Gemau Doethineb/Rhan 11
| ← Rhan 10 | Gemau Doethineb gan John Jones (Ioan Eifion) |
Rhan 12 → |
Ni chlywais ond am ddau le dyogel iawn erioedy nefoedd a'r llwch, ac o'r ddau braidd na feddyliwn nad y llwch yw y mwyaf dyogel. Clywais am rai wedi syrthio o'r nefoedd, ond ni chlywais am neb a syrthiodd o'r llwch erioed.—Parch. Morgan Howells.
Y BARDD PAN YN GLAF.
'Rwy'n glaf, a'r gauaf sy'n gwywo—fy nerth,
Fy nydd sydd yn cilio;
'Rwy'n disgyn i'r glyn dan glo—
Cledd anwyd a'm clodd yno.
—Deiniolfryn.
Un tro safai y Parch. R. Jones, Llanllyfni uwchben bedd gwr ar a gyflawnodd hunanladdiad, gyda dyben o ddweyd gair.—"Wel," meddai, "yr wyf wedi bod yn dweyd gair wrth lawer bedd, uwchben pob math o gymeriadau, o bob gradd ac oed, yn wŷr a gwragedd, ieuanc a hen, rhai duwiol ac annuwiol ond nis gwn yn iawn beth i'w ddweyd wrth ben bedd fel hyn. Y mae angau wedi dyfod at hwn yn wahanol i bawb arall. Y mae angau wedi dyfod trwy ddrws y cefn at hwn, am hyny yr wyf fi yn tewi."
Y NOS.
Y nos bruddaidd gan sobreiddiaw—y byd
Fel y bedd ddaeth heibiaw:
Dwyster ei mawredd distaw;
Y ser drydd i siarad draw.
—Dewi Glan Peris, Dinorwig
DYLANWAD ARGYHOEDDIAD.—Y mae y dyn a fo wedi derbyn gwir argyhoeddiad, gan nad i ba le y crwydra, yn sicr yn y diwedd o ddyfod yn ol at ei egwyddorion cychwynol.—Parch. J. Frimston.
GAIR WRTH YR ANNUWIOL. Y mae yr annuwiol yn anfoddlon, terfysglyd, grwgnachlyd ac ansefydlog. Y mae fel y môr, yn dygyfor pan na allo fod yn llonydd, bwrw allan dom, Esai. lxxxvii. Mae anfoddlonrwydd yn nod dyn annuwiol, Num. xvi. 41, y mae yn wrthryfel yn erbyn Duw. Yr ydym yn colli yr amser y dylem ei ddefnyddio i ddiolch—anaddasu i ddyledswyddau; pechod ynfyd; rhwystro i ni gysur yn y pethau sydd genym. Mae ymddygiad anaddas at Dduw a dynion yn ysbeilio trugareddau o'u melusder; yn ychwanegu trallod, ac yn annog Duw i ddigofaint. Y mae annuwioldeb yn golled fawr—colled fawr yn y byd hwn; bod heb Grist, heb Dduw, heb obaith, heb gymod, heb heddwch, heb faddeuant, heb sylwedd. Yn fuan collant yr enaid; collant bob peth, ïe, collant y byd y bu eu calon gymaint arno, a'u serch ar ei bethau. Och! pair annuwioldeb golled fawr. Y rhai a gawsant dduwioldeb mawrygant Dduw am yr elw mawr a gawsant. Gwrthryfelwyr wedi eu rhyddhau o'r carchar i gael y fath gyfoeth! Y tlawd wedi ei godi o'r llwch, a'r rheidus o'r domen! Byddant yn byw yn addas i'r elw sydd ganddynt; mynegant rinweddau yr hwn a'u galwodd. Byddant lafurus am gynyddu mewn agwedd foddlawn, gweddio am gynyddu mewn gras; gochel caru y byd ac ymgyraedd am dano; arfer ffydd; marweiddio eu calonau i'r pethau a welir; cael meddylfryd ysbrydol; peidio addaw iddynt eu hunain na disgwyl pethau mawr yn y byd hwn.—Y Parch. John Elias.
GWRAIG LOT.—Un weithred ddrwg sydd genym hanes am dani o eiddo gwraig Lot, ond y mae hono fel pendulum damnedigaeth yn crogi wrth ei hanes hi byth!—Spinther.
Rhoddodd swyddog uchel orchymyn i'w gadfridog i gymeryd rhyw sefyllfa yn y rhyfel, gan chwanegu na chostiai hyny ond bywydau ychydig o ddynion. "A wnewch chwi fod yn un o'r ychydig hyny?" gofynai y cadfridog.
"GOLLWNG I NI BARABBAS YN RHYDD."
Is haul, dyma olygfa syn!—hoelio'r
Dihalog ar noethfryn:
Rho'i rhyddhad i'r du adyn,
A dewis gwaed Iesu gwyn!
—Dewi Orwig.
CREDO HENGIST.—Rhag bod rhai pobl heb weled Credo Hengist, dyma fo:—"Mae bywyd yn ymborthi ar angeu. Mae yr afal yn bwyta y blodeuyn, yr anifail yn bwyta yr afal, y dyn yn bwyta yr anifail, natur yn bwyta y dyn, a'r duwiau yn bwyta natur." Tybiai Hengist mai dyna ydyw yr achos fod dalenau crefydd mor waedlyd, a bod yr offeiriaid mor bleidiol i ryfel.
HEB DDUW HEB DDIM.
Bod yn wâg, byd yn wegi,—bod heb Dduw,
Byd heb ddim ond tlodi:
Byd caethwas, heb ras na bri,
A'i dranoeth yn drueni.
—Dyfed.
"Doctor," ebai gŵr claf goludog wrth ei feddyg, "y mae arnaf eisieu i chwi wneyd gwaith trwyadl, a tharaw ar wraidd y drwg." "O'r goreu, mi wnaf," meddai y meddyg: a chan godi ei lawffon braff i fyny, dygodd hi i lawr gyda nerth digonol i wneyd costrel a gwydryn—celfi gwirod—oedd ar y bwrdd—yn ganddryll. Ymweliad olaf y gŵr gonest a'r tŷ oedd hwn.
ABSENOLDEB MEDDWL.—Byddai y Parch. R. Jones, Llanllyfni, yn arfer marchogaeth ei geffyl, pan ydoedd yn weinidog yn y Garn, a Chapel y Beirdd. Un diwrnod wrth ddrws toll-borth y Berth, Llanllyfni, llefai" Catrin William, hwda, dyma i ti dâl dros y ferlen." "Welai ddim ceffyl genych Robert Jones." "Ho, ni welai inau geffyl na chaseg chwaith," ac adref ag ef. Cafwyd yr anifail dranoeth ynghors Graianog.
BEDDARGRAPH Y CRISTION.
Cristion o galon i gyd,—dyn grasol
Dan groesau ac adfyd;
Yn y nef Cristion hefyd,
Ac yn ei fedd gwyn ei fyd.
—Aelhaiarn Hir.
Pan oedd Robbi Joshanan, mab Sachai, ar ei wely angeu, gofynodd ei ddysgyblion iddo am ei fendith. Efe a atebodd, "Bydded i ofn Duw fod mor gryf ynoch ag ofn dyn." Dywedodd un ohonynt, "Beth! dim cryfach." Efe a atebodd, "O na bai mor gryf! oblegid chwi a wyddoch fod yr hwn fyddo am bechu yn dweyd ynddo ei hun, 'Rhaid i mi gymeryd gofal rhag i neb fy ngweled i."
YR YSGRIFBIN.
Drwy egni'r pin dirwgnach—rheolir
Enfawr olwyn masnach:
Yn ddiflin gèr gyfrinach,
A dawn byd o'i enau bach.
—Geraint.
Y cartref darparedig i enaid yw y nefoedd, ac os rhaid i ddyn gael rhyw gartref amgenach, benthyg cartref cythreuliaid raid i Dduw gael i'w roddi ynddo.—Parch. J. Owen, Hermon.
CYDODDEF CREFYDDOL.—Chwedl Ddwyreiniol.—"Pan oedd Abraham, yn ol ei arfer, yn eistedd wrth ddrws ei babell, gan ddisgwyl yn lletygar y dyeithrddyn, fe welodd hen wr, yn crymu gan ymbwyso ar ei ffon, yn dyfod tuagato, yr hwn oedd yn gan' mlwydd oed. Abraham a'i derbyniodd ef yn garedig, golchodd ei draed, darparodd iddo swper, gan ei argymhell i eistedd i lawr; ond pan welodd Abraham fod yr hen wr yn bwyta heb ddiolch, gofynodd iddo paham nad oedd ef yn addoli Duw y nefoedd. Atebodd yr hen ŵr iddo, mai y tân yn unig oedd ef yn addoli, ac nad oedd ef yn addef un Duw arall. Ar hyn, yn ei fawr sêl, fe ddigiodd Abraham, nes taflu yr hen ŵr allan o'i babell, gan ei adael yn agored i ddrygau y nos, mewn cyflwr diymgeledd. Ar ol ymadawiad yr hen ŵr, Duw a alwodd ar Abraham, gan ofyn pa le yr oedd y dyeithr—ddyn? Yntau a atebodd, 'Mi a'i gwthiais ef ymaith, am nad oedd yn dy addoli di.' Yna Duw a ddywedodd, 'Yr wyf fi wedi ei oddef er's can' mlynedd, er iddo fy nianrhydeddu, ac ni oddefit di ef am un noswaith, pan nad oedd yn rhoddi un trafferth i ti.' Ar hyn, Abraham a'i dygodd yn ol drachefn, gan roddi croesaw cysurus, ac addysg ddoeth iddo."—Cyf. Rebecca.
GWRAIG DDA.
I'w gwr gwraig dda sydd goron:—ei thylwyth
A welir mewn digon:
Ac arwydd gwendid gwirion
Yw i fab hir fyw heb hon.
—Ieuan Eifion.
Geneth fach ag oedd yn rhodio gyda'i mam trwy fynwent, wedi darllen y canmoliaethau ar y cerig beddau, a ofynai yn bur ddifrifol, "Mam, yn mha le y maent yn claddu y pechaduriaid?"