Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Asser
| ← Asclepiodotus, iarll Cernyw | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Athrwys → |
ASSER MENYW, neu Asser Menevensis, oedd fynach tra dysgedig yn niwedd y nawfed a dechreu y degfed cant. Cafodd ei ddwyn i fynu yn Nhŷ Ddewi, a dywedir mai ei athraw oedd y trylen Ioan Erigena. Ymddengys fod Asser yn deilliaw o wehelyth tywysogaidd, sef oddiwrth Rhodri Mawr. Pan oedd yn ieuanc, rhoes arwyddion eglur nad dyn cyffredin fyddai, a sylweddodd hyny drachefn yn ystod ei fywyd gwir wasanaethgar. Cafodd nodded archesgob Tŷ Ddewi pan yn dechreu ar daith ei fywyd, yr hyn a fu'n achles ragorol iddo. Yr oedd yr archesgob Nofis yn gâr agos i Asser, ac felly naturiol oedd iddo fod yn gefn da. Aeth si ar led am ddysg a duwioldeb Asser, a chlybu Alfred Fawr, brenin Lloegr, am ei rinweddau, a gyru a wnaeth i Dŷ Ddewi genadau i erfyn arno dalu ymweliad â'i lys ef. Ar ol cryn ymbil, myned a wnaeth, a chafodd dderbyniad mwyaf croesawgar gan y brenin. Cymerth hyn le yn nghylch y flwyddyn O.C. 880. Yn swydd Wilts yr oedd y llys yn aros y pryd hwn, mewn lle o'r enw Dene. Ar ol tario enyd yn y lle, bwriadodd Asser ddychwelyd i'w fynachlog yn Nghymru, ond Alfred ni fynai glywed son am hyn, ac erfyn arno'n galed a wnaeth am iddo aros o hyny allan yn ei lys; ond ni wnai Asser hyny gan yr ystyriai fod gan y wlad a'i magodd hawl cyflawn i bob dysg a dawn a feddai, ac mai ei ddyledswydd pendant oedd dychwelyd a gweithio yn yr eglwys yn ngwlad ei enedigaeth. Ceisiodd y brenin ganddo wed'yn ranu ei amser cyd—rhwng y llys a'i fynachlog yn Nhŷ Ddewi, gan dario chwe' mis yn y naill a'r un faint yn y llall, ond ni chydsyniai Asser â hyn ychwaith, hyd nes y cai gydymgynghori hefo'i frodyr yn y fynachlog. Pan oedd yn d'od adref oddiwrth Alfred, aeth yn sâl, a bu dan orfod aros yn Nghaer Wynt am flwyddyn gron heb syflyd, a phan ddaeth yn dipyn bach yn well, cefnodd ar y lle ac unionodd am Dŷ Ddewi. Rhoes y pwnc o flaen ei frodyr, a chymhellasant hwy ef i fyned, oblegyd yr oeddynt hwy a'u llygaid yn eu penau. Yr oedd Hyfaidd tua'r pryd hwn yn goresgyn ac yn gorthrymu eu tiroedd yn y De, a da oedd cael cefn fel Alfred Fawr i wastrodedd cenaw creulon cyfrwys fel Hyfaidd. Cynghorasant ef i fyned, ac felly y bu; ymaith yr aeth, gan lwyr fwriadu aros ond tri mis gydag Alfred, a thri mis drachefn yn ei hoff fynachlog. Pan aeth i Loegr yr oedd y brenin yn aros mewn lle o'r enw Leonford, a phan gyrhaeddodd yno cafodd ei dderbyn yn y modd serchusaf a mwyaf cyfeillgar. Arosodd yno am wyth mis, medd rhai, am flwyddyn medd eraill, yn darllen llyfrau da o lyfrgell y brenin. A'r nos Nadolig gyntaf iddo yn y llys, rhoes Alfred iddo fynachlog fawr ac ysplenydd Amesbury yn waddol, yn nghyda lle o'r enw Bonuwille, neu Banwell, yn Ngwlad yr Haf, ac hefyd pall (nen wisg offeiriadol) o sidan gostus, a chymaint ag a fedrai dyn gario'n faich o arogl-darth. Yn fuan ar ol hyn, rhoed eglwys Caeresg iddo, ac yn union gwnaed ef yn esgob Sherburn. Y mae tipyn o anghytundeb yn y croniclau o barth i'r digwyddiad olaf hwn. Myn rhai na fu ond esgob mewn enw yn unig, tra y maentumia eraill iddo fod yn y swydd dros dro, ac yna ei rhoddi ymaith gan gadw ond yr enw yn unig. Ymddengys iddo fyw y rhan fwyaf o'i oes rhwng y fynachlog a'r llys, mewn parch ac urddas arbenig yn y naill a'r llall. Yr oedd Alfred Fawr yn bur hoff o lenyddiaeth, ac yn honi bod yn awdwr o gryn fri. Cyfieithodd "Fugeilegion ysprydol St. Gregory," ac yn ei lythyr rhagarweiniol i'r llyfr a enwyd, y mae'n talu gwarogaeth i Asser am y cymhorth a dderbyniodd ganddo. Dywed rhai, er hyny, nad oedd a wnelai Alfred Fawr yn gymaint â'r llyfr ag oedd a fynai Asser ag ef; ac nad oedd y brenin, ond fel llawer un o'i flaen ac ar ei ol hefyd o ran hyny, ond ymhonwr yn byw ar waith rhai eraill, ac mai Asser oedd y dyn mewn gwirionedd. Fodd bynag, nid oes dadl nad oeddynt eu deuoedd yn gyfeillion pur. Rhoes Alfred yn ei lythyr cymun amryw roddion i Asser, ac ysgrifenodd yr esgob hanes Bywyd y brenin, yn yr hwn y ceir golwg ar y wedd y byddai'r ddau yn treulio eu hamser pan fyddent yn nghyd. Y mae'r llyfr yn dangos chwaeth a medr arbenig, ac yn brawf fod mynach Tŷ Ddewi yn ysgolor coeth. Argraffwyd y llyfr am y tro cyntaf yn y flwyddyn 1574, a daeth o leiaf ddau argraffiad wed'yn ohono, sef un yn y flwyddyn 1683, o dan olygiad y dysgedig Camden, ac un arall yn Rhydychain yn 1772. Ymddengys fod gan Asser ddylanwad mawr iawn hefo'r brenin ac mai ef a fu'r offeryn penaf i beri i Alfred noddi Prif Ysgol Rhydychain. Barna rhai fod yno fath o Fangor cyn hyn, ac nas gwnaeth Asser ond medru helaethu a chynyddu'r hen waddoliadau, a pheri yni newydd yn null athrawus y lle. Hyn sydd amlwg, i ddiwygiad trwyadl gymeryd lle yn y drefn o addysgu, gan i Asser ranu'r gwahanol wyddorion o dan eu penau neillduol, sef Gramadeg neu ieithoedd, y Celfau, a Difinyddiaeth. Asser ei hun a fu'n dysgu Gramadeg a Rheitheg; John, mynach o Dŷ Ddewi, a hyfforddiai mewn seryddiaeth a daearfesuriaeth; ac un arall o'r enw Ioan, o Dŷ Ddewi eto, a ddysgai Resymeg, Musig a Rhifyddiaeth: tra'r oedd Difinyddiaeth o dan arolygiad Neotus a Grimbald. Dyna ddechreuad adferol yr Athrofa ysplenydd hon, a hyny o dan lygaid ac yn nglyn ag enw plant athrylithgar Gwyllt Walia. Bu farw ar ol oes hir o les a daioni yn y flwyddyn 906, a thyna fel y dywed Brut y Tywysogion: "OED CRIST 906; y bu farw Asser ddoeth archesgop y Brytaniaid," a thaera llawer iddo fod yn archesgob Tŷ Ddewi am ddwy flynedd, sef o'r pryd y bu farw Gorchwyl hyd adeg ei farwolaeth ei hun. Nid oes fawr o le i anmheu, fel y profa awdwr hanes ei fywyd yn y Biographia Britannica, nad yr un person oedd Asser y Mynach, Asser yr Esgob, ac Asser "Archesgop y Brytaniaid." Yr unig beth o bwys a welaf fi ydyw fod Cronicl y Saeson yn gosod ei farwolaeth yn y flwyddyn 910, ond yn Mrut y Saeson dyma'r hyn a ddywedir.—" Anno ixe vi., y bu varw asser archesgop y bruthanyait." Ysgrifenodd Asser gryn lawer o lyfrau, medd rhai, ac nid oes dim llawer o ddadl yn mysg neb nad efe oedd awdwr y llyfrau canlynol. 1. "Life of King Alfred." 2. "Annales Britannice." 3. "Aurearum Sententiarum Enchiridion." 4. "A Book of Homilies." 5. "A Commentary on Boethius." 6. "A Volume of Letters." Ofer ydyw myned dros yr haeriadau moelion a ddygodd rhai dros eu cred mai yr un oedd efe a'r Bardd Glas o'r Gadair, a Geraint Fardd Glas, oblegyd ni feddant ar ddim seiliau i'w coelion. Deuir ar ei draws yn ei le priodol.