Gemau Doethineb/Rhan 1
[[Categori:
| ← Y Rhagymadrodd | Gemau Doethineb gan John Jones (Ioan Eifion) |
Rhan 2 → |

GEMAU DOETHINEB.
Y BEIBL yw y maes lle y mae trysorau cuddiedig doethineb, a'r blwch lle mae gemau gras wedi eu trysori. Efe yw ariandy ffydd, ystordy bara y bywyd, a ffynon iachawdwriaeth.
Darllenwch, nid yn unig lyfrau, ond dynion; ac yn benaf, byddwch ofalus i ddarllen eich hunain.
Peidiwch blino eich hunain yn nghylch gwreiddioldeb, meddai Mr. Spurgeon wrth ei efrydwyr. Nid oedd Iesu Grist yn honi ei fod yn wreiddiol. Dywedai ef, "Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru, nid eiddof fi ydynt, ond eiddo yr hwn a'm hanfonodd i." Nid oedd yr Ysbryd Glân yn ei hòni, canys y mae yn ysgrifenedig, "Ni lefara ohono ei hun, ond yr hyn a glywo a lefara efe." Yn wir, yr unig feddyliwr a llefarwr gwreiddiol yn y Beibl yw yr hwn y dywedir am dano, "Pan yw yn dywedyd celwydd, o'r eiddo ei hun y mae yn dywedyd."
CHWAETH.
I ddiwall noddi llenyddiaeth,—da yw
Mewn dawn a gwybodaeth,
A synwyr o wasanaeth
I nodi chwyn, ydyw chwaeth.
Bryfdir.
Y mae drwg-dybiau yn mhlith meddyliau, fel ystlumod yn mhlith yr adar—nid ydynt yn dyfod allan un amser ond yn y cyfnos.
Y mae y diafol a nerth marwolaeth ganddo, nid fel llywodraethwr neu farnwr, ond yn unig fel dienyddwr.
"Ni fynwch ddyfod ataf fi fel y caffoch fywyd." Ni fyn miloedd ddyfod at Iesu Grist yn y byd hwn; ond cofier, rhaid myned ato yn y farn.
Yr hwn nid yw yn meddwl ond yn anfynych am. y nefoedd, nid yw yn debyg o fyned yno, oblegid yr unig ffordd i gyraedd y nôd yw cadw y llygad yn sefydlog arno.
A GYFANSODDWYD MEWN CYSTUDD.
Angau, drwy arfau'r oerfel,—a'm rhoes
I eisoes yn isel;
Er hyn, Duw gwyn, os da gwêl,
Estyna einioes Daniel.
Cenin, Eifionydd.—Daniel Roberts.
Rhyfyg ydyw anturio i berygl yn ddiachos. Anturiodd y patriarchiaid, a llawer o'r prophwydi a'r apostolion, y merthyron a'r cenhadon, i beryglon mawrion: ond bydd ganddynt hwy reswm i'w roddi am hyny yn y farn: ond pa beth fydd dy reswm di, a beth wyt ti yn ei enill o anturio y fath berygl ofnadwy ag o golli dy enaid?
Beth sydd i'w ddisgwyl, mewn difrif, oddiwrth ymladd â Duw? Pa beth a geisi di? Anturiodd cedyrn Dafydd i berygl i gyrchu dwfr o bydew Bethlehem; ond cyfrifai y brenin y dwfr hwnw yn rhy ddrud i'w yfed. O! enaid! cwpanaid o bleser yw y cwbl wyt ti yn ei gyrchu yn yr anturiaeth beryglus o redeg i gyfarfod arfau yr Hollalluog. Os bu cwpanaid erioed yn werth gwaed, y mae dy bleserau di felly, ac yn werth gwaed dy gymydog, ond trwy yfed pleser pechadurus yr ydwyt yn yfed dy waed dy hun!—I
GORONWY OWEN.
Canai Awdlau Cenedloedd,—ac iddo
Rhoed Cywyddau'r nefoedd;
Angel i wneyd Englyn oedd,
Mawr awdwr Cymru ydoedd!
—Dewi Wyn.
Y ffaith fawr yw fod bywyd yn wasanaeth; yr unig gwestiwn yw, Pwy a wasanaethwn?
Os nad ydym am i'r byd wybod am ein gweithredoedd, peidiwn a'u cyflawni.
Os wyt ti wedi dewis Duw, gelli fod yn sicr fod Duw wedi dy ddewis di.
"Daliwn gyffes ein gobaith" hyd nes caffom ei gwell.
Gwell i ni fod heb hyder, na meddu hunanhyder.
Dylai pob dyn sydd yn arwain dynion ereill fod yn ofalus iawn o'i gamrau.
Y mae y dyn sydd yn ofni edrych i'w gyfrifon mewn cyflwr drwg; felly gall y dyn sydd yn ofni edrych i'w galon ei hun fod yn sicr nad yw pob peth yn dda rhyngddo â Duw.
CARIAD.
Byd hynod mewn tywodyn, a chysur
Iach oes mewn mynudyn:
Cyfrol mewn gair, ond gair gwyn,
A da fôr mewn dyferyn.
—Cadfan.
Yn eisieu: Yn gyntaf, cael genau glân i oganu. Yn ail, pregethwr heb fod yn erlidiwr. Yn drydydd, eglwys heb fod y fodrwy aur a'r dyn ffals yn cael ei addoli ynddynt yn fwy na'r Hollalluog. Yn bedwerydd, ysgrifenyddion mewn eglwysi yn meindio eu busnes eu hunain yn gyntaf, ac nid eiddo pobl ereill. Yn bumed, ynad heddwch anmhleidiol. Yn chweched, twrnai a gras yn ei galon, ac nid arian.
Aiff Satan i grynu pan ddechreua dyn drwg feddwl am ei fam dda.
Pan ofynwyd i un o blant sefydliad mud a byddar Paris, beth oedd tragywyddoldeb, efe a atebodd, "Oes yr Anfeidrol."
Y gradd cyntaf mewn ffolineb yw i un dybied ei hun yn ddoeth; y nesaf, dyweyd hyny wrth ereill; y trydydd, diystyru pob cyngor.
Y mae cymeriad moesol dyn fel arf amddiffynol y milwr ar faes y frwydr.
Gobaith ydyw y lliain a rydd Duw yn nwylaw ei bobl i sychu ymaith y dagrau a redant o'u llygaid oherwydd eu blinder, neu oherwydd hir—oediad y trugareddau a ddisgwyliant.
Gonestrwydd sydd fel yr haul, yn hardd i edrych arno, ac heb achos cuddio ei wyneb o olwg byd cyfan.
BEDDARGRAPH.
Yr Iôn, pan ddelo'r enyd,—ar ddiwedd,
O'r ddaear a'n cyfyd:
Bydd dorau beddau y byd,
Ar un gair yn agoryd.
R. ab Gwilym Ddu o Eifion.
Dylai dyn mewn cwmni gadw gwyliadwriaeth ar ei dafod, ac mewn unigrwydd ar ei galon.
Dywedir na ddarfu i Solomon erioed chwerthin. Nid ydyw hyny yn un syndod: nid oedd dyn a feddai saith gant o wragedd, a chanoedd o famau yn nghyfraith, yn debyg o fod mewn ysbryd llawen iawn.
GWELL YW YR HEN.—Yr oedd gweinidog ieuanc, a'i wraig gydag ef, yn ymweled â chynulleidfa lle y bu ei dad gynt yn weinidog. Efe a bregethodd yno ar y Sabboth; ac ar ol y gwasanaeth, yr oedd un o'r hen ddiaconiaid yn ymddiddan â gwraig y gweinidog ieuanc, pan y dywedodd efe: "Darfu i'ch gŵr da bregethu heddyw oddiar yr un testyn ag y pregethodd ei dad arno y tro olaf y bu efe yn y pwlpud yma." "Ai ë, yn wir?" ebe'r wraig ieuanc; "os yr un testyn ydoedd, mi a obeithiaf mai nid yr un bregeth." "O! nage," ebe yr hen ddiacon, o ran yr oedd ei dad yn bregethwr hynod o dda."
Y mae dau beth yn arddangosiad egluť o ddiffyg dealltwriaeth—bod yn ddistaw pan y dylai siarad, a siarad pan y dylai fod yn ddistaw.
Gellir dyweyd gwirionedd mewn gwahanol eiriau bob tro (o'r un ystyr), a bydd yr un o hyd. Y mae fel dwy droedfedd, yr un hyd, trowch ef y ffordd a fynoch.