Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Athrwys

Oddi ar Wicidestun
Asser Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Aubrey (Syr John, Bar.), D.C.L.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Athrwys ap Meurig
ar Wicipedia

ATHRWYS, a elwir hefyd Athrius ac Adras; mab ydoedd i Meurig ab Tewdrig, brenin Morganwg. Efe a ddilynodd ei dad i frenhiniaeth Gwent a Morganwg oddeutu'r flwyddyn 575. Camgymerodd rhai ef am yr enwog frenin Arthur, oherwydd tebygolrwydd enw y ddau i'w gilydd. Mab iddo ef oedd Morgan Mwynfawr, yr hwn a'i dilynodd fel brenin, ac oddiwrth y Morgan hwn y cafodd Morganwg ei henw. Gadawodd Athrwys diroedd i eglwys Llandaf; gwelir copi o roddiad y tiroedd hyny yn y Liber Landavensis.—Wms. Em. Welsh.

Nodiadau

[golygu]