Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Aubrey (Syr John, Bar.), D.C.L.

Oddi ar Wicidestun
Athrwys Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Aubrey, (William)

AUBREY (SYR JOHN, BAR.), D.C.L., yr hwn a gynrychiolodd sir Buckingham ryw hyd yn y senedd, ac wed'yn dros wahanol fwrdeisdrefi. Penodwyd ef yn arglwydd y Llyngeslys yn 1782, ac yn arglwydd y Trysor neu Ganghellydd yn 1783, yr hon swydd a roes i fynn yn 1789. Bu farw Mawrth 1af., 1826, pan oedd yn cael ei ystyried yn dad y Senedd; a'i nai ef, brawd hynaf i Thomas Aubrey, Ysw, yw y barwnig presenol. Y mae y teulu yn awr wedi gadael hen drigfa Gymreig ei hynafiaid, Llantryddyd, yn mro Morganwg, i syrthio yn adfeilion, gan fod ganddynt ddau balas arall yn Lloegr.— Burke's Peerage and Baronetcy. Meyrick's Donne's Heraldry.

Nodiadau

[golygu]