Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Bedwini
| ← Bedwas Sant | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Bedwyr ab Pedrawc → |
BEDWINI. Archesgob Gelliwig yn Nghernwy oedd efe. Dyma fel y coffheir hyn yn y Trioedd, "Tri Archescobawt Ynys Prydain: Cyntaf, Llan Daf, o ddawn Lleurwg ab Coel ab Cyllin, yr hwn a roddes diroedd a braint Gwlad gyntaf i'r rhai a gystlynasant gyntaf â'r ffydd yn Nghrist; Ail, Caer Efrawc, o ddawn Cystynin amherawdr; sef oedd efe y cyntaf o'r amherodron yn Rhufain a ymgystlwynwys a'r ffydd yn Nghrist; Trydydd, Llundain, o ddawn yr amherawdr Macsen Wledig; a gwedi hyny buant Gaerllion ar Wysg, a'r Gelliwig yn Nghernwy, a Chaer Rianedd yn y Gogledd; ac yn awr y mae Mynwy a Chaerefrawg a Chor Gaint." (Myf. Arch. ii. 68). Yn Englynion y Clywed y mae triban o'i eiddo yr hwn a red fel hyn:
"A glyweisti a gant Bedwini
Oedd esgob doniawg diffri?
Rhagreithia dy air cyn noi dodi."