Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Barnes, (Edward)

Oddi ar Wicidestun
Barlowe (William) Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Baroc, Sant

BARNES, (EDWARD), llenor Cymreig, oedd enedigol o Lanelwy, ac yn ei flodau tua chanol y ganrif ddiweddaf. Ceir ychydig o'i waith mewn llyfr a gyhoeddwyd yn 1465[1] tan y teitl "Cyfaill i'r Cymro," wedi ei gasglu gan Wm. Hope, o Fostyn. Ymunodd a'r Methodistiaid Calfinaidd, ac ymroddodd â'i holl egni i fod o wasanaeth i'w wlad a'i genedlaeth, trwy gyfieithu:—1. "Llythyr o Gynghor Difrifol oddiwrth Weinidog Efengyl at ŵr mewn cyflwr o fethiant ac afiechyd. Gan y Parch. Mr. De Covey, 1784." 2. "Myfyrdodau Hervey, y rhan gyntaf, o gyfieithiad Iorwerth Barnes, 1785." 3. "Coron gogoniant tragwyddol." 4. "Pregeth y Parch. T. Priestley, ar farwolaeth arglwyddes Selina, iarlles Huntingdon; a gyfieithwyd gan Iorwerth Barnes." Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn sir Drefaldwyn.

Nodiadau

[golygu]
  1. Diawl y wasg. 1765, sy'n gywir. Gw Edward Barnes yn y Bywgraffiadur