yr Iesu grasusol yn farwol a fu,
Fe dalodd yn ffyddlon ddyledion ei lu;
Fe ddyg ein camweddau a'n beiau drwy boen,
Fe gafwyd tangnefedd trwy rinwedd yr Oen.
Fe yfodd o'r afon, Oen tirion y Tad,
A'i ben a ddyrchafodd pan brofodd ein brad;
Fe ddygodd in' fywyd tra hyfryd trwy hedd,
Gorchfygodd nerth angau un boreu a'r bedd.
Y cadarn Gyfryngwr, eiriolwr hael yw,
Sy'n sefyll yn ffyddlon rhwng dynion a Duw,
Trwy rinwedd ei aberth, yn brydferth eu braint,
Daeth heddwch tragwyddol, cysurol i'r saint.
Trwy'i allu tragwyddol anfeidrol Efe,
Daw'r saint i gyrhaeddyd newyddfyd y ne';
O'r dyrys anialwch i heddwch cyn hir,
Fe ddwg yr Oen tirion ei weision yn wir.
MAWRHYDI A DAROSTYNGIAD CRIST
Rhyfeddod oedd, rhyfeddod yw!
Ai 'r unig ddyrchafedig Dduw,
Gwir wrthrych mawl seraphiaid gwych,
A welaf draw yn waelaf drych?
Rhyfeddol iawn i'r nefol lu,
Oedd gweled eu Creawdwr cu,
Yn gwisgo natur wan ei rhyw,
Yn waelaf ddyn,-anwylaf Dduw.
Os rhyfedd gan angylion nef,
Oedd gwel'd ei bur ddynoldeb f;
Mae myrdd o ryfeddodau mwy,
Yn rhinwedd glân ei farwol glwy'!
Ni all angylion nefoedd lon,
Cerubiaid a seraphiaid hon,
Ac epil Adda oll yn un,
Fynegi doniau Mab y dyn.
Uwchlaw gofidiau byd o boen,
Fe ddwg y bendigedig Oen
Ei brynedigion oll ryw ddydd,
O bob rhyw loes i'r einioes rydd.
O, am y ddedwydd, ddedwydd awr,
Pan ddyddio tragwyddoldeb mawr,
Cawn wledda fyth ar rin ei glwy',
A ddechreu mawl heb ddiwedd mwy.
CRIST YN IACHAWDWR CYFLAWN.
Tragwyddol gariad Tri yn un,
I gadw dyn colledig,
A ogoneddwyd ar y pren,
Gan Iesu bendigedig.
Trugaredd rad o'i fynwes ef
Fel afon gref a lifodd;
Rhai o bob llwyth,-pob iaith ac oes,
Ar bren y groes a brynodd.
Ei einioes lân a roes i lawr,
Tan bwys ein dirfawr bechod;
Fe brynodd ini wir ryddhad,
Trwy waed y rhad gyfamod.
Halogrwydd du, euogrwydd dwys,
A dirfawr bwys ein beiau,
A'i gwasgodd Ef i'r bedd yn gaeth,
Tan gref lywodraeth angau.
Mewn daear wael, ei dyner wedd,
Er gorwedd yn gystuddiol,
Ar allu'r bedd, ar angau caeth,
Ca'dd fuddugoliaeth fythol.
Gorphenodd iachawdwriaeth gu,
I'r nefoedd fry esgynodd;
Holl allu uffern faith i gyd,
Fyth hefyd a gaethiwodd.
Trwy rinwedd pur ei aberth rhad,
Ger bron y Tad mae'n eiriol;
Yn haeddiant ei gyfryngdod ef,
Fe wrendy'n llef gystuddiol.
O talwn byth ein teilwng barch,
I'n ffyddlon arch-offeiriad;
O Sion nac annghofia nerth
Ei gywir werthfawr gariad.
Holl seintiau ac angylion nef,
I'w enw Ef y canant;
Ond ni all doniau sereiph dwys,
Fyth gynwys ei ogoniant.
Nes myn'd i blith y dorf sy bell,
Yn meddu gwell telynau;
Dyrchafwn ni sydd eto'n ôl,
Ei fawl â'n dynol dànau.
Anfarwol gôr y nef i gyd,
Yn hyfryd a'i molianant;
O, llanwn ninau, yn ddi drai,
Y ddaear â'i ogoniant.
DYODDEFAINT CRIST.
Cyflawnodd Crist y ddeddf,
Yn ol ei chyneddf fywiol;
Gan berffaith anrhydeddu hon.
Yn ei gofynion nefol.
A thrwy anfeidrol werth
Ei aberth archolledig,
Fe ddaeth yn iachawdwriaeth wiw,
I ddynolryw colledig.
Ei fywyd pur i lawr
Ro'es Iesu mawr grasusol,
Tan gafod tost digofaint Duw,
I ni gael byw'n dragwyddol.
Er tywallt môr o waed,
Trwy hwn ni chaed maddeuant,
Aneirif ebyrth, llesg eu rhyw,
Rhy eiddil yw eu haeddiant.
Ni allai angel pur,
Nac un creadur nefol,
Nac aur, na pherlau gwerthfawr drud,
Trysorau byd amserol,
Ddileu mawreddol rym,
Effeithiau awchlym pechod;
Na rhoddi Iawn tros gamwedd dyn,
A'i ddwyn yn un â'r Duwdod
Ond wele ar y groes,
Yr Hwn a ro'es foddlondeb!
Trwy briod aberth Crist ei hun,
Daeth Duw a dyn mewn undeb.
O, gwelwn ddagrau gwaed,
O'i draed a'i ddwylaw tirion!
Pan hoeliwyd ef ar ddirfawr grog,
A'i ben dan bigog goron.
Mewn ing a gwaedlyd chwys,
Bu'n gogoneddus Geidwad;
Ond ni ddiffoddodd angau llym,
Drag'wyddol rym ei gariad.
Mewn dirfawr gur a gwawd,
Pob rhan o'i gnawd oedd glwyfus;
A'i enaid hefyd, anwyl Grist,
Yn wir oedd drist a phoenus.
O ôl y waew ffon,
Y tarddodd ffynon fywiol;
Hon sy'n ddigonol i lanhau,
Ein mawrion glwyfau marwol.
O'i brynedigion oll,
Yr un ni chyfrgollir;
Er sychu'r môr, er llosgi'r byd,
Y rhai'n i gyd a gedwir.
Hwy ânt trwy angau'n rhydd,
I'r pur lawenydd nefol;
Ac etifeddant, yn ei wedd,
Dangnefedd yn dragwyddol.
AR YR UN TESTYN.
Gwel, O enaid rhwng gelynion,
Ar y greulon chwerw groes,
Dduw a Cheidwad gwael bechadur,
Yn ei lafur dan ei loes;
Coffa'r gwpan sur a yfodd
Crist, o'i lwyrfodd yn dy le;
Nid oes enw all adferyd
I ni fywyd ond efe.
O! mor hyfryd gan angylion,
Wel'd ei berson yn y byd;
O! mor helaeth trwy'i gnawdoliaeth,
Daeth yr iachawdwriaeth ddrud!
Hyn oedd hynod faith ryfeddod,
Weled hanfod Duw ei hun,
Yn y ddinerth natur ddynol,
Er mwyn marwol, ddamniol ddyn.
Cyfod Sion dy olygon,
Gwel yr afon ddysglaer wiw,
Gwel yn eglur dy benadur,
Yn y frwydr dan ei friw:
Dyma'r unig gyfaill ffyddlon,
Dyddiwr union da ei reddf,
Rho'es anrhydedd i gyfiawnder,
Tynodd ddigter Duw a'i ddeddf.
Dyma'r cadarn lew o Juda,
Fyth o'n dalta ddaeth i'n dwyn,
O, ty enaid nac anghofia
Ben Calfaria er ei fwyn:
Ca'dd y ddeddf ei hanrhydeddu,
A dyrchafu'r Iesu wnaed,
Tynodd golyn angau creulon,
Trwy ei wiwlon rasol waed.
GWAITH GORPHENOL CRIST.
Tan boenau trymion angau trist,
Ar bren y groes bu'r anwyl Grist,
Gorphenodd ei ryfeddol waith:
Pan y gogwyddodd ef ei ben,
Fe dduodd gwawr y nefoedd wen,
Cydgrynodd seiliau'r ddaear faith.
Gorphenodd dalu perffaith lawn,
Enillodd fuddugoliaeth lawn;
Ac nid oes angenrheidrwydd mwy
Am waed nac aberth o un rhyw,
Dros fyth i'n dwyn i heddwch Duw,
Ond rhinwedd glân ei farwol glwy'.
Gorphenodd ein iachawdwr cu,
Orchfygu nerthoedd uffern ddu;
Ei waed a roddodd Had y Wraig;
'Rhyn a 'sgrifenwyd ddaeth i ben,
Pan y dolefodd ar y pren,
Pan ddrylliodd Iesu ben y ddraig.
Pan gilio goleuadau'r nen,
Pan dreulio oesau'r byd i ben,
Bydd melys glod i'r Iesu glân;
Ei waith gorphenol yn ein lle,
A haeddiant ei gyfryngdod E',
Fydd testyn ein tragwyddol gân.
Y GWAED.
Mae'r gwaed a redodd ar y groes,
O oes i oes i'w gofio;
Rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn
I ddweyd yn iawn am dano.
Prif destyn holl ganiadau'r nef
Yw, "iddo Ef," a'i haeddiant;
A dyna sain telynau glân,
Ar uwchaf gân gogoniant.
Mae hynod rinwedd gwaed yr Oen,
A'i boen wrth achub enaid,:
Yn seinio'n uwch, ar dànau'r nef,
Na hyfryd lef seraphiaid.:
'Mhen oesoedd rif y tywod mân,
Ni bydd y gân ond dechiau;
Rhyw newydd wyrth o'i angau drud,
A ddaw o hyd i'r golau.
Nid yw caniadau'r nef yn awr
Ond megys gwawr yn tori,
Yr hon, fel amnaid fechan iawn,
Arddengys lawn oleuni
Pan ddelo torf y cystudd mawr
O'r anial dirfawr yno,
Dylenwir croth pob dwyfol dant
Ag uwch gogoniant iddo.
Er adrodd sain pob dosbarth glân
Ar ddirfawr gân ddiddarfod,
Ni fydd eu dawn ond isel fri
Am waed i olchi pechod.
EMYN.
Dacw un mewn natur ddynol,
Heb un math o bechod gwreiddiol,
Eto'n farwol ar y pren;
Deddf y nef a anrhydeddodd,
A'i gofynion a gyflawnodd,
Pan ogwyddodd Ef ei ben;
Dewch, Iuddewon a Chenhedloedd,
Er pob gofid a therfysgoedd,
Dacw'r llwybr o'r dyfnderoedd,
A bwrcaswyd cyn yr oesoedd,
Yn ei waed i'r nefoedd wen.
Cyfod enaid, a dihuna,
Gwel y gwaith wnaed ar Golgotha,
Yn ei laddfa dan y loes;
Ni, dylodion, oeddym gaethion,
Dan ddigofaint y ddeddf gyfion,
Yno'n rhyddion hwn a'n rhoes;
Deuwch deuwch gaethion Eden
At ein llywydd, eto'n llawen,
Draw i'r ddinas, drwy'r Iorddonen,
Ni gawn ddiengyd yn ddiangen,
I'r ddi-len dragwyddol oes.
ADGYFODIAD CRIST.
Cyfododd Brenin hedd,
Iachawdwr dynolryw;
Mewn gogoneddus wedd,
O'r marwol fedd yn fyw;
Ein bywiol ben esgynodd fry,
Goruwch pob llu, tu draw i'r llen.
O rwymau'r angau caeth,
Yn rhydd y daeth Mab Duw;
Gorchfygu'r bedd a wnaeth
Mewn buddugoliaeth wiw;
Derbyniodd Ef bob gallu mawr,
Trwy'r ddaear lawr yn awr a'r nef.
Er bod ei gorff yn nghudd,
Tan orchudd angau'n gaeth,
I'r lan yn gwbl rydd,
Y trydydd dydd y daeth:
Er bod tan glwy', ni allai'r bedd
Trancedig wedd, mo'i atal mwy.
Datglôdd y bàrau dur,
Dirymodd Iesu'r sêl,
Fe aeth er gwaetha'r gwŷr,
A'r frwydr faith heb gel;
Ein Blaenor gwiw, er myn'd tan glo,
Yr angau dro, mae E' eto'n fyw!
Mae achos llawenhau,
Wrth gofio'r boreu cu,
Enillodd Iesu'n glau,
Allweddau'r dyfnder du:
Fe dreiglwyd draw y pwysig faen,
Yn rhydd o'i flaen gan nefol law.
Er rhoi ar bren y groes
Ei anwyl oes tan glwy'
Gan angau byth nid oes
Awdurdod arno mwy;
Agorodd ddôr y dyffryn du,
O flaen ei lu,, anwylaf Ior!
Daw'r saint o lwch y bedd
Ar wedd eu Priod cu;
I lawn dragwyddol wledd,
Mewn gwir orfoledd fry;
Dyrchatant draw o'r dyfnder cudd;
Cânt dd'od yn rhydd, mae'r dydd gerllaw.
Pan losgo'r ddaear lawr,
A'i mawredd o bob rhyw,
Fe genir am yr awr
Daeth Ef o'i fedd yn fyw;
Bydd côf am hon gan ddysglaer lu,
Aneirif fry, byth ger ei fron.
ESGYNIAD CRIST.
Wele angau llym ei gledd,
Wele agoriadau'r bedd,
Wele nef a daear lawr,
Tan awdurdod Iesu mawr.
Fry esgynodd Mab y dyn,
Trwy ei werthfawr waed ei hun,
Dwyn tystiolaeth wnaeth y nef,
I fawr werth ei aberth Ef.
Eistedd ein Cyfryngwr mawr,
Ar orseddfa'r nef yn awr,
Cynrychioli mae'r Mab rhad,
Bawb o'r holl ddewisol had.
Daeth angylion llon gerllaw,
Seinient drwy'r uchelder draw,
Agor nef dy byrth yn awr,
Daw i mewn y Brenin mawr.
Gwaith gorphenol Iesu yw,
Iachawdwriaeth dynolryw,
Pob ymadrodd yn un iaith,
Canant mwy ei foliant maith.
Y CYMOD.
Yr Iawn a dalwyd ar y groes,
Drwy ddyoddef loes hyd angau,
Sydd yn cymodi euog ddyn
A Duw ei hun, yn ddiau.
Mae bywyd i bechadur trist,
Yn angau Crist yr unig,
Gwag yw'r ddyledswydd oren er llun
At gadw dyn colledig.
Efe yw'r Iawn gerbron y Tad,
A'r aberth rhad dros bechod :
Hwn ydyw'r gwerth, a dyma'r gwaed!
Trwy'r hwn y caed y cymod.
Fe safodd dan ein beiau i gyd
Wrth ddyoddef ergyd angau;
Er iddo'n brudd ar waedlyd bren
Ogwyddo ei ben dan boenau.
EIRIOLAETH CRIST
Ein hyder rho'wn yn Had y Wraig,
Anwylaf Grist ein nefol graig,
Yr hwn dros weinion Sion sy
Dynerol frawd, yn eiriol fry,
Hoff red yr hedd yn ffrydiau rhad,
I ni o'i loes mewn anial wlad.
Hwn sydd yn awr ar orsedd nef,
O draw a glyw ein dirgel lef;
Mae'n dadleu gwerth ei aberth rhad
Gwir Brynwr dyn gerbron ei Dad,
Pob cysur pur i laesu'r poen
A gaed o rinwedd gwaed yr Oen.
Cyfrana'n hael, cu Frenin hedd,
I afradloniaid, hyfryd wledd,
A'n eiddil gwyn a ddelo'n gu
Gerbron yr orsedd ryfedd fry;
A deled gwlith y fendith fawr,
Ein Naf, o lys y nef i lawr.
CRIST A PHLANT BYCHAIN.
Fel arwydd i'w ddysgyblion cu,
Yr Iesu a ddangosodd,
Am ddull a deiliaid teyrnas ne'
I'r eiddo fe arwyddodd.
"Boed i blant bychain ataf dd'od,"
Medd ef, "heb ddanod iddynt;
I'r cyfryw rai, gwirionedd yw,
Fod teyrnas Dduw yn eiddynt."
Bendithiodd ef y rhai'n yn rhwydd,
Mewn dull yn arwyddedig,
O'r fendith nefol, bur heb os,
Fydd i'r rhai gostyngedig.
Ond ni fedyddiodd mo'nynt chwaith,
Fe wnaeth ei waith yn addas;
O ran fod eisiau cyffes ffydd,
Yn neiliad rhydd ei deyrnas.
Ond d'weyd, "Oddieithr newid dyn,
A'i droi fel plentyn bychan,
Nid â i'r deyrnas sydd i'r saint,
Na chael o'i gwiwfraint gyfran."
Pwy bynag a'i dyrchafo'i hun,
Y cyfryw un ostyngir;
A'r hwn fo isel yn ei fryd,
Er gwawd y byd a godir,
CRIST A MOSES.
Y ddeddf a ddaeth trwy Moses draw,
A roes y dwyfol Ior o'i law;
Eich llygaid trowch, eneidiau trist,
I wel'd y cariad rhad a'r hedd,
Gwirionedd hefyd yr un wedd,
A'r gras a ddaeth trwy Iesu Grist.
Eu gwaith a'u swyddau'n Eglwys Dduw,
Y'nt hefyd o wahanol ryw;
Fel gwas ufuddol, Moses fu,
Ond Crist yn Fab goruchel iawn,
A chanddo mae awdurdod lawn,
Efe sydd arglwydd ar ei dŷ.
Gan hyny rho'wn ufudd-dod gwiw,
I'w lân orch'mynion o bob rhyw,
Oblegyd teilwng ydyw Ef;
Boed moliant, ac addoliad byth,
I'r Oen a laddwyd yn ddilyth,
Trwy'r ddaear lawr yn awr a'r nef.
I'r hwn ddirmygai'r ddeddt ar g'oedd,
Marwolaeth ddidrugaredd oedd;
Ond trymach damnedigaeth fydd
I'r hwn ddirmygo wir Fab Duw,
Ac aberth y cyfamod gwiw;
Pan ddelo barn y tanllyd ddydd.
CRIST AC ADDA.
Trwy gamwedd un aeth dynolryw,
Tan gyfiawn farn digofaint Duw;
Yn Adda meirw y'm i gyd,
Er cyn ymddangos yn y byd.
Ond os trwy anufudd-dod un,
Y daeth marwolaeth ar bob dyn;
Trwy Un, a'i bur ufuddol waith,
Daeth bywyd o gamweddau maith.
Yn mhell uwchlaw y camwedd cas,
Yr ymddyrchafodd dwyfol ras;
Oherwydd trwy un trosedd caeth,
Ar bob rhyw ddyn y farn a ddaeth.
Ond wele ras, rhyfeddol yw!
Oddiwrth gamweddau o bob rhyw,
Yn rhoddi perffaith wir ryddhad,
I ni, a hylwydd gyfiawnhad.
A lle teyrnasodd pechod cas,
Ar ddynolryw, trwy'r ddaear las,
Teyrnasa gras tros fyth rhagllaw,
Nes cyrhaedd tragwyddoldeb draw.
CRIST AC AARON.
Wele'r fath degwch hawddgar iawn,
A welir yn yr Iesu'n llawn!
Rhagori mae fyrddiynau maith,
Ar feibion Aaron yn eu gwaith.
Ei offrwm poeth a ro'i pob un,
Yn gyntaf tros ei fai ei hun;
Ond pur oedd bywyd Iesu gwiw,
A'i offrwm pur derbyniol yw.
Gwaed anifeiliaid yn ddiludd,
Daenellent hwy o ddydd i ddydd,
Ond Iesu roes ei waed ei hun,
I dynu'n beiau ni bob un.
Eu hoffeiriadaeth farwol draw,
Cyfnewid 'roedd o law i law;
Ond offeiriadaeth Crist a'i waith,
A saif i dragwyddoldeb maith.
Un tro yn ei flynyddol waith,
Ac nid a'i waed ei hunan chwaith,
Yr ymddangosai Aaron hy,
Ger bron y drugareddfa gu.
Ond Crist trwy waed ei fynwes gu,
Esgynodd Ef i'r nefoedd fry;
Ymddangos mae ger bron y Tad,
Gan ddadleu gwerth ei aberth rhad.
Y TIR PELL.
Tyr'd, esgyn, gad, fyfyrdawd gu,
Holl barthau'r eang ddaear ddu,
Anturiaf dreiddio'n mhell uwchlaw
Y seren uchaf welir draw.
Ond O,'r fath ddosbarth sydd yn d'od,
I'm gwydd, heb derfyn iddo'n bod;
Llesmeirio'r wyf, gan syndod llawn,
Na chynwys deall, iaith, na dawn.
Er hyn, esgynaf yn ddifraw,
Tuhwnt i'r eangderau draw;
Os gallaf gyrhaedd, er o bell,
Un olwg ar y wlad sydd well.
O'r diwedd daethum i'r mwynhad,
Lle gwelaf ryw ddyeithrol wlad,
Nas gallaf edrych ar ei bri
Gan faint ei thegwch tanbaid hi,
Mae ofn a braw o fewn i'm bron,
Wrth wel'd yr olwg ryfedd hon,
Pa fro neu wlad frenhinol yw,
A phwy sy'n bod o'i mewn yn byw?
Pob blodau diflanedig sydd
Yn myn'd o'm golwg oll dan gudd;
Sylweddau didranc eu parhad,
Yw holl wrthrychau'r nefol wlad.
A thra mae ansawdd hyfryd hon
Yn pur ddysgleirio, ger fy mron;
Mil myrdd o ryfeddodau maith,
Yn awr a welaf ar un waith,
O! henffych goeth drigfanau gwiw
Lle mae pob harddwch yn ei liw;
Ni wywa gwedd un tegwch gwawr
Yn myd yr anfarwoldeb mawr.
O! henffych batriarchiaid glân
A'r cwmwl tystion, aeth drwy'r tân:
O! mor annhebyg yw eu pryd,
I'r wedd oedd arnynt yn y byd.
Cerubiaid ac angylion yw
Eu cyd frodorion byth i fyw,
Ai sant, ai seraff, pwy o rhai'n
A dery uchaf ar y sain?
Ol pa mor ddedwydd yw pob rhi'
O'i siriol hoff breswylwyr hi,
A'u mawl i'r Gwr fu ar y groes,
Yn nwyfol wledd y nefol oes.
Wrth wrando eu pereiddiaf lef,
Yn cyd anadlu drwy'r holl nef,
O'r braidd, yn nghlyw eu hanthem lân,
Na cheisiwn gynyg llais y gân.
Mae'r Hwn fu unwaith dan y llid,
Yn awr, a'i wedd gan ddwyfol wrid,
Yn hardd belydru drwy bob rhan
O'r danllyd, ogoneddus fan.
Ni ddaw o fewn y santaidd fro,
Un boen na thristwch byth na thro,
Ond cydfwynhau tragwyddol hedd,
Heb angau'n bod, nag ofn y bedd.
Mi welaf nad yw'r isel fyd
"Yn deilwng o fy serch a'm bryd;"
A bod trysorau pur y nef
Yn mhell uwchlaw ei gyrhaedd ef.
Ai yma clywodd Paul ei hun,
Ryw anoddefol iaith i ddyn?
Ai hon yw'r wlad lle gwelodd ef
Aneirif wyrth y drydedd nef;
Fal Moses gynt fu ar y bryn,
Yn gwel'd y Ganaan wlad cyn hyn,
O! na chawn inau gymhorth llon
I weled tegwch y wlad hon.
Tyr'd, fy nychymyg, edrych dro,
A gwel gyffiniau'r nefol fro;
Myrdd uwch yw clod ei harddwych dir
Na godidawgrwydd Canaan glir.
Os rhaid oedd dringo'r mynydd maith
Cyn gwel'd y Ganaan wiw un waith,
O! f' enaid, p'le mae d'ymdrech di
Am feddu'r wlad sydd well na hi?
DYMUNIAD.
Mi ddymunwn fod heb bechod,
Ac yn rhydd oddiwrth fy sorod;
Heb ddim llwgwr yn fy natur,
Nac i'm galw yn bechadur.
O! na fedrwn dawel esgyn,
Drwy'r eangder mawr diderfyn,
I'r wlad lawn o ryfeddodau,
Goruwch ing ac ymgyrch angau.
Mi gawn yno wel'd y Person,
A groeshoeliwyd rhwng y lladron;
A holl fodau gwlad y sylwedd,
Yn cyd blygu wrth ei orsedd.
Beth pe cawn un olwg eglur,
Ar ogoniant ei ddwy natur,
Dull ei wedd a'r danllyd goron,
Lle bu'r drain a'u pigau llymion.
Mi ddymunwn wel'd y dyrfa,
Sydd yn iach ar ben eu gyrfa,
Fu gynt yn yr anial enbyd,
Yma'n ymladd am eu bywyd.
Mi gawn wybod od oes graddau,
Yn eu sain-neu eu personau;
Ydyw Moses a'r proffwydi,
Paul ac eraill yn rhagori.
Gweled Babel dan y gawod,
A'i marsiandiaeth mawr yn syndod;
A phob traddodiadau dynol,
Wedi llwyr ddiflanu'n hollol.
Dyna'r pryd y gwelir Iesu,
Ar y ddaear yn teyrnasu,
A'i frenhiniaeth yn ei blodau,
Gyda'r saint dros fil o flwyddau.
Pethau rhyfedd fydd i'w canfod
Wedi 'r seliau gael eu datod,
Pan gyfodir y cyfiawnion,
Pabell Duw fydd gyda dynion.
Dacw'r seithfed fil yn dyfod,
Jubili'r gre'digaeth isod,
Mae'r orphwysfa mewn addewid,
Sabbath o dragwyddol ryddid.
Satan wedi cael ei rwymo,
Annghrist hefyd ei ddistrywio,
A'r frenhiniaeth i fab Dafydd,
Ar dŷ Jacob yn dragywydd.
RHAD RAS DUW.
Pan ddeuodd y goruchel Dduw,
I'r ddaear lawr at ddynol ryw,
Yr Iuddew gaid, yn dweyd ar g'oedd,
Mai cyfaill pechaduriaid oedd.
Ni wadodd ddim,—dywedodd Ef,
Yn addfwyn genadwri'r nef,
Mai i alw'r wasgaredig ryw
Y daethai ef, yn ol at Dduw.
Dirmygus ganddynt oedd yr iaith,
Heb wybod yr ysgrythyr chwaith,
Y casglai Crist grwydredig lu,
Ei braidd i'w gorlan hardd yn gu
Dirmygu'r gras goruchel iawn,
I'r nefoedd sy'n llawenydd llawn;
Mae lluoedd hon yn llawenhau,
Pan fo i'r un edifarhau.
I dywallt gwarth ar falchder dyn,
Llychwino ymffrost gwag ei lun,
Gwan bethau'r byd etholodd Duw,
Y waelaf radd o ddynol ryw.
Mor ryfedd yw dy waith, O! Dduw,
Rhag doethion byd cuddiedig yw,
A boddlawn yn dy olwg hael,
Ei ddangos i rai bychain gwael.
Mae'n wir nad yw yn nyled un,
Ei ddeddf a dorwyd gan bob dyn!
Dangosodd ei drugaredd gu,
I'r gwrthryfelwyr gwaethaf fu.
Y lleidr gynt a Magdalen,
A'r gwyr a'i hoeliodd wrth y pren,
Y'nt flaenffrwyth ei gynhauaf gwiw;
A blaenffrwyth hefyd ŷnt i Dduw.
Maent yn effeithiol lawn goff had,
O'i ras a'i rydd drugaredd rad,
Rhag digaloni enaid byw,
Eto a ddel yn ol at Dduw.
Drwy'r aberth gwirfodd Iawn a gaed,
A'r ffynon werthfawr goch o waed,
Agored i dŷ Ddafydd yw,
I olchi pechod o bob rhyw.
ADGYFODIAD Y SAINT.
Cysegra ni i'th Yspryd Glân,
Dod dduwiol anian ynom;
Ac yn dy wyddfod, ar dy wedd,
Tu draw i'r bedd y byddom.
Pan bydro'r corff yn lludw mân,
Dan oerllyd geulan angau,
Ei ranau oll—yr Ion a wyl,
Yn anwyl ei ronynau.
Un llwchyn bach yn ol ni bydd,
Ar foreu ddydd y cyfri';
Pan fyddo holl dylwythau'r byd
O'r bedd yn cyd gyfodi.
O! pa mor wynfydedig fydd,
Y rhai mewn ffydd a hunant,
Mewn nerth, addurnir hwynt yn ddwys,
I gynal pwys gogoniant.
Er myn'd i lawr yn wael eu gwedd,
I gryd y bedd llygredig,
Mewn undeb pur â Christ, eu pen,
Cânt godi'n fendigedig.
Y corff a'r enaid—un a fydd,
Y ddau dragywydd gymhar,
Mewn undeb tawel byddant hwy,
Nid angau mwy a'u hysgar.
Mor ogoneddus fydd y saint
Yn meddu'r fraint o newydd,
A gollwyd gynt yn Eden ardd,
Sef delw hardd eu Harglwydd.
CAN FUDDDUGOL Y SAINT.
Gogoniant byth i'r anwyl Un
A dynodd golyn angau;
Ysbeiliodd uffern fawr ei grym,
A rhyddion ydym ninau.
Gorchfygodd Iesu ar brydnawn
Y ddraig a'i llawn gynllwynion;
A'i waed a roddodd i'n glanhau,
A'n cànu ninau'n wynion.
Chwi sereiph a cherubiaid glân,
Eich dawn rho'wch allan iddo,
Y ddwyfol law a'n cododd ni,
A'ch cadwodd chwi rhag syrthio.
O dewch, angylion, pa'm na ddewch,
A chyd chwarewch eich tanau,
A boed i sain Calfaria fryn,
Ail enyn eich telynau.
Os chwi a genwch am eich dal,
A'ch cynal trwy ei allu,
Ein dyled ni'n fyrdd mwy a gaed,
Am roi ei waed i'n prynu.
Ni ydym hil y codwm mawr,
Aeth gynt i lawr yn Adda;
Caed modd i'n gwneud yn gwbl iach,
Ar fynydd bach Calfaria.
Hosanna, cawsom feddu'r wlad,
Yr hon a rad addawyd,
Lle gwelir mawredd gwir Fab Mair,
A gwerth y gair "Gorphenwyd."
Chwi batrieirch, deuwch, t'rewch y dôn,
Ac apostolion hefyd;
A'r hen ferthyron yn mhob oes,
Dros Grist a roes eu bywyd,
Dadseinied grymus anthem gref,
Organau'r nef ogoned,
I enw'r Duwdod yn y dyn,
Pob dawn yn un enyned.
Ag aur delynau'n gor di lyth,
Heb orfod byth ymado,
Cawn gyd-fwynhau tragwyddol hedd,
A'n gwedd yn debyg iddo.
O ffrwyth ei loes ar Galfari,
Cawn fedi'r hir orfodaeth;
Hen glwyfau Eden—tynwyd hwy,
Ni welwn mwy farwolaeth.
Myrdd mwy dyogel yw'r wlad lwys
Na hen baradwys Adda;
Ni ddaw dim pechod, braw na chur,
Na gelyn a'mur yma.
O angau taeog! dywed hyn,
P'le mae dy golyn bellach?
A pha le mae, O uffern gaeth!
Dy fuddugoliaeth mwyach?
O teilwng! teilwng! ydyw'r Oen,
A ddygodd boen ein beiau,
Nid hwy fydd tragwyddoldeb chwaith
Na hyd ein maith ganiadau.
Am gyflawn dâl y prynwyd ni
O'n holl drueni marwol,
A'r pridwerth ar Galfaria fryn
Yw'n testyn yn dragwyddol.
I Dduw bo'r diolch, rhoddi wnaeth
In' fuddugoliaeth hylwydd,
Gorfodaeth ar bob gelyn trist,
Trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Y CREDADYN CYSTUDDIOL.
Boddloni wnaf i drefn fy Ner,
Dan bob rhyw flinder beunydd;
Fe ddichon droi fy chwerwaf gri,
A'm galar i lawenydd.
O dan y wialen, os rhaid bod,
Nes cael fy sorod ymaith,
Fel aur a burir yn y tân,
Y deuaf allan eilwaith.
Crist ydyw'r meddyg, mawr ei ddawn,
A ddichon iawn gymhwyso,
Pob rhyw gystuddiau ddel i'n rhan,
A gwneud i'r cyfan lwyddo.
Er chwerwed yw pob cwpan lawn,
Nid ydyw'n iawn bod hebddynt;
Cawn wel'd y cyfan er lleshad,
Mae gwin o gariad ynddynt.
Mae'r Tad yn profi, mwy neu lai,
Pob un o'r rhai a garo,
A'i olwg arnynt ddydd a nos,
I'w dwyn yn agos ato.
A phan heneiddio'r corff o gnawd,
A'n natur dlawd yn gwywo,
Gall ein dyn newydd fod, er hyn,
Mewn ieu'nctyd yn blodeuo.
Er bod cystuddiau blin ein hoes
Yn gwbl groes i natur,
Mae'n holl geryddon, a'u parhad,
Yn llaw ein Tad wrth fesur.
Efe a ddichon esmwythau
Dolurion angau difri',
A throi holl ddychryniadau'r glyn,
A'r t'w'llwch yn oleuni.
SICRWYDD YR ADDEWID.
Wrth edrych ar y sail,
A'r wir addewid gref,
Er ofnau rif y dail,
Pa'm yr anmheuwn Ef.
A dyma air, pwy ŵyr ei werth?
Yn ol dy ddydd y bydd dy nerth.
Pa ham y beiaf ddim
Ar gyfoeth gras fy Nuw?
Lle rhoddwyd sicrwydd im'
Mai digyfnewid yw;
A dyma'r hen addewid gu,
Lle gallwn ni gael cysur cry'.
Nid oedd yn ngallu'r nef,
Ddim modd roi sicrwydd mwy,
Na'r wir addewid gref,
A seliodd gwaed ei glwy':
Ei air a saif yn un o hyd,
Pan doddo barn elfenau'r byd.
Y pererinion gynt,
A'r hen ferthyron glân,
Yn awr diangol ŷnt,
Er ymgyrch dwr a thân;
Mae'r llaw a'u daliodd hwynt i'r lan,
I tithau'n gymhorth, f'enaid gwan.
DYFODOL YR EGLWYS.
Henffych foreu hyfryd iawn,
Os rhaid wylo dros brydnawn,
Hi ddaw yn gyflawn ddydd;
Pan f'o gwybodaeth
O'r iachawdwriaeth
Uwch pob camsyniaeth yma sydd.
Pan fo moliant Iesu mawr,
Dros dalaethau daear lawr,
Mor werthfawr fydd y fraint,
Eu blaenor bywiol,
Mewn natur ddynol,
Fydd yn bersonol gyda'r saint.
Bwrir pob traddodiad cas,
Sy'n gorchuddio Crist a'i ras,
O'i sanctaidd deyrnas Ef;
Daw'r byd presenol,
Yn lle trigianol,
I'w foli'n unol fel y nef.
ANNGHREDINIAETH.
Mae f'anghrediniaeth cas
Yn anmheu gras fy Nuw,
Nes gorfod gwaeddi, Beth a wnaf?
Mae'n dweyd na byddaf byw;
A bod fy meiau mawr,
I gyd i lawr ar gael,
Ac na fwriadodd Duw ei hun,
Fyth godi'r fath un gwael.
Euogrwydd mawr ei rym,
A'ı gleddyf llym sy'n lladd,
Heb ddim i esmwythau fy mron,
Drwy'r ddaear gron, un gradd;
O! na chawn godi mhen,
Goruwch y llen a'r llawr,
Nes gwel'd y ffynon sy'n glanhau,
Yn nghlwyfau'r Meichiau mawr.
Er ini grwydro'n hir,
Yn mhell o dir ein gwlad,
Mae eto alwad ar ein hol
I dŷ ein nefol Dad;
O! brysiwn bawb, mewn pryd,
Am fywyd ato Fe,
Mae gwledd yn barod ger ein bron,
Ac i dylodion le.
EMYN.
Mae annghrediniaeth beunydd yn dangos ger fy mron,
Y gorfydd imi sefyll yn ngwyneb llawer tòn,
A'r gelyn yn cyhuddo, gan ddweyd mai namnio a gaf;
'Rwy'n dyfod atat, Iesu, dan waeddi, Beth a wnaf?
Atolwg, Arglwydd, gwrando, 'rwy'n curo wrth dy ddôr,
Gan deimlo 'maich yn drymach na thywod mân y môr;
Er cymaint yw fy llygredd, mwy yw'th drugaredd Di,
O! crea anian dduwiol, anfarwol ynof fi.
'Rwy'n gwel'd yn ddigon eglur nad allaf byth, fy Nuw,
Roi iawn am unrhyw drosedd, na'r camwedd lleia' ei ryw;
Nid oes ond haeddiant dwyfol, effeithiau marwol loes,
A rhinwedd gwaed ei glwyfau ddilea feiau f'oes.
Cyfiawnder oedd yn wastad yn gwaeddi am daliad llawn,
A Sina'n peri dychryn, a'r ddeddf yn gofyn Iawn,
Ar waedlyd fryn Calfaria mi welaf yr un dydd,
Y Meichiau'n llaw'r gofynwr, dyledwr yntau'n rhydd.
EMYN.
O Iesu! gwel bechadur gwan,
Sy'n fynych dan ei ofnau;
Cyflwyno wnaf yn awr i ti,
Fy ngweddi a'm gruddfanau.
Er cael mwynhau dy ddoniau rhad,
A phrofiad o'th ddaioni,
Mi gamddefnyddiais, anwyl Ion,
Dy aml roddion imi.
Pan deimlwyf hyn, yn ddwys, fe ddaw,
I'm calon fraw a syndod;
'Rwy'n gwel'd mai cyfiawn yw, bob cam,
Im' ochain am fy mhechod.
Mi addunedais, lawer pryd,
Am barchu'th hyfryd ddeddfau,
Ond, wedi hyny, myn'd ar wall,
A throi o'th ddiball lwybrau.
EMYN O FLAEN PREGETH.
O Frenin nef a daear lawr!
Mor werthfawr yw dy wedd,
Rho i ni brawf, ar hyn o bryd,
O'th nefol, hyfryd hedd.
Goleua Di ein deall gwan,
Yn mhob rhyw ran o'th waith;
Amlyga, 'nawr, i'th anwyl blant,
Dy fawr ogoniant maith.
O cryned, Arglwydd, ger dy fron,
Dy holl elynion cas;
A llwydda hefyd yma, 'nawr,
Wirionedd mawr dy ras.
Anwylaf Dad, O, arddel Di,
Y genadwri hon,
Nes llanwo gwir wybodaeth glau,
Holl gyrau'r ddaear gron.
Y GOGONIANT NEFOL.
Trwy gywir ffydd, O esgyn f'enaid cu,
Gwel dy breswylfod uwch yr wybren fry;
Ni ddeall dyn, ac ni all tafod chwaith,
Fyth adrodd maint ei phur ogoniant maith,
Teyrnasu mae yr Iesu yn fuddugol,
Angau a'r bedd orchfygwyd yn dragwyddol.
Un gofid trwm, na chystudd trist, na chur,
Ni ddaw i byrth y lân breswylfa bur,
Na chlwy', na braw, i'r saint i'w blinaw mwy,
Yr anwyl Oen a sych eu dagrau hwy:
Eu galar maith, a'u chwerwon ddwys ruddfanau,
Yno a dry yn hyfryd bêr ganiadau.
Mae afon bur yn d'od o'r orsedd wiw,
A dyfroedd bywiol hon rhinweddol yw:
Yno mae hyfryd bren y bywyd cu,
A'i ffrwythau ef sy wledd dragwyddol fry,
Teyrnasu mae yr Iesu yn fuddugol,
Angau a'r bedd orchfygwyd yn dragwyddol.
NEFOEDD AR Y DDAEAR.
Nef yw i'm henaid, yn mhob man,
Pan brofwyf Iesu mawr yn rhan,
A'i weled ef â golwg ffydd,
Dry'r dywyll nos yn oleu ddydd.
Mwynhad o'i ras maddeuol, mawr,
Blaen-brawf o'r nef yw yma'n awr;
A darllen f' enw ar ei fron,
Sy nefoedd ar y ddaear hon.
Ac er na welaf ond o ran,
Ac nad yw profiad ffydd ond gwan;
Y defnyn bach yn fôr a fydd,
A'r wawr a ddaw yn berffaith ddydd.
CYMDEITHAS GYDA'R TAD.
Cymdeithas hyfryd ydyw hon,
Sydd i'r duwiolion yma,
Ond myrdd helaethach fydd, heb len,
I'r saint ar ben eu gyrfa.
Am gael cymdeithas gyda'r Tad,
Hyn yw'n dymuniad yma,
Ond myrdd helaethach fydd, heb len,
I'r saint ar ben eu gyrfa.
DYDD Y FARN.
I'm tyb,—fe ddaeth yr olaf ddydd!
Be sydd—ai bloedd yr udgorn mawr?
Mae'r llef yn siglo'r ddaear gron;
Egorir caethion feddau'r llawr;
Mae'r môr yn rhoi y meirw'n rhydd,
Wrth archiad Barnydd pur y nef;
A'r bach a'r mawr yn d'od ar frys,
O flaen ei fainc arswydus ef.—Cyfieithiad.
YMDDIRIED I RAGLUNIAETH.
Mewn hedd fy enaid gorphwys,
Yn dawel nos a dydd,
'R Hwn sy'n dy borthi'n oestad,
Yn agos atad sydd:
Hyd yma'r hwn a'm daliodd,
Byth ni ddiffygia Ef;
Bydd foddlon i lywodraeth
Rhagluniaeth ddoeth y nef.
Creadwr mawr y nefoedd
Y tir a'r moroedd maith,
Yr hwn ni all gyfnewid,
Na dweyd anwiredd chwaith;
Fe ddyry fara imi,
A dwfr yn wir ddi wall,
A phob peth angenrheidiol,
A buddiol yn ddi ball.
Mae fe'n dilladu'n gywrain,
Y cigfrain mawr eu chwant;
Gan hyny, a fydd iddo
Ef byth annghofio'i blant?
Mae fe'n dilladu'r llysiau,
A gwellt y maes heb ri',
A all y saint annghredu
Na wrendy ef eu cri?
Efe a wnaeth ein defnydd
Ac Awdwr bywyd yw,
Yr hwn sydd werthfawrocach
Na'r byd a'i berlau gwiw;
A gwallt ein pen, bob blewyn,
Rhag syrthio'r un ar goll,
Gan Iesu, 'n ddirgeledig,
Sydd gyfrifedig oll.
Am hyny, pa'm gofalwn,
Am bethau gwael y byd,
Nad ydynt ond oferedd,
A gwagedd ffol i gyd?
Fe ŵyr ein Harglwydd tirion,
Am ein hangenion maith,
Rhydd ini'r hyn fo'n eisiau,
Tra paro dyddiau'n taith.
Ein gofal penaf beunydd,
Tra fyddom dan y nef,
Yw ceisio'r deyrnas nefol,
A'i bur gyfiawnder Ef;
A'n dwyn i'r llawn drigfanau
Lle na bydd eisiau'n bod,
Ond seinio, yn oestadol
I'r Oen dragwyddol glod.
AR DDYDD GENEDIGAETH,
Wele eto un yn rhagor
O flynyddau f' einioes frau,
O, fy enaid, wedi darfod,
Mae'r ddiweddaf yn neshau:
Nid oes yma hir arosfa,
Rhed ty oriau yn ddi goll,
Ac fe all y flwyddyn yma,
Fod i mi'r ddiweddaf oll.
Wele treuliais lawer eisoes
O'm gwael einioes fer ei hyd;
Ac ni welaf un o'r oriau,
Dreuliais yma yn y byd:
A'r mynydau sydd i'w treulio,
Maent yn rhedeg heibio'n glau,
I'm dwyn tros derfynau amser,
Draw i'r bywyd sy'n parhau.
Deffro f' enaid yn ddifrifol,
Gyda gofal dwys yn awr;
Ystyr tra parhao'th amser,
Feithder tragwyddoldeb mawr;
Beth yw sylfaen dy grediniaeth,
Am fwynhau tragwyddol hedd?
Beth yw'th obaith am y gwynfyd,
Sy'n y byd tu draw i'r bedd?
Dal yn gadarn dy grediniaeth,
Dod dy obaith ar dy Dduw;
Ymddibyna hefyd, beunydd,
Ar ei ras tra byddych byw;
Gyda sel, anturia'n wrol,
Yn dy yrfa nefol, gu,
Nes cyrhaeddyd mewn sirioldeb,
Barthau anfarwoldeb fry.
AMGYLCHIADAU MARWOLAETH.
Pan fyddo'r corff yn dyoddef cur,
A gloewon saethau'r gelyn sur,
O loes i loes rhaid myn'd i lawr,
Dan arfau miniog angau mawr.
Pan fyddo'r anadl yn byrhau,
A'r poenau mawrion yn trymhau,
A'r enaid dros y genau mud
Yn dianc i'r tragwyddol fyd.
Gad imi syllu ar dy wedd,
Nes byddwyf yn annghofio'r bedd;
A phrawf o'th gariad dyro im',
Nes byddo marw'n myn'd yn ddim,
Y GROES.
Pa fodd y meiddiaf, yn fy oes,
Dristhau na grwgnach dan y groes,
A minau'n gwybod am y fraint
Mai'r groes yw coron pawb o'r saint?
Mae dirmyg Crist yn well i mi
Na holl drysorau'r byd a'i fri;
Ei wawd fel sain pereiddiol sydd,
A'i groes yn fywyd imi fydd.
Nid yw blinderau'r saint i gyd,
A'u croesau, beunydd yn y byd,
Ond megys dim wrth gyfyng awr,
A thost arteithiau'r Meichiau mawr.
Er dechreu'r byd o oes i oes,
Proffwydo wnaed am waed y groes;
A'r holl aberthau, gynt, fu'n bod,
Oedd yn ei ddangos Ef i dd'od.
Dilynwn ninau ôl ei draed,
Ei lwybr sydd yn goch o waed;
Gan gyfri'r groes, os rhaid ei dwyn,
Yn wir orfoledd, er ei fwyn.
Mae'n rhaid i hunan gwag ein hoes,
A'n hymffrost grynu wrth ei groes;
Holl rwysg y byd, ac uchder dyn,
I lawr y bwrir hwynt bob un.
Na rwgnach mwy, fy enaid prudd,
Tra byddo nerth yn ol y dydd;
Er mynych ruddfan dan yr iau,
Mae'r dydd i'w symud yn neshau.
O dan y groes, yn mlaen yr awn,
Y groes ddywedodd ef a gawn,
Ond dyma gysur, f' enaid gwan,
Try'r groes yn goron yn y man.
MYFYR MEWN PROFEDIGAETH.
Mawr boen im' yw'r byd, anhydyn o hyd;
Rhyw fôr annifyrus, peryglus bob pryd.
Ei fynych ddrwg foes, mewn tristwch a'm troes,
Im' nemor, yn rhagor, o dymor, nid oes.
Drwy gryfder y gwres, er twymned fo'r tes,
Ceir gweled pob niwed, a'r lludded er lles.
Arwyddwyd o ran, er gobaith i'r gwan,
Y llaw ddaeth a lluoedd ar luoedd i'r lan.
O, f' enaid na fydd, mewn braw yma'n brudd,
Cei esgyn i'r cysgod o'r gafod ar gudd.
Mae'n awr, arnom ni, bur alwad mewn bri,
Yn galw, O gwyliwch!—dychwelwch, da chwi.
Mae rhoddwr mor hael, ar gyfer y gwael;
Pwy eto fu'n curo, neu geisio, heb gael?
O brysia mewn braw, i loches ei law,
Ac erfyn am gyfraid i'th enaid, na thaw.
Cei wlad heb un cledd, a nofio mewn hedd,
I lonfawr lawenfyd, tir bywyd, trwy'r bedd.
Y brodyr ryw bryd, a gesglir i gyd,
Uwch nwydawl och'neidiau, trigfanau'r drwg fyd.
I wledd y nef lân, da hedd diwahan,
Arwyddir heb raddau i'w geiriau na'r gân.
Anwyliaid y nef, gwir ffurf ei gorff Ef,
Folianant heb flino, oll yno'n un llef.
PETHAU A WNAED MEWN GARDD.
Mewn gardd y cafodd dyn ei dwyllo;
Mewn gardd y rhoed addewid iddo;
Mewn gardd bradychwyd Iesu hawddgar;
Mewn gardd amdowyd ef mewn daear.
AR DRAGWYDDOLDEB.
Tragwyddoldeb sy'n beth rhyfedd,
Tragwyddoldeb byth heb ddiwedd;
Tragwyddoldeb, rhaid myn'd iddo,
Yn mha fan y byddaf yno?
GALWAD AR BECHADUR.
Ar bechadur mae fe'n galw,
Ar bechadur wrth ei enw;
Tyred fel pechadur ato,
Tydi mae'r Iesu yn ei geisio.
AMSER.
Dynion i farw ŷm i gyd,
Pan dreulio hyd ein blwyddau;
Try'n dyddiau a'n hwythnosau glân,
A'n horiau'n fân fynydau.
Mae haf a gauaf, yn eu pryd,
Mewn trefn, a hyd cymesur,
A phob anadliad dan eu rhi',
A'n misoedd wedi 'mesur.
Pob tip o'r einioes, dan y rhod,
Ar ben ei arfod hirfaith,
A ymgudd dan dragwyddol glo
Na welir mono eilwaith.
Amser a gyrch yn mlaen, er neb,
I ddifodoldeb hollol, -
Ac felly myn'd o bryd i bryd
Mae dull y byd presenol.
O! am gael gorphwys yn ein rhan,
Pan êl y cyfan heibio;
A thragwyddoldeb lyncu'n ol
Bob peth amserol iddo.
GWEDDI AGUR.
I Ti bo'r mawl, y dwyfawl Dad,
Mor lawn yw'r ddaear oll o'th rad!
'R Hwn sy'n rho'i ymborth i bob rhi',
O ddydd i ddydd diwalla fi.
Fy mywyd hwn, dy eiddo yw,
A'm holl gysuron, o bob rhyw;
Pob bendith hyfryd imi ddaw,
Raid ddyfod o'th oludog law!
Nid wyf yn chwenych mawredd byd,
Danteithiol fwyd, neu drwsiad drud;
Boddhau ar 'chydig byddwyf fi;—
'R ychydig imi roddech di.
Tra byddo annuwiolion byd,
A'u hymgais ar ol hwn o hyd;
Fel Agur, boddlawn yma bwy';
Ac eled daear rhyngynt hwy.
MARWNAD ANGAU,
NEU FUDDYGOLIAETH CRIST.
Yn adgyfodiad Iesu,
Eglurwyd dwyfol allu,
Malurio pyrth y bedd a wnaeth
A'r angau caeth yn trengu
Yr Hwn fu gynt yn gwaedu,
Dros byth sydd yn teyrnasu,
Ar holl alluoedd, nef a llawr,
A'r angau mawr yn trengu.
Er iddo gael ei gladdu,
A'r gwylwyr i'w amgylchu,
Yn rhydd y trydydd dydd y daeth,
A'r angau caeth yn trengu.
Boed ini orfoleddu,
Gan iddo ef orchfygu;
Mae'r fuddugoliaeth ini'n awr,
A'r angau mawr yn trengu.
Na fid i'r saint annghredu
Ei nerthol hollol allu;
Fe gwyd eu llwch i gyd o'r llawr;
A'r angau mawr yn trengu.
Gan iddo ef eu prynu,
Fe fyn eu gogoneddu;
Mae porth y bedd yn rhydd yn awr,
A'r angau mawr raid drengu.
Mae'r amser yn dynesu,
Daw'r saint o'r bedd i fyny,
Cânt orphwys gyda Crist eu pen,
Amen, Amen am hyny.
YR EGLWYS MEWN AMSEROEDD TERFYSGLYD.
O Sion! pa'm yr ofni,
Nag yr achwyni chwaith?
Ceir gweled yn mhob tywydd,
Wir gynydd ar y gwaith;
Ac enw Iesu hawddgar,
Ar led y ddaear lawr;
Saif gyda'i achos hefyd,
Hyd ddiwedd byd bod awr.
Ei ddyfnion ragluniaethau,
Bob oes er dechreu'r byd,
Y'nt gam wrth gam yn gymwys,
A'i eglwys ef o hyd,
Nas dichon cnawd llygredig,
O wael wyredig ryw,
Gan faint ei d'w'llwch diball,
Wir ddeall fawr am Dduw.
Ei ffyrdd y'nt anchwiliadwy,
Ofnadwy, gyfiawn Ior,
A'i daith uwchlaw'r wybrenau,
A manau dwfn y môr;
Mae'r cedyrn awdurdodau,
Drwy'r ymrysonau sydd,
Fel olwyn f'ai mewn olwyn,
Yn dirwyn at y dydd.
Mae annghrist a'i alluoedd,
Drwy leoedd daear lawr,
Mahomet, Pab, a'r Pagan,
Yn min eu hoedran mawr;
Daw'r Iuddew o'i gamsyniaeth,
A'i drom elyniaeth drist,
Adwneir y byd o newydd.
Heb ddim ond crefydd Crist,
Dy ddirfawr ddoeth amcanion,
Yn eon oll a wnair,
I wirio'r addewidion,
Sydd gyson yn y gair;
Yn mhob rhyw oes aeth heibio,
A'r oesoedd eto ddaw,
Mae pethau mawr dy deyrnas,
Diluddias, yn dy law.
Cyflawnir rhagfwriadau,
A doeth arfaethau Duw,
Yn nhrefn ei ras achubol,
Anedifeiriol yw,
Pan ddygir pob cysylltiad,
A'r bwriad mawr i ben,
Bydd diben terfynadwy,
Yn Iesu mwy, Amen.
CYFODI Y GROES.
Na chywilyddia f' enaid,
I arddel Crist yn Dduw;
Na ddiystyra gariad
Y fath Iachawdwr gwiw;
Wrthodi di'r fath gyfaill,
Yr Hwn â'i waed ei hun,
Orphenodd waredigaeth,
Ac iachawdwriaeth dyn?
Crist i gyhoeddi heddwch,
A ddaeth o'r nef i lawr,
Gan ddangos rhyfedd gariad,
Ac ymostyngiad mawr;
Gostyngodd ef, hyd angau,
Tan chwerwaf, lymaf loes,
Gan ddiystyru gw'radwydd,
A phoenau blin y groes.
Rhaid ini godi, beunydd,
Wrth ei orchymyn Ef,
Y groes, a'i gywir ddilyn,
Wrth deithio ffordd y nef;
Ni ddichon ein bywydau,
Na myrdd o oesau chwaith,
Ad—dalu'r cariad dwyfol,
Hwn sy ryfeddol faith.
Ar bawb sy'n dyodde'n ffyddlon,
Dros enw'r Iesu cu,
Yr edrych gyda hoftder,
O'r maith uchelder fry,
Eu bywyd sydd yn anwyl,
Tra byddont îs y nef,
A gwerthfawr yw, yn ddiau,
Eu hangau ganddo Ef.
Cyfodi'r groes yn ffyddlon,
A rhoi i'w enw fri,
Hyn yw'r anrhydedd pena',
A'r fraint anwyla' i ni;
Y rhai sy'n awr yn dyoddef
Er mwyn ei enw Ef,
Cânt gyd—deyrnasu'n hyfryd,
Mewn gwynfyd yn y nef.
Os yn y dydd peryglus,
Trallodus ar y llawr,
Y gwadwn ni ein proffes,
A'i santaidd enw mawr;
Ar ddydd y farn gyhoeddus,
Drallodus sy gerllaw,
Fe dry y cyfiawn farnwr,
Bob drwg weithredwr draw.
TWYLL ANNGHRIST.
Mae annghrist beunydd yn mhob oes,
Yn groes i'n Harglwydd Crist;
O bryd i bryd, ymdaenu wnaeth,
Ei draws hudoliaeth drist.
Y rhai wrthodo wrando'n wir,
Ar lais y cywir Oen,
I'r rhai'n pan ddelo'r tanllyd ddydd,
Y hydd tragwyddol boen.
Gochelwn ryfyg, twyll, a rhith,
O wael athrylith dyn,
Gan wrthod gair a deddfau gwiw,
Ein Harglwydd Dduw ei hun.
O'n calon rho'wn ufydd—dod clau,
I'w ordinhadau cu;
A'i lân orch'mynion yr un modd,
Ordeiniodd yn ei dŷ.
Efengyl Crist tros fryn a bro,
Ymdaeno is y nen;
Ac anghrist tan ei farwol glwy',
Heb wella mwy, Amen.
EMYN CYMEDROLDER.
O deuwch frodyr, yn un fryd,
A rho'wn ddiofryd ddwys;
Am rodio'n gu a hardd ein gwedd,
Nes gorwedd dan y gwys;
A dylem fynych wylio
Rhag llithro ar un llaw,
A chadw'n harfau'n loewon,
I droi'n gelynion draw.
Cyd ganodd yr angylaidd gôr,
Pan gafwyd Ior fel dyn,
A'u hanthem draw i Fethlem dref,
Daeth teulu'r nef yn un;
Bu awdwr mawr y bydoedd,
Duw'r lluoedd, dan y llen,
Yn wan ei fyd a'i eni o Fair,
Heb iaith na gair o'i ben.
O henffych! ddedwydd, ddedwydd awr,
Y torodd gwawr i'n tir,
A boed i Frydain dawel fro,
Ymgeisio am y gwir:
Aed ein cenhadau'n lluoedd,
Dros donau'r moroedd maith,
Nes delo daear yn gytun,
A'r nefoedd yn un iaith.
Gogoniant byth i'r Iesu mawr,
Am dd'od i lawr o'i lys,
O dan y loes fel dyn tylawd,
Daeth ini'n frawd ar fys;
Ynddo ef mae bywyd
A gwynfyd byth i'r gwael,
A'r Mab afradlon hefyd,
A gollwyd, wedi ei gael.
MYFYRDODAU WRTH ORWEDD I GYSGU.
Dirwyn mae blynyddau mywyd,
O ddydd i awr. o awr i fynyd;
A phob mynydyn wedi ei dreulio,
Ni chaf eilwaith afael arno.
Aeth heibio eto un o'm dyddiau,
Gan luosogi rhif fy oriau,
Yr edau frau sy'n prysur ddirwyn!
Pwy all ei nadael, un mynydyn?
Cyfnewid beunydd mae f' amserau,
O forau i hwyr o hwyr i forau;
Ac yn fy arwain mewn prysurdeb,
At fin eithafoedd anfarwoldeb.
Pan f'wy'n myn'd yr hwyr i huno,
'Rwy'n cofio'r bedd lle caf orphwyso;
Ac wrth amdoi fy hun â gorchudd,
Am lwch y bedd yn toi fy nefnydd.
Wrth ddyfod cwsg i gloi f'amrantau,
Ni allaf lai na chofio angau;
Yn d'rysu pwyll fy holl gyneddfau,
Gan gyd falurio fy synwyrau.
Fy nghwsg hefyd hyd y cyfddydd,
I mi yn wir mae ef yn arwydd,
O'r amser fydd i'r corff marweiddiol,
Hir orwedd yn y bedd angeuol.
Gwel'd yr wyf fy nghlau adfywiad,
Yn ddrych o ddedwydd adgyfodiad,
Pan alwe Crist o'r ddaear ymaith,
Y corff i fyw heb farw eilwaith.
Wedi'r t'wllwch fyned heibio,
Daw'r dydd eilwaith i oleuo;
Felly ceiff pob gwir gredadyn,
Dragwyddol ddydd heb nos i'w ddilyn.
Arglwydd, cymhorth ni'n wastadol
I gyrchu at y dydd tragwyddol,
Lle ni ddaw nos na chwsg i'n blino,
A dechreu dydd heb ddiwedd arno.
EMYN CLADDEDIGAETH.
Pa beth yw dyn na neb o'i ryw,
Ond megys gwan lysieuyn gwyw?
Y borau'n tyfu'n wych ei wawr.
Prydnawn y torir ef i lawr.
Pa beth yw uchder gradd na grym,
Dan ddyrnod llaw yr angau llym?
Dwg wych a gwael a'r iacha' eu gwedd,
Yn glau o'r byd dan gloiau'r bedd.
Pa beth yw golud byd a'r barch,
Pan elo dyn ar waelod arch?
Nid oes dim hofsder ganddo'n awr,
Mewn dim a fedd y ddaear fawr.
Pan byddo dyn ar ddiwedd oes,
Yn dyodde'r flin, ddiweddaf loes,
Diflanu wna, pan ballo'r chwyth,
Gan ddarfod; ac heb ddarfod byth.
Yn noeth y daethom bawb i'r byd,
Ac felly gwn awn oll i gyd
Yn fud, ac oer, yn dlawd, ein gwedd,
I aros barn i lys y bedd.
Y cnawd a roddir yn y man
Mewn gro a llwch wrth gor y Llan,
Y pridd i'r pridd a syrth yn awr,
A'r llwch i lwch y ddaear lawr.
Er hyny'r enaid bach fydd byw,
Nid marwol, ond anfarwol yw;
O wydd y farn rhaid iddo fe,
Ymddidol i'w dragwyddol le.
Ystyriwn, profwn hyn mewn pryd,
Yn mha ryw fan; yn mha ryw fyd
Y bydd ein lle, 'nol gado'r llawr,
Yn y tragwyddol fyd sy fawr.
ENAID A CHORFF Y DUWIOL YN
CYFARCH EU GILYDD YN YR ADGYFODIAD
Enaid—O! henffych gorff anfarwol glân,
Bydd im' yn drigfan hyfryd;
Un sylwedd oeddym, gynt, ein dau,
Cyn tori edau'r bywyd.
Corff—O! enaid bach, b'le diengaist di,
Pan hunais i'r pryd hwnw,
A'm cloi yn llwch y beddrod trist,
Nes dyfod Crist i'm galw?
Enaid—Fy anwyl gorff, pan drengaist draw,
A'th doi islaw mewn daear,
I'm nefol dŷ cymhwyswyd fi,
I'th aros imi'n gymhar.
Corff—Ow! myned hebot ti fu raid,
I'r bedd, fy enaid anwyl;
A gorwedd yn y ddaear laith,
Dros oesoedd maith i'th ddisgwyl,
Enaid—Fy anwyl gorff, mae'n ddigon gwir,
Ond er dy hir gaethiwed,
Nid oes dim brychau yn dy wedd,
Nac ôl y bedd i'w gweled.
Corff—I anfarwoldeb galwyd fi,
Dros byth i ti'n breswylfod,—
Cawn foli Ner yn gyflawn iach,
Fy enaid bach—heb bechod.
Enaid—Gadawsom draw o'n hol i gyd,
Hen sorod byd amserol,
Mor wag oedd llesg deganau'r llawr,
Wrth bethau mawr tragwyddol.
Corff—Ein hundeb, gynt, oedd fyr a brau,
Daeth angau i'n gwahanu;
Ond ni raid gwylio min ei gledd.
Nac ofni'r bedd ond hyny.
Enaid—Yn gorff ac enaid damniol yw
Pob dyn fu'n byw'n annuwiol,
Ond ni gawn ddechreu'r newydd gân,
A hwythau'r tân tragwyddol.
Fy newydd gorff, aneddu gawn,
Yn mysg y cyfiawn perffaith,
Yn gyfranogion o'r lleshad,
Heb fyth ddidoliad eilwaith.
Er crwydro gynt mewn anial maith,
Heb fedru'r iaith ysbrydol;
Yn fyrdd cywirach yma cawn,
Arferu'r ddawn anfarwol.
Y MIL BLYNYDDAU.
Mae'r Sabbath mawr, ar fyr i fod,
Pan êl chwe diwrnod heibio;
A dyna'r pryd caift pawb o'r saint
Mewn uchel fraint orphwyso;
Bydd i'r ffyddlon, gywir dystion,
O dir a moroedd, ado'r meirwon,
Ar un cyfnod i gyfarfod,
A'u gwobrwyawl gywir Briod,
Pan fwrio ef y ddraig i lawr
I'r dulyn mawr diwaelod:
Yna union frenin Sion
Fydd a'i babell gyda dynion,
Ar fainc Dafydd, cyfiawn lywydd,
Y dirion nef a daear newydd,
A'i fawr lywodraeth tra fo chwyth
Ddiorfod byth ni dderfydd.
ENGLYNION, &c.
SWYDD Y LEFIAID.
Arswyddawl ddewrweis oeddynt—a holl waith
Y llwythau'n drwm arnynt;
Priodorion, pryderynt,
Weini'r boeth allor goeth, gynt,
Dwyn ger bron Aaron irwaed,—o'r eiddynt,
Arwyddol gysegrwaed;
A holl nerth y llawn wrthwaed,
A lif wisg Lefi o waed.
Bychod na hyrddod yn hwy—ni fynwn,
A fu'n arferadwy,
Na bod ych mad profadwy,
Neu oes myn yn eisiau mwy?
Yn lle eidionau, 'n llu dinerth,—ag wyn,
Yn ganoedd annghydwerth,
Dyma ben ar bob aberth,
A dyma waed mwy ei werth.
Bob tro, llawruddio'r oeddynt,—eu milod,
Mal yr aml aberthynt;
A phob arfod a ddodynt,
Ing a loes, eirf y groes ynt.
Yno am bechod, unwaith,—rhoed arfau
Ar y dirfawr Perffaith;
Wrth ei grôg, ddelwog ddylaith,
Darfu'r hell gyllell ei gwaith.
Un gwerth yn offrwm i gyd,—a gwiwdeb;
Un gwaed i roi bywyd;
Un Oen Naf, yn Iawn hefyd;
Un chwerw boen i iachau'r byd.
Un byw wr in' a bery—un erom,
Yn eiriol, gan hyny,
Un o'th blaid, enaid anhy',
Un sydd Frawd, yn ei swydd fry.
A chaed, gwir brif-waed, gerbron,—a phuraf
Archoffeiriad ffyddlon,
A'i hawl i'r gysegrfa hon,
Wych hardd wr uwch urdd Aaron.
MYFYRDOD AR DDYDD NADOLIG.
Gwelaf wr, ar Galfaria,—poenedig,
Penodwyd i'r lladdfa;
Ai rhyw Ior yw? rhy wir,—ah!
Duw Naf yw,—dyn o Efa!
Dan addewid, yn ddiwyl,—er Addaf,
Yr oeddym yn disgwyl,
Ymwared i'n,—mawr yw d'wyl;
Ceraist weiniaid, Crist anwyl.
Anelwig ddofn unoliaeth—y Duwdod,
Awdwr pob gwybodaeth,
Dan waelod briw dynoliaeth,
Yn wan ddyn, i'w eni ddaeth!
Ein Ior glân a ragluniodd,—niferi
Yn forau etholodd;
A diau Fab Duw, o'i fodd,
Oll ar bren, a'u llwyr brynodd.
Nid hoelion ddydd y talu—a'i daliodd,
Na dwylaw Rhufeinlu,
Ei dda fodd, nid Iuddew fu
Yn dwyn oes ein dyn Iesu.
CAROLAU, &c.
CAROL PLYGAIN.
Mesur," Charity Mistress."
WIL dyma'r amser hyfryd, dedwyddyd yw i ddynolryw;
Eu dwyn o'u cyflwr damniol i gael anfarwol fyw;
Dysgleiriodd gwawr trugaredd, O! ryfedd rad y fendith fad,
I alw plant afradlon, pent'wynion at eu Tad;
I wared dyn colledig, daeth Iesu'r bendigedig un,
I wisgo cnawd, ein hanwyl Frawd a fu dylawd ei lun;
Duw unig pob daioni, doeth oleuni, daeth i lawr,
Tragwyddol hedd gaed yn ei wedd, mor ryfedd oedd yr awr.
Cu rodiodd ein Creawdwr i'n cyflwr caeth, dan rwymau'r aeth,
Gorchfygodd ef bob gelyn, er dychryn mawr y daeth;
Pan ymddangosodd Iesu, yn Methlem dre' y ganwyd E',
A dirmygedig ydoedd, Duw'r lluoedd yn y lle;
Dyoddefodd boen bob enyd, a gw'radwydd hefyd gyda hyn,
Rhag bod i ni dragwyddol gri a'n llosgi yn y llyn:
Mae'r drws yn llawn agored, eto i fyned ato Fe,
A byw ger bron ei wyneb llon dros fyth yn eigion ne',
Gwir awdwr i'n gwaredu, yr Iesu a roes ar greulon groes,
Dros ei elynion ffyrnig ei fendigedig oes;
Mawr foddion mor ryfeddol, anfeidrol faeth yn ddiauddaeth,
Ymgeledd i rai gwaelion a'u dwyn o'r cyffion caeth;
Trugaredd rad a redodd, ar ddyn hi wenodd yn ei waed,
Tywalltodd win i'w glwyfau blin, tragwyddol rin a gaed.
O ddynion gwaelion! gwelwch, a chydryfeddwch degwch Duw,
Yn d'od er lles i'n dwyn yn nes i'w fynwes byth i fyw.
Hoff enwog ymddiffynwr, rheolwr rhad yw'r meddyg mad,
Fe geidw ef ei fyddin, fel brenin, rhag un brad;
Ni chollir yn dragwyddol o'i lesol law, mo'r hwn a ddaw
At Iesu bendigedig, ond trig mewn bywyd draw;
Dyogel wledd fendigaid yn faeth i'r enaid fyth o ran,
Deheulaw gref Oen ufydd net a'i cynal ef i'r lan:
Mae'r ffynon anorphenol a'i rhin pereiddiol yn parhau,
Ei heffaith sydd, lle byddo ffydd, a'i chynydd yn iachau.
Tan ddiluw ein tyn ddaliodd yn waeledd was, O ryfedd ras!
Aeth Iesu anwyl union, dyn cyfion, dan y cas;
Pan ydoedd ŵr poenedig ar unig ran pechadur gwan,
Dangosodd ef ei ryfedd amynedd yn mhob man;
Yn marw wele'r mawredd, un dilygredd dan y loes,
Rhyfeddod fu gwel'd Iesu cu yn crymu ar bren croes;
Ni chanfu'r hen Iuddewon, ond braidd yn drymion oddi-draw,
Er d'od o'r dydd i'w rhoi yn rhydd, a'r llywydd wrth eu llaw.
Ni cheisiodd Iesu cyfion, Oen ffyddlon, ffoi, ond parotoi
I ddyoddef llid a gormes, mae'r hanes felly'n rhoi;
Gŵr anwyl a goronwyd, condemniwyd Ef dan wybr nef
Gan bechaduriaid aflan, a llydan oedd eu llef;
O! loesau'r anwyl Iesu, 'does neb all draethu gallu ei gur,
Aeth dan y brad, rhwng dyn a'i Dad, mewn perffaith gariad pur.
Am hyn mae'r plant yn rhyddion, er mwyn ei loesion anwyl Ef,
Fe ddwg ei lu, hyfrydol fry, drwy gadarn allu'r nef.
Drwy achos, cydedrychwn, rhyfeddwn faint wrth brynu eu braint,
Dyoddefodd Iesu oesol, yn siriol dros y saint;
E fwriwyd ar Galfaria, i ddalfa ddwys, dan boenfawr bwys
Cyfrifwyd gyda'r anwir y Geirwir, hyd y gwys;
Dan faich o dyn afiechyd, ca'dd Iesu hyfryd ddybryd ddydd,
Am hyn ei glod, anfarwol Fod, rhyfeddod byth a fydd;
Trigolion nefoedd hefyd fu dros enyd draw yn syn,
Wrth wel'd Gŵr wnaeth dir a dŵr yn Brynwr ar y bryn.
Er iddo ddyodde'n rhyfedd dros gamwedd gwir, a hyny'n hir,
Mae'n rhaid ymdrechu'n ffyddlon od awn i Sion dir,
Na tyddwn anufyddol na marwol mwy, mewn pechod, pwy
A erys heb fyn'd allan o hunan ddim yn hwy?
Rhaid ini un a'i ceisio gras i deithio yn ngwres y dydd
I Sion fro, drwy gynes go', a rhodio yno'n rhydd;
Neu fod yn garcharorion, yn mhlith gelynion dytnion Duw,
Lle byth y trig ei ddwyfol ddig, mor felldigedig yw.
Am gael yr anwyl gymod, gollyngdod llawn o ddwyfol ddawn,
A'r Iesu anwyl unig yn fendigedig iawn,
Mae'n ddyled ei addoli, a'i foli fe, Oen addfwyn ne',
Nid oes un cyfnewidiad i'w dirion gariad E.
Dymunwn gael amynedd hyd awr ein diwedd, ryfedd ran,
I daenu clod, o dan y rhod, am gymod enaid gwan;
Duw Iesu Oen dewisol, yn gad hapusol gyda'n pen,
Rhoed ini fraint yn mhlith y saint na bu mo'i maint,
Amen.
CAROL NEWYDD.
Mesur,—"Cwynfan Prydain."
Cu seiniwn fawl cysonol, i'r grasol, hawddgar Iesu,
Mae'r amod ini'n dangos llawn achos llawenychu;
Côf ydyw o'n cyfodiad, mawr roddiad i'w arwyddo,
Mae gallu'r ddraig a'i helaeth d'wysogaeth wedi sigo;
Daioni y Duw union a'i ddoniau rhad i ddynion,
Oedd farwolion caethion coll;
Fu'n galw, mewn modd gwiwlan, ar bob pechadur truan,
I ddyfod weithian allan oll;
O rwymau annghrediniaeth i gaffael iachawdwriaeth
Drwy'r fuddugoliaeth helaeth hon,
O'r niwlog, fawr anialwch, mae'r ffordd yn rhydd i'r heddwch,
Gwir hyfrydwch ger ei fron.
Cyfododd haul cyfiawnder gan dyner ddysglair d'wnu,
O'i lonwych nefol anedd, ei geinwedd sydd yn gwenu;
E daenodd i blith dynion ei dirion belyderau,
Hoff, weithian, yw'r diffaethwch, anialwch aeth yn olau;
Y gauaf trwm aeth heibio, cysgodau'r hwyr yn cilio,
Mae'r ddaear wedi 'mwisgo'n werdd;
A'r durtur addfwyn nefol yn seinio, yn bresenol,
O! mor ragorol ydyw'r gerdd;
Dyrchafwn ein golygon, cawn weled gwinwydd gwynion,
A'u ffrwythau trymion arnynt draw,
Y gerddi yn frig wyrddion, a'r dolydd oll yn feillion,
A'r meusydd llawnion sy gerllaw.
Cawn hoew wres cynhauaf, mae'r haf yn dymhor hyfryd,
Caiff gwael ganghenau gweinion, oedd feirwon, eu hadferyd;
Y meillion irion euraid, a'r canaid flodeu cynar,
A daenant berarogledd i duedd eithaf daear;
Mor wiwlwys mae'r awelon, dros santaidd fynydd Sion,
Yn maethu'n llon blanhigion haf;
A'r gwlith yn dyner, ddagrau pur lesol i'r pêr—lysiau,
A ddenfyn yr wybrenau'n braf;
Mae'r wir naturiaeth newydd, a'i gwedd ar hyfryd gynydd,
Cydgesglir ffrwythydd, ceinwydd, coeth,
Mal rhif y ser o amledd, neu dywod, yn y diwedd,
O dir y bedd uwch daear boeth.
Mae bleiddiau'r hwyr yn cilio fu'n hir ddifwyno'r heddwch,
Gan estyn braich gorthrymder, llaw trawster, yn llawn tristwch,
A gwenwyn hen baganiaeth, yn helaeth, ddaw i'r goleu;
Pabyddiaeth gaeth a'i gweigion fyddarion, ddylion ddelwau,
Mae Annghrist draw yn crynu, gan lais efengyl Iesu,
Cadernid cu ei allu Ef;
Teyrnwialen ei lywodraeth reola yn dra helaeth
Ar bob brenhiniaeth dan y nef;
Fe ostwng ei elynion, îs awyr, a'i gaseion,
I'w dwyn yn drymion dan ei draed,
Gan estyn ei frenhiniaeth, a'i lydan bur lywodraeth,
Mewn buddugoliaeth ar bod gwaed.
Y ber efengyl ddidwyll, wir ganwyll, ddysglaer gynyrch,
A ddyry drwy ddaearen, is wybren, lawen lewyrch;
Iuddewon a Chenhedloedd, drwy dywyll leoedd daear,
A welant ei phrydferthwch a'i thegwch perffaith hawddgar;
Y gair yn ddiragoriaeth, a ddyd drwy'r byd wybodaeth,
O'r iachawdwriaeth wych ei dawn;
Gan ddangos ffordd ardderchog i esmwythau'r blinderog,
Neu ddwyn yr euog ddyn i'r iawn;
Hon ydyw'r drych ysbrydol sy'n dangos, yn oestado!,
Ini'n cyflwr marwol cas,
A'r ffordd, yn llaw trugaredd, i'r gwael i gael ymgeledd,
Anwylaf rinwedd nefol ras.
Am air yr ysgrythyrau, gwiw freiniau'n gyfranol,
O talwn foliant dilys i'r gweddus Ior tragwyddol,
Rhyfeddwn ras ein Ceidwad a'i gariad at ein goror,
A'n gwnaeth yn gyd-feddianol o'r hyfryd rasol drysor;
Arddelwn ei reolau, mwynhawn ei rad amodau,
Boed ein meddyliau arno yn ddwys;
Mawrhawn ei bur gysuron, arswydwn ei fygythion,
Rho'wn arno beunydd ffyddlon bwys;
O'i gredu'n wir, mae bywyd, a heddwch i'w gyrhaeddyd,
Wedi'r blinfyd fyth heb loes;
Gwynfyd a'i gwir ddefnyddio, gwae'r dyn a'i hesgeuluso,
Un dawn i'n deffro, ond hwn, nid oes.
Os ym yn ufydd gredu gair Iesu'n gywir rasol,
Rhaid dwyn y caeth i ryddid, a newid yr annuwiol,
Gan adael gwag wrthrychau a gweinion ffol deganau,
Dirymu dirgel bechod, eilunod ein calonau,
A derbyn anian newydd, a dwyn y groes, yn ufydd,
A dilyn ein harweinydd doeth;
A chael y wisg santeiddlan, bwrcasodd Ef, yn gyfan,
I guddio'r truan aflan, noeth,
A meddu hawl gyfreithlon, i'w ddedwydd addewidion,
Gwir gysuron, goreu sail;
Ein tori o'n hen naturiaeth, a'n hylwydd impio'n helaeth,
Yn dyner odiaeth yn yr Ail.
Lle byddo gras achubol yn wirioneddol wreiddio,
Ymddengys ffrwythau bywiol, rhagorol yn blaguro,
Mae ffydd yn cymryd gafael, drwy'r hael addewid helaeth
Ar Grist a'i aberth cyflawn, am diriawn iachawdwriaeth;
Ac megys llusern euraid yn dwyn goleuni dibaid,
I ranau tywyll enaid dyn;
Ei hetifeddion hefyd feddianant fythol wynfyd,
Hedd y bywyd rhydd bob un;
Eu tarian amddiffynol sy'n diffodd saethau marwol
Y ddraig a'i holl niweidiol nerth;
Arddelwn hon hyd angau, dewiswn ei rhinweddau,
Uwchlaw'r holl berlau goreu eu gwerth.
Er bod y Cristion diwyd dan soriant byd amserol,
E fydd yn wyneb angau a'i boenau yn dderbyniol;
Caiff adael pob rhyw ofid a dichell, llid bradychus,
A'i ddwyn o dir caethiwed i nodded ogoneddus.
Pan ddel o'r bedd dinystriol, a'r môr a'u lluoedd marwol,
O! mor gysurol fydd y saint;
Gorphwysant mewn tangnefedd yn Sion, union anedd,
Anwylaf rinwedd nefol fraint;
O rif y dyrfa rasol, a ddygir yn fuddugol,
I feddu'r bythol fyd, uwch ben,
O gyrhaedd pob gofidiau, tu draw i'r bedd ac angau,
B'o chwi a minau'n iach, Amen.
Nefolion mwynion ymunant—eu llef,
A llafar y canant;
Emynau o'u genau gânt,
A'u dwylau a gydeiliant.
CAROL PLYGAIN.
Mesur,—" Hyfrydwch y brenin Sior."
Dihunwch, weithion, garedigion,
Yn wiwlon gyda'r wawr,
Dadseiniodd hyfryd lef
Telynau'r nef i lawr;
Fe gafwyd arwydd fod llawenydd
O newydd yn y nef,
Am eni'r Iesu mwyn,
Dro addfwyn yn y dref;
Angylion a ganasant
Ogoniant, am y gwaith,
A'u glân, blygeiniol, gywrain garol
Mewn nefol unol iaith;
Bugeiliaid llon, a ddaeth ger bron,
A'r doethion, yn min dydd,
Gan gael y Baban gwych,
Hoff wrthrych cywir ffydd;
Cydganed y Cenhedloedd,
Mae'r nefoedd gyda ni,
Fe brofwyd purdeb ei ffyddlondeb,
Drwy undeb Un sy Dri,
Rhyfeddol yw daioni Duw
I ddynol ryw, erioed,
Gwir Fab ei fynwes fwyn,
Ior addfwyn ini a roed.
Hwn ydyw'r achos sy'n ymddangos
Yn agos atom ni,
Am eni, gyda'r wawr,
Rhyw frenin mawr ei fri;
Ior rhagorol, annherfynol,
Tragwyddol, medd y gair,
A gafodd ei ymddwyn
O'r addfwyn forwyn Fair;
Ni chafodd le na llety
I'w barchu yn y byd,
Er bod i'w feddiant ryfedd lwyddiant,
Ogoniant nef i gyd,
Yr Iesu hael, i'r preseb gwael,
Ar drafael ca'dd ei droi;
Pan oedd y p'lasau gwych,
Dai clydwych, wedi eu cloi;
Disgynodd Iesu hawddgar
I barthau isa'r byd,
O blith telynau, hyfryd odlau,
Organau'r nef i gyd,
Wel dyma'n awr ryfeddol fawr,
Modd dirfawr i bob dyn,
Y natur ddynol gaeth,
A'r nefoedd aeth yn un.
Mae'n hysbys ini ei dylodi,
Oen difri, yn ei daith,
Dyoddefodd boen a llid, ogle
Mewn gofid, lawer gwaith:
Pan oedd y gelyn am oresgyn
Y bechgyn oll o'r byd,
Hen Herod fawr ei sel,
Oedd frenin uchel fryd;
Ei boen a'i ofid beunydd,
Sy'n arwydd eto i ni,
O daith y ffyddlon gywir Gristion
Dan bob rhyw greulon gri,
I'r Aifft yn gaeth, rhag dyoddef saeth
Gelyniaeth helaeth hir,
Yr enwog d'wysog da
Aeth o Judea dir; Holl achos ei ofidiau,
A'i boenau Et bob un,
Oedd llwyr orchfygu nerth y fagddu,
Ac anrhydeddu dyn:
Y ffordd yn rhydd i gario'r dydd
O newydd ini wnaed;
Er gwaetha uffern gerth,
Ni chollir gwerth y gwaed.
Dangosodd hynod wir ufydd-dod,
Heb wrthod tra fu byw,
Ior hyfryd i fawrhau
Rheolau deddfau Duw:
Fe gaed tystiolaeth ei athrawiaeth,
Er helaeth eglurhad,
Fod Iesu mawr ei hun
Yn un cytun â'r Tad;
Ei fywyd oedd lafurus,
A gweddus yn mhob gwaith,
Fe wnaeth arwyddion ar y cleifion,
Byddarion, mudion maith:
A'i wyrthiau glân, i fawr a mân,
Oedd ddiwahan o hyd,
Dan ei awdurdod Ef,
Mae gallu'r nef i gyd.
Fe chwysodd ddafnau cochion,
Oen gwirion, megys gwaed,.
Y gwpan sur i'w enaid pur,
Yn chwerw gur a gaed;
O'i braidd ei hun, ni safodd un,
I'w ganlyn yn ei gur,
Ei fywyd o'i wir fodd
Aberthodd Iesu'n bur.
Mae coffadwriaeth o'i farwolaeth,
Yn helaeth i'w fwynhau,
Tra byddo oesau'r byd
Pur hyfryd yn parhau;
Ei angau marwol oedd ddigonol,
Oen nefol drosom ni;
A'r aberth mwya' erioed
A roed ar Galfari.
Y goron annhrugarog
Oedd bigog ar ei ben;
Fe wnaed i'w pechod gydgyfarfod
A'n Priod ar y pren,
Ar Iesu pur ddyoddefodd gur,
A llafur yn ein lle;
Drwy anarferol fodd,
Fe grynodd daear gre'.
Y ser i gyd ddiflanodd,
A'r wawr a dreiddiodd draw,
Pob golwg ffydd a edwyn ddydd
Y llywydd sy gerllaw,
Mae gwir iachad i'r enaid cla'
Drwy rinwedd hâd y wraig,
Ar groeshoeliedig bren
Fe ddrylliwyd pen y ddraig.
Er cael yn helaeth goffadwriaeth
O fuddugoliaeth gu,
Y cyfiawn D'wysog hedd,
A chofio'r bedd lle bu:
Gochelwn felly wag ryfygu
Heb etifeddu'r fael,
Er d'od o'r Duwdod pur
I wisgo natur wael:
Rhaid ini gael tystiolaeth
O'r iachawdwriaeth rad,
A gado'n ol arferion ffol,
Yr hen eilunol wlad;
A ffoi, mewn pryd, i'r noddfa glyd,
Yn hyfryd i'w twynhau,
Cyn bo'r efengyl bur
A'i chysur i'n hiachau.
Y sawl sy ganddo brofiad,
A theimlad o'r gwaith hwn,
Sy'n gwir adnabod Iesu'n briod,
A'i bechod iddo'n bwn,
Pan losgo'r byd, a'i gyfoeth drud,
Caiff brofi hyfryd hedd,
A gorphwys gyda'r Oen
Tu draw i boen y bedd.
Ymdrechwn beunydd am lawenydd
Tragwyddol sydd i'w gael,
A llefwn, hyd y llwch,
Am heddwch Iesu hael;
Y mae'r anwylyd mawr yn eiriol
Tragwyddol unol Ior:
Nesawn, er maint yw'r llid,
Yn ddiwyd at y ddor.
Darfydded holl ryfeloedd,
Drwy leoedd daear lawr,
Tangnefedd fwyngu fo'n teyrnasu,
Heb ail enynu un awr,
A'r cledd a f'o i'w gael dan glo,
Ei wisgo yn ei wain,
O Frydain aed ar frys
Bob annghysurus sain;
A heddwch fo'n ymdaenu,
Ac yn helaethu ei le,
A'r byd cyweithas dan ei urddas,
Yn addas fel y Ne',
I'r Hwn a roes ar bren y groes,
Ei anwyl oes i lawr,
Y byddo'r mawl i gyd,
Hyd ddiwedd byd bob awr.
CAROL PLYGAIN.
Mesur,—"Difyrwch Gwyr y Gogledd".
Aed moliant Iesu mawr ar led y ddaear lawr,
Terfynau'r byd a welo'r hyfryd wawr;
Trigolion daear de'wch, i'w lysoedd nefol ewch,
Wel dyma'r pryd, yn hyfryd llawenhewch;
Fe anwyd Ceidwad dynolryw,
Yn waelaf ddyn, anwylaf Dduw,
O'r wyryf hawddgar, forwyn,
Oen addfwyn, addfwyn yw;
Yr Hwn a welwyd gyda'r wawr,
Y mae ei bresenoldeb mawr,
Duw unig pob daioni,
Yn llenwi nef a llawr.
Gadawodd lys ei wlad, er rhoddi gwir ryddhad,
I ddynolryw, Oen Duw, ei nefol Dad;
Daeth y Mesia mawr, i'w eni gyda'r wawr,
Ei haeddiant Ef sy nodded gref, yn awr,
Creawdwr pob creadur byw,
Ddaeth fel creadur, gwan ei ryw,
Duw cadarn didrancedig,
A bendigedig yw;
Er dyddiau tragwyddoldeb maith,
Cyn bod y nef na daear chwaith,
'R oedd ei fynediad allan,
Ior diddan ar ei daith.
Gan iddo wisgo cnawd, a d'od i le tylawd,
Fe'n ceidw'n fyw, ein Brenin yw a'n Brawd,
Hwn ydyw Had y Wraig, sydd ini'n gadarn graig
Drwy boenau llym, gorchfygodd rym y ddraig;
Fe gân y gwaredigion mwy
Dragwyddol glod am farwol glwy',
Rho'wn oll i frenin Salem
Ein hanthem, gyda hwy;
Efe sy'n rhoi ei ras yn rhad,
Fe ddaeth a dyn yn un â'i Dad;
Mae essaith rhad drugaredd
Yn rhyfedd ei barhad.
O, cofiwn D'wysog hedd, a'i boenau hyd y bedd,
Mae nerth wrth raid i weiniaid yn ei wedd;
Ni chafwyd mewn un lle un enw dan y ne',
I bobloedd byd yn fywyd ond Efe;
O glwyfau'r Oen ar Galfari,
Ei waed i'r llawr a roed yn lli',
Dyoddefodd rym y gyfraith,
A phwys ei heffaith hi;
Efe yw'r pen ryfelydd pur,
Er bod yn wan o dan y dur,
Pyrth Sion a ddatododd,
Agorodd yn ei gur.
Myfyriwn am y fraint, a'r wobr sydd i'r saint,
Mewn byd yn ol, anfeidrol yw ei fraint;
Caiff etifeddion ffydd sy'n dyoddef gwres y dydd,
Er dwyn y groes feddianu'r einioes rydd;
Tangnefedd pur drwy gur a gaed,
A'r ffordd i'r nef yn rhydd a wnaed,
Mae rhinwedd annherfynol,
Tragwyddol yn y gwaed;
Nid oes a geidw enaid un,
Ond haeddiant lesu mawr ei hun,
Hwn ydyw'r ffordd i'r bywyd,
Ordeiniwyd i bob dyn.
Erfyniwn gan y Tad wir heddwch a rhyddhad,
I'r enaid caeth, drwy'r iachawdwriaeth rad,
Gwybyddwn nad yw'r byd, ond gwagedd oll i gyd,
Ni phery ei wawr anhydyn fawr o hyd;
Dychwelwn o'n estronol wlad,
Yn ol i dŷ ein hanwyl Dad,
Mae'r Ion er ei ogoniant,
Yn rhoi maddeuant rhad;
I'r amddiffynfa ceisiwn ffoi,
Ac o'n diffrwythder rhaid deffroi,
Yr unig Dduw'r gwirionedd,
At rinwedd all ein troi.
Caiff Sion wan, yn wir, ei dwyn o'r anial dir,
Uwch rhwystrau'r byd i'r gwynfyd hyfryd hir,
Daw pob credadyn gwan, i orphwys yn ei ran,
'Mhen gronyn bach, o'r loesau'n iach i'r lan;
Tragwyddol arfaeth, yn ddilai,
A geidw'r etholedig rai,
Iacheir eu clwyfau hefyd,
A'u bywyd o bob bai,
Caiff pawb o'r etholedig had,
Yn ddiau, drwy'r addewid rad,
O'r maith anialwch dyrys,
Eu tywys at eu Tad.
Fe darddodd afon gras, er gwaetha'r gelyn cas,
A'i ffrydiau llawn, yn beraidd iawn ei blas;
Y ffynon hyfryd hon, o bur friwedig fron.
Ddaeth i'n glanhau drwy wir effeithiau'r ffon;
Myfyriwn am ei farwol loes,
A'i boen o'i gryd i ben y groes,
Ar gariad rhad drugaredd,
Un diwedd byth nid oes;
Yn awr mae dyled ar bob dyn,
Ddyrchafu llef i'r nef yn un,
I'r Hwn sy'n rhoi maddeuant
O'i haeddiant mawr ei hun.
Esgynodd T'wysog hedd yn fyw o'r marwol fedd,
Yn hardd ei bryd, gwir wynfyd sy yn ei wedd,
Gorchfygodd uffern faith, Ior dwyfol, ar ei daith,
Bydd iddo fawl tragwyddawl am y gwaith;
E roes i lawr ei rasawl oes,
Dan boenau llym a grym y groes,
Ef yno a ruddíanodd,
Dolefodd dan y loes;
Mae hyfryd werth ei aberth Ef,
O faeth a grym, mewn effaith gref,
Yn eiriol dros anwiredd
Yn awr ar orsedd nef.
Ystyriwn hyn i gyd daw barnydd mawr y byd,
O'r nef i lawr, pwy ŵyr yr awr na'r pryd?
Meddyliwn am y dydd, a ffown drwy gadarn ffydd,
Cyn delo'r awr, a'r llid mor fawr a fydd;
Cyd-unwn oll o dan y nef,
Yn llawen i ddyrchafu'n llef,
I'r Ion am ei diriondeb,
A gwedd ei wyneb Ef;
Cyd-ro'wn y goron bur ar ben
Yr Iesu'n unig îs y nen,
Pob genau rhoed ogoniant,
A moliant fyth, Amen.
ODLAU MOESAWL.
O hyd yr oes pechadur wyf,
Dan glwyf, fy nwyf yn afiach;
Yn dwyn fy mriwiau dan fy mron,
Archollion pwy erchyllach?
O waeledd nerth ni welodd Naf
Tirionaf, neb truanach,
Annghofio'n dost, fy nghyfiawn dwr
Gwir roddwr trugareddau;
Heb ado drwg y byd a'i drais,
Taer redais at ei rwydau,
Pob ynfyd naws yn draws a drodd,
Ymledodd dros fy mlodau.
Aeth talm, ysywaeth, tan y ser,
O'm hamser hoewber heibio!
A'r oes o hyd sy'n dwys fyrhau,
Mae pwys fy oriau'n pasio,
A'r corff i'r bedd, naws agwedd swrth,
A dorir wrth ei daro.
Owl gwan yw dyn, a gwn nad oes
I'r einioes ond bèr enyd,
Tyr angau'r byw, trwy ing i'r bedd,
I orwedd dan ei wryd.
Nid oes un nodded, îs y nen,
Na chilen i'w ochelyd.
Effeithiau'r codwm, gorthrwn gûr,
Y dolur hwn a'n daliodd,
Er Adda hen, ei wraidd o hyd,
Tylwythau'r byd a lethodd;
Pob rhan o ddyn, pob rhinwedd dda,
Fu lonwych, a ddiflanodd.
I gario'r boen, daeth Gwr i'r byd,
I enill bywyd ini,
Druenus ryw, a'r deyrnas rad
Nad oes diweddiad iddi,
Un oll yn wir na allo neb
Gloi wyneb ei goleuni.
Ni chyrhaedd saethau angau un
O'r didawl lu nodedig,
O dwrf y gwae, mae'r dorf i gyd,
A gwawd y byd gwywedig;
Daionus hawl, mewn dinas wych,
Sy glodwych ansigledig.
Boed ini fythawl hawl i hon,
Mor lon, yw'r mawr lawenydd,
A mwyn iawn gôr o'i mewn yn gwau,
Holl seiniau llais awenydd,
Ni ddaw i addas deyrnas Duw,
Na diluw na dialydd,
Am hyny, 'n wir, dymuno wnaf,
Gofynaf, yn gyfanedd,
I'r Ion faddeu'r hyn a fu,
Drwy Iesu, fy holl drosedd,
A da i mi, os Duw a'i myn,
Gyfnewid cyn fy niwedd.
MYFYRDODAU DIFRIFAWL.
Mesur,—"Leave Land."
Fy mrenhin, fy mhrynwr,
Gwiw rad, a'm gwaredwr,
Fy nodded, fy nyddiwr, llywiawdwr pob lles,
Yn ddiddan, dros ddynion,
Tywalltaist, do heilltion,
Ddiferion o finion dy fynwes.
Dy gariad, Oen gwirion,
At annoeth blant dynion,
Swydd anwyl, sydd union arwyddion o ras;
I'n dwyn o law angau,
Ni allodd picellau,
Na phoenau, dialeddau, dy luddias.
Nid oedd un creadur
Cu, moesol, cymesur,
Allasai roi cysur, mae'n eglur i ni;
Na neb ond yr unig
Iachawdwr parchedig,
O'n cyflwr trancedig, ein codi.
Drwy ystyr ei dristyd
A'i boenau, bob enyd,
Fu'n dirwyn yn ddiwyd ei fywyd i fedd,
Mi glywaf, yn ddilys,
Ei lef yn wylofus,
Dan bwysau annghymwys fy nghamwedd.
Ond er cael ei daro,
Is haul, a'i groeshoelio,
A'i roi mewn tir ango, a'i guddio fe'n gaeth;
Ni allodd, er hyny,
Y diawl a'i ddrwg deulu,
Ddal Iesu ar wely marwolaeth.
Boed cof, yn wastadol,
O'r dydd tra dedwyddol,
Y daeth y buddugol Ior bywiol o'r bedd;
Mae ef wedi esgyn,
O gyrhaedd pob gelyn,
I erfyn, gan ofyn tangnefedd.
Pe byddai fy mhechod,
Cyn amled a'r tywod,
Neu ser y nef uchod, nid gormod y gwaith,
I Ti Hollalluog,
Er mwyn yr Eneiniog,
Ei faddeu, Ior enwog, ar unwaith.
Mi af yn 'w'llysgar,
Ar ddiwedd i'r ddaear,
Ond profi'n faddeugar, Duw hygar, dy hedd,
A chael yn flaenorol,
I'm henaid anfarwol,
Dy nefol, ragorol drugaredd,
Dod imi lawenydd,
A heddwch na dderfydd,
A gafael o'r newydd, ar grefydd y groes;
A chynal fi'n effro
Tra b'wyf yn ymdeithio,
Nad imi drwm huno drwy'm heinioes.
Pan dreulio fy nyddiau,
Anwadal fynydau,
A dirwyn o'm horiau y boreu i ben,
Dwg yna'n dragywydd
Fy enaid, O Arglwydd,
I fawrlwydd iach ebrwydd uwch wybren.
CERDD.
Mesur,—"Grel yr Adeilad."
Y Llywydd Hollalluog, twr geirwir, Ion trugarog, enwog union,
Tydi sy'n gwel'd eithafoedd (mewn goleu) a dirgeloedd dua'r galon;
Tydi a roes ar Galfari, fy Ior tragwyddol, dy einioes rasol,
Mewn modd rhyfeddol, yn farwol drosof fi,
A'th waed i olchi 'mhechod dros byth o'th wyddfod Di;
Yn llon te redodd îs dy fron, rhyw afon hyfryd, sef dwfr y bywyd,
O archoll waedlyd a phenyd gwayw ffon,
'Rwy'n deisyf cael ty nghlirio cyn imi huno yn hon.
Nid oes un feddyginiaeth a'm dwg rhag damnedigaeth i le diogel,
Na ffordd i'm diogelu, ond rhinwedd gwaed yr Iesu, a geidw'r isel;
Ei oes, dan y greulonaf loes, a'i gorff santeiddiol yn aberth bywiol,
Dan glwyfau marwol mor rasol yr ymroes;
I farw dan yr hoelion, ar bren y greulon groes:
Dan glwy', gruddfanu ar Iesu'r wy', rhag ofn melldithion
Y gytraith gyfion am fyw'n afradlon nid oes un moddion mwy,
I'm gwneud yn gwbl berffaith oddiwrth eu heffaith hwy.
'Roedd yr aberthau gwaedlyd yn dangos Crist, bob enyd, dan ddirfawr boenau,
Er hyn fe wyddai'r Ceidwad cyn amser ei ddyfodiad ei ddyoddefiadau;
Pan fu, mewn loes, er mwyn ei lu, heddychodd ddigter y ddeddf a'i phurder,
Gorchfygodd gryfder a nerth y dyfnder du,
Pwrcasodd ini fywyd, mewn cyflawn wynfyd cu;
Gwir fraint, heb annghysurus haint, mewn gwledd na dderfydd,
O fewn i geurydd Caersalem Newydd, oes hylwydd fydd i'r saint,
Ni wyr un dyn daearol ei annherfynol faint.
Dyoddefodd bwys melldithion a gwaith y gyfraith gyfion, mae hyn i'w gofio,
I'n dwyn o law cyfiawnder y gwisgodd Iesu'n dyner gnawd am dano;
Pob baí ddileuir yn ddilai, gan fod ei ryfedd briodoledd,
Sef rhad drugaredd, trwy rinwedd heb ddim trai;
Yr Iesu blaenor Isr'el a geidw'r isel rai;
Drwy ddawn ardderchog, enwog iawn, mae hedd yn tarddu, i bawb sy'n credu,
Dan aden Iesu, ein diogelu gawn,
Yn ngwaed yr Oen, mae rhinwedd, i olchi llygredd llawn.
Yn wyneb barn ac angau, 'rwy'n gweled hyn mewn goleu, nad wyf ond gwaeledd';
Fy manwl wir ddymuniad yw profi, drwy dy gariad, rad drugaredd;
Os doi, Ior tirion i'm par'toi, bydd mawl tragwyddol i'th enw grasol,
Am gael rhinweddol, effeithiol nerth i ffoi;
I'r ddinas noddfa hyfryd a drefnwyd ini droi;
Er gwŷn y cnawd tylawd ei lun, y wir addewid sy'n addo rhyddid,
Dan bob rhyw wendid hon yw cadernid dyn,
Mae'r gair yn cyd—olygu at hyny yn gytun.
O deuwch bechaduriaid, am ddiogelwch enaid, cyn eich huno;
Mae rhyddid i'r rhai caethion a noddfa i lofruddion gwaelion gilio;
Pan ddel y gadarn farn ddigel y llyfrau cywir i gyd agorir,
Pob gwaith a brofir, llwyr siglir llawer sel;
Pob llwyth, pob iaith, ac oedran, pob cryf, a gwan a'i gwel:
Clyw gri, Oen Duw, fy enaid i, sef yn deisysu cael ei ddyrchafu
Yn fwyn i fynu yn mhlith dy deulu Di,
I fawredd byd anfarwol tragwyddol frawdol fri.
Crist ydyw'r arch ysbrydol sy'n dwyn y rhai crediniol, dros eirwon dònau;
E dreiddia drwy'r tymestloedd hyd oror nef o diroedd y gorthrymderau:
I'r lan, fe gynal enaid gwan, er maint terfysgoedd, a grym y dyfroedd,
Fe ddwg ei luoedd o'r moroedd, yn y man,
A safant mewn gorfoledd, a rhinwedd, yn eu rhan;
Daw'r pryd bydd gwerth yr aberth drud,
Yn cael eu casglu, trwy gadarn allu' i fynwes Iesu, a'u diogelu i gyd,
A'u sicrhau'n dragwyddol mewn annherfynol fyd.
PENILLION
I wr ieuanc, yn canu'n iach i Wlad ei Enedigaeth, pan oedd ar fyned i'r America.
Ffarwel, yn bresenol, i'm gwlad enedigol,
'Rwy'n myn'd yn wirfoddol i fyw,
Os gofal Duw cyfion a'm dwg yn gysurlon
Dros donau'r môr eigion mawr yw;
I dir annghynefin, pellafoedd Gorllewin,
Hawdd gwybod nad diflin y daith,
Tri deuddeg o ganoedd, yn gyflawn filldiroedd,
Yw'r llwybr trwy'r moroedd tra maith;
Ond gyda boddlonrwydd anturiaf yn ebrwydd,
Dan ofal fy nedwydd fwyn Ior;
I'r daith mewn sirioldeb heb ofni trychineb,
Creulondeb llym wyneb y môr.
Os llwydda'n gysurol, fy ymdaith bresenol,
A myn'd yn ddedwyddol i dir,
Er hyny bydd hiraeth yn nglyn wrth naturiaeth,
Am Gymru wen odiaeth yn wir;
Am anwyl gyfeillion, a cheraint mwyneiddlon,
In ngoror gwlad estron bob dydd;
Fy serch yn dra pharod a meddwl diymod,
Yn llenwi'r fyfyrdod a fydd;
Gwlad Neptune lueddog arweinydd coronog,
A Bardus gu enwog yn wir;
Nid pellder y fordaith all ddiffodd holl effaith
Fy nghariad at dalaeth ein tir.
Trysorau tra helaeth sy'n nwylaw Rhagluniaeth,
Er trefnu cynhaliaeth i ni;
Ei llwybrau sydd ddyfnion a'i rhyfedd ddirgelion,
Yn esgor ar roddion di ri';
Pwy wyr nad yw trefniad ei ddoniawl ordeiniad,
Ar Gymru'n rhoi galwad yn gu;
Fel Israel o'i flinder pan ddaeth y cyfamser,
Bu nerthoedd y dyfnder o'i du;
Gwir ryddid cysurol a heddwch sy'n fuddiol,
Tangnefedd mwyneiddiol mewn oes,
Mae ysbryd gelynol a llid bradwriaethol,
I'r ddwyfol gu reol yn groes.
Os digwydd im' symud i hellter bro alltud,
A chyrhaedd dedwyddyd o'r daith,
Blodeued tangnesedd, ar genedl bro Gwynedd,
A llwyddiant ar rinwedd yr iaith;
Gwlad Arfon flodeuog a'i chynyrch gwych enwog,
A fyddo'n lluosog ei llwydd,
A Duw i'w hamddiffyn rhag cael ei goresgyn,
Na dyfod gau elyn i'w gwydd;
A minau 'nol myned yn addas o'i nodded,
Er mwyned lloneiddied fy nwy',
Mae'n debyg na ddigwydd i'm fanwyl Eifionydd,
Dy weled er mawrlwydd fyth mwy.
Pe gallwn gyrhaeddyd tre' Efrog tra hyfryd,
A'r ffrwythlon dirionfyd sydd draw;
Eiddunaf ar fyrder os gwelaf yr amser
Na cherddaf dir Lloegr rhag llaw;
Nid ydyw'r byd isod, amserol, ond sorod,
A'i drysor i ddarfod ryw ddydd;
Ond teyrnas ddiffuant gu, anwyl gogoniant,
I'r duwiol yn feddiant a fydd,
Gobeithio cawn eto er gorfod ymado,
Ail uno i gyd—byncio uwch ben
Ogoniant diddiwedd i'r Oen am ei rinwedd,
Yn ngwyddfod y Mawredd, Amen,
ANERCHIAD
Y Dr. E. P. Anwyl, Bryn Adda, gerllaw Dolgellau,
Hydref 31, 1825.
Y Doctor Price Anwyl, 'rwy'n disgwyl y daw
Hyd atoch yn fusgrell fy llinell o'm llaw,
I wneyd y Penillion, pur foddlon wyf fi,
Os parant ddywenydd gwych hylwydd i chwi.
Chwi roisoch gynghorion i gleifion ein gwlad,
A pharod gyffyriau, lwys oleu leshad;
A'ch ffordd yn dra medrus i'r rheidus eu rhoi,
A deifl bob afiechyd a phenyd i ffoi.
I Ddoctor synwyrgall mewn deall a dysg,
Sy'n atal clefydon, fel moddion, i'n mysg;
Nid ydyw cân benrydd un arwydd i ni,
Ond megys coeg ddirmyg ei chynyg i chwi.
Os medraf wrth ganu enynu fy nawn,
A'ch cael i Eifionydd fawr, lonydd fro lawn,
Cewch bob rhyw groesawiad, hoff rodiad yn ffri,
A bîr o'n haberoedd a'n llynoedd yn lli.
Gadewch y Ddolgellau a'i maglau, wr mwyn,
A deuwch wrth reol fesurol fy swyn;
Cymerwch eich rhyddid rhag gwendid i'm gwaith,
Na fyddwch anfoddus, wr dawnus i'r daith,
Cewch wel'd o Garnfadryn i'r Moelwyn, dir maith,
Yr Eifl a'r Eryri yn wisgi'r un waith;
A gweled y llongau dan chwarae'n dra chwyrn,
Yn myn'd tan eu mentyll, mal cestyll eu cyrn.
Cawn olrhain hen achau ein tadau'n gytun,
Cawn ddarllen Cywyddau ben boreu bob un,
Os rhodiwch ein trefydd a'n broydd mewn bri,
Gwel'd pont y Borthaethwy a Chonwy gewch chwi.
Cawn ddifyr ymgomio, a rhodio'n ben rhydd,
A son am farddoniaeth, dda doraeth, bob dydd;
A chlywed yr adar mor gerddgar yn gwau,
Ar finion afonydd, rhwng dolydd, ein dau.
Cewch gerdded o gwmpas, mewn urddas, yn iach,
Cewch hela 'sgyfarnog dra bywiog, dro bach,
Cewch ganlyn yr enwair heb anair yn bod,
Os ceir at y tymor uwch Dwyfor eich dod.
Os ceiff fy anerchiad wrandawiad ar dir,
Cewch amryw gymdeithion enwogion, yn wir,
A pheth sydd ryfeddach, nid hwyrach, at hyn,
Cewch glywed per araith da waith Dewi Wyn.
Y PENILLION ISOD
A wnaed a'r ddeisyfiad Owen, Llanddeiniolen, i ofyn Siwmp, (Coat,) gan Syr Edward Llwyd.
Syr Edward Llwyd ardderchog
Sydd gâr i'n marchog mwyn,
Hyd atoch chwi wr mwynaidd
Y dof a'm gwaeledd gwyn;
Chwychwi sy'n meddu digon,
A moddion fwy na mwy,
A minau'r gwan crwydredig,
Tylawd ac unig wy'.
Eich parch sydd yn gyhoeddol,
Ryglyddol drwy bob gwlad,
Am amlder rhwydd eich rhoddion
I weinion yn ddi wad.
A rowch chwin hygar Hugan,
I'r truar, oreu trefn,
Un fuddiol i'w lawn foddio
A dalo i guddio ei gefn?
Mae son am eich haeloni
Yn dwyn eich bri ger bron,
A'ch clod sydd yn gyhoeddol,
A siriol yr oes hon;
A hyn a fydd i'ch enw
Yn barch ac elw gwiw,
A phawb yn dweyd am danoch,
Poed hir y byddoch byw.
AWDLAU, &c.
Am JANE ELIZABETH WILLIAMS unig ferch ac Etifeddes R. ab Gwilym Ddu, yr hon a fu farw o'r Darfodedigaeth, Tach. 3, 1834, yn ddwy flwydd ar bymtheg oed.
Och! gur, pwy fesur, pa faint
Yw 'nghwyn mewn ing a henaint!
At bwy tro'f yn fy ngofid,
A chael lle i ochel llid!
Angau arfog, miniog, mawr,
Ar ei gadfarch ergydfawr,
Wele yma carlamodd,
A'i rym ar egni a r'odd;
Torodd i lawr, drwy fawr feth,
Ein diddig, unig eneth;
A mynodd hwnt o'n mynwes,
Enaid a llygaid ein lles;
Nid oes, ni fydd, yn oes neb,
Resyni'n fwy croesineb.
Y fi, lwydfardd, wyf ledfyw,
Mawr ei boen, rhwng marw a byw,
Dirdynwyd ni'n dra dinam,
Oerodd gwres mynwes ei mham;
Wylo yr ym lawer awr,
Diau wylwn hyd elawr;
Ow! Sian fach, mae'n syn fod,
Ein t'wsen mewn tŷ isod!
Dwfn guddiwyd, ataliwyd hi,
Y man na welwyf mo'ni;
Llwch y llawr, yn awr, er neb,
Sy heno dros ei hwyneb.
Nid oes wên i'w rhieni
Ar ei hol, er nas gwyr hi;
Ni ddodir gair toddadwy
Byth o'r Berch i'm anerch mwy,
Och, olwg wel'd ei chelain,
Erchwyn oer, wrth arch ei nhain.
Ymholais, crwydrais, mewn cri—och alar!
Hir chwiliais am dani;
Chwilio'r celloedd oedd eiddi,
A chwilio heb ei chael hi.
Gwywais o geudeb wel'd ei gwisgiadau,
Llanwai y meddwl o'i llun a'i moddau,
Dych'mygion gweigion yn gwau—a'm twyllodd;
Hynod amharodd fy ngwan dymherau.
Ei llyfrau, wedi ei llafur odiaeth,
Im' pan eu gwelwyf mae poen ag alaeth;
Llawn oedd mewn darllenyddiaeth,—a hyddysg,
Cref iawn o addysg mewn 'sgrifenyddiaeth.
Och! arw son, ni chair seinio—un mesur,
Na musig piano;
Mae'r gerdd anwyl yn wylo,
A'r llaw wen dan grawen gro.
At byrth[1] Cawrdaf af o Eifion—i lawr,
Dan ddoluriau trymion;
Briwiau celyd, braw calon,
lwyth mawr y'nt yn llethu 'mron,
Ochenaid uwch ei hanedd—a roisom,
Mae'n resyn ei gorwedd;
Lloer iefanc mewn lle rhyfedd,
Gwely di barch—gwaelod bedd.
Ow! Sian, ymorphwys enyd—o'n golwg,
Yn y gwely priddlyd,
Gair a ddaw i'th gyrhaeddyd—o'r dulawr,
I faith, faith, lonfawr, fyth fythol wynfyd.
Pan fo'r bedd yn agoryd,
Ddydd barn, ar ddiwedd y byd,
Daw'r llwch o'r llwch bob liychyn,
Er marw, ar ddelw yr Ail Ddyn.
Ow! Sian fach, bellach ni bydd
I ddoniau fawr ddywenydd;
Gruddfan, mae fanian, wrth fod,
Ar abell, un awr hebod.
Y peswch marwol, pwysig,
Fu'n erlyn i'w derfyn dig;
Poethi ac oeri i gyd,
A'i blinodd, bob ail enyd;
Chwys afiach, a chas ofid,
A'i grudd fach dan gryfach gwrid;
Pob arwyddion, coelion caeth,
A welid o'i marwolaeth.
Llawer dengwaith, drymfaith dro,
Tra sylwn—tro'is i wylo.
Byr oedd hyd ei bywyd bach,
Oes fer—Ow! be sy fyrach?
Goleu y rho'dd eglurhad,
Hoff a rhyfedd o'i phrofiad.
Daliodd, o dan bob duloes,
Hyd ei holaf, lymaf loes;
A'i gwaedd bur yn gu ddi baid,
I'r lan, ar ran yr enaid;
Cyftwynodd o'i bodd tra bu,
Ef i lwys ofal Iesu;
A dewis ymadawiad,
Adre' i glir dir ei gwlad.
Gwlad rydd, a golud o ras,
Gwlad gyflawn o diriawn des;
Gwlad ddiangen, lawen lys,
Gwlad y gwir, a hir ei hoes.
Cael tragwyddol gyd-foli,
Mewn eilfyd, hyfryd â hi,
A'n lle fry yn nhŷ fy Nhad,
Amen, yw fy nymuniad
COFFADWRIAETH
Am Mr. J. JONES, GWEINIDOG Y BEDYDDWYR YN RAMOTH, &c., SWYDD FEIRION
Yr hwn a fu farw Mehefin 27, 1822, yn y 57 flwyddyn o'i oedran. Bu yn Weinidog diwyd a llafurus 34 o flynyddoedd.
"Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di a'i had hithau."—Duw.
"A phawb ar sy yn ewyllysio byw yn dduwiol yn Nghrist Iesu a erlidir,"—PAUL
"A chas fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i."—CRIST.
"Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni "—DAFYDD
"Ond ni chyll blewyn o'ch pen chwi"—CRIST.
"A gwybyddwch na syrth dim o air yr Arglwydd i'r ddaear."ELIAS
"Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig."—SOLOMON.
Cwynaf ac wylaf o galon,—dostur,
A dystaw och'neidion;
Trwm ofid, tramwy Eifion,
A gwraidd briw mewn grudd a bron.
D'rysu'r wyf, am drosi'r hin,—oll heno,
O'i llinell gysefin;
Trwm hefyd droi Maihafin,
I rew blwng yr Ionawr blin.
Y wir ddawn a urddunwyd;—Ow'r em aur
O Ramoth a gollwyd!
Fyth, Meirion, fe'th amharwyd,
Coeliaf y son, clwyfus wyd.
Colli'r Athro! do, gwae ni o'r dydd hwn
Huno'r prif ladmerydd;
Och! arwain dan ei chaerydd,
Seren i'w phell siwrnai ffydd.
Pwy i'n bro, pan y b'ai raid,
Uwch Sion mewn achos enaid?
Pen ei oes, Ow! pwy na wyr?
Braw son yn briwo synwyr:
Prudd yw gwedd y praidd, a gwael,
Gwedi iddo eu gadael:—
Dienill i fyd annuw;
A gloes ddofn i eglwys Dduw;
Ow! duodd ei blodeuyn,
Rhy drech i Harlech oedd hyn;
Mewn du rych—mewn daear roth,
Trymaf! hen fynwent Ramoth.
Mae'n wir ni ddiheurir hyn;
Lle nychlyd yw Llanuwchlyn,
Och! drom, ni chair ymgomiaw,
Na difyr lythyr o'i law;
O! daliodd angau dilyth
Yn y bedd, ei enau byth.
Bu'n ganwyll uwch ben Gwynedd,—do, Ow! 'mrawd
Mae'r hedyn yn gorwedd:
Dienaid yw dy anedd,
Gwywyd fi o gau dy fedd:
Mor dawel oedd ein helynt,
Wrth ddysgu cyd ganu gynt;
Pybyr, a difyr ein dau,
Lliosem, braidd, bob lleisiau;
Trin egwyddor peroriaeth,
Ar oleu gerdd, reol gaeth;
Hwyr aros, lawer noson,
I gyrhaedd dull gwraidd y dôn,
Ond er ffraeth wybodaethau,
Ber yw hynt dyn i barhau;
Dirwyn mae'r cnawd i orwedd,
Nes—nes i fynwes ei fedd.
Mae'n bri eleni ar lawr,
A fu gynt ein prif gantawr:—
Wele i'n oll wylo'n awr;—Och! hydrais,
Dwyn y pereiddlais o dan y priddlawr.
Arddelwodd fusig, urddol ddyfeisiau,
A mynai agoriad mwyn gyweiriau:
Dawn Eden ei don nodau—engraftawl,
Cafwn sydd ddidawl, cyfansoddiadau.
Ese a iawn wyddai ddifinyddiadau.
O wiwber ddywenydd, a barddoniaeth:
Hoffus agoriad drefn Phisygwriaeth,
A uniawn weddai i anianyddiaeth;
Dull hylwydd—deall helaeth i'w rhoddi,
A'r modd i'w gweini er meddyginiaeth.
O b'ai ôl angen yn blingaw—gwerin,
Agorai ei ddwylaw:
A gwên hael, heb gynhilaw,
Rhwydd i lesg f'ai rhodd ei law.
Abwydau gwaelion byd a ogelodd;
Mamon annichon, hwn ni chwenychodd!
Gw'radwydd Iesu, drwy gred a ddewisodd,
Am y dra uchel gamp yr ymdrechodd;
Diwyredig, da rodiodd—tra fu fyw;
Da y gwyr heddyw'r nôd a gyrhaeddodd.
A didawl fwriad y da laturiodd.
Ef drwy ei alwad, ac ni fudr elwodd.
O wyddorion y byd ymddiheurodd:
A'i gau ofergoelion rhwysgfawr gwyliodd.
Gwobrau na meflau'r un modd—o'i orchwyl
Yn ei law anwyl yma ni lynodd.
Dwyn o'i gell waith doniawg wyr,
Ieithedig hen ddoeth awdwyr:
Mewn ffraethineb, neb yn uwch,
Ni bu gôf neb ogyfuwch.
Fwy yma'n meddu pumiaith—cywirach,
Yn caru'r Omeriaith?
Duwiol awdwr dilediaith,
Goreu rym fu'n geirio'r iaith.
Agor enaid y gwirionedd,
I'w wrandawyr o iawn duedd,
A'i Dduw'n arwain ei ddawn eurwedd,
A gair miniog vr amynedd.
Ynillai aur gnewyllyn,—nef fwnai,
O fynwes pob testyn:
Arddelwi'r gair a i ddilyn;
Bugail da, heb goelio dyn.
Hoenwych ddodawdd hen iach addewidion,
O'r pur wirionedd i'r pererinion;
A pharodd alar i'w gyd fforddolion,
Yma, ddydd einioes, am ei ddyddanion.
Ond braidd bychan, gwan, gwena,
Ei alwad oedd yn elw da;
Cyfaddas cofio heddyw,
Mae eto'n prif athro'n fyw.
Yn foreu, diau y daeth,
Wr dilys, i'r frawdoliaeth;
Tristyd dros fywyd a fu,
Am i hwn ymwahanu,
A didol o ganol gwyr
Niferadwy hen frodyr.
O raid—neillduaw'r ydoedd,
O ran cydwybod yr oedd;
Dilynai'r duwiol enaid,
Y ddwyfol reol oedd raid.
Gair Duw oedd ei gredo ef,
Hyd a wyddai rhaid addef,
Anhepgor egwyddorion,
Ei lafur iach o lyfr Ion.
Didol pob traddodiadau—anianol,
Yn wyneb erlidiau;
Byw ar y gwir beio'r gau,
Ydoedd ei ymroadau.
Ow! poenwyd eigion ein pen diwygiwr,
O! gan oes wyrawg—heb neb yn gysurwr;
Ei enw â gw'radwydd, fel pob iawn gredwr,
A fwriwyd allan, fal ofer dwyllwr,
Ond beunydd Dofydd fu'n dŵr—yn unig,
I gysegredig was ei Greawdydd.
Hir drafeiliodd, o'i fodd, faith
Ddaear Gwynedd oer ganwaith;
Wr enwog, ni farchogai,
Eithr ar droed erioed yr âi
Ei fynych daith gyfanedd,
Ar bob hin, hyd fin ei fedd.
A phwys maith y gwaith i gyd
Fu achos o'i afiechyd;
Arweddai'r llestr pridd diddim,
Drysawr rydd na dderfydd ddim.
Hwyr weithian a hiraethol—yw nyddiau,
Fwyneiddwr mynwesol;
Coffhau d'eiriau awdurel,
Er dim, a fynaf ar d'ol.
Ymddaliodd fy meddyliau,—ei reddfol
Arwyddfawr bregethau;
Caiff hen ardderchog goffhau,
Hyd oes dyn, ei desdynau.
Seliodd i'w ol oesolion
Hoffus air y gyffes hon:—
"Fod cymhwys ymorphwysiad,
Ei was mwyn ar Iesu mad;
A'i lawn cu, ei unig hawl,
A phoenau'r gwaith gorphenawl:
Y môr o waed, mawr ei werth,
Wynebir yn ei aberth.
Cenad wen ar adenydd
I'th alw ddaeth i oleu ddydd:
"Dwyre, frawd, ie ar frys,
Hon yw d'awr—hwy nid erys."
Byw.—Ai draw y glaniaist o dir gelyniaeth?
MARW.—Ie, i wir fedi'r fawr orfodaeth.
Byw.— Fry dy ddydd, O! frawd a ddaeth,—a thrwydded
I feddu gweled y fuddugoliaeth.
"I'th le at berffaith lios,
Da, was da," medd Iesu, "dos
I breswyl fy anwylion,
I twynhad fy neau hon;
Ofni trueni nid rhaid,
Neu dòn i flino d'enaid."
Llyna fan, mae'n llawen fod,
Fardd sereiff, fro ddisorod;
Dysg dithau dôn nodau nef,
Llafar gân llyfrau gwiwnef,
Pe clywn sain d'arwyrain rydd,
Adwaenwn dy awenydd.
O! lawened y loewnef,
Uno dawn â'i enaid ef,
I'r Awen, yn un, Ior mad,
Mae'r enw yn ddiymraniad.
Anthem gu, na bu ei bath,
I Dduw a'r Oen, yn ddi rith;
Achwyn i'w mysg,— Och! na meth,
Uwchlaw'r bedd ni chlywir byth.
Yn fyrdd gwell, ar gân bellach,
Gweined ef ag enaid iach,
Rhyfedd, ddiddiwedd awen,
Mwyn y mawl, Amen, Amen.
COFFADW RIAETH
Am MR. JOHN WILLIAMS, PERORIAETHYDD,
O Ddolgellau, yr hwn a fu farW Mawrth 11, 1821.
Per fiwsig uwch prif oesoedd,—adwaenir,
A'i donau'n mhob lleoedd;
Hoff rediadau'n ffrwd ydoedd,
Hynod o lawn, Handel oedd.
Fe roddes gedyrn fawr addysgiadau
I luoedd daear, Ogledd a Deau;
Henwn iaith Omer hi yn anthemau,
I dduwioledig waith addoliadau;
Dywenydd yw ei donau,—a rhyfedd
Wyrth hir ogonedd ar nerth organau.
Diboen o hyd y bu'n hau
Rif y ser o fesurau;
Adwaenai a phrofai'n ffraeth,
Rinweddau'r awenyddiaeth;
Ein hyder gwiwber a'i gwel
Yn diengyd, ein da angel,
I fan ei chynefinoedd,
Aeth y gân—can's benthyg oedd.
Fel mae clod yn bod, y bydd—ogyfuwch
I gofio'n hathrawydd;
Bri'r ethol beroriaethydd
Trwy gred oll, tra gwawrio dydd.
COFFADWRIAETH
Am ANNE EVANS, PRIOD JOHN EVANS,
ABERERCH, EIFIONYDD
Yr hon ydoedd ferch Mr. John Owen, Crafnant, Llanfair, yn Meirionydd; bu farw Ebril 8, 1818. Ei hoedran 34.
How lov'd, how valu'd, once, avails thee not,
To whom related, or by whom begot,
A heap of dust alone remains of thee,
'Tis all thou art and so the proud shall be."
Och! wylo bu'm uwchlaw bedd
Un gywiraf fu'n gorwedd;
Er o'i hol wylo'r heli,
Galon hael, nis gwelwn hi;
Ow! myned heb ymanerch
Obry i fro Abererch.
Digwydd trist i'r gym'dogaeth,
A phraw dwfn i'w phriod aeth;
Lleyn drist sydd â llen drosti,
O! duodd awr ei dydd hi;
Braw o fewn bro Eifionydd,
A thrist fron i Feirion fydd;
Y dirion fam, drwy iawn fodd,
Ei theg wr, doeth a garodd.
A'i theulu mân, dianaf,
Yn bedwar cymhar eu caf,
I gychwyn mewn teg iechyd,
Druain bach, dan droion byd;
A Duw'r hedd hyd fedd a fo,
Yn yr iawn a'u harweinio.
Diau mai gwael flodeuyn,
Byr ei dwf, a brau yw dyn;
Va wyneb terfyn einioes,
I estyn awr dyn nid oes
Na thir cudd in', na thŵr cau,
I ddiengyd yn nydd angau;
Y fun hael oedd fwyn i'w heinioes,
Hunodd yn mlodeu ei hoes;
I weiniaid, pwy adwaenodd
Un lloer hael, fai'n well ei rhodd?
Bri hon a gaiff hir barhau,
Synwyr ac elusenau;
Mwyn oedd ac amyneddol,
Hynod ei pharch, di nwyd ffol;
Cysur difesur a fu,
A thawelaidd i'w theulu.
Er trymed y golled gaeth,
Weled awr ei marwolaeth,
Buddiol in' yw boddloni,
Ys Duw a wnaeth, dysdawn ni.
Treuliodd ei hoes yn foesol,
Ni chair ei hanair o'i hol;
O Feirion i Eifionydd
Y daeth yn moreu ei dydd,
Yn wraig dda—un rywiawg ddoeth,
Iach, ifanc, lawn ei chyfoeth.
O Grafnant, mwyniant ei modd,
A'u rhyw enwog yr hanodd;
Daliwn hyn, dilyn ei hach,
Mi a allwn yn mhellach;
O lin i lin, hyd flaenawr
Tudur mwyn, a'r Tewdwr mawr;
Nid pell yn y llinell hon,
Glana llaif, yw Glyn Llifon;
Ac Archddeon Meirionydd,
Gwr o ddawn goreu i'w ddydd.
Oferedd im' fyfyriaw
Ar wych drefn yr achau draw:
I ddaear gudd, dan ddôr gau,
Heb ochel daw pob achau.
Er wylo'r dagrau heli,
Ein chwaer hon, gwn na chair hi,
Wele byrth anfarwol bau,
Uwch annedwydd och'neidiau:
Lle mae hyder tynerawl,
Ei bod fyth mewn byd o fawl.
Dringwn, ehedwn yn hy'
Drwy wybren o dir obry;
Yno ei cawn o fewn côr,
Heb len, ar wedd ei Blaenor:
Clywn sain tra chywrain ei cherdd,
Dysgwn ei pharadwysgerdd:
Tonau rhwydd, tanau rhuddaur,
Dwy law noeth ar delyn aur!
Y byd a'i lwgr enbydol,
A phoenau'r angau ar ol:
Diau'n chwaer, dan ei choron,
Onid hardd yw enaid hon?
O rhodiwn fel mae'n rheidiol,
I fro'r hedd fry ar ei hol,
Diau yr awn wedi'r oes
Ar ol Ann i'r ail einioes.
COFFADWRIAETH
Am MR. D. RICHARDS (Dafydd Ionawr),
Bu farw Mai 11, 1827, ac a gladdwyd yn mynnent Dolgellau; oed 75.
"HWY PERY CLOD NA GOLUD."
Gwyfo'r wyf—gwae fi o'r awr
Y llynedd golli Ionawr:
Beth a wnaf ar ol Dafydd?
Mae'n syndod ddarfod ei ddydd!
Deuodd i mi dywydd mawr
Eleni ar ol Ionawr;
Dydd o niwl—deuodd y nos,
Dydd ochain—on'd oedd achos?
Aethus amorth ei symud,
Braidd in' fyw a'n bardd yn fud;
O'i ol od awn i wylo,
Uwchlaw ei fedd, ni chlyw fo;
O gofynwn gysunair,
Ni ddaw dim—ni ddywed air.
Y marw at farw a fwriwyd,
Synu yr y'm os Ionawr wyd:
Ow! Meirion lwys—mae'r hen wlad
Am Ddafydd yn ymddifad:
A drwg ei fod a'i drigias
Mewn glyn, o dan y maen glas
Y prawf o'i waith pur a fydd
I'r ail dŵf ar ol Dafydd,
Er cof am wyrth Jehofa—
Mewn helaeth farddoniaeth dda;
Mae'n anhawdd in' mewn uniaith
Gael cryfach amgenach gwaith:
A'i beraidd enw, bardd Ionawr,
Erys fyth hyd yr oes fawr;
Ni adawodd, ddyn duwiol,
Dafydd ei eilfydd o'i ol.
Mwy ei rym na Homer oedd,
Liên Athen, llawn o ieithoedd;
Helicon ffynon hoff wawd,
A drosodd ei dw'r isawd:
Ac O! mawr waedd Cymru wen,
Ow! ddu niwaid ddwyn awen.
Braidd yn iach un o'n beirdd ni,
Drwy oror gwlad Eryr,
Gwel'd yr y'm y glod a'r iaith,
Mewn dim, yn myned ymaith:
Sarhau y gerdd—sy er gwaeth,
A braw ddwyn ein barddoniaeth.
Och! Wynedd, yn iach wenu,
Ni bydd dawn yn y bedd du:
Yr awen ber yno baid,
Eithr hyn, ni thaw yr enaid;
I'r wreichionen ddibenyd,
Nid yw boen newid ei byd:
Aeth hon i lon oleunef,
Ar oes hir i'w aros ef.
DAFYDD IONAWR a GORONWY OWEN.
Gwybydded y ddarllenydd mai ar gyfer yr un amser o'r flwyddyn y ganwyd Mr D. Richards a Mr G. Owen, sef yn mis Ionawr; a dyna yr achos iddo gyfenwi ei hun yn Ddafydd Ionawr, &c hyny y dywedai R. ab Gwilym Ddu fel y canlyn:
Caed blodau gorau ac aeron—gynau,
Yn ein Gwynedd ffrwythlon,
Ganwyd Ionawr mawr Meirion
Yr un mis a Gronwy Mon.
Dywedwyd fal hyn ar ol Mr Gronwy Owen, herwydd na wyddis yn sicr yn mha le y claddwyd ef; rhai a ddywedant mai yn Llan Andreas, Virginia; ereill a wrthddywedant hyny;—ac felly methwyd a chael iawn wybodaeth hollol, er maint a ymholwyd am y lle mae yn gorwedd, hyd yn hyn.
Am Gronwy mawr rinwedd—Mon a geir
Mewn garwaf ddihunedd;
Yno coffeir ei anedd;
Ow! 'mha fan y mae ei fedd?
COFFADWRIAETH
AM Y DIWEDDAR FARDD GODIDOG, DEWI WYN O EIFION,
Yr hwn a ymadawodd o'r fuchedd drancedig hon, Ionawr 17, 1841, yn 56 mlwydd oed. Rhoddwyd ei ran farwol i orwedd yn Mynwent Llangybi.
Gwae oror wag Eryri,—gwae ganoedd,
Gwg Ionawr ddaeth ini:
Och! Wynedd, yn iach enwi
Iaith na dawn i'th enaid di.
Gyrwyd i ni flaguryn—o ardd Duw,
Iraidd deg blanigyn,
A'r nodd a rodd o'i wreiddyn
Yw da waith ein Dewi Wyn.
Tyr Eifion ei bron am ein brawd,—a'i gwaedd
Mal gweddw am briawd;
Gwae randir hon gan gryndawd,
Mawr dy loes, hen Gymru dlawd.
Mae'r enaid yn merwino—am Ddafydd,
Ymddifad wyf hebddo;
A'r galon bur yn curo,
A hir ddeil o'i herwydd o.
Gwae fi, rhaid boddi dan bwys—poen gyfyng,
Pan gofiwyf ei orphwys;
A deoliad y wiwlwys
Awen o'r Gaerwen i'r gwys.
Gwyddom am ei gywyddau,—a gwiwdeb
Ei gedyrn linellau;
Pob cydsain gywrain yn gwau
Anadlant yn eu awdlau.
Dawn Eden a'i dynododd uwch eraill,
A chywrain ymadrodd:
Dilafur y dylifodd
Yr iaith o'i ben wrth ei bodd.
Hwn fydd mawr bob awr tra bo—urdduniant
I farddoniaeth Cymro:
Er bedd erchyll, dywyll do,
Ei enw ni chuddir yno.
Ar fyd beirdd anorfod ben,—mawr ydoedd
Ymherawdwr Awen:
I'w ddyddiau, ofydd addien,
Gymhar hardd i Gomer hen.
Mewn gorhoen o'i boen dybenawl,—o'r ing,
Drwy angau'n fuddugawl:
Unodd ei gerdd awenawl
A beirddion gwynion y gwawl.
COFFADWRIAETH
Am SION ROBERTS Y BARDD (Sion Lleyn),
Yr hwn a drengodd Mai 7, 1817, yn 68 oed.
Gwae L'yn, nid gwiw eleni,
Eithr du oll yw'th awyr di;
Pa dymhestl ddiddestl a ddaeth
Ar dir dy briodoriaeth?
Dilewyd anadl awen,
Ys yw'r bardd a'i oes ar ben;
Mae'r iaith wedi marw weithion,
Er y sydd, o bu farw Sion;
Wylais swrn, pan glywais o
Ddwyn awen i Ddeneio.[2]
Mae'n alar am anwylyd,
I'w hoff ddyweddi o hyd;
Och! wael fun, uwchlaw ei fedd,
Wylo dw'r wel'd ei orwedd;
Hunaw o Sion, hyny sydd
Wae o fewn i Eifionydd:
Ei fywyd, o'r byd i ben,
Ddifodwyd gan Ddafaden;[3]
Gwae fi aros gyferyd,
A'r bedd i gyniwair byd.
Dyn oedd am adnewyddu
Y gerdd fwyn i'r graddau fu;
Ymroadur mawr ydoedd,
A dwfn ei fyfyrdod oedd.
Ni ddeil awen o ddwylaw
Angau trwm i ddiengyd draw;
Fe t'ai urddawl, pa farddas
A dry fin ei gleddyf glas?
Hen addysg awenyddol
A saif i rai fo ar ol;
Emynau teg awdlau gynt,
Cofnodau cyfain ydynt:
Ardderchog oediog awdwr,
O'r hen feirdd yr hynaf wr;
Ond bid un yr oed y bo,
Duw a fyn wneud a fyno.
Na ymyrwn â'n marwol
Ddyn hwn—na wylwn o'i ol:
Ffyddlawn a boddlawn y bu
Yn ei oes dan iau Iesu:
Marw! mawr elw yr alwad
I'w ddwyn fry i dŷ ei Dad,
I wau cu odlau cydlef
A llon awenyddion nef:
Cai'r Ion yn foddlon i fawl,
Llais brawd y llu ysbrydawl.
Iddo Ef, cyd addefant
Y mawl ar bob dwyfawl dant;
Prydant am y priodwaed,
Yr un gerdd am rin y gwaed:
Yno Sion, fu was anwyl,
Gwedi ei gur caiff gadw gwyl
COFFADWRIAETH
AM Y DIWEDDAR BARCH. JOHN JONES,
Gweinidog yr Efengyl yn Nefyn, &c., Swydd Gaernarfon. Bu farw Rhagfyr 31, 1826.
Yr oedd Mr J. Jones, yn ddyn ieuanc prydferth, genedigol o Swydd Garedigion, o ymarweddiad moesol, a diargyhoedd; o ran ei ddawn yn boblogaidd ac yn hynod o lithrig a hyawdl ei ymadrodd, yn bregethwr treiddgar a deallus ar ei destynau, ac yn cael ei ystyried fel dyn tra chyfrifol gan bawb yn gyffredin, hefyd yn deilwng o amgen cofiant o lawer na'r mawrnad byr hwn. Ei oedran 29.
Briw dur a dolur dilon—eirf angau,
Ow'r efengyl dirion;
Brad gwelwch! briw hyd galon
Im' er y sydd—marw yw Sion.
O, f'enaid! gwae Eifionydd—dduo haul
Ddoe o'i hynt ysplenydd:
Dwyn a gwyro dan gaerydd
Hwn ar daith haner y dydd.
Trwy Eglwysydd trig loesau, —trwy Wynedd,
Trwy anwyl hen dadau:
Trom y loes sy'n tra amlhau
Trwy duedd tir y Dehau.
I Arfon oer dòn yw'r dydd,—i Nefyn
Mae'n ofid a cherydd:
Mawr wylo am areilydd,
Arwyl fawr o'i ol a fydd.
Wrth addysg areithyddion,—wrth eglur
Erthyglau'r gwir dystion;
Wrth eiriau, yn nerth Aaron,
A llyfr saint, llefarai Sion.
Rhwyddineb y rhyw ddynol—oedd enwog
Yn ei ddawn serchiadol:
Ond am ei enw dymunol
Cofio'r y'm—ac ef ar ol.
Traidd rhyw lef fawr gref i'r gro,—geilw Iesu
I gael ei was ato;
Ddyn anwyl, a'i ddwyn yno,
I ail fyd yn ei law fo.
COFFADW RIAETH
AM YR ANRHYDEDDUS ARGLWYDD BWCLEY,
BARON HILL,
Bu farw Maihafin 19, 1822.
Ow marw! Ow marw! o'r mawrion.—fu oer glwyf
Arglwydd Bwcley dirion;
Wylaw orfu ael Arfon,
Galar mawr glywir y' Mon.
Diluw ydoedd i dlodion—ei golli,
A gwall i'w frodorion;
Hoew lyw goleu, hael galon,
Un o'i ail mwy ni wel Mon.
Pan dorwyd pen awduron,—a'r synwyr
O'r Senedd a'i choron,
Ei man wag am enwogion,
Mae'n fud mwy, anafwyd Mon.
Dygwyd at odidawgion—ryglyddiant
Arglwyddawl ei berson,
Farchawg hirhoedlawg, rhadlon,
Oedd wr mawr—i ddaear Mon.
COFFADWRIAETH
AM Y PARCH. EDMUND FRANCIS,
Gweinidog y Bedyddwyr yn Nghaernarfon, &c.
Mae oer Och! a mawr achwyn,—mae gofid
Am gyfaill gwareiddfwyn;
Ieithwr oedd, athraw addwyn,
Mewn du fedd mae Edmund fwyn.
Cu weinidog cenadawl,—was isel,
Dros Iesu'n gyhoeddawl;
Llefarai, arferai fawl,
Yn araf a synwyrawl.
Hiraethlawn ei areithle,—a'i frodyr
Dan friw dwfn anaele,
Fod ei lân amddifad le
A'r Eglwys fel rhyw wagle.
Llawer tòn ddilon a ddaeth—i'w erbyn,
A'i eirber dystiolaeth;
I ddydd y wlad rydd yr aeth,
Dda, lonydd, ddielyniaeth.
Lle gwir gu genir gogonedd—i'r Ior,
Arwyrain ddiddiwedd,
Mwyn gryf fawl, mewn gorfoledd,
Gwyn eu byd, uwch gwae na hedd.
Sereiff a'u prif fesurau,—côr hoywber,
Cerubiaid a seintiau;
Llais un gerdd drwy'r llys yn gwau,
Ardal lawn aur delynau.
Mynai arddel mewn urddas,—is y groes
Iesu Grist a'i deyrnas;
Hyd ei fedd, drwy ryfedd ras,—
Bedyddiwr, bywyd addas.
Ganwyd a maethwyd yn Mon,—wr gorwych,
O'r gwir ddysgedigion;
Mae oer fraw am roi ei fron
Mewn oerfedd yma'n Arfon.
COFFADWRIAETH
AM Y PARCH. SIMON LLWYD, O'R BALA.
Ys y Bala ysbeiliwyd,—bri mawredd
Bro Meirion ostyngwyd;
A'i dysg i'r llawr diosgwyd,
Os mewn llawr mae Simon Llwyd.
Mae cri yn delwi duwiolion—ganoedd,
A gwynant am Simon;
A braw du yn brathu bron
Ei geraint, blant ac wyrion.
Awdwr cyfrifol ydoedd.—a diwyd,
Yn deall dirgeloedd;
Mwyn fywyd cymanfaoedd,
Brawd oruwch y brodyr oedd.
Fel arwydd o'r filwriaeth—ddiwyrni,
Addurnodd Grist'nogaeth;
A gwawl nef, goleuo wnaeth
Ein byd o'i anwybodaeth
Bellach, ar gerdd ddiballiant,—hosana
Yw seiniau ei foliant;
Emyn ar delyn aur dant,
Mwyn gu gân mewn gogoniant.
COFFADWRIAETH
Am MR. GRUFFYDD THOMAS, MAENTWROG,
A fu farw Tach. 15, 1814.
Maentwrog, mwyn naturiaeth—a ddodwyd
I'th ddidawl gadwraeth;
Ow! noddwr awenyddiaeth
I ddu rwym dy ddaear aeth.
Angau oer, eang wyryd,—a dorodd
Ede' aur ei fywyd;
Och! alar diochelyd,
I fwynder beirdd fyn'd o'r byd.
Ni fu'r un i Feirionydd a gofir
Ogyfuwch a Gruffydd;
Er ei gau, yn dragywydd
Ei enw ddeil, yn hwy na'i ddydd.
Cyfyd o'r gweryd er gorwedd, yn lân,
Ail unir ei sylwedd;
Fe elwir mewn gorfoledd,
I wlad bur o waelod bedd.
MARWOLAETH Y PARCH. J. ROBERTS, PWLLHELI.
Am Sion yn drwm y syniaf,—a gwae fi
Y gofid a deimlaf;
O'i ol, yn wir, wylo wnaf,
Mae'n deilwng—pa'm nad wylaf?
COFFADWRIAETH AM ENETH IEUANC,
YR HON YDOEDD FERCH MR. EVAN EVANS, BARCER, PWLLHELI.
Nith o ferch chwaer i'r andwr.—1820.
Wele ein plant anwylion—a hunant,
A'u henwau'n mhlith meirwon;
Dur a gweli drwy galon
Fu och hir am y fach hon.
Doe'n gynes, ein dyn ganaid, lân,— a'i delw
Yn hudoli'r llygaid;
Heddyw sy'n gorffyn a gaid,
Plwm oer iawn—p'le mae'r enaid?
Acw'r hedodd, o'n creadur,—iach enwog,
Wreichionen annisbur;
Aeth ymaith o'i thŷ a'mhur,
I loew fan bell, elfen bur.
Ei chorff, er gadael y chwyth,— a'r enaid
Unir yn dragyfyth;
Priodolion, par dilyth,
Dau gymhar, heb ysgar byth
Drwy'r llawr, pan darawo'r llef,—a gwys gerdd
Gosgorddau'r oleunef,
Duw a'i hedryd i'w hadref,
Mewn dim, ar ei amnaid ef!
CYFLAFAN Y GWIR.
Tynu mae'r byd at anwir,
Enllibio a gwawdio y Gwir;
Troi wyneb at yr anwir—
Bradychu a gwerthu Gwir;
Enynu mae gwên anwir;
Ond prudd, gan gystudd yw Gwir;
Sidan glân yw gwisg anwir,
Bratiau yw gwregysau Gwir;
Yr enaid ni choronir—
Er mor wael heb gael y Gwir;
Anwiredd aeth yn eirwir,
Traws a gau y troes y Gwir;
Mawr enw y mae'r anwir,
Yn ei gael, yn lle enw Gwir;
Er enwog fawrhau anwir,
Cryfach, rhagorach y Gwir;
'R enyd b'o cwymp yr anwir,
Dyna bryd gwynfyd y Gwir;
I ddinystr ydd & anwir,—
Rhag purdeb gwyneb y Gwir;
Y Duw uniawn di anwir,
Rhoe'd i'm bron galon y Gwir;
Ac yna bid gwae anwir
A gwarth am gyfarth y Gwir.
ANERCHIADAU, &c.
I OFYN BIBL.
Hawdd i'r naill gyfaill yw gofyn—y llall,
O 'wyllys i dderbyn,
A all brawd orfawd erfyn,
A modd i hael, omedd hyn?
Bibl yn rhodd dda fodd ufuddaf,—yw'r hyn,
Wr hynaws, a geisiaf,
Genych chwi, a gwn o chaf,
Ei holl linau ddarllenaf.
Caf wir rodd i'm cyfarwyddaw,—nid aur,
Nid arian i'w rhifaw,
Ond hyn, cael llyfryn i'm llaw,
Duw'n rhwydd i'r dyn a'i rhoddaw.
Canwyll i'r didwyll gredadyn—yw'r Bibl,
Orau i bawb ddilyn,
Fel â bys dengys i'r dyn
Draw i'w gwyliaw, dri gelyn,
Hwn a geir yn agoryd—yn ddiau,
Wan ddyall dyn hefyd,
Didwyll y mae'n dywedyd,
Yma, drwy bwyll, am dri byd.
Mynwn, pe cawn i'm unwaith—wr addwyn,
Hyn o rodd berffaith;
Eich clod, nid gormod y gwaith,
D'roganwn dri ugeinwaith,
ANERCH
YR HYBARCH SYR JOSEPH HUDDART,
BRYNCIR, YN EIFIONYDD,
A gyflwynwyd iddo ar enedigaeth ei fab, 1821.
Henffych wawr! dymawr a dydd,—oedd ddifyr,
Ddyfod i Eifionydd,
Grym ein rhwysg, wr mwyn a rhydd,
A'i enw'n Syr, hwn yw'n Sirydd.
Bryncir goleudir ein glyw,—pwy yno?
Ein penaeth sydd heddyw;
A phoed, Syr Joseph ydyw,
Cu hoewder teg, Huddart yw.
Pan ddaeth Sior hyd oror deg
Mon wlad, a Menai liwdeg,
Aeth Huddart lawn, sywlawn serch,
Wythenawg, i'w ddoeth anerch.
A hyn a gefais, poed mewn hen gofion,
Yn Syr ei enwi gan ein Sior union;
A'i enwad, wr mad, ar dir Mon,—mae'n wir,
Mawr ei cynwysir yn mrig hanesion.
Ceir y weithred hygred hon,
Dda, siriawl, ddwy oes wyrion;
Bri Eifion hardd a brofwyd,
Gwr da nawdd, goreu dyn wyd—i'n goror,
Can's o egwyddor i'th gynysgaeddwyd.
Geiriwyd gan Wr y Goron,
Dy enw Syr,—diau in' son, lle'r enwyd,
Gwedi arddelwyd gan gydraddolion.
Y llys dilys Ardalydd
Mon, llyna'r son, llawn wir sydd:
Mawr wyrth yn hen Gymru oedd,
Nesaf at ddull hen oesoedd.
Hael wron, rhoes i laweroedd,—do waith,
Hyd eithaf ei diroedd;
O fewn cylch ei derfyn c'oedd,
Gaed ogylch yn goedwigoedd.
Erys ei goed oris gallt,
Rhyw dair oes ar dir Isallt;
Heirdd blanigion ar fron fry,
Dwfn abred, afon obry:
Pontydd rhwng gelltydd a gwig,
Mewn cleidir main cloedig.
Fe roddes o'i fawr eiddo,
Aur fyrdd ar brif—ffyrdd ein bro;
Gefaildai a gweithdai gwyr,
Lluniaethol, llawn o weithwyr.
Gweision y gwron gwiwrwydd,
Pob un sy, pawb yn ei swydd.
Iawn welwn drefn ei wiwlys,
Gerllaw hen gaerau y llys,
Lle bu fawrion Eifionydd,
Mawrion a dewrion i'w dydd.
Ein cu wion mal yr hen Frynciriaid,
Da iawn yw yntef wrth ei denantiaid:
Ni bu lesg na gwan ei blaid, ond cryfdwr,
Na byw'n ddialwr neb un o'i ddeiliaid.
Ba lys teg, mal dy Blas tau?
Gogonedd hen geginau.
Bryncir a enwir unwaith,
Mwy yw'n Syr yma na saith,
A fyno yn Eifionydd,
Tra byddo, a fyno fydd.
A'i wraig araf ragorawl,
Ein Nest em wiw, nis tau mawl,
Dyna Efa dyn Eifion,
Elen yw, un law a Non,
Argraffer llawnder ei lles,
Ar froneg aur, farwnes.
Canfyddir ar frasdir fron,
Dai Ifor rhwng dwy afon;
Dolydd islaw ei dyle,
Afonydd ar lonydd le;
Amaethdir ei randir yw,
Eden Eifionydd ydyw,
Gerddi cyfun am un maeth,
Perllenydd pur eu lluniaeth;
Difesur hyd ei feusydd,
Y preiddiau'n porfâu a fydd.
I fychain a mawrion Eifion wiwfad,
Amryw ugeiniau, mor hoew ei genad;
Gwnaeth wledd anrhydedd yn rhad,—a mawredd
Acw i'w wir anedd, ddydd y coroniad.
Yr haf hwn, cofiwn y caed,
Gwiw aer iddo, gwareiddwaed;
Llawenydd fu'r dydd i'w dad,
Am eni ei ddymuniad:
Llonwyd, dyhuddwyd heddyw,
Mae yma fab a mam yn fyw!
Na fwrier hwn o'i fawredd,
Yn oed ei faboed i'w fedd.
Ys diwall fu oes Dewi,
Uwch Nestor fo'th dymor di,
Croesaw, deheulaw i hwn,
A'i wyl anwyl a enwn:
Dau pob oed a chyfoedion,
Ganol haf i gynal hon.
Ar gynydd bo'r eginyn,
O gnawd teg, ac enaid dyn:
Tyfed ein prif etifedd,
A mwyn waed yma'n ei wedd.
Dysged yn mebyd iawn bryd boreudeg,
Brif iaith o'r einom, beraf athroneg,
Llwyddiant i'r tyfiant, aer teg,—hyd ŵyrion,
Ar ranau mawrion yr hen Omereg
A'i gryfaf brit ddigrifwaith,
Yn wr, f'o hoffi'r hen iaith:
Ar frasdir Bryncir, mewn braint,
Da tyno hyd oed henaint.
Am ein Syr, wr mwyn siriawl,
Gwlad a fyn glywed ei fawl:
Direswm yw ei drysawr,
Hyd i fyd yr India fawr;
Hir ddyddiau, i'w rhwydd addef,
Yn ei oes hir hynaws ef.
Ac wedi'r huno'r gwiwdad— y gwiraer
Rhagorol i'n henwlad,
Fo'n anwyl, addfwyn Ynad,
Yr ail dô ar ol ei dad.
DYFODIAD ROBERT WILLIAMES VAUGHAN, YSW.,SEF
Unig Fab ac Etifedd Syr Robert Williames Vaughan, A S., NANAU, YN MEIRION, I'W OED,
MEHEFIN, 25, 1824
Hawddamor, caed tymor teg,
I hael waed, Hywell[4] wiwdeg;
Dyn aur frig, o dyner fron,
Yn enw mawr, Nanau Meirion;
Marchog yw, yn mreichiau gwr,
A'r lawn dad o'r hen Dewdwr;[5]
Syr Robert, oeswr hybarch,
Ab Gwilym hyf peryf parch:
A fu wychach ab Fychan,
I'w eurawg lys, a'i wraig lân?
Dau gymar hygar eu hoes,
Da anwyl eu dwy einioes;
Llyna lys a llawen wledd,
Farwnawl ddifyr anedd.
Yn yr haf hwn synwn sydd
Oll ini yn llawenydd;
Daeth ei un mab o faboed,
A'i lon aer i'w gyflawn oed;
Maen coron yw, mewn cariad,
Yr un dyn ar enw ei dad.
Henffych haf am a gafwyd,
Haf ein iach Fehefin wyd;
Meirion o'i mawrion y med,
Seneddfawr dwysen addfed:
Rhowch eich llaw, chwi teirdd llawen,
Ganoedd o wyr Gwynedd wen;
I Nanau heirdd gangau gwydd,
Dylifwn ein dail ofydd;
Graddwn glod, gwrdd awen glau,
Eneiniwn frigyn Nanau;
Addurnwn oll ei ddiwrnod
A'n herddygan glân o glod.
Tanau a chlych, seinwych si,
A ganant ei ddydd geni;
Bydd tyrfau pelau pylor,
Sain rydd o fynydd i tôr;
Rhyw wawl certh ar ael y cwm
Effro ar ben Moel Offrwm;[6]
Twr o dân yn taro dydd,
Goleuadau o'n gwledydd:
A lluwch pŷg tebyg at hyn
Cadwynawg yn cydenyn;
Fflamau certh, cydnerth eu cair,
A gwyd uwch ben y Gadair;[7]
Tref Ddolgellau'n seiniau sydd,
A'i gwên lon gan lawenydd;
Orhoian, ar ei heawl,
Rhoir ŷch rhost yn fost o fawl!
Ei banllef 'hed i Benllyn,
Tery'r llais at oror Llêyn;
Ninau'n eigion Eifionydd,
Atebwn, dyblwn y dydd;
Swydd Fflint wych, a Dinbych deg,
Hynodant hyn o adeg;
Blaenion Môn a phob maenawr,—
O Gaerludd daw gwyr i lawr,
Fis Mehefin, gwin yn gwau,
Yn Enwad Ifor Nanau;
Difyr, a hyfryd yfant,
Ei lwydd gwych, ar wleddau gant;
Pob cyrion o Feirion fawr,
Bywlonant yn eu blaenawr;
Cyflawnir dodir y dydd,
Draw i gof oes dragyfydd.
Syr yw ei glyw,—seren gwlad,
Ti yw arglwydd[8] ein teirgwlad;
Tŵr i bawb—poed hir y bo'ch,
Barwnaidd mae bri ynoch;
Gwrol, i'r gwrol gwiwradd,
Ac isel, i'r isel radd;
Pum llew[9] didrano yn prancio
Ar fŷs aur drwy ei faes o,
Asgre lân, llon faranedd,
Yn myd diogel a'i medd
Yn ei anedd bydd gwleddau,
Syber hyn, fis i barhau;
I'r gwych a'r gwael mae cael cêd,
Lles gwron—llys agored.
O syllir ar Gaswallawn,
Ei wledd fu rodd lwyddfawr iawn,
A'r llu yn ngwledd fawr Lleon,
Parhaus hyd y pery sôn;
Ond er hyn, diau y rhawg,
Mwy orchest i'n wledd marchawg;
O'th wydd di, Dewi deuaf,
Canwn i hwn cenin haf;
Bo i'n talaeth benteulu,
Hil Bleddyn ab Cynfyn[10] cu;
Hil Llywarch, ys hybarch son,
Trwy fwyniant, o Ryfonion;
Hil Madog oludog lan,
Cu degwch, ab Cadwgan,
At oediawg hâd clodadwy,
Cawn Gynfrig Meirig a mwy;
Trom aur wisg tramawr o werth,
Cadeiriawg y caed Iorwerth;
Dynodir tra cenir can
Rif achau Ynyr Fychan;
Mae llinach fawr Meillionydd
Llŷn, ar gael, llwyn aur o'u gwydd;
Etwa i lys Hengwrt lân,
Dof i achau, da Fychan;
A'r mwynwaed yr ymunodd
Hywell[11] o Rug hael ei rodd;
At Lanrwst, hylon yr af,
Yno Salsbri a enwaf;
Mwyngof Ynys y Maengwyn,
Deil y gwaed, a'r Dolau Gwyn;
Cawn dras y Rhiwlas o'r had,
Gwrolaf—gwyr o alwad.
A bydd hen Olewydd,—Lwyn
I'w cael yn Ystym Colwyn;[12]
O du ei fam ddiamhur
Gwelwn ei barch—galon bur,
Mae'n llyw addfed mwyn llwyddfawr
Yn disgyn o Fostyn fawr:
A hyddoeth hil Gloddaith hen
Gellawg a Bodysgallen;
Bodidris a ddewiswyd,
Orau llys, hen Dudur Llwyd;
Talhenbont, o hil iawnbarch;
Uniawn ben, Einion a'i barch;
Corsygedol a folant,
Cors freiniol Gedol i gant;
Canwyll aur yn cynal llys
Yw llins Osbwrn llawn hysbys;
Llyw hirlafn Castell Harlech,
Twr Collwyn[13] fawr, uwch llaw'r llech.
Yn oes haul, ni noswylia
Nanau deg o'i hen enw da;
Rhoir gair mawr i'r gwr a'i medd,
Rhad hefyd, i'r etifedd,
Ein brodyr a'n bri ydyw.
Gem yr oes i Gymru yw;
Sieryd hwn hefyd ein hiaith
Un enwog a ni'n uniaith;
Dyn o rym da iawn ei wraidd;
Cu ŵr ifanc arafaidd:
O'r henwaed mwyn yr hanyw,
Ein llawen ddyn lluniaidd yw;
Tawelwch ieuenctyd diludd,
Swrn o rôs ar ei wen rudd;
Henssych hwyl anwyl unwaith,
Tair oes i hwn at dri saith:
Rhag unrhyw ymddirywiad
Poed prydlon y delo'n dad:
Na welo, Gymro ar gil,
Anhap i un o'i epil:
Ogyfuwch bo'r mab gwiwład,
A'i gefnog odidog dad:
Hwn heb loes, fal yr hen blaid,
A ddalio'n gefn ei ddeiliaid:
Ufuddfab etifeddfawr,
Ei enw fo ar Nanau fawr.
Yn ol dydd ei anwyl dad,
A duwiol ymadawiad,
Yn ei swydd da y llwyddo,
Ardderchog farchog a fo;
Nanau dan ei hen winwydd,
O farchog i farchog fydd:
I'w ran y bo hir einioes,
Llaw Dduw da llwydded ei oes.
ANERCH YR AWEN,
Neu
FYFYRDOD Y BARDD WRTH AFON DWYFACH.
Mor fwyn, fy llawforwyn fach,
Yw dyfod at fin Dwyfach:
I'th gwrdd unwaith, gerdd enwawg,
Myfyrio, a rhodio rhawg:
Mynwn eistedd—mwyn osteg,
Ar fin dwr tir Eifion deg:
Uwch Hengwm a'i gychwyngell,
Treiddio mae trwodd y'mhell:
Lli ei dòn sy'n lledaenu,
Islaw i'r ddofn Seler Ddu:
Dyli' braisg ar dal y bryn,
Yw'r mur dwr ar war Derwyn.
Cyrhaedd y mae cainc arall
Oddidraw ei llaw i'r llall;
O dir Nant Cyll, dewrwyllt dòn,
Hoff, enwog, ddisglaer ffynon,
I'r hon fyth mae rhyw hen fawl,
Ymddyg in' ddwr meddygawl.
Y drydydd gainc droadwy,
Eto i dd'od at y ddwy,
Am ddirwyn mewn modd araf,
Yma rhed o Gwm yr Haf.
Diferant wi! hyd forhallt,
Yn oer do, ar ro, o'r allt;
Ewyngroch gwrf o'r wengraig,
Yfwn fir o'r Aton Faig;
Dwyfach hygyrch ei defod,
Mwyn i fardd ar ei min fod;
Gwrando si ei phrif lifiant,
Diwael nerth rhwng dwy ael nant;
Yn dirwyn i'r meithlyn mawr,
Yn araf o'i mwyn orawr;
Diymod myn ei damwain,
Berwawg hynt i Abercain:
Chwern droi, ymlithro i lawr,
Difeth law Cain a Dwyfawr;
Mirain yw'r ddwy gymhares,
Er wna grym oerni a gwres.
Difyr yw oslef Dwyfach,
A difyr yw ei dwfr iach;
Ar ei glan wiwlwys ganwaith,
Owain[14] a fu, awen faith,
Erys yn fyw, yr awen fad,
Hyd lenydd ei dylanwad;
Ymarllwys cerdd o'i merllwyn,
Bu lwys fab Elias[15] fwyn.
Minau, ydd wyf am anerch,
Cerdd dda yn ngwersyllfa serch;
Mewn cell, ar ei min y cair,
Cain awen yn cyniwair.
Cefais awr o ddystawrwydd
Uwch ei phen, i'r awen rwydd;
Awr fach, yn mhlith oriau f'oes,
Fwynaf o oriau f'einioes;
Eilio, man byncio, mwyn bill,
Dan lawen wybren Ebrill;
Egor llais, wrth gwr y llyn,
Digymell ar deg emyn;
Tan gysgawdwydd, irwydd iach,
Mwyn dyfiant yn min Dwyfach;
Ac ednaint gwar, lafar lu,
Uwch ben oedd yn chwibianu;
Dolef ar gangau deiliog,
Oruwch dwr glân lle cân cog.
Difyr cael, dan dewfrig gwydd,
Roi anadl i'r awenydd;
A gwel'd islaw dystaw don,
Araf deg rifedigion;
Amryw o bysg—mawr a bach,
Heigiant nofiant yn Nwyfach;
Cu amledd yn mhob cemlyn,
Ebyrth y deifr,—ymborth dyn:
Rhof fynych henffych i hon,
O'i chroywddwr chwareuyddion;
Dirioned ei raienyn,
Yw'r dwr glâs ar dir y Glyn;[16]
Rhag bloedd trin, neu groes hinon,
A'i thaer hynt, fyth ni thry hon;
Arfau na dim ni orfydd
Ei gwâr dón tra gwawrio dydd;
Mwyn yw dod, i'r man y del,
Y dwr iach, o dir uchel.
Yn ddadrwym a thi'n ddidroed,
I ble'r ai?heb wyl erioed;
Byw redwr borau ydwyt,
Rho osteg awr,—ystig wyt;
Trwy'r môr hyd draw'r ymwri,
Os y dòn ni'th erys di.
O! yr afon ddofn, ryfedd,
I mi sy'n dangos fy medd;
O hyd y modd y rhedi,
Y rhed f'amser ofer i;
I foroedd byd anfarwol,
A'u dyli'n wyrth dialw'n ol.
Bid hawddamor, oror iach,
It' Eifion, tra rhed Dwyfach;
Achlesa di, yma'n deg,
Y ferth anwyl, Frythoneg;
A nodda'n fwyn y ddawn fau,
Dufewnol yn dy fanau;
Da to urddas dy feirddion,
Dros hir wedi yr oes hon:
Deled y beirdd fo'n dilyn,
Y dau gwell na'r Du a Gwyn;[17]
Medir llwydd mae dy wyr llên,
A thuedd at waith awen;
Wel, bellach difyrach fydd
Mae'n llinyn mewn llawenydd.
Y nos sydd wedi neshau,
Er difyred sy oriau;
Tyred, awen naturiol,
Arwain fi 'nawr yn fy ol;
Da beunydd i'm diboeni,
O! enaid fwyn, na ad fi.
Beirdd diwael o'th gaffael gynt,
Prydyddion parod oeddynt;
lawn yw'r swydd yn yr oes hon
Ddal dydd âth ddeiliadyddion;
Diau rhag y nos dywell,
Dewis waith, nad oes ei well;
Da morwyn, tyr'd i'm harwedd,
Enyd fach,—o hyn hyd fedd;
Er y dim, na thor dymawr,
Fan nad yw ond penod awr;
Bydd wych bellach, Dwyfach deg,
Fflur, odiaeth, yn ffloyw redeg;
Hyd farn dy ruad a fydd
Trwy faenor tir Eifionydd;
Y dydd hwn sydd yn neshau,
Dwthwn dy osteg dithau.
Dwr unwaith—du oer enyd,
Dwfr barn a fu'n difa'r byd,
Daw dydd brawd, medd Duw awdwr
Welw dân i ddileu y dwr.
ANERCH
EI FAWRHYDI Y BRENIN SIOR IV.,
Ar ei daith i ymweled a Chymru a'r Iwerddon, braidd newydd ei goroni, 1821.
Hanbych well i'n castelloedd,
I'n tyrau, a'n caerau c'oedd;
Tyr'd dros fôr, ein Sior siriol,
Heb os na aros yn ol;
Ein teyrn hardd, mewn tirion hwyl,
A'th osgordd, 'ym i'th ddysgwyl.
Cei wrth law, ar bob t'rawiad,
Oll, ein glyw, a allo'n gwlad.
Ac O! atolwg, bid gwych
Yn d'olwg, pan y delych,
Fwyn dderbyn hyn o'm hanerch,
Gwael iawn os yw gwel ein serch.
Ar y daith, ein rhi di wg,
O rhoi sylw ar Gaersalwg;
Cei wel'd cell ein castell certh,
Neu dwr lle ganwyd Iorwerth;
Gweli'r Eryri'r awr'on,
A chenfydd Ben Mynydd Mon.
Myn, etwa gael, man teg wedd,
Y ganwyd Owain Gwynedd.
Mae tri cham mlwydd y gwyddir
Na fu un teyrn o fewn tir,
Na bradwr gorsedd Brydain,
Yn sathru gwlad Gymru gain,
Nes dy gael, ar drafael drom,
Lyw hybarch, i alw heibiom;
Ar wendon, i'r Werddon wych,
Yr hwyli, arwr haelwych.
Dewch, frodorion Arfonia,
A'n doeth bendefigion da;
Coronwn hwn â'n heniaith,
Gloywn rym, galon yr iaith;
Diau'r hanodd,—da'r henwynt,
Tad y gwr, o'n teidiau gynt;
Hawl yn hwn, syniwn in' sydd;
Coronwn ein carenydd;
Gawried, emyned pob min,
Byw [wr anwyl] 'o'r brenin;
Ar ei ben, fis Gorphenaf,
Coroni hwn, ceir yn haf;
A phen ei oed ffynadwy,
Oedd tr'ugain, ond arwain dwy;
In Nghaerludd, ddiludd ddwylaw
A chledd, a'i goron uwch law;
Rhoddwyd arno y rhuddaur,
Delw a thid y Dalaith aur;
Ail i ser, ei thlysau hi,
Llem waneg,—lliwia meini;
Ehedawdd, adseiniawdd son,
Trwy heolbyrth tir Albion;
Agwrddlef, dros fôr gwyrddlaith,
Daenwyd i fyd India faith.
Cawsom frenin, o'n llinach,
Glan ei rym, gwelwn yr ach;
Pwys ei ddwrn gynt mewn pais ddur,
Diau'n tad Owain Tudur.
Deiliaid ydym o dalaith,
Hen Loegr wen sydd ben pob iaith;
Boed o serch i'n iawn berchi,
A bron hael ei breiniau hi.
Drwy'n hoes, boed ei deyrnasiad,
Yn nwylaw Duw, yn ail i'w dad;
Mynu'n gryf, mewn iawn grefydd,
Mynu amddiffynu'r ffydd,
Gwasgarer, a brydier bron,
Lyw anwyl, ei elynion;
Pob rhychwant o'i feddiant fo,
I'w feddiant, byth a fyddo,
Yn gaerau bid i'n goror,
Ei lynges yn mynwes môr;
Gan ddiffyn ei derfyn da,
lawnder dwyreiniol India.
Boed iti, ein rhi, wir hedd,
Diarswyd ar dy orsedd;
A thrwydded rhag gweled gwaeth,
Un briw dur na bradwriaeth;
A'th orsedd, eurwedd arab,
Uchel y pwyth, uwchlaw pab;
Ein hurddawl, fawreddawl frig,
Ael a iad olewedig;
Hyd angau diau bydd dad,
A dynion ufudd danad.
Hawddamor, mae'n dymor da,
Tyner, ar hen Frutania,
Hanes, bydd o'n hynys ber,
A hynafiaid Hanofer,
Tra bo awen a bywyd,
Hen oes bell na hanes byd.
I hwn erfyniwn tra.fo
I'w wych swydd,—iach oes iddo,
A boed i'r llın brenhinol,
Ar ei sedd, eistedd o'i ol,
Ein paen pur, a'n pen parod,
Ein clyw, ein llygaid, a'n clod;
Ar ei sedd, na bo'r oes hon,
Brig Europ, heb aur goron.
DIOLCHGARWCH
I'R PARCH. E. EVANS, LLUNDAIN,
O waith R. ab G. Ddu, Eifion, dros, ac yn enw ei gyfaill Dewi.
Ti Ieuan ab Ieuan bur,
Gwnaethost—a hawdd oedd gwneuthur;
Gwneud a fyn pob ceinddyn call,
Ei oreu dda i arall;
Mae anian gwneud mewn mwynwr,
Oll o waith a allo wr;
Ond gwneuthur (naws sur na son)
Tegwch ni fyn taeogion.
Drwy awch mwyn, dy ymdrech mad,
Yn amweiniaw 'nymuniad;
Ces ateb, eglurdeb glân,
O'm llythyr i'm llaw weithian,
O waith dy brif ysgrifell,
Na bu wir i neb ei well;
A mad lith, diymod les,
Di nag yn llon'd y neges;
Hael o chawn, rho'wn ddiolch it',
Diau rhoddwn da'r haeddit;
Nid yw 'nhrysor ond gorwael,
Na cherdd ond rhodd wan i'w chael;
Hyn o roddiad ddyladwy,
Roddaf, am na feddaf fwy.
Mae anian yn fy mynwes,
A grym yr awen a'i gwres;
Enw y gwr yn egored
O Gaerludd, a gei ar led,
Ar gywydd orug awen,
Egyr llyfr ar gwr y llen;
O'th hynaws waith, hoenus wr,
Mynwesol gymwynaswr;
Dan ei fawl, dy enw a fydd,
Ieuan fwyn o Eifionydd;
Bro Eifion, a'i merion maeth,
Bu goron dy fagwriaeth;
Yn d'oruwch genadwri,
Was da Naf, gadewaist ni;
Bu barch i'th lafur bob iot,
Da yw anian Duw ynot;
Yn y Cefn,[18] bu wiwdrefn weil,
A ddodir i'r ddiadell;
O barth Dinbych, lwyddwych lam,
Was didlawd ni ro'ist adlam'
Amryw fodd, ymryfeddais,
Dro syn, dy fyn'd i dir Sais;
Ni yma, heb un namiaith,
Ymgadw yr ym, gyda'r iaith;
Rhwydd—deb, ar burdeb, tra bo,
Gwawl awyr yn goleuo;
Dos, dilyn y dystiolaeth,
Yr hon o ddynion ni ddaeth;
Uwch hen drefn Moesen, drom iau,
Oes y gwaed a'r cysgodau;
Na rosyn, fwynwr ufudd,
Egor lef ar y Gaer Ludd;
I'r Cenhedloedd cyhoedda,
Nawdd ein Duw, newyddion da;
Gwna'n berffaith ragorwaith gwr,
F'ai 'ngalwad Efengylwr;
Deol y gau, dal y gwir,
A'th wyneb yn ngwrth anwir;
Sylla, rhag gwyrdroi sillyn,
A fedd Duw, i foddio dyn;
Dywed wrth dy wrandawyr,
Wyrthiau'r gwaed a'i werth i'r gwyr;
Dilyn gwir destyn gair Duw,
Trwy'r enaid tery'r annuw;
Diodid i gredadyn,
Yw delw Duw, dwylaw dyn.
Gwae'r dyn a garo anwir,
Araith gau yn rhith y gwir;
Ti, Ieuan, yn y tywydd,
Aros o dan wres y dydd,
Nesu mae'r hyfryd noswyl,
Gyda'r Oen cei gyd gadw'r wyl.
DAFYDD THOMAS (Dafydd Ddu Eryri),
Pan ydoedd yn cadw Ysgol yn Llandwrog, a manau ereill, a fyddai arferol o ddyfod i rodiaw yn y Gwyliau, pan dorid yr Ysgol, i Eifionydd, er mwyn ymweled a i hen gyfeillion, yn enwedig Dewi Wyn, Sion Wyn, a R. ab Gwilym Ddu, &c. Un tro, ar ei ddychweliad adref, digwyddodd i'r tywydd droi yn ddrycinog a thymestlog anarferol, o ba herwydd cafodd yr anwyd yn drwm iawn; a bu yn glaf dros dalm o amser; a phan ydoedd yn ei glefyd, anfonodd lythyr caredig at ei hen gyfaill R ab Gwilym Ddu, i ddeisyf arno wneyd Cywydd dyhuddiant iddo, i'w gysuro a 'i ddyddanu yn ei. glefyd. Yntau yn gydsyniol a'i gais a anfonodd ato fel y canlyn—1817
Pa ryw swn yn peri sydd
Braw o fewn bro Eifionydd?
I raddau mawr oerodd Mon,
A dewrfeirdd gwaelod Arfon;
Pa achreth gydbleth sy'n gwau
Lle bu'r gân, a'i llwybr gynau?
Och! sôn, band, afiachus wr,
Profedig yw'n prif awdwr;
Gwasgfa o besychfa sydd
Ar anadl yr awenydd;
Dan ei llwyth mae pob gwythen,
Yn llusgaw'r poer llesg o'r pen,
Y peswch, gwelwch golion,
A dery frath, drwy ei fron;
Yn llon fyw ni all un fod,
A'i weli yn ei waelod;
Doe, gwelais y digalon,
Oedd a'i friw yn ngwraidd ei fron;
lâs geufwrn, drwy'r ysgyfaint,
Yw archoll hwn—erchyll haint;
Crasineb croes i anian,
A chwerw ei guwch ni châr gân.
Anhyblyg wan gwyneblwyd,
Cysur bach, yn casau'r bwyd;
Diswydder—madws iddo,
Ysgar fyth, o'i asgre fo,
Hoen a seibiant, hen swbach,
O'i ddu boen i Ddewi bach;
Drwy nawdd Naf, deled Dafydd,
Hen frawd, o'i rhyndawd yn rhydd.
Ar gyfer y toster tyn,
Yf o ddiglwyf feddyglyn;
Hybu gei heb y gauaf,
Coeliwn hyn, cyn Calan haf;
Daw'r gôg i'th galonogi,
Yn hawdd it' gytgan â hi;
Odid na chawn diriawn des,
Drwy undeb, wedi'r andes,
Etwa'n Eifion, Dduon ddau,
O gyd galon, gadw Gwyliau.
Arfer beirddion gwychion gynt,
Hen dadau, rhai nad ydynt,
Fu urddo ddeddf i feirdd da,
At gael ariant o glera;
Ninau'n gerth mewn anian gu,
Bywiogwn i'w tebygu.
Da yw ar wr dori iau
Ysgolan, fis y Gwylia,
Er mwyn rhoi llaw i'r awen,
A ffordd at godi ei phen.
Er frawd bach, mai afiach wyd,
A thân Ion i'th eneiniwyd;
Di gudd, a da egwyddawr,
Dull mwyn, ag a deall mawr;
Da, gwyddost, ydyw goddef,
A gwir ddwyn, ei gerydd Ef;
Ete roes einioes ini,
Fe'n ei hol a'i gofyn hi:
Ow! Dewi, o thau d'awen,
Mae'r iaith, a'i barddwaith, ar ben,
Gwan yw y beirdd, egni bach—
Heb dy lân gân amgenach,
Mwynwr wyd yn minio'r iaith—
A morio'r hen Omeriaith;
Ni thal son am Arfon mwy,
A'th wiwdeb yn fethadwy;
Da gwyddost ddifost Ddafydd,
Reolau pob seiniau sydd,
Mawr air sydd am Eryri,
A braidd neb uwch ein beirdd ni;
Syniwyd gwaith—seiniau dy gerdd,
Eryrgainc yn arwrgerdd;
Meini cedyrn, mewn cydwaith,
Cryfder ynt, cerfiadau'r iaith.
Er cael arfod i rodio
Drwy'r siriol, fawreddol fro,
Gweled beirddion Eifionydd,
A blodau doniau ei dydd,—
Trwy fyd gwych, trafod y gân,
Am ddyddiau, cydymddiddan,
Drwy'r hirnos, aros i son,
Mwyn gyfarch, am hen gofion,
Cael wrth law, ar bob t'rawiad,
Wirodau, a gwleddau'n gwlad;
Aml rodio ar dro i'r drws,
Bu iti yn y Betws;
A threiglaw gyda'r awen
Drwy barthau'n gwlad wastad, wen;
Darsyllu'r lle bu yn bod
Hen Gantre' gwiwle'r Gwaelod;
A Sarn Badrig a'i thrigias
O dan lif y ferwdon las;
Y' nghesail hon dangoswch,
O'n seirian barth, Sarn y Bwch;
Tref Madog aml boblogaeth,
A'r clawdd lle trechawdd y traeth;
Mur eres, mawr ei wryd,
Yn filldir honir o hyd;
Gwel'd nenawr yr Wyddfawr ris,
Cip edrych copa Idris;
Ar gyrion ein môr gorwych,
Ceir ambell hen gastell gwych,
Aem lle gwelem rhyw drem draw,
Meirion, a'r llongau'n moriaw—
Carn Fadryn a'r Moelwyn mawr,
Yn ymyl hwn mae Nanmawr.
Cael o ben Ynys Enlli,
Erin yn Ngorllewin lli;
Diflino rhodio'r ydoedd,
Blys rhyw hynt ei bleser oedd;
Aethom a daethom bob dydd,
O'n Gwyliau gyda'n gilydd,
Hyd aml rodfa, deithfa deg,
O'n rhandir yn orhoendeg;
Cyfeiriem, rhag fai aros
O draw, er neb, adre'r nos.
Gohiriaw, dan geudawd gwydd,
Hyd ddirwest fel dau dderwydd;
Cydfyddem, pan welem wall,
A thaerem y waith arall;
Wrth son am rywion yr iaith,
Rhagor unrhyw gywreinwaith;
Er hyny, dyma'r hanes
O'i fyr lwydd heb fawr o les;
Ow! mor dost anmharwyd ef,
Ar ei ddudrist ffordd adref!
Oeri'r gwaed ar eira gwyn,
Hyd aeliau Cwm y Dulyn;
Ein bardd glwys aeth yn brudd glaf,
Tan rewynt hin oer auaf;
Enynu'n wan o anwyd,
Gwaraidd ei lais a grudd lwyd;
Methu'n llwyr rhy hwyr oedd hi,
Ddull ofnus gyrhaedd Llyfni.
I'r bardd truan ei waneg,
Hir fu ei daith—araf deg;
A rhaid mai anhawdd rhodio,
Drwy'r lluchwynt a'r trymwynt tro;
Ffodd awen o'r pen—a'r pwyll
Ar osteg cyn yr Ystwyll;
Fel hyn aeth oerfel Ionawr
In grygni a mygni mawr.
Dewi bach, Duw a biau,
Weini lles i'th iawn wellhau,
Ei air ef a wna'r afiach,
O'i flin oes yn gyflawn iach;
Ei wen arnom ni weiniaid,
Hyd yma o'n gyrfa gaid;
Amgylched a nodded ni,
Hyd fedd, ein deuwedd, Dewi.
Gwelwn hyn mai gwael yw'n hoes,
Frawd anwyl—fyred einioes;
I'r âr yn garcharoriawn,
O ris i ris yno'r awn;
Pob rhyw loes drwy'r fer oes frau,
Arddengys awr ddu angau;
Rhaid rhoi cyfrif ddifrif ddau,
Manol, tydi a minau;
Bwriwn bob traul yn barod,
Hwyr yw'n dydd, mae'n hawr yn dod.
Ein Ior ini a ranodd
Yr awen fad, o'i rad rodd;
Gwell awen a'i dywenydd,
Yma is haul na dim sydd.
Eiddo'r Ion, rhoddwr einioes,
Hefyd yw'r iechyd a'r oes;
Rhoed i'n hawl i fythawl fyd,
Dda fuchedd, ddiafiechyd;
Gwyl lân yn ngwlad goleuni,
Hir oes nef i'n haros ni.
ANERCHIAD
I J. W. RICHARDS, PLAS Y BRAIN, YN MON.
I'm câr Sion, o'm cywir serch,
Gyraf un gair o f'anerch,
Mynych y bu'n dymunaw,
Gan gymhell llinell o'm llaw.
Deffro, cwyd, brif nwyd, yn awr,
Ar bêr ddewisgerdd esgawr;
Ymdrwsia â medruswaith,
I bellder rhed bolltau'r iaith;
Dod, awen, wên dy wyneb,
Tirion wyt, oreu o neb;
Cu heddyw, cei wahoddiad,
I dir Mon, gan awdwr mad
Chwilia'r fro yno unawr,
O chei drai ar Fenai fawr;
O Gaersallawg, gorsylli
Yn hawdd ddull ei hansawdd hi;
Dos, a'th anrheg deg i'r dyn.
Mwyn gyfaill, mae'n ei gofyn;
Gwna ar frys f'wyllys felly,
Wrth achos, a dos i'w dŷ;
Teg yw'r iaith, ti a gei rym,
A golwg ar fab Gwilym;
Cei groeso yno enyd,
Lle'n ei fwth a llawen fyd;
Siarad dy fad dafodiaith,
Dwys ei grym, a dysg yr iaith;
Cei o ryw cywir awen
Odlau beirdd hyawdl o'i ben.
Treiddia'r fro trwyddi ar frys,
Trwy ranau tir yr Ynys;
Canfyddir yn rhandir hon
Feddau yr hen ofyddion;
A'u haneddau, cain iddynt,
Hen Dderwyddon gwychion gynt;
Allorau tan gangau gwydd,
A llwyni eu llawenydd.
Bu urddas am ei beirddion,
A mawl arferawl i Fon;
Cei weled lle ganed, gynt,
Ydd hynod feirdd a henwynt;
Tirion oedd tri aneiddil,
Un yn Mon oedd fwy na mil.
Trwm it' dramwy
Yr orawr rhag loesfawr glwy',
Na llwybr unwaith lle bu Oronwy,
Ni faethodd gwlad glodadwy,
Na daear Mon awdwr mwy;
Yno coffeir ei anedd,
Ow! mha fan y mae ei fedd?
Hugh, a'i farddas hyf urddawl,
Pa radd fwy peraidd ei fawl.
A Lewis ydoedd wiwlwys awdwr,
Cryf ei waith, cywiraf ieithwr,
Cyflawn hoff eurddawn hyfforddwr—beirdd oll,
A llwyr rym digoll ramadegwr.
Bardd o Geint, beraidd gantawr,
A gawn yn Mon, ac enw mawr.
Cynwysir eu hanesion,
Gorchestfawr am feirdd mawr Mon.
Aml oedd rhif y mawlyddion,
Yn mhob lle yn mhebyll hon;
Prifeirdd yn per farddoni,
Aneirif o'i heirif hi;
Eu llef ai dros y llif draw,
O barth Mon hyd byrth Manaw.
Och! weithian, llyna'r gân gu,
Y reddf lon ar ddiflanu;
Ow! 'r gerdd bêr, agwrdd ei bodd,
O ethryb ymddyeithriodd;
O'i swydd a'i phrif ansoddion,
Trosawdd hi fudawdd o Fon;
Y ffraethlawn gu ddawn gadd wys,
Dyfyniad i Eifionwys;
Gwreiddio wnaeth y gerdd yn is,
I dir pur daear Peris;
A gwyddom fel mae'n gweddu
Awenydd i Ddafydd Ddu;
Tros y byd rhoes wybodaeth,
Enyn yn Nantglyn a wnaeth;
Ei chyfnerth, awen ferth, fawr,
Feddianodd Dafydd Ionawr.
Sion Lleyn, sain llawenydd,
Da fu'r dawn, difyr ei dydd.
Draw y gwelaf drigolion,
Mal caethglud ar ddaear mud Mon;
Er llawnder brasder ei bro,
A hygar heiniar hono;
Bir a gwin, bara gwenith,
Geni plant heb gân i'w plith.
Henwi yr wyf, hon ar ol,
Ynysig annewisol;
Er gweled tir a gwlad hardd,
Ba wynfyd heb awenfardd?
Nid gwiw son am wlad Mon mwy,
A thrwm yw it' ei thramwy;
Annifyr waith nofio'r dòn,
Ar frig y dirfawr eigion,
Gad yr orawr floesgfawr flin,
Na saf hwnt o'th gysefin;
Diddadl y ceir anadl rydd,
Awen fwyn yn Eifionydd;
Dwyre i'th fangre dirion,
Dawn Naf wyt, gad yna Fon.
ENGLYNION MOESOL A DINIWAID,
A wnaethum wrth rodio ar y ffordd fawr, wrthyf fy hun dan deimlad o'm blinder, llesgedd, a gwendid, newydd gyrhaedd pen y driugeinfed flwydd om hoedran.
Rhag. 6, 1826.
Aeth blodau dyddiau dedwyddion—drosodd,
D'ryswyd fy nghysuron;
Mae pob lle o'm pabell hon
Ar waeth o lawer, weithion.
Boreu o haf, byr ei hynt,—fu nyddiau,
Fwyneiddied eu helynt;
Heinyf bob dydd ohonynt,
Y down ag awn fel dyn gynt.
Dirwynodd oed ar waneg—hyd ugain,
A'i degwch ireidd-deg,
Taer redodd uwchlaw trideg,
A chwai y daeth i chwe' deg.
Ces dri'gain cywrain i'm cario,—trwy'r byd,
Draw i'r bedd a'r amdo;
Odid y caf, trymaf tro,
Gan natur ugain eto.
Fan fu wiwlanc penfelyn—ireiddiol,
A'i ruddiau fel rhosyn;
Hwn heddyw, oedd ddoe'n hoywddyn,
A gwedd dost, gwywodd y dyn.
Llawn dri'gain, gywrain eu gwarant,—heb ludd
O'm blwyddau hedasant;
Fel y niwl o afael nant
Y dison ymadawsant.
O bu'n wan faban unwaith,—y gwychaf,
Wrth gychwyn i ymdaith;
E dry'r dyn, draw ar y daith,
I boen wael maban eilwaith.
Ymredodd fy moreudeg—amseroedd,
Mesurwyd eu hadeg;
Yn iach gân tyth ychwaneg,
Neu gyrhaedd dawn na grudd deg.
Gorddwys yw'r hen pan gerddo,—a'i weinion
Ewynau'n diffygio;
Gormod y benod, tra bo,
Lle rhedodd, allu rhodio.
Er mwynhau rhadau rheidiol,—a meddu
Pob moddion tymhorol,
Ni werthir, yn ei wrthol,
Ddoe i neb ni ddaw yn ol.
Pell o'r fan yw'r pwyll a fu,—egni hwn
Gan henaint a ddarfu;
Ond poen dost wel'd y pen du,
Byr a gwan yn brigwynu.
Ac i'r ffon yr ymfoddlonwyf—bellach,
A chan bwyll yr elwyf;
Blino wrth rodio'r ydwyf,
Llusgo ar ol, llesghau'r wyf,
Y clyw'n wan, drwstan, a drydd,—a'r golwg,
O!'r gwaelu maent beunydd,
Mawr roddion fy moreuddydd,
Pa les son, yn pylu sydd.
Hyll weled y llaw eilwaith—yn crynu,
Ceir hono'n anmherffaith;
Y dda gân ni ddwg unwaith,
Neu bin du i ben ei daith.
Ugeiniau yn mro Gwynedd,—mae cofion,
O'm cyfoed sy'n gorwedd,
A ddodwyd yn ddiadwedd—
Druain bach, draw yn y bedd.
Myned sydd raid i minau,—drwy wendid,
I'r un daith a'm tadau,
Mae 'mlinion, hwyrion oriau,
A'm nos hir yn ymneshau.
Henffych wlad i rad rodio,—a mwynaf
Man i gael gorphwyso;
Blinder, gorthrymder, na thro,
Ni bydd un, na bedd yno.
DAU ENGLYN
A wnaed pan ydoedd yr awdwr yn dysgu y Cantorion ganu Salm, yn y cyfamser y clyw oedd ddrwg, yr hyn oedd yn llwyr anfanteisol iddo. Yntau a ddywedodd fel y canlyn.—1817.
Y ddiell babell, heb wybod—imi,
Ow! dyma hi'n darfod;
Twn yw'r clyw—llwybr tanau'r clod—
A bylawdd, a phob aelod.
Ar redeg i'r bedd yr ydwyf,—myned
Yn mhob man y byddwyf;
Trwy 'mywyd, lle tramwywyf,
Ni bydd ond y fan na b'wyf.
I'R CARDOTYN CRWYDRAIDD.
Byw yr wyf yn bur ryfedd—bob orig,
Byw heb aur na mawredd;
Byw'n unig heb un anedd,
Byw'n y byd uwchben y bedd.
I'R EHEDYDD AR DDECHREU EI DYMOR.
Dyrcha, anadla i'r nen,— Uchedydd,
A chwyd hyd yr wybren;
Traidd iach bwnc, trwodd uwch ben,
I lys Duw, lais dy awen.
Ac anfon gu lon galenig,—hydraidd
Adref gerdd blethedig;
Drwy fyd, o'r wybr dyrfedig,
Seinied o bell swn dy big.
I ANERCH DAFYDD IONAWR.
Beunydd a'i gynydd i ogoniant—Naf,
A'i nefol urdduniant:
Fal pren pêr, mewn irder nant,
Bo Dafydd, a byw dyfiant.
Daioni gwreiddied ynoch,—llyw addas,
Llwyddiant hir a gaffoch;
At ryddid nef y treiddioch,
A than wlith bendith y b'och.
I'W ARGRAFFU UWCH BEN DRWS CAPEL.
Ffyddlondeb, undeb, a bendith,—wych elw,
A chalon ddiragrith;
Gwylia reddf anhygoel rith,
Mae us gwan yn mysg gwenith.
AR YMADAWIAD
Hen gyfaill hybarch yr awdwr, MR. J. M. THOMAS (Hwntw), pan ydoedd ar ei ddychweliad o Arfon i wlad oi enedigaeth, y Deheudir,
Rhagfyr, 1823.
Ffarwel i dawel flodeuyn,—Tomas,
Ow! 'r tymhor ar derfyn;
Mae gwaedd oer am y gwiw ddyn,
Drwy annifyr dre' Nefyn.
Ba wedd a'n Gwynedd mewn gwarth,—y boddiwn,
Heb addysg i'n tripharth;
A dwyn ein pen dyn, o'n parth,
Da hebom i'r Deheubarth?
Ymachub rhag trwm ochi—Eifionydd,
O'i fyned os gelli;
Ond O ffei! tod glan Teifi,
A'i gwerdd don o'th gyraedd di.
I fynwes gwlad gyfanedd—ei dadau,
Y didol o'n tiredd;
Chwith yw'r tro, fudo hyd fedd,
Frig einioes o fro Gwynedd.
Os braint (a'r ieuaint heb ri),—tre' Nefyn,
Trwy nifer o flwyddi,
Acw od aeth, Ow! p'le cei di
Athronydd, i'th hir weini?
Hawddamawr, tramawr bob tro—gawn erchi,
Yn gynyrchiawl iddo,
Nes ar ben oes hir y bo,—bid iechyd,
Y llwydd di dristyd, llaw Duw da drosto.
PROFIAD DAN WENDID IECHYD.
Iechyd o'i rym yn och a droes;—hynod,
Ddihoeni mae'r feroes;
Poeni'r wyf min pen awr oes;
Blino ar helbul einioes:
Mal blodeuyn gwyn teg wawr, yn gwywo,
Dan y gawod bwysfawr;
Nid yw einioes ond unawr,
Na dyn i barhau ond awr.
Gwyfyn i'w ebargofi, ydyw dyn,
Hyd ei daith ond gwegi:
Nid oes braidd einioes ini,
Awr yw ein hoes—na wariwn hi!
Y CADARN A SYMUDIR HEB WAITH LLAW.
Ar fyr, wedi hir fawredd,—diaros,
Daw ereill i'th anedd;
A thi, wr, yn noeth orwedd,
Dan y baich du yn y bedd.
MR. W. JONES O GRICIETH,
A addawai bibell gorn i'r Bardd ar yr amod iddo wneyd englyn i'w gofyn. A dyma fo:
Y gwr mwyn, a geir i mi—rwydd bibell,
Rodd bybyr i'w pherchi?
Aur losgwrn, wrol wisgi,
A chorn hardd am ei chern hi.
AR BRIODAS MR. J. M. THOMAS, ABERTEIFI,
Llwydded y dda gred yn ddi groes—dan rwym
Y dyner iau'n ddiloes—
Byd rhwydd,—a chanmlwydd fo'ch oes,
Byw'n unol hyd ben einioes.
HIRHOEDLEDD YR AWEN.
Bywiol echwynol wreichionen,—ddiboen,
O dda wobr i'w pherehen;
Cyd a byth (nas caid ei ben
Mesur) yw amser Awen.
MR. EVAN DAVIES, LLANDYSIL, CEREDIGION.
Drwy Wynedd geinwedd, dan gwyno—mor drwm
Ar draed yw trafaelio
Ar Ieuan—buan y bo,
Fel dyn, a 'nifail dano.
I'R DELYN NEWYDD EI THAΝΤΙΟ.
Peiriant i gerddor parawd—areithfa
Yr wythfys a'r ddwyfawd;
Tery eithaf tri wythawd,
Eurllaes gorft i arllwys gwawd.
Y DDANODD.
Ni bu loes yn f'oes o faint—y ddanodd,
Naddo, un o'i chymaint;
Och! resyn fod echrysaint,
Nes a dydd yn ysu daint.
AR ADFERIAD IECHYD MERCH IEUANC,
Yr hon a fuasai yn glaf ac yn orweiddiang dros yspaid pum mlynedd, &c.
Pa ddawn wych uniawn echwynaf,—i b'le
I ba wlad y treiglaf?
Cerdd lon awenyddion Naf,
A fuddia, ond ni feddaf.
I fanol haeddol gyhoeddi,—enw Duw
Ion a'i deg fawrhydi;
Gwyrth eres yn gorthori,
O'i fwyn nawdd, fy mhoen ddofn i.
Pob cur neu ddolur a ddelo—i bawb
O'i bobl ef i'w blino;
Llesad fydd,—'wyllys Duw fo,
Pe lladdai, pwy all luddio?
Os syn y ddyfrys enyd,—a'i dirfing
I derfyn oes freulyd;
Ior biodd roi'r bywyd,
A wyr ban i'n dwyn o'r byd.
Mesuriad fy amserau,—a mudiad
Fy siomedig oriau;
A phob loes, drwy'r fer oes frau,
Da wyddit cyn bod dyddiau.
Pum mlynedd ryfedd, dan ri,—i'w cofio,
Y cefais fy mhrofi;
Dorodd o'i fawr dosturi,
Yn wyrthiol, adferol fi!
Mawr achos am roi iechyd,—a gefais
I gofio drwy mywyd;
Ei fawrwyrth i'm hadferyd,
Wedi'r boen i rodio'r byd!
Nesau y bo'm i'r einioes bur—gwedi
Gadael pob rhyw lafur;
Yn ddilesg, iach, ddiddolur,
Heb boen na chosb, bai na chur.
Dygwyddodd ar ddamwain pan oeddwn ar ryw dro yn ymweled a'm perthynasau, i'r tywydd droi yn wlybyrog anarferol, fel y liifodd y traeth fel nad oedd modd i fyned trwyodd; a thra'r oeddwn yn gohirio, dygwyddodd i mi yn fy anesmythder ddywedyd fel hyn:
A oes le rhydd is law 'rhod—na dwthwn
I deithiaw i'm trigfod;
Rhag dygwydd i aflwydd ddod,
Meirionydd, fy marw ynod?
Af i wyneb Eifionydd,—o Feirion,
Y fory. neu drenydd;
Caf wlad deg, caf weled dydd,
A môr Lleyn mawr a llonydd.
I DDAFYDD DDU ERYRI.
Gwr a'i wên ar gywreinwaith—yw Dewi
Y diwyd fardd perffaith;
Clo eryrawl—clir araith,
Gwedi ei roi i gadw'r iaith.
DEWI WYN
Pan yn fachgen a anfonai at ei gyfaill R. ab Gwilym Ddu y dychymyg canlynol:
Mi wn pwy sydd mewn pais aur,—myn'd allan
Mewn diliad melynaur;
Gwas cethin, mewn gwisg goethaur,
Mewn tŷ llwm a mantell aur.
ATEBWYD YN DDARLUNIADOL FEL HYN:
Moel iawn granc, melyn ei grys,—llaes egwyd,
A llais hagr echrys;
Ar dalar, llamwr dilys,
Cawr ar fanc, gwr hir ei fys.
YMADAWIAD Y PARCH. JOHN KYFFIN,
Periglor Llanystumdwy, Ebrill, 1837.
Y môr du, a mawr dywydd a welir
Drwy waelod Eifionydd;
Llanystumdwy—mwy fwy fydd
Ei chwerw boen, a'i chri beunydd.
O! mynwyd ddwyn ei mwynawl,—dda athro,
I ni'n ddyeithr hollawl,
O'i gu lesiant eglwysawl,
Lleyn a fo yn llawn o'i fawl.
A'i wraig hael, nid gwael fu gwerth—ei nodded,
I ddyn eiddil, dinerth;
Am golli hon, cwynion certh
A geir acw yn nhref Gricierth.
Da i wlad o dylodion—ei cafwyd,
Cofir am ei roddion;
Y noeth fu'n dilladu'n llon,
Uchelwaed hael ei chalon.
Llwyddiant a'i feddiant yn fwy, a gaffer
I John Kyffin fwyfwy;
Dodwyd y gwr clodadwy
Yn dŵr a phlaid ar dri phlwy'.
Yr un ni welir o'i ol—ail iddo,
Oleuddyn heddychol,
A bu dra phur heb dro ffol,
Ymadaw yn gymodol.
Cu lwyddiant a'i coleddo,—ddyn mwynaidd,
Yn y man y byddo;
Ehed ein bryd, drymllyd dro,
Ar ei ol aed lle'r elo.
PLEIDGARWCH.
Nid gwir grefydd sydd, ond swn—yn Mhrydain,
Amrywiadau filiwn;
Taeru cas, a natur cwn,
Pa wyneb heb opiniwn?
Dan rhod, nid oes ond un rhyw yn gryfaf,
Un grefydd, nid amryw;
Nod o barch ar enaid byw
Credadyn, cariad ydyw.
Dygwyddodd i Dewi Wyn wrth gydymdaith ag R ab Gwilym Ddu, ofyn iddo paham yr oedd yn cario y fath ffon geinciog ac anolygus rhag cywilydd ei gweled, yntau a'i hatebodd yn ddisyfyd mewn ffordd o wawd, fel hyn:
Nid arwain Ynn na Deri—Eifionydd,
A fynaf eleni;
Pren Celydd, prin y coeli,
A phen aur yw fy ffon i.
I MR. J. M. THOMAS, GOLYGYDD Y GREAL.
Iechyd yn y byd enbydawl—i chwi,
A iechyd tragwyddawl;
Gyda'r pêr nifer nefawl,
Yn bod fyth mewn byd o fawl.
I FLWCH MUSIG
DYN IEUANC A DDAETH YMA AR DDAMWAIN.
Soniarus gostus gistan,—gwaith enwog,
A thanau fal organ;
Llinynog, llawn o anian,
Balch yw o'i gerdd, blwch y gân.
I'R MELINYDD.
Tra bwrio'r tir ei buryd,—molianwn
Y melinydd tewglyd;
Gwir dawel fo'r gwr diwyd,
Dollwr bach i dwyllo'r byd.
Gorfoledd gwr y felin,—was anwyl,
Yw synwyr ei ewin;
Os difrawd ei flawd, mae'n flin,
Ei osod i gnoi eisin.
Dogn i fyrdd, digon o fwyd,—a feichir
O'i gilfachawg gronglwyd;
Ei law wag ni halogwyd,
Dyna was glân dan y wisg lwyd.
ATEB I GYFARCHIAD D. SAUNDERS, BARDD,
Merthyr Tydfil, Swydd Forgannwg.
Cu wr ffel, craff ei olwg,—yw Dewi,
A diwael iaith amlwg;
Cei air da, cywir, di wg,
Mawr genym Fardd Morganwg.
Am awenydd, wr manol,—Eifionwys
Ni fynant eu canmol;
Dyroddwn, Fardd Derwyddol,
Wynion a Duon[19] yn d'ol.
Yn Eifion nid annifyr—yw genym
A gynal iaith bybyr;
Ac ni chaiff clod fod yn fyr
Am wyrthiau prifon Merthyr.
Gwron ein hen gywiriaith—yw Dafydd,
A dyfal orchestwaith;
Er dim, cais ddyfod ar daith
Drwy Wynedd am dro unwaith.
I DDAFYDD SAUNDERS YN EI HENAINT, 1839
Saunders bach, os afiach wyd,
Dawn Eden dieneidiwyd;
Adfeiliodd gwywodd y gân,
Mae'r iaith yn ddi waith weithian,
A gloes hir drwy'r eglwys aeth,
Mae doniau mewn mudaniaeth:
Eiddil, Ow! Tydfil wyt heb
Ffrwyth o enau ffraethineb:
Merthyr ar Ferthyr a fydd,
Ddyfod gosteg ar Ddafydd,
Hafal heb atal eto,
A gall Ner ei adfer o.
Diau yr y'm ein deuwedd—mewn henaint,
Mae'n heinioes ar ddiwedd;
Dwys syniwn nad oes hunedd
I'n mewn byd namyn y bedd.
I BONT CONWY A PHONT MΕΝΑΙ.
Tres a'i gwinedd tros Gonwy,—a hoeliwyd
Yn hwylus i dramwy;
A thithiaf tros Borthaethwy,
Heb nawdd ysgraff moelgraff mwy.
I DDEWI WYN YN EI GLEFYD, 1838,
I Ddewi cyn ei ddiwedd,—y dichon
Daw iechyd cyfanedd;
Cei di fwy, cyn cau dy fedd,
Na'r cnwd aur cyn dy orwedd,
Ond gwylia yn dy galon—draws wyro,
Wrth drysori Mamon,
Golli meddu gwell moddion,
O ddir hawl na'r ddaear hon.
I'R PRUDDGLWYF.
Anhydyn yw dyn a dwl,—mewn t'wyllwch,
Mantellir â chwmwl;
Gan y pruddglwyf, penglwyf pŵl,
Sal fydd ac isel feddwl.
Llwyr wywodd llaw yr awen,—diamau,
Mae'r dymher o'i helfen;
Dan alaeth mewn du niwlen,
Marw yw'r pwyll rhwng muriau'r pen.
Puraf brawd, a'n prif brydydd,—a gem aur
O gwmwd Eifionydd;
Dewi bach, yn enw Duw bydd,
Galonog o lawenydd.
DEWI WYN YN EI GLEFYD A DDYWEDAI FEL HYN:
Ys, arweiniais ar unwaith,—oes Esau,
A Belsasar ddiffaith,
Ac i Demas cydymaith,—wyf hafal,
I Saul a Nabal, dan sel anbbaith.
ATEB GAN R. ab GWILYM DDU.:
Er cwyno lawer canwaith,—a gweled
Twyll y galon ddiffaith,
Ni fyn Duw o fewn y daith
Droi neb i dir anobaith,
BEDDERGRYFF.
Ar fedd gwraig y bu iddi bump o blant; a bu iddynt oll farw yn eu babandod; ac wrth esgor ar y diweddaf, bu hithau farw hefyd; a chladdwyd y chwech yn yr un bedd.:
Y pum baban, gwan, teg wedd,—ireiddwych,
A roddwyd i orwedd;
A'r anwyl fam, yr unwedd,
Is du faen mewn distaw fedd.
YN MYNWENT LLANGELYNIN, MEIRION,:
Ar ei ol p'am yr wylwn? ei enw,
Wr anwyl, a barchwn;
Daw'r pryd y cyfyd, cofiwn,
I le uwch haul ei lwch hwn.
AR FEDD GWR IEUANC 25 OED.
O'i flodau borau bwriwyd—i oerfedd,
A'i yrfa orphenwyd;
Teg loywddyn, ai ti gladdwyd,
Ameu'r y'm ai yma'r wyd.
AR FEDD MR. J. R. JONES, RAMOTH.
O'r gro pan ddeuo ryw ddydd,—gyda'r Oen,
Caiff gadw'r wyl dragywydd;
Ail einioes o lawenydd,
A hir saif i'w aros sydd.
YN MYNWENT LLANYSTUMDWY
AR FEDD LOWRI OWEN, TYDDYN CWCALLT.
O'r du lawr y daw Lowri,—gwedi'r boen,
A gado'r bedd difri;
Mae teyrnas addas iddi,
Dydd heb nos i'w haros hi.
AR FEDD GENETH IEUANC I JOHN JONES, ABERCAIN,
A GLADDWYD YN LLANYSTUMDWY.
Daw'r dydd mawr, daw gwawr o deg wedd—i'm rhan,
Daw Mhrynwr disgleirwedd;
A gwên ar ei ogonedd,
Daw'n iach fy nghorph bach o'r bedd.
AR FEDD CATHERINE HUGHES,
MERCH CADBEN HUGHES, PWLL Y GATE, NEFYN.
Cynar i'r ddaear oer, ddu,—ei dodwyd,
Er didwyll broffesu;
Daw'r pryd y cyfyd Ior cu
Hon i'w lys, anwyl Iesu.
ERAILL,
Ol ar y ddaear, yn ddiau,—ni gawn
Eginyn a blodau;
Er hyn, ein hedyn, i'w hau,
Ollyngir yn llaw angau.
Yr Ion pan ddelo'r enyd, ar ddiwedd,
O'r ddaear a'n cyfyd;
Bydd dorau beddau y byd
Ar un gair yn agoryd.
Oer len ei farwol anedd,—o'i ogylch,
A egyr ar ddiwedd;
Daw'r afrifawl dorf ryfedd,
Feirwon byd i farn o'r bedd.
Pob hedyn a fyn Efe—o'r dulawr,
A'r dylif, i'r frawdle;
Cywir gesglir, o'r gysgle,
Lychyn at lychyn i'w le.
DIWEDD.
Y CYNWYSIAD
Emynau
Amgylchiadau marwolaeth Crist
Doethineb Duw
Dyledswydd Dyn
Cwymp Dyn
Iachawdwriaeth trwy Grist
Mawrhydi a darostyngiad Crist
Crist yn Iachawdwr Cyflawn
Dyoddefaint Crist
Ar yr un testyn
Gwaith gorphenol Crist
Y Gwaed
Emyn
Adgyfodiad Crist
Esgyniad Crist
Y Cymod
Eiriolaeth Crist
Crist a phlant bychain
Crist a Moses
Crist ac Adda
Crist ac Aaron
Y Tir Pell
Dymuniad
Rhad ras Duw
Adgyfodiad y Saint
Cân fuddugol y saint
Y Credadyn Cystuddiol
Sicrwydd yr Addewid
Dyfodol yr Eglwys
Annghrediniaeth
Emyn (2)
Emyn (3)
Emyn o flaen pregeth
Y Gogoniant Nefol
Nefoedd ar y Ddaear
Cymdeithas gyda'r Tad
Dydd y Farn
Ymddiried i Ragluniaeth
Ar ddydd Genedigaeth
Amgylchiadau marwolaeth
Y Groes
Myfyr mewn profedigaeth
Pethau a wnaed mewn Gardd
Ar Dragwyddoldeb
Galwad ar Bechadur
Amser
Gweddi Agur
Marwnad Angau, neu Fuddugoliaeth Crist
Yr Eglwys, mewn amseroedd terfysglyd
Cyfodi y Groes
Twyll annghrist
Emyn Cymedrolder
Myfyrdodau wrth orwedd i gysgu
Emyn Claddedigaeth
Enaid a chorff y duwiol yn cyfarch eu gilydd
Y Mil Blynyddau
Swydd y Lefiaid[20]
Myfyrdod ar ddydd Nadolig[20]
Englynion, &c
Crist ger bron Pilat
Pilat yn y Farn
"Heb ollwng gwaed nid oes maddeuant"
Yr Iawn
"Yn y dydd y bwytai o hono gan farw ti a fyddi farw"
Gweddi
Crist a'i waradwyddiadau
Y Farchnad ysbrydol
Cynghor i fod yn ddyoddefgar
Y Pechadur rhyfygus
Erfyniad am wlaw yn Gorphenaf, 1826
Uffern
"Byddaf angau i ti, O angau," &c
"Byddaf dranc i ti y bedd"
"Cuddiwyd edifeirwch o'm golwg"
Carolau ac Odlau Moesol
Carol Plygain,—Mesur, "Eluseni Meistress"
Carol Newydd,—Mesur, "Cwynfan Brydain"
Carol Plygain,—Mesur, "Hyfrydwch y Brenin Sior"
Carol Plygain,—Mesur, "Difyrwch Gwyr y Gogledd"
Odlau Moesawl
Myfyrdodau difrifawl
Cerdd,—Mesur, "Gwel yr Adeilad"
Penillion i wr ieuanc
Anerchiad y Dr E P Anwyl, Bryn Adda
Penillion i ofyn Siwmp
Awdlau, Cywyddau, ac Englynion
Coffadwriaethol
Am Jane Eliz Williams, unig ferch yr Awdwr
Coffadwriaeth am Mr J R Jones, Ramoth
Coffadwriaeth am Mr John Williams, Peroriaethydd
Coffadwriaeth am Mrs Anne Evans, Abererch
Coffadwriaeth am Dafydd Ionawr
Dafydd Ionawr a G Owen
Coffadwriaeth am Dewi Wyn o Eifion
Coffadwriaeth am Sion Lleyn
Coffadwriaeth am y Parch J Jones, Nefyn
Coffadwriaeth am Arglwydd Bucley
Coffadwriaeth am y Parch Edmund Francis
Coffadwriaeth am y Parch Simon Llwyd
Coffadwriaeth am Mr G Thomas, Maentwrog
Marwolaeth y Parch J Roberts, Pwllheli
Coffadwriaeth am Ferch Mr Evans, Barcer, Pwllheli
Cyflafan y Gwir
Anerchiadau ac Amrywiaethau
I ofyn Bibl
Anerch Syr Joseph Huddart, Bryncir
Dyfodiad W Vaughan, Ysw, o Nanau, i'w oed
Anerch yr Awen
Anerch ei Fawrhydi y Brenin Sior IV
Diolchgarwch i'r Parch. E. Evans, o Lundain
Cywydd dyhuddiant i Dafydd Ddu o Eryri
Anerchiad i J. W. Richards, Plas-y-brain, Mon
Englynion moesol a diniwaid
Dau Englyn oddiwrth ddyall fod y clyw yn trymhau
I'r Cardotyn crwydraidd
I'r Ehedydd ar ddechreu ei dymor
I anerch Dafydd Ionawr
I'w argraffu ar lech uwch ben drws Capel
Ar ymadawiad Mr. J. M. Thomas o Nefyn
Profiad dan wendid iechyd
Y cadarn a symudir heb waith llaw
I ofyn Pibell
Ar briodas Mr. J. M. Thomas, Aberteifi
Hirhoedledd yr Awen
Englyn i Mr. Evan Davies, Llandysil
I'r delyn newydd ei thantio
Y Ddanodd
Ar adferiad iechyd merch ieuanc
I Ddafydd Ddu Eryri
Dychymyg a anfonodd Dewi Wyn at R. ab G. Ddu
Atebiad darluniadol
Ar ymadawiad y Parch. J. Kyffin o Lanystumdwy
Pleidgarwch
Englyn i ffon
Englyn i Mr. J. M. Thomas, Golygydd y Greal
I flwch musig
I'r Melinydd
Ateb i gyfarchiad D. Sanders, Bardd, Merthyr
I Dafydd Saunders yn ei henaint, 1839
I Bont Conwy a Phont Menai
I Ddewi Wyn yn ei glefyd, 1838
I'r Pruddglwyf
Englyn a wnaeth Dewi Wyn yn ei glefyd
Ateb i'r unrhyw
Beddergryff
Mam a'i phlant
Yn Mynwent Llangelynin, Meirion
Ar Fedd Gwr Ieuanc 25 Oed
Ar Fedd Mr. J. R. Jones, Ramoth
Bedd Lowri Owen, Tyddyn Cwcallt
Ar Fedd Geneth Ieuanc i John Jones, Abercain
Ar Fedd Catherine Hughes
Eraill
Y Cynwysiad
Nodiadau
[golygu]- ↑ Eglwys y Berch, neu Abererch, lle'i claddwyd, a briodolir i St. Cawrdaf.
- ↑ Enw yr Eglwys lle claddwyd ef.
- ↑ Dafad Wyllt.
- ↑ Hywel Dda, ab Cadell, ab Rhodri Mawr, &c trefnwr canmoladwy ar gyfreithiau Cymru.
- ↑ Tewdwr Mawr, sef tad Rhys ab Tewdwr, &c o'r hwn yn wreiddiol y mae teulu Nanau ar un ochr yn tarddu
- ↑ Enw y Foel lle y llosgwyd y goelcerth gerllaw Nanau.
- ↑ Cader, neu Gadair Idris.
- ↑ Gwybydded y darllenydd fod arglwyddiaeth gynt yn perthyn i Nanau, o'r hyn lleiaf er amser Cadwgan, oeddutu 1125 Cadwgan ydoedd dad Madog, a'i fam Gwenllian, merch Gryfudd ab Cynan, Tywysog Cymru, &c. Madog ydoedd dad Ynar Fychan; Mг. Robert Fychan o'r Hengwrt oedd y deuddegfed yn disgyn yn y llinach o'r dywededig Ynar Fychan. Edr. Debrett
- ↑ Ei arfau (arms). Asgre lan, diogel ei pherchen.
- ↑ Bleddyn ab Cynfyn, ab Grwystan, ab Gwrydyr, ab Lles Llawddiog, ab Ednyfed, ab Gwnen, ab Gwinog Farf sych, ab Ceidio. ab Corf, ab Cynog, ab Teganwy, ab Teon, ab Gwineu, Deufreuddwyd, efe oedd dywysog Cymru yn y flwyddyn 1068 Cyfrifir ef yn llyfiau yr achau, fel y penaf o bum llwyth brenhinol Powys, &cDywedodd an o'r hen feirdd fal hyn,
"Bleddyn ab Cynfyn bob cwys,
Ei hun, biodd, hen Bowys" - ↑ Dafydd ab Meirig o Nanau a briododd Elen, merch Hywel ab Rhys, o Rug, &c.
- ↑ Y diweddar Syr Robert Hywel Vaughan a briododd Ann, merch Edward Williams, Ysw., Ystym Colwyn, swydd Drefaldwyn, yr hon oedd fam y presenol Syr Robert Williames Vaughan, Barwnig, Nanau, &c.
- ↑ Collwyn ab Tango, ab Cadfael, ab Lludd, ab Beli, ab Rhyn, ab Maelgwn Gwynedd, a adgyweiriodd Gastell Harlech, ac a'i galwodd ar ei enw ei hun, Twr Collwyn, yr hwn o'r blaen a elwid Twr Bronwen, yr hon, ond odid, a'i hadeiladodd Ei arfau, yn y pymtheg llwyth, yw tri llestr arianlliw yn y maes du, a chwpl rhyngddynt, neu Fywell wen. Ei arglwyddiaethau oeddynt Lleyn Eifionydd, ac Ardudwy, Meirion.
- ↑ Owen Gryffydd, a poet, buried at Llanystumdwy, 1740.
- ↑ William Elias, a poet, a native of Llanystumdwy in Eifionydd, and a disciple of the said O. G. Mr Gronwy Owen occasionally corresponded with W. Elias.
- ↑ Glyn Dwyfach, a farm so called, in the parish of Llanystumdwy.
- ↑ The two Eifionydd Bards, named R. ab Gwilym Ddu, and Dewi Wyn o Eifion.
- ↑ Cefn-mawr.
- ↑ Dau Fardd Eifionydd
- ↑ 20.0 20.1 Nid yw'r ddwy gerdd hyn ym mynegai'r llyfr
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.