Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Baroc, Sant
| ← Barnes, (Edward) | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Bassett (Christopher) → |
BAROC. Er nad oes dim gair o son am y sant hwn yn Achau'r Saint, nac yn un ysgrif Gymraeg arall ar a welais, eto, y mae'r hanesydd Cressy yn gwneud y crybwylliad canlynol am dano. "Meudwy ydoedd, a gwneir coffeion am dano yn Nhalaeth yr Essyllwyr yn Ngwlad Forgan." Claddwyd ef, ebe'r un awdwr, yn Ynys Barry ar gyffiniau y wlad a enwyd, ac ebai drachefn, " Yn ein Merthyrdraith dywedir fod y Meudwy sanctaidd hwn yn deilliaw o uchel—waed Brutanaidd, ac iddo ymgymeryd â'r dull unigol hwn o fyw er mwyn cyrhaedd bywyd anfarwol, yr hyn a wnaeth ar y 29 o Dachwedd, O. C. 700, a chedwir ei wylmabsant ar y dydd hwnw." Y mae Giraldus Cambrensis yn "Muchedd Dewi Sant," yn adrodd chwedlig dra difyr am dano. Dywed fod Baroc yn Abad Cork yn yr Iwerddon, ac iddo ddod i dalu ymweliad a Dewi. Pan yn Menyw cododd gwynt croes arswydus a methai yn lân loyw a chroesi yn ol. Fodd bynag, benthycodd ryw ddiwrnod, geffyl ei gyfaill, a marchogodd ar draws y môr yn ddidramgwydd. Dysgybl oedd i Gwalchmai, yr hwn a gladdwyd mewn ynys yn ngenau yr afon Hafren. Dywedir fod eglwys Bedwas yn sir Fynwy wedi ei chyflwyno i'w nawdd ef.