Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Barlowe (William)
| ← Bangor, (Hugh) | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Barnes, (Edward) → |
BARLOWE (WILLIAM), mab ydoedd i'r Dr. William Barlowe, esgob Tŷ Ddewi. Ganwyd ef yn sir Benfro; addysgwyd ef yn Balliol College, Rhydychain; ac yn 1564 enillodd radd yno mewn celfyddyd. Wedi gadael y coleg, teithiodd lawer ar y byd, a daeth yn fedrus yn y gelf o Forwriaeth. Tua'r flwyddyn 1573, ymgymerodd ag urddau eglwysig; a chodwyd ef yn gyflym yn yr eglwys. Gwnaed ef yn gaplan i'r tywysog Harri, ac yn 1614 dyrchafwyd ef yn archddeon Salisbury. Efe oedd y cyntaf a ganfu y gwahaniaeth rhwng haiarn a dur, a'u gwahanol dymherau at ddybenion tynfaol; a'r cyntaf a ysgrifenodd ar natur a chyneddfau y tynfaen (loadstone); a bu hefyd yn dra llwyddfanus i ddarganfod llawer o ddirgelion eraill mewn maen-dyniad. Ei lyfr cyntaf oedd, "The Navigator's Supply; containing many things of principal importance to navigation, with divers instruments framed chiefly for that purpose: London, 1597." Ei ail lyfr ydoedd, "Magnetical Advertisement; or divers pertinent observations, and approved experiments concerning the nature and properties of the Loadstone: London, 1610." Gwnaed rhai sylwadau diraddiol ar y llyfr hwn gan Dr. Ridley o Gaergrawnt; ac atebodd Barlowe y Dr. mewn iaith, a barnu oddiwrth y wyneb-ddalen, lawn mor chwerw ag yntau. Bu farw Mai 25ain, 1625, a chladdwyd ef yn eglwys Easton.