Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Baker, (David)

Oddi ar Wicidestun
Baglan Sant Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Bangor, (Hugh)

BAKER, (DAVID), a anwyd yn y Fenni, yn sir Fynwy, yn y flwyddyn 1575. Goruchwyliwr ystâd Arglwydd Fenni, ydoedd ei dad; ac yr oedd ei fam yn chwaer i'r Dr. David Lewis, barnwr y Llyngeslys. Cafodd egwyddorion ei ddysgeidiaeth yn Christ's Hospital yn Llundain, ac oddiyno efe a ymsymudodd i Neuadd Broadgate, Rhydychain, yn y flwyddyn 1590. Yr oedd bwriad ei dad ei ddwyn i fynu i'r Eglwys Sefydledig, ond gan i ryw anhawsderau luddias, efe a anfonwyd i efrydu y gyfraith, i'r Middle Temple cyn cyraedd graddau. Efrydodd y gyfraith yn ddiwyd, gyda phob arwyddion o oes lwyddianus. Yr oedd y pryd hyn yn cael ei aflonyddu gan dybiau Atheistaidd; ond darfu i waredigaeth ragluniaethol o berygl anfad weithio ynddo gyfnewidiad iachusol; a bu yn nodedig mewn ymroddiad crefyddol hyd ddiwedd ei oes. Mewn canlyniad i ryw lyfrau pabaidd syrthio i'w ddwylaw, efe a gofleidiodd y grefydd hono, ac wedi cydgyfarfod â rhai mynachod Benedictaidd yn Llundain, perswadiwyd ef i fyned gydag un ohonynt i'r Eidal, ac yn Padua, efe a dderbyniwyd i Eglwys Rhufain, gan Abad St. Justinia, yn y flwyddyn 1605, pan y newidiodd ei enw, yn lle David yn Augustine Baker. Yn fuan dychwelodd adref, pan y cafodd ei dad yn gorwedd ar ei wely angau, a llwyddodd i'w berswadio, cyn ei farw, i ymuno â Phabyddiaeth. O hyny allan, ymroddodd yn aelod llafurus o'i urdd, a gwnaed ef yn fath o benaeth ar fynachlog yr urdd yn Dieulward, yn Loraine. Bu flynyddau lawer ar waith yn olrhain cofnodion yr urdd Benedictaidd; ac yn 1624, aeth i Douay, a gwnaed ef yn gyfarwyddwr ysprydol, a chyffeswr yr hen Famau Benedictaidd Saesonig yn Cambray, lle y bu naw mlynedd. Yr oedd yn awdwr llawer o weithiau ar dduwinyddiaeth ymarferol, ond ymddengys mai mewn ysgrifau y gadawyd hwynt, mewn naw cyfrol unplyg mawrion, yn Lleiandy Cambray. Yr oedd hefyd yn gyfreithiwr rhagorol yn y gyfraith gyffredin, ac yn hynafiaethydd dysgedig. Gadawodd hefyd chwe' chyfrol o ysgrifau ar hanesiaeth Eglwysig, defnyddiau pa rai a gasglodd o'r llyfrfaoedd a'r cofnodau goreu, yn yr hyn y cynorthwywyd ef gan Camden, Cotton, Spelman, Selden, ac Esgob Goodwin, gyda'r rhai oll oedd yn eithaf adnabyddus. O'r casgliadau hyn y cymerwyd defnyddiau yr "Apostolatus Benedictcnorum in Anglia," a gyhoeddwyd gan Reynar, ac hefyd ei ddefnyddiau i Hanes Eglwysig Llydaw, a gyhoeddwyd gan Cressy; yr hwn a gyhoeddasai o'r blaen y "Sancta Sophia; or Directions for the Prayer of Contemplation," ac wedi ei dynu allan o fwy na deugain o draethodau a ysgrifenwyd gan Baker. Cyfieithodd weithoedd llawer o awdwyr crefyddol o'r Lladin, y rhai oeddynt yn nghadw mewn tair cyfrol unplyg mawr, ond a ddinystriwyd yn anrheithiad Capel Pabyddol St. Ioan, yn Clerkenwell, yn y flwyddyn 1688. Bu Baker farw yn Holborn, yn Awst y flwyddyn 1641, yn 66ain oed, a chladdwyd ef yn Eglwys St. Andrew,

Nodiadau

[golygu]