Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Bassett (Christopher)
| ← Baroc, Sant | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Baxter (William) → |
BASSETT (CHRISTOPHER). Ganwyd y boneddwr ieuanc duwiol hwn yn Aberddawen, plwyf Penparc, Morganwg, tua'r flwyddyn 1753. Ei rieni oeddynt Christopher Bassett, Ysw., ac Alice ei wraig. Derbyniodd ei addysg foreuol yn y Bontfaen, pryd y ddadblygodd dymher addfwyn a charuaidd, a deall cryf a bywiog. Pan y daeth ei amser i fynu yn yr ysgol hon, ei dad er mwyn ei brofi a roddes ddewis iddo a'i myned i Rydychain ynte aros gartref ar ei dir ei hun. Dengys ei atebiad fod crefydd wedi cael argraff yn fore ar ei feddwl, "Yr wyf yn hyderu," meddai, "y caf y fraint o ddweyd y gwir tros Dduw wrth fy nghydgreaduriaid.” O ganlyniad, danfonwyd ef i Goleg yr Iesu, Rhydychain, a graddiwyd ef yno cyn ymadael yn A.C. Yn fuan, derbyniodd alwad i fod yn gurad i'r enwog Wm. Roumaine, yn St. Anne's, Blackfriars, Llundain; ac urddwyd ef gan Esgob Llundain. Yr oedd efe hefyd yn y cyfamser yn llanw y swydd o ddarlithydd i Eglwys St. Ethelberg. Ymledai ei boblogrwyddd yn gyflym, a meddylid yn uchel am dano fel gwr ieuanc duwiol a thalentog; ond pan yn anterth ei lwyddiant, cafodd dwymyn drom yr hon a adawodd ei heffeithiau arno y gweddill o'i oes. Tybiai ei rieni nad oedd awyr y Brifddinas yn dygymod âg ef, ac ar eu cais taer hwy dychwelodd i'w wlad ei hun. Yn fuan wedi ei ddychweliad, agorwyd drws defnyddioldeb iddo i fod yn gurad Eglwys St. Ffagan, gerllaw Caerdydd. Yma, daw llinell euraidd arall yn nghymeriad Bassett i'r golwg; yr oedd ei enaid yn rhy fawr i gael ei gyfyngu rhwng erchwynion plaid, ac yn rhy dduwiolfrydig i ddiogi lle. bynag y cai gyfleusdra i wneud daioni. Yr oedd Methodistiaeth Galfinaidd y pryd hwn yn ei mabandod, ond oherwydd cydnawsedd ddifrifol tymher ei gweinidogion a thymher y curad ieuanc, enynwyd serch cydrhyngddynt, ac ni bu cywilydd ganddo o hyny allan gael yr enw dirmygus o "Fethodus os gallai trwy hyny hefyd lesau eneidiau dynion. Pan ddaeth i guradiaeth St. Ffagan cymerodd dŷ dan ardreth—tŷ yr arferai ieuenctyd y pentref gyfarfod ynddo i ddawnsio, a defnyddiwyd y tŷ i ddybenion cwbl wahanol; cynelid ynddo bob moddion o ras, a pharhaodd y Methodistiaid i ymgynull yn y tŷ hwn hyd 1837, pan yr adeiladasant gapel iddynt eu hunain. Gofalai Mr. Bassett gymaint am achos Duw yn yr ystafell hono ag am ei guradiaeth—un achos yr ystyrid hwy ganddo, sef achos y Cyfryngwr, ac achos eneidiau dynion, achos y teimlai efe rwymau i wneud ei oreu erddo yn mhob gwedd a fyddai arno. Ar ei gais ef, deuai rhai o'r gwyr mwyaf cyhoeddus perthynol i'r enwad Methodistaidd yn eu tro i bregethu yn yr ystafell grybwylledig; ac ystyrid Mr. Bassett tua'r adeg hon lawn cymaint o Fethodus ag o Eglwyswr. Byddai yn pregethu yn fynych yn nghapelau yr enwad ymneillduol hwn mewn gwahanol barthau o'r wlad; ac y mae son ddarfod iddo unwaith beth bynag gymeryd taith trwy'r Gogledd yn nghwmni un o'i gweinidogion mwyaf cyhoeddus. Dywed awdwr Methodistiaeth Cymru, pan yn son am orfoledd a dorodd allan yn Llandyrnog, Dyffryn Clwyd, tan weinidogaeth naill a'i Rowlands, neu Jones Llangan, fod y Parch. Christopher Bassett, A. C., o sir Forganwg, yn mysg eraill, "yn neidio ac yn moli Duw;" ac adroddai yr offeiriad ieuanc y penill canlynol:
Yn y rhyfel mi arosaf,
Yn y rhyfel mae fy lle;
Boed fy ngenau wrth y nefoedd,
Boed fy llygaid tua'r ne':
Doed y gonewest pryd y delo,
Disgwyl wrth fy Nuw a wnaf;
Nes o'r diwedd wel'd yn trengu'r
Pechod ydoedd bron a'm lladd.
Pa fodd bynag, ni bu ei arosiad yn St. Ffagan ond byr, ond nis gwyddis pa ysprydoedd oedd ar waith yn ei symud oddiyno. Yn mhen y flwyddyn, sef yn 1779, ymadawodd, a bu am yspaid wedi hyn yn gurad eglwys Porthcerri, gerllaw tŷ ei dad. Yn fuan wedi myned yno, ymddangosodd arwyddion amlwg o'r darfodedigaeth arno—yr oedd ei sel danbaid a'i weithgarwch di-ildio tros ac yn ngwaith ei Arglwydd yn dechreu gadael eu hol ar ei gyfansoddiad gwanaidd ar y goreu; ac i brysuro'r diwedd, torodd wythien o'i fewn, a chollodd lawer o waed. Cynghorai y meddyg ar iddo gael ei gymeryd i Gaerodor, er mwyn iddo gael rhoddi prawf ar ddwfr brwd ffynonau yr ardal hono; a theimlai y claf ei natur yn adfywio cymaint tan eu heffeithiau nes y tybiai fod rhagor o fywyd ar ei gyfer. Ond nid oedd yr adferiad byr hwn ond fflachiad mellten ar gyfnos—un o'r tybiau lledrithiog hyny yn mha rai y mae'r darfodedigaeth yn dystaw a sicr feddianu ei ysglyfaeth. Gwelai y craffus fod ei nerth yn darfod, a'i gam yn myn'd yn fyrach bob dydd. Yr oedd ei enaid yn y cyfamser yn derbyn yn helaeth o ddyddanwch yr iachawdwriaeth. Ymwelodd y Parch. D. Jones, o Langan, ag ef yn gystudd, ac adrodda a ganlyn am dano:— "Trodd ein hymddiddan un tro ar bethau y wlad uwchlaw haul, a chefais le i farnu nad gwr dyeithr oedd efe yn y wlad hono, ond ei fod yn dra chynefin mewn llawer rhan honi, a'i fod yn cael hyfrydwch mawr wrth dderbyn newyddion rhagorol oddiyno yn fynych. Dywedai lawer am iaith y wlad, a gwelais yn eglur fod ganddo sicrach gafael ar Arglwydd y wlad hono nag oedd gan yr hen gonsumsion arno ef. Gyda gwyneb siriol, dywedai wrthyf fel y canlyn, Gwn ar brydiau beth yw mwynhau tawelwch sylweddol yn gwyneb fy holl drueni!'" Tra yn Nghaerodor, arosai yn nhŷ ei chwaer, yn Redcliffe St., wrth yr hon dywedai un diwrnod, "Yr wyf yn gweled yn awr, nas gallaf bregethu byth mwyach, ond os myn Duw Imi wellhau rhyw ychydig, byddaf yn foddlawn i gadw drws yn ei dŷ ef." O'r diwedd, daeth y "gonewest," "disgwyliodd wrth ei Dduw," a chafodd weled "tranc y pechod ag oedd bron a'i ladd." Bu farw yn Nghaerodor, Chwef. 8fed, 1784, yn 31 mlwydd oed, a dygwyd ei gorph tros y môr i'w gladdu yn meddrod y teulu yn mynwent St. Athan Traddododd y Parch D. Jones ei bregeth angladd y Sabbath canlynol oddiar eiriau a fynych adroddai y gwr ieuanc yn ei glefyd olaf, sef "Nid wyf yn dywedyd wrthyt, hyd seithwaith, eithr hyd ddeng waith a thriugain seithwaith." Felly y bu farw y boneddwr ieuanc ucheldras hwn, yn enwog iawn am ei dduwioldeb.