Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Beli ab Benlli Gawr
Gwedd
| ← Bedwyr ab Pedrawc | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Beli mab Dyfnwal Moelmud → |
BELI ab Benlli Gawr, rhyfelwr enwog yn Ngwynedd tua diwedd y pumed cant. Cyfeirir at ei fedd yn Englynion y Beddau:"
Pieu y bedd yn y Maes Mawr,
Balch ei law ar ei lafnawr,
Bedd Beli fab Benlli Gawr.
Tybir mai yn Llanarmon yn Ial, sir Ddinbych, y mae y Maes Mawr.