Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Asclepiodotus, iarll Cernyw

Oddi ar Wicidestun
Asaf Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Asser

ASCLEPIODOTUS, iarll Cernyw, yr hwn a ddewiswyd gan y Prydeiniaid yn frenin arnynt pan yn cael eu gormesu gan Allectus, llywydd Rhufeinig Llundain y pryd hwnw. Tan ei lywyddiaeth ef y Prydeiniaid a ymosodasant ar ddinas eu gelyn, a phan ddynesasant yr oedd Allectus yn aberthu i'w dduwiau. Pa fodd bynag, cymerodd brwydr galed le, yn mha un y syrthiodd Allectus, a'i ddilynwyr a laddwyd neu a ffoisant. Yna Livius Gallus a gauodd ddorau y ddinas gan ymdrechu ei harbed; eithr Asclepiodotus a warchaeodd ar y lle, ac wedi derbyn adgyfnerthion, a'i cymerth trwy ruthr, a'r Rhufeiniaid oll a roddwyd i fin y cleddyf. Trwy hyn, sicrhaodd Asclepiodotus ei hun yn frenin, ac efe a deyrnasodd ddeng mlynedd, pryd y cododd Coel Coedebawg mewn gwrthryfel yn ei erbyn, ac a'i lladdodd mewn brwydr.— Brutiau Cymreig.

Nodiadau

[golygu]