Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Aubrey, (William)
| ← Aubrey (Syr John, Bar.), D.C.L. | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Bach ap Carwed → |
AUBREY, (WILLIAM), LL.D., oedd yn deilliaw oddiwrth Syr Reginald Aubrey, a gynorthwyodd Bernard de Newmarch i ddarostwng y Cymry, ac a gafodd diroedd Abercynfig a Slough fel ei ran o'r anrhaith. Yr oedd Dr. Aubrey yn broffesydd o'r gyfraith yn Rhydychain, yn un o gynghor y Terfynau, ac yn un o feistriaid yr Ymofynion i'r frenines Elizabeth. Ei wraig oedd Welliford, ferch i John Williams o Tainton. Bu farw Gorph 23ain, 1595. Efe ydoedd boncyff—dad yr Aubreyaid o Lantryddyd, yn sir Forganwg, trwy i'w fab ieuangaf, Syr Thomas Aubrey, briodi Mary, ferch ac aeres i Anthony Mansel, Ysw., o'r lle hwnw; a mab i hwnw, Syr John Aubrey, oedd yn byw yn Llantryddyd yn amser y rhyfel gwladol, a'r weriniaeth, ac a fu yn neillduol o aiddgar dros y deyrniaeth, nid trwy gymeryd arfau o blaid y Siarliaid, eithr trwy noddedu, yn ei balas yn Llantryddyd, holl gyfeillion y deyrniaeth, a ystyrid wedi eu hymddifadu o fywioliaeth, yn enwedig gwyr eglwysig, trwy eu troi o'u lleoedd, o blwyfau neu golegau. Yr oedd palas Llantryddyd fel math o goleg y pryd hyny, gan nifer gwyr o ddysg a ymdeithient yno. Yno y cafodd yr archesgob Usher nodded, gyda'i deulu, pan y gorfu arnynt adael Castell Caerdydd,—lle yr oedd mab-yn-nghyfraith yr archesgob yn llywodraethu―ac yr ymosodwyd arnynt yn arw gan y werin, pan oeddynt yn ceisio tynu tua Chastell St. Donets, am nodded. Fel gwobr am ei letygarwch i wŷr ei blaid, darfu i Siarl II., agos cyn gwybod ei fod yn safadwy ar ei orsedd, ei greu Gorph. 23ain, 1660, yn Farwnig. Bu Syr John Aubrey, y trydydd Barwn, yn aelod Seneddol dros Gaerdydd, a'r hwn a fu farw yn 1743. Gorwyr i hwnw oedd Thomas Aubrey, Ysw., a fu yn Filwriad yn y fyddin ar hyd ystod y rhyfel Americanaidd; ac wedi hyny a fu yn aelod o'r Senedd dros Wellington; ac ewythr iddo, frawd i'w dad, oedd y diweddar Syr John Aubrey, Bar., D.C.L.