Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Beli mab Dyfnwal Moelmud

Oddi ar Wicidestun
Beli ab Benlli Gawr Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Beli Mawr ab Manogan

BELI, mab hynaf y deddfroddwr enwog Dyfnwal Moelmud, ar farwolaeth yr hwn y cododd ymryson enbydus rhwng Beli a'i frawd Bran o barth y frenhiniaeth; eithr o'r diwedd heddychwyd y brodyr trwy gynghorion prydlawn a doeth y pendefigion; a phenderfynwyd ar ranu y deyrnas rhwng y ddau—rhoddwyd yr Alban i Bran, a'r gweddill a berthynai i goron Beli. Ond Brân, yr hwn oedd wr ieuanc o dymher sarug ac uchelfrydedd diderfyn, yn nodedig am wroldeb nad allai unrhyw anhawsderau ei ddigaloni, ac am haelder tuag at ei gyfeillion nad oedd unrhyw drysorfeydd, gan nad pa mor dywysogaidd fyddent, a allent ei gyflenwi, a daflodd ei hun yn fuan i ddyryswch ac anghydfod rhyngddo ef a'i frenin a'i frawd. Yn cael ei gynhyrfu gan y cymhellion arferol y rhai y gŵyr llyswyr a chenadwyr breninol mor dda ра fodd i'w cymhwyso at fynwes breninoedd, dechreuodd ymbarotoi i ymladd am y goron benbaladr. Er mwyn cryfhau ei hun i'r anturiaeth annaturiol yma, efe a fordwyodd i Norway, lle yr enillodd serch ac y priododd Anaor, merch Elsing, brenin Llochlyn. Yr oedd Anaor wedi ei dyweddio yn flaenorol i Guthlac, brenin y Cersoniaid Cymreig, yr hwn, pan glywodd am yr anfri a daflwyd arno fel hyn, a ddarparodd lynges er dal Brân ar ei ddychweliad yn ol. Gan fod Beli wedi derbyn hysbysiad o'r fradwriaeth yn Mhrydain, efe a ymdeithiodd yn ddioed tua'r Gogledd, ac a gymerodd feddiant o'r holl ddinasoedd caerog ag oedd yn nhiriogaethau ei frawd. Pan gyd—gyfarfyddodd Guthlac a Brân gyda eu llyngesau, ataliwyd y frwydr gan dymhestl ffrochwyllt; ond dygwyddodd i'r llong yr oedd Anaor ynddi gael ei chymeryd yn y terfysg gan Guthlac. Parhaodd cynddaredd y dymhestl am bum' niwrnod, ar derfyniad yr hon yr aeth yn llong—ddrylliad ar Guthlac ac Anaor gyferbyn a Bamborough, lle yr oedd Beli wedi gwersyllu, yn barod i guro yn ol drais—ymgyrch ei frawd. Arweiniwyd hwy yn ddioed ato ef, a chawsant dderbyniad anrhydeddus. Yn mhen ychydig ddyddiau ar ol hyny, gan ei fod wedi gallu dal yn ddiogel yn ngwyneb y dymhestl, daeth Brân gyda'r gweddill o'i lynges arfog i mewn i Albania. Cyrhaeddodd y newydd ato yn fuan ddarfod cymeryd ei wraig, yn gyntaf gan Guthlac, ac wedi hyny gan Beli. Wedi ei greuloni gan yr hysbysiad hwnw, gwthiodd yn mlaen tua Bamborough, gan gyhoeddi y byddai iddo ddistrywio yr holl Ynys â thân ac â'r cleddyf, oni adferid iddo ei wraig ieuanc a'i deyrnas. Gan i Beli lwyr omedd cydsynio â'r gofynion hyn, cymerodd brwydr le yn Calater. Gorchfygwyd y Norsemyn gyda cholled o bymtheg mil o laddedigion, a gorfu ar Brân ffoi i Gál er mwyn achub ei fywyd. Yna Guthlac, wedi llawnodi cytundeb drwy ba un y daeth y Gerson Gymroaidd (Dacia, a elwid wedi hyny Denmarc), yn rhan o'r Ymherodraeth Brydeinig, a ollyngwyd ymaith gydag Anaor i'w deyrnas ei hun. Treuliodd Beli Ꭹ saith mlynedd dilynol ar y gwaith o orphen y ffyrdd a ddechreuwyd gan ei dad. Gwnaed cyfraith i'w taflu yn agored i bawb, brodorion ac estroniaid, ac i'w gosod ar yr un sail o ddiogelwch cysegredig ag a berthynai i'r afonydd a'r cysegr.

"Tri chyffredinion cywlad a gorwlad:—prif afon; prif ffordd; a chyrch golychwyd ac yn nawdd Duw a'i dangnef y byddant y rhai hyny; cyd nas noether arf gan a'u cyrchont yn erbyn a gyfarfyddont: ac a wnelo hyny, ai brodor ai estron y bo, hawl galanas gan gwyn arno gan arglwydd y cyfoeth."

Yn y gyfraith hon y dechreuodd yr ymadrodd—"Prif-ffordd y Brenin" y prif-ffyrdd hyn, ar ba rai yr oedd yn enaid-faddeu atal neb rhyw deithiwr neu gyflawni arno unrhyw drais, oeddynt naw ffordd Beli, wedi eu gosod fel hyn dan nawdd Duw a'r genedl.

Yn y cyfamser, wedi erchi yn ofer am gynorthwy gan freninoedd y Celtiaid, aeth Brân at Seguin, tywysog y Liguriaid yn Gâl. Cafodd groesawiad megys yr oedd yn gweddu i urddas ei enedigaeth ac i'r berthynas oedd yn bodoli rhwng Lliguriaid yr Alpau a Phrydain. 0 herwydd ei wasanaeth ar y maes derbyniai barch gan yr holl genedl, ac enillodd ei gymhwysderau personol iddo serch Rhonilla, unig blentyn y tywysog. Hwy a briodwyd: ac addawodd Seguin gynorthwyo ei fab yn nghyfraith i adenill ei lywodraeth yn Mhrydain, ac ar yr un pryd penododd ef i fod yn olynydd iddo ei hun ar orsedd Lliguria. Bu farw Seguin ar ddiwedd y flwyddyn. Pan esgynodd Brân i'r orsedd, rhanodd yn ddioed y trysorau a bentyrwyd gan yr hen frenin, rhwng y penaethiaid mwyaf dylanwadol yn ei diriogaethau newyddion, a thrwy hyny enillodd eu cydsyniad a'u cydweithrediad yn yr ymgyrch a fwriadai yn erbyn Prydain. Gwnaed cytundeb â'r Celtiaid am gael mynedfa rydd drwy Gal; casglwyd lluoedd milwrol o bob parth, y rhai o'r diwedd a aethant ar fwrdd llynges a adeiladasid i'r dyben hyny gan Vanetiaid (Gwynedd, Venedotia, La Vendee) Armorica. Glaniwyd yn Anderida, sef, yr un man y cafodd Vespasin, Ella y Sais, a Gwilym y Normaniad, mewn oesoedd dilynol, fynediad i mewn i Brydain. Beli, gan ymdeithio o Gaerdroia, a drefnodd ei fyddinoedd gyferbyn ag eiddo ei frawa, a buasai yr un tir, yr hwn wedi hyny a fygodd gan waed goreu Lloegr dan lywyddiaeth Harold, yn llifo yn awr gan waed Prydain Droianaidd oni bai am gyfryngiaeth Corwena, mam oedranus y ddau benadur ymrafaelgar. Wedi iddi dan grynu gyrhaedd yr orsaf oddiar ba un yr areithiai Brân ger bron ei fyddin, hi a blethodd ei dwylaw am ei wddf of pan yn dyfod i lawr i'w derbyn, a chusanodd ef mewn llewygfeydd o serchawgrwydd. Yna hi a'i tynghedodd drwy bob rhyw apeliad a allai mam ei ddefnyddio wrth gyfarch mab, i'w gwared rhag yr olygfa echryslawn o weled plant ei chroth ar waith mewn ymladdfeydd drygionus yn erbyn Duw, cyfreithiau natur, eu gwlad, a hwy eu hunain. Ar ol dangos annghyfiawnder ei achos, ac mor hawdd y gallai gyrhaedd goruchafiaethau llawer ardderchocach na goruchafiaeth ar ei frawd, pe byddai y ddwy fath fyddin, yn lle distrywio, yn ymuno â'u gilydd, hi a erfyniodd arno adgymodi â'i frenin cyfreithlawn. Gwedi ei ddwyn i deimlad gan y darluniadau hyn, rhoddodd Brân ei helm a'i arfau ar yr orsaf, ac yn nghanol distawrwydd mawr y ddwy fyddin aeth gyda hi yn ben-noeth at ei frawd. Wrth ei weled ef yn dynesu, disgynodd Beli o'i gerbyd, taflodd ei waywffon i lawr, a chan ei gyfarfod ar haner y ffordd, efe a'i cofleidiodd yn garuaidd. Y ddwy fyddin wrth weled yr olygfa a rwygasant yr awyr a'u banllefau. Yn mhen ychydig funudau yr oedd pob trefn wedi ymddatod; nis gellid mwyach wahaniaethu rhwng Prydeinwr a Lliguriad; yr oedd y banerau wedi eu rhwymo yn nghyd. Wedi i forwyr y llynges glywed am y digwyddiad, daethant yn lluoedd i'r làn, a'r diwrnod a fygythiai fod yn un o'r rhai mwyaf gwaradwyddus a thrychinebus yn nghofnodau Prydain, a derfynodd mewn jubili gyffredinol o wleddoedd llawenydd. Da i ddynolryw pe byddai mam pob brenin yn Gorwena-pe gwrandawai pob teyrn ymrafaelgar ar wrthdystiadau natur a dynoliaeth gyda'r un parodrwydd ag y gwnaeth Beli a Brân.

Ar ol cydymgynghoriad maith, penderfynodd Beli, gyda'r byddin oedd cyngrheiriol, geisio goresgyn Ewrop. Yr oedd y genedl yn mwynhau tawelwch gartref—y deyrnwialen yn cael ei llywio gan law erthol,—llu dirfawr yn hiraethu am rywbeth i'w wneuthur, y rhai yr oedd yn beryglus ymyru a'u huchel-geisiadau—y trosglwydd-longau ar yr afon Dafwys; Gal yn cael ei dryllio gan fân-ymbleidiau, a phobl Umbria yn Ngogledd yr Eidal ond disgwyl yn unig am weled baner fawr eu hiliogaeth—sef y Ddraig Goch, wedi ei dadblygu ar grib yr Alpau, cyn cyfodi ac amddiffyn eu hen rydd-freintiau. Yn ganlynol, tiriodd y fyddin arfog, yr hon oedd gynwysedig o 300,000 o wyr, wrth enau afon y Seine. Un frwydr ar wastadedd Tours a benderfynodd dynged Gal. Dinas ar ol dinas wedi blino ar ymrafaelion gwladol y rhai nid arweinient at un dyben llesol, a dderbyniasant yn llawen yr oruchafiaeth yr oeddynt hwy yn ei ddisgwyl a ddygai yn nglyn a hi fendith y buont cyhyd yn ddieithriaid iddi, sef dyogelwch bywyd ac eiddo. Cafodd y minteioedd yspeilgar ag oeddynt dan yr enw milwyr yn heidiau yn Gâl, naill ai eu dyfetha neu eu cydgorphori yn y byddinoedd rheolaidd. Bu dwy flynedd yn ddigonol i ddarostwng yr holl wlad Geltaidd dan ddeddf a llywyddiaeth Frutanaidd. Yna y fyddin Gymreig—Geltaidd a ymsymudodd dan arweiniad y ddau frawd tua'r Eidal. Ymunodd y Lliguriaid â hwynt, a'r mynediad cyntaf dros yr Alpau gan fyddin filwrol a gyflawnwyd yn ngwyneb yr hyn a ymddangosai yn anmhosibl. Mae y clod a gysylltiwyd âg enwau Hannibal a Napoleon yn perthyn mewn cyfiawnder i enwau y ddau gadffaenor Brutanaidd, Beli a Brân. Hwynt—hwy oeddynt yr anturwyr cyntaf, a'r rhai cyntaf hefyd a lwyddasant i fyned dros yr atalgloddiau eirllyd a adeiladodd natur megys o bwrpas i amddiffyn gwledydd heulog yr Eidal rhag cleddyf y Gogledd. Obarth nodweddiad y byddinoedd ag oeddynt ar fedr ail—sefydlu yr Ymherodraeth Gymreig yn yr Eidal, y mae genym hanesion bywiog wedi eu trosglwyddo i ni gan yr awduron clasurol. Dywed Plutarch, "Mae y Cimbri penaf, a mwyaf rhyfelgar, yn byw yn nghefnfor y Gogledd, yn eithafion y ddaear. Gelwir hwy yn Gimbri—nid oddiwrth eu moesau, ond enw eu cenedl ydyw. O barth eu gwroldeb, eu hyspryd, eu grym, a'u bywiogrwydd, nis gallwn eu cymharu i ddim ond i fflam ddifäol. Mathrent bawb a ddeuent o'u blaen, neu ymlidient hwy yn mlaen fel gyroedd o anifeiliaid.” Mae Justin yn cofnodi chwedl yn arddangos gyda pha ddiystyrwch y golygent gymeriad a gwyddor filwrol y Groegiaid. Ar ol darostwng y Tribaliaid a'r Gothiaid (Geta), cynygiodd y Celtiaid Cymroaidd eu cyngrheiriaeth i Antigonus, brenin Macedonia, fel gwystl o'u tuedd heddychlawn tuag ato ef. Ond triniodd Antigonus y cynygiad fel pe buasai wedi deilliaw o ofn neu gyfrwysdra. Gofynodd y Cymry i'w cenadwyr, ar eu dychweliad, "pa beth yw y Groegiaid hyn?" "Y maent yn nodedig am ddau beth," atebai y cenadwyr, "galwant sefyllfaoedd nad oes iddynt na chylch-ffosydd na rhagfuriau, yn wersylloedd; a thybiant os bydd ganddynt ddigon o aur, nad rhaid iddynt wrth ddur." Ysgubodd y fyddin Gymreig dros wastadedd Gogleddol yr Eidal yn dair dosran. Safodd yr Etruriaid yn wrol o blaid eu hymerodraeth, ond yn ofer. Wedi cael eu gorchfygu mewn pump o frwydrau, gwnaethant i'w poblogaeth gystlynaidd gilio tua'r deheu, gan roddi pob dinas, fel yr oeddynt yn eu gadael, ar dân. Adferwyd yr hên genedligrwydd Umbriaidd, gan i'r gwaredigion a'r gwaredwyr gael eu ffurfio yn un blaid gyngrheiriol, gyda'r un cyfreithiau ac iawnderau. Sonia Justin a Pliny am y dinasoedd canlynol fel wedi cael eu sylfaenu gan Brân pan ymlidiwyd allan y Tuscaniaid,—sef, Milan, Como, Brescia, Verona, Burgamo, Mantua, Trent, a Vicentia. Dylid sylwi, fod goresgyniadau y Cymry bob amser yn ol egwyddorion gwareiddiad, ac nid dystrywiad. Pa le bynag yr ymsefydlent, yno cyhoeddent gyfartaledd cyfreithiau, codent demlau, llunient ffyrdd, adeiladent ddinasoedd, a diwyllient lenyddiaeth, yn enwedig barddoniaeth. Ar y llaw arall, yr oedd goresgyniadau yr Allmaenwyr a'r cenedloedd Gogleddol yn yr oesoedd tywyll, yn rhai barbaraidd a chroes i wareiddiad yn cael eu dwyn yn mlaen yn ol yr egwyddor o ddistrywiaeth ac nid ceidwadaeth a chyfuniad. O'r Celtiaid Cymroaidd perthynol i Gâl Gisalpaidd y deilliodd llawer o ysgrifenwyr cyntaf yr ymherodraeth Rufeinig—megys Livy, Pliny, Catullus, Virgil, &c., &c. Ar ol goresgyn Celtica Gisalpaidd, ymdeithiasai Beli gyda haner ei fyddin tua'r Gogledd lle y bu ar waith yn darostwng yr amrywiol dylwythau pa rai mewn oesoedd dilynol a adnabyddid gyda'u gilydd fel y bobl Allmaenaidd neu Deutonaidd. Dygodd y Rhufeiniaid dryfysg mawr i mewn i hanesyddiaeth drwy beidio a rhoddi i genedloedd eu henw llinachol, neu yr enw wrth ba un yr arferent alw eu hunain, eithr rhyw enwad oedd wedi ei gysylltu wrthynt oddiwrth rhyw nodwedd neu arferiad neillduol. Yr un ystyr sydd i'r gair German yn yr iaith Deutonaidd, ag sydd i'r gair Belgi yn y Gymraeg—sef, cadwyr, rhyfelwyr. Cymry ac nid Celtiaid oedd Belgiaid y Cyfandir. Disgynyddion oeddynt o'r Cymry a oresgynasant y wlad dan arweiniad Brân, ac yn amser Cæsar oeddynt yn meddianu un ran o dair o Gâl. O du y Dwyrain iddynt yr oedd y Teutoniaid (Tudeschi, Deutch), gwedi ymsefydlu. Darostyngwyd hwythau hefyd y pryd hyn gan Beli; a'r gyfran ffrwythlonaf o'u tiriogaeth o amgylch y wigfa Hercynaidd a ranwyd rhwng y fyddin Gymraeg—Geltaidd. Adnabyddid y Celtiaid Cymroaidd yn amser Caesar wrth yr enwad Volcæaid, a chadwent eu hen uchafiaeth mewn arfau a gwareiddiad ar y Teutoniaid amgylchynol. Brân gan sefydlu ei brif luest—dŷ yn Mediolanum (Meifod, Milan,) yn raddol a estynodd ei arfau tua'r Dehau. Yn mhlith dinasoedd eraill gwarchaeodd ar Clusium, sef dinas yn Etruria Isaf. Anfonodd y trigolion am gynorthwy i Rufain. Daeth tri o frodyr perthynol i'r genedl Ffabiaidd gyda'r ddirprwyaeth yn ol fel brein—genadwyr. Ar ol deisyf cael ymgyfarfod ac i hyny gael ei ganiatau, gofynwyd i Brân,"Pa niwed a wnaethai y Clusiaid iddo ?" Atebodd yntau, Mae gan Etruriaid hyn gymaint arall o dir ag a allant ei ddiwyllio—yr ydym ninau yn nerthol, yn lluosog, ac mewn eisiau tir, er hyny gomeddant ymadael ag un erw o'u tiriogaeth ddifudd." "Ond drwy ba hawl yr ydych yn arddelwi hyny?" gofynai y brein—genadwyr drachefn. "Drwy yr hawl hynaf o bob hawl," atebodd Brân, gyda gwên sarug, "sef, y ddeddf ag sydd yn rhedeg drwy holl natur, ac i'r hon y mae pob anifail yn ddarostyngedig—sef hawl y cryf ar y gwan. Yn ol y ddeddf hon y cafodd yr Etruriaid hyn, a chwithau Rufeiniaid, eich tiriogaethau ar y dechreu. Naill ai adferwch y tiriogaethau hyn i'w perchenogion cyntefig, neu ynte sefwch wrth y gyfraith yn erbyn eich hunain."

Dranoeth, blaenorodd Quintus Ambustus Fabius y Clusiaid mewn rhuthr—gyrch yn erbyn y gwarchaewyr. Lladdodd un o'r swyddogion Cymraeg, a thra yn ei yspeilio o'i arfau, canfyddwyd mai un o'r breingenadwyr Rhufeinig ydoedd. Yn mhlith y Cymry, yr oedd pob brein—genad yn cael ei ystyried yn ŵr cysegredig, ac megys y gwelsom, gwaherddid iddo ef gario arfau ei hunan; yr oedd yn drosedd mawr i neb arall hyd yn oed ddynoethi cleddyf ger ei fron ef. Gan hyny yr oedd eu digofaint, oherwydd y troseddiad dyblyg yma o'r cyfreithiau cydrhwng cenedloedd, megis eu cydnabyddid yn eu plith eu hunain, yn enbyd dros ben. Brân, gan symud ei wersyll, a ddanfonodd genadwriaeth i Rufain, i orchymyn iddynt draddodi Quintus Fabius i fynu i'w ddwylaw ef. Cynghorodd y Feciales, neu goleg y Rhingyllwyr yn Rhufain, i'r senedd gydsynio a'i gais ef, gan ddangos erchylldra y weithred ag oedd yn taflu dianrhydedd ar yr holl genedl. Er hyny, y bobl (Plebs) nid yn unig a wrthwynebent yr anogiad, ond gwnaethant y tri brawd yn swyddogion milwrol, gan eu penodi yn flaenoriaid ar y fyddin. Gan hyny, Brân yn ddioed a roddodd y gair, " I Rufain. " "Ni wnaeth ei luoedd," medd Plutarch, "niwed i eiddo neb; ni anrheithiasant y maesydd, ac ni ddygasant unrhyw sarhâd ar y trefydd. Ar y 6ed o Fehefin, 363 A.U., 490 c.c., ymgyfarfyddodd y ddwy fyddin wrth y fan lle mae yr afonig Allia yn rhedeg i'r Tiber. Gorchfygwyd y Rhufeiniaid gyda lladdfa fawr; ac yn mhen tri diwrnod ar ol hyny, syrthiodd Rhufain ei hun, oddieithr y castell yn unig, i ddwylaw y gorchfygwr. Ystyrid cylchwyl brwydr Allia fel dydd du " yn nghalendar y Rhufeiniaid. Ni chyflawnid un gorchwyl arno, a phob dinesydd a wnelai ei ymddangosiad ar g'oedd, a wnai byny mewn galarwisg. Safodd y castell yn erbyn y warchäedigaeth am chwe ' mis. Yn y cyfamser, aeth Fabius Dorso yn ei wisg archoffeiriadol i'r Bryn Quirinal i offrwm yno yr aberth a arferid ar genedl - ddydd (dies gentilitia) ei deulu. Mae yr ysgrifenwyr Rhufeinig yn datgan eu syndod ei fod wedi cael ei oddef i wneuthur hyny, a dychwelyd mewn dyogelwch. Ond buasai y Cymry yn meddwl taraw eu brenin cyn gynted ag a fuasent yn meddwl dynoethi cleddyf yn erbyn offeiriad neu ben cenedl. Wrth wneuthur ffordd iddo fyned, a'i ddyogelu yn ol i'r castell, nid oeddynt ond cadw defodau Prydain. Gan i Brân mewn ail fuddugoliaeth orchfygu yr ymgais a wnaed gan y Porsena o Etruria i dori y warchäedigaeth, cytunodd y Rhufeiniaid i roddi mil o bwysau o aur yn bridwerth am ryddhâd y castell. Pan oedd yr aur yn cael ei bwyso yn mhresenoldeb y gwahanol gadbeniaid, tynodd Brân ei wregys a'i gleddyf a thaflodd bwynt i'r fantol arall. Pa beth yw ystyr y weithred na " gofynai y prif - swyddog Rhufufeinig. " Ei hystyr yw, " atebodd Brân, " gwae gwaethedigion, (va victis). " Goddefodd y Rhufeiniaid yr ateb dirmygus mewn dystawrwydd, Trosglwyddwyd yr aur i Narbonne yn Gâl. Yna Brân a gymerodd ei luoedd ymaith, ac yn fuau wedi hyny a wnaeth gyngrhair ymosodol ac amddiffynol gyda Deonysius o Sicily.

Ar ol goresgyniad yr Almaen, sylfaenodd Beli Aquillia, lle ar of hyny yr addolid of megys duw. Fel yr oedd yn dychwelyd adref drwy Gal, efe a ranodd ei thiriogaethau rhwng ei bum ' mab ieuengaf, gan gadw llywodraeth Prydain yn unig yn ei ddwylaw ei hun. Treuliodd y blynyddoedd diweddaf o'i deyrnasiad hir a gogoneddus yn y gwaith o wneuthur deddfau heddychlawn, ac o adeiladu gweithydd cyhoedd. Dechreuwyd a gorphenwyd castell Beli (Billing's gate), a cheulanau enfawr y Tafwys, dan deyrnasiad y penadur hwn. Efe a adeiladodd hefyd Gaerleon, neu fel y gelwid of ar y dechreu Caerwysg, ac a adgyweiriodd demlau Derwyddol Côr Gawr (Stonehenge), ac Ambri. Bu farw yn y 80ain mlwydd o'i oedran. Llosgwyd ei gorph a rhoddwyd ei ludw mewn llestr aur ar ben tŵr uchaf ei balas oedd yn ymyl yr afon Tafwys. Dyna'r hanes a ddyry Hanes y Cymru gan Morgan, am Beli ab Dyfnwal Moelmud, wedi ei sylfaenu yn benaf ar y Brutiau Cymreig.

Nodiadau

[golygu]