Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Bayly (Lewis, D.D.)

Oddi ar Wicidestun
Baxter (William) Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Bayly (Thomas, D.D.)

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Lewis Bayly
ar Wicipedia

BAYLY (LEWIS, D.D.). Ganwyd ef yn nhref Caerfyrddin, a derbyniodd ei addysg athrofaol yn ngholeg Exeter, Rhydychain. Yn 1611, yr oedd efe yn weinidog Evesham, yn swydd Worcester, yn gaplan i'r tywysog Harri, a gweinidog eglwys St. Matthew, yn heol Friday, Llundain. Yn mhen dwy flynedd, derbyniodd ei radd mewn duwinyddiaeth. Yr oedd ei boblogrwydd fel pregethwr tua'r amser hwn mor fawr fel y gwnaed ef yn gaplan i Iago I., yr hwn a'i dyrchafodd yn Esgob Bangor, ac urddwyd ef i'r swydd yn Lambeth, Rhagfyr 8fed, 1616. Mehefin 15fed, 1621, traddodwyd ef i garchar Ffleet, am ba drosedd nis gwyddis, eithr tybir mai am rhyw syniadau o'i eiddo ar briodas y tywysog Harri gyda Infanta yr Ysbaen. Pa fodd bynag, ni bu ei garchariad ond byr. Efe oedd awdwr y traethawd rhagorol hwnw, "The Practice of Piety;" a'r fath oedd poblogrwydd y llyfr hwn fel erbyn y flwyddyn 1734, yr oedd wedi cyrhaedd y 59ain argraffiad. Ymddangosodd tri argraffiad o'r gwaith yn y Gymraeg; y cyntaf tan y teitl "Ymarfer o Dduwioldeb," argraffedig yn Llundain 1630. Cyfieithwyd ef hefyd i'r Ffrancaeg yn 1633; a'r fath oedd enwogrwydd y llyfr fel y cwynai John d'Espagne, awdwr Ffrengig, a phregethwr yn Somerset House, fod y rhan fwyaf o'r bobl gyffredin yn meddwl mor uchel o hono â'r Bibl ei hunan. Bu farw Dr. Bayly Hydref 23ain, 1631, a chladdwyd ef yn eglwys gadeiriol Bangor. Gadawodd o'i ol bedwar o feibion, yr ieuengaf o ba rai oedd:(erthygl nesaf)

Nodiadau

[golygu]