Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Bayly (Thomas, D.D.)
| ← Bayly (Lewis, D.D.) | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Bedo ab Hywel Bach → |
BAYLY (THOMAS, D.D.) Addysgwyd ef yn Nghaergrawnt; ac wedi derbyn yno radd yn y Celfau, yn 1638 rhoddodd y brenin iddo is-ddeoniaeth Wells. Yn 1644, efe a enciliodd gydag offeiriad teyrngarol eraill i Rydychain; ac yn Awst y flwyddyn hono, graddiwyd ef yn A.C., a thrachefn yn fuan yn D.D. Yn 1646, cawn ef yn Nghastell Ragland, gyda'r Ardalydd Worcester, yr hwn a amddiffynai y castell tros y brenin yn erbyn y Gwerinwyr. Rhoddwyd y castell hwn i fynu yn Awst ar delerau tra manteisiol, y rhai yn benaf a luniesid gan Dr. Bayly. Oddiyno efe a deithiodd i Ffrainc a gwledydd eraill, gan ddychwelyd i Loegr y flwyddyn wedi marwolaeth y brenin Siarl I. Yna cyhoeddodd lyfr a alwai "Certamen Religosium; or, a Conference between King Charles and Henry, late marquis of Worcester, concerning religion in Ragland Castle, 1649." Condemniwyd yr awdwr yn uchel oherwydd y llyfr hwn am ei fod ynddo yn gogwyddo at Babyddiaeth. Tua'r un flwyddyn, ysgrifenodd Bayly hefyd y "Royal Charter granted unto Kings by God himself;" ac yn nglyn a hwn "A Treatise, wherein is proved that Episcopacy is Jure Divino." Yr oedd y gwaith hwn yn hollol anghydnaws ag elfenau y Werinlywodraeth, a'r awdwr o'r herwydd a draddodwyd i garchar Newgate. Tra yn ngharchar, efe a ysgrifenodd lyfr dan y teitl, "Herba Parietus; or the wall flower, as it grows out of the Stone chamber belonging to the Metropolitan Prison, which is partly true, partly romantic, morally divine, 1650." Gyda ei fod wedi cyhoeddi y llyfr hwn, llwyddodd i ddianc o'r carchar, a ffodd i Holland, lle y cyhoeddodd ei hunan yn Babydd, ac y daeth yn orselog o blaid y grefydd hono. Sefydlodd wedi hyn yn Douay, lle y cyhoeddodd "The end to Controversie between the Roman catholic and Protestant religions, 1654." O Douay efe a symudodd i Itali, lle bu farw mewn dirfawr angen tua'r flwyddyn 1659.—Wood's Ath. Oxon.