Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Baddy (Parch. Thomas)
Gwedd
| ← Bach ap Carwed | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Baglan Sant → |
BADDY (PARCH. THOMAS), cyfieithydd amrai fàn lyfrynau i'r Gymraeg, oedd frodor o Ogledd Cymru. Ymsefydlodd fel gweinidog ar eglwys Bresbyteraidd Dinbych tua'r flwyddyn 1693, a bu yn gweinidogaethu yno hyd ei farwolaeth yn 1729. Ei lyfrau cyfieithiedig oeddynt —1. "Hymnau Sacramentaidd, 1703;" 2. "Doolittle ar Swper yr Arglwydd, 1703;" 3. "Wadsworth ar Hunan-ymholiad, 1713;" 4. "Cynghaneddiad o Ganiadau Solomon, gyda Nodiadau Eglurhaol, 1725;" 5. "Dr. D. Williams ar wagedd Mebyd ac Ieuenctyd, 1727." —Dr. Rees' Nonconformity.