Gemau Doethineb/Rhan 10
| ← Rhan 9 | Gemau Doethineb gan John Jones (Ioan Eifion) |
Rhan 11 → |
PREGETHWR MAHOMETANAIDD.—Un diwrnod esgynodd Moold, y pregethwr, i'r areithfa yn y deml (mosque) a dywedodd wrth ei wrandawyr: "O! blant ffyddlawn, a wyddoch chwi beth yr wyf yn myned i'w ddyweyd?" Atebasant ef: "Na wyddom." Dywedodd yntau: "Wel, nid yw o un pwrpas i mi wastraffu fy amser ar dyrfa o bobl mor ystyfnig." Dranoeth esgynodd i'r areithfa drachefn, a dywedodd: "O! wir Fahometaniaid, a wyddoch chwi beth wyf yn myned i'w ddyweyd?" Dywedasant hwythau wrtho heddyw: "Gwyddom." "Yna," ebe yntau, "nid oes angen i mi ddyweyd wrthych." Y trydydd dydd, wele y pregethwr i fyny eto, ac yn gofyn yr un cwestiwn. Meddyliodd y bobl y buasent yn ei ddal y tro hwn, a dywedasant: "Y mae rhai ohonom yn gwybod, a rhai heb wybod." Atebodd yntau: "Wel, gwnaed y rhai sydd yn gwybod ddyweyd wrth y rhai nad ydynt yn gwybod."
CRIST YN GETHSEMANE.
Un hwyrnos yn ei hoerni—bu'n lesu'n
Benisel mewn gweddi;
Ac yno'n wan gan gyni
Chwysai 'i waed o'm hachos i.
—Ioan Brothen.
SANCTEIDDRWYDD.—Sancteiddrwydd ydyw gogoniant y Jehofah mawr. Y mae yn ardderchog mewn mawrhydi, yn alluog mewn nerth, yn anrhydeddus mewn cyfoeth, ond yn ogoneddus mewn sancteiddrwydd. Gan mai sancteiddrwydd ydyw prif ogoniant y Duwdod ei hunan, nid ydyw yn un iselhad ar bryfyn deudroed i arddel yr un peth.—Parch. William Morris, Tyddewi.
GWROLDEB MOESOL.—Byddwch yn ddigon gwrol i addef eich bod wedi newid eich barn—nid oes un achos i chwi gywilyddio oblegid y cyfnewidiad. Byddwch yn ddigon gwrol i wrandaw pa beth a ddywed eich gelynion am danoch—chwi ddysgwch ddirgelion gwerth eu gwybod.
OEN Y PASG.
Bri gwledd yr Hebreig lu,—a gafwyd
I gofio'u gwaredu;
Oen ammod, a'r cysgod cu
Gynwysodd Basg ein Hiesu.
—Teganwy.
Yr oedd dyn da yn mhob ystyr, ond un ystyr, yn aelod yn nghapel y diweddar Barch. G. Jones, Tregarth. Yr oedd yn ddyn tawel a haelfrydig, ond ar rai adegau byddai yn yfed i ormodedd. Modd bynag, bu rhaid ei ddiarddel o'r eglwys. Disgynodd i ran G. Jones i fyned i fynegi iddo fwriad yr eglwys. Felly aeth ato a dywedodd fod yn ddrwg iawn ganddo ddweyd penderfyniad yr eglwys wrtho. "Er eich bod yn ddyn mor dda, rhaid eich tori allan." Dywedodd hanes ei gath wrtho. "Yr oedd acw gath dda iawn," meddai, "ac yr oeddym yn hoff ohoni fel teulu; ond yr oedd un bai mawr arni—yr oedd yn cario nadroedd i'r ty, a hyny yn aml iawn. Ond yr oeddym yn maddeu iddi am ei bod yn gath mor rhagorol o dda. Ond rhyw ddiwrnod dyma hi â neidr fawr yn ei safn, ac aeth a hi i gryd y baban, a dyna hi wedi gwneyd gwerth ei lladd. Felly yr ydych chwithau wedi cario llawer o nadroedd erioed; ond yn awr dyma chwi wedi rhoi neidr yn nghryd y baban."
HYNOD FOESGAR.—" Syr, a ydych yn meddwl dyweyd fy mod yn siarad anwiredd?" gofynai person un tro i foneddwr Ffrengig. "Nac ydwyf, syr, nid wyf yn dweyd hyny: ond, syr, yr wyf yn dweyd eich bod yn cerdded llawer o gwmpas y gwir.
GWIRIONEDD.
Y Gwir, fel aur ac arian,—drwy y ffwrn
Dra phoeth ni chyll gyfran;
Di-dwyll mae'n myned i dân,
A di-dwyll yn do'd allan.
—Gwalchmai.
Mewn cyfarfod perthynol i'r Feibl Gymdeithas yn Llundain, gofynai y diweddar Barch. T. Jones, Llundain—yr hwn oedd i bregethu yn nghyfarfod blynyddol y gymdeithas—pa un a fyddai ddoethaf iddo, ai darllen ei bregeth ai ynte ei thraddodi allan, fel arfer. "Gwell i chwi ei darllen," atebai y Parch. Ddr. Wilks; "ond cofiwch am ddigon o'r tân Cymreig ynddi." "Y mae papyr," sylwai un brawd, "yn anghymwys i gario tân ynddo." "Y mae hyny yn wir," atebai Dr. Wilks; "ond y mae yn rhagorol at gyneu tân."
Y BEIBL.
Gair Duw byth yw y gwir di ball,—iach rad,
Ni chredaf i arall;
Gair Duw egyr y deall,
Gair Duw rydd olwg i'r dall.
—Gutyn Peris.
Y mae y rhai hyny sydd yn credu y gall arian wneyd pob peth, yn fynych yn barod i wneyd pob peth am arian.
Dywedir fod yr heddgeidwaid yn debyg i'r enfys, am nad ydynt byth yn gwneyd eu hymddangosiad hyd nes y bydd yr ystorm drosodd !
GWAED YR IESU.
Anwylwr wna o elyn !—un olwg
Ar waed calon Duwddyn,
Yn rhedeg dros yr adyn,
Wna lyn dw'r o galon dyn.
—Glan Llyfnwy.
Yr oedd dau ffermwr yn ymgyfreithio yn nghylch ffynon fechan, a barnai y barnwr nad oedd dyben gwneyd cymaint o dwrw gydag ychydig ddwfr. "Eich anrhydedd" ebe un o'r cyfreithwyr, "deuwch i weled y dyben ohoni, pan eich hysbysir fod y ddau yn llaethwyr."
Un tro, cyhuddwyd ysbeiliwr o dori i mewn i dŷ. Gofynodd y barnwr, "A oes genych ddim i'w ddweyd mewn hunan-amddiffyniad." Y carcharor: "Dim ond hyn, eich anrhydedd,—tŷ arall yr oeddwn wedi bwriadu ei ysbeilio, ond gwnaethum gamgymeriad yn y rhif."
Os cafodd Ananias, a Saphira ei wraig, eu lladd am ddyweyd celwydd, mae yn ymddangos i'w plant gael eu goddef i aros yn fyw, a bod y rhai hyny yn epilgar ddychrynllyd.
BEDDFAEN Y DYN DUWIOL.
Yn y gweryd hwn gorwedd—Dyn Duwiol,
Dan dywyrch mewn llygredd;
Trwy ei einioes caed rhinwedd
A delw Duw ar ei dlawd wedd.
—Meiriadog.
PETHAU I'W RHODDI.—Ein calonau i Dduw: Diar. xxiii. 26. Mawl iddo: Salm xcvi. 7, 8. Diolch iddo: I Thes. v. 18. Ein cyrph yn ebyrth byw: Rhuf. xii. 1. Ein harian i'r tlawd: Luc vi. 38. Rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu: 2 Cor. ix. 7. Gwell rhoddi na derbyn: Actau xx. 35.
GWYRTH.
Arwydd goruwch naturiol,—a roddwyd
Er addysg ysbrydol
Ydyw Gwyrth, nodedig ôl
Rhyw weithredwr eithriadol.
—Croesfryn. Penygroes.
"I beth yr ydych yn wincio arnaf fi, syr," gofynai boneddiges brydferth i estron mewn parti "Maddeuwch i mi, madam," atebai y ffraethwr, "yr oeddwn yn wincio fel y gwna dynion pan yn edrych ar yr haul, yr oedd disgleirdeb yn teryllu fy llygaid.
Y DIOGYN.—Yr olwg fwyaf hagr yn y byd ydyw, un o'r diogwyr trwyadl (thorough-bred) hyny sydd yn rhy ddiog braidd i ddal ei lestr i fyny pe buasai yn gwlawio cawl; ac yn sicr, ni ddaliai lestr mwy nag a fyddai eisiau ei lanw arno iddo ef ei hunan. Pe byddai y gawod yn troi yn gwrw, fe allai y gallai ddeffro tipyn: ond byddai yn sicr o wneyd i fyny am hyny wed'yn.—Mr. Spurgeon.
Y DÒN
Rhuthra'r dòn, gan ymgreuloni—o'i chwsg,
Pan eilw'r chwa arni,
Mae angau ar ei mwng hi,
A dynol fedd o dani.
—Anant, Talysarn.