Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Arianrod merch Don
Gwedd
← Argad | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Arianwen → |
ARIANROD, merch Don, y mae wedi ei chofnodi yn y Trioedd fel un o'r "Tair Gwenriain" Ynys Prydain. Y ddwy ereill oeddynt Gwen, merch Cywryd ab Crydon, a Creirwy, merch Ceridwen. Mewn awengerdd gyfrinol, priodoledig i Taliesin, a argraffwyd yn y gyfrol gyntaf o'r Myv. Arch., tudal. 66, coffeir Arianrod; ac am ei chysylltiad â ffugchwedlaeth Gymreig y Derwyddon, tudal. 266. Y gair Arianrod, yn llythyrenol cylch y rhod arian, yn ol Dr. Owen Pugh, yw enw Cymreig y cydser, Aurora Borealis.