Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Asaf

Oddi ar Wicidestun
Arwystli Hen Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Asclepiodotus, iarll Cernyw

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Asaph
ar Wicipedia

ASAF, neu Asaph, oedd fab i Sawyl Benuchel ab Pabo Post Prydain, a brawd oedd efe i Dunawd Fawr, a Gwensaeth ferch Rhufon Rhufoniog o Ddyffryn Clwyd oedd ei fam. Ganwyd ef yn Ngwynedd, yn ol eithaf tyb, a dygwyd ef i fynu o dan olygiad Cyndeyrn, yr hwn oedd wedi sefydlu Bangor ac esgobaeth ar fin yr afon Elwy. Un o Gymru'r Gogledd neu'r Alban, oedd Cyndeyrn, ac yr oedd wedi cael ei erlid o'i wlad ei hun, fel lluaws eraill tua'r adeg hono, ac yn mysg eu cyfneseifiaid yn Nghymru yr ymlochasant. Ar ol talm o amser cafas Cyndeyrn alwad yn ol i'w wlad ei hun, a rhoddes Asaph yn esgob yn ei le, a galwyd yr esgobaeth fyth ar ol hyn yn ol ei enw ef gan bawb ond y Cymry; cadwasant hwy fyth at yr hen enw. Yr oedd Asaph yn Gristion gloyw difrycheulyd, ac yn enwog iawn mewn dysg a dawn. Ysgrifenodd lyfrau buddiol at wasanaeth efrydwyr ei Fangor, ac hefyd "Fuchedd Cyndeyrn sant." Bu farw ddydd Calanmai O. C. 596, pan,

yn ol pob tebygolrwydd, nad oedd wedi cyrhaedd canol oed, a chedwid ei wylmabsant ar y dydd hwnw yn Llanelwy am lawer oes. Claddwyd ef yn ei eglwys ei hun. Y mae eglwys Llanasa yn sir Fflint wedi cael ei chyflwyno iddo. Cofnodir dywediad o'i eiddo, sef

"Y neb a ludd ddysgu crefydd,
Trwy genfigen ettyl rybudd."


Nodiadau

[golygu]