Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Baglan Sant

Oddi ar Wicidestun
Baddy (Parch. Thomas) Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Baker, (David)

BAGLAN, oedd fab i Dingad ab Nudd Hael, o Tefrian, ferch Llewddyn Lluyddog, o ddinas Eiddin yn yr Alban, sef Edinburgh. Dywedir mai yn Nghoed Alun, yn Arfon, y trefai, ac iddo ef a'i frodyr Gwytherin, Tegwyn, Tefriog, a'u chwaer Aleri, ymuno a Bangor Enlli. Dyna ddywed Bonedd y Saint am dano, ac iddo ef mi a dybygaf y cyflwynwyd Llanfaglan yn Arfon, oblegid y mae ei enw eisoes wedi cael ei gysylltu hefo Maenor Alun, ac yn y faenoriaeth hono ar lan afon Menai y saif Llanfaglan. Blodeuai yn gynar yn y chweched cant.

Nodiadau

[golygu]