Neidio i'r cynnwys

Gemau Doethineb/Rhan 12

Oddi ar Wicidestun
Rhan 11 Gemau Doethineb

gan John Jones (Ioan Eifion)

Rhan 13

CARWRIAETH YN YR EGLWYS.—Boneddwr ieuanc a ddygwyddai eistedd yn yr eglwys mewn côr, yn nesaf at ba un yr eisteddai boneddiges ieuanc, yr hon y syrthiodd mewn cariad â hi ar yr olwg gyntaf, a theimlai ddymuniad i ddechreu hysbysu ei feddwl yn y fan; ond gan nas gallai ymddiddan â hi, efe a wnaeth ddefnydd o'r ddyfais ganlynol: Efe a roddodd iddi y Beibl yn agored, a phin wedi ei osod yn yr adnod hon,2 Epistol Ioan 5, "Ac yn awr yr wyf yn atolwg i ti, arglwyddes, nid fel un yn ysgrifenu gorchymyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd genym o'r dechreuad, garu ohonom ein gilydd." Hi a ddychwelodd y llyfr yn agored, a'r pin wedi ei osod yn Ruth ii. 10, "Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd i lawr, ac a ddywedodd wrtho ef, Paham y cefais ffafr yn dy olwg di, fel y cymerit gydnabod arnaf, a minau yn alltudes?" Y boneddwr a ddychwelodd y Beibl yr ail waith, gan gyfeirio at 3 Epistol Ioan 13, 14, "Yr oedd genyf lawer o bethau i'w hysgrifenu, ond nid wyf yn chwenych ysgrifenu âg inc a phin atat ti: eithr gobeithio yr ydwyf gael dy weled ar fyrder, ac ni a ymddiddanwn wyneb yn wyneb." O'r garwriaeth ryfedd hon a ddechreuodd mor anghyffredin, cymorodd priodas le yn mhen wythnos.

Y DIRWESTWR.

Dirwestwr nid yw drwstan—yn ei ffordd,
Nac yn ffwl penchwiban,
Wrth yfed dw'r, gloewddw'r glân,—
Dw'r oer o reieidr anian.
Ap Fychan.


DIGOFAINT.—Mae digofaint yn dechreu mewn ffolineb, ac yn diweddu mewn edifeirwch.

GWEITHREDOEDD TRUGAROG IESU GRIST YN Y BYD.—Dywedir i Columbus rhyw ddiwrnod ddyfod o hyd i ryw ddeilen ar y traeth; fe gododd y ddeilen, ac fe edrychodd arni, ac fe ddeallodd Columbus yn y fan ei bod hi wedi tyfu mewn rhyw ran o'r byd na wyddai efe ddim am dano. Fe osododd y ddeilen yn ei fynwes, ac fe fethodd a gorphwys nes myned â'r ddeilen yn ei fynwes i'r fan lle y tyfodd yn y dechreu. Felly am y gweithredoedd trugarog a gyflawnodd Iesu Grist ar y ddaear, dail ydyw y rhai hyn wedi eu hysgwyd oddiar bren y bywyd: paid a'u sathru dan dy draed, ond bydded i ti eu codi a'u gosod yn dy fynwes, yna hwy änt a thi adref i'r wlad lle y maent yn tyfu yn ffrwythydd aeddfed, ac yn crogi yn rawnsypiau mawrion yn ngwlad gogoniant.Parch. Owen Jones, Dowlais.

DANIEL AR Y FFORDD I'R FFAU.

Ai'r hen weddiwr hynod—tua'r ffau
Trwy ffordd hoffai'r Duwdod;
D'wedai ffydd mai ufydd òd
I Dduw'r lluoedd yw'r llewod.
Ioan Deudraeth.


ARWYDDION O FFYDD.—I'r rhai sydd yn credu y mae Crist yn werthfawr, y gair yn felus, pechod yn chwerw, gweddi yn hyfryd, y saint yn anwyl, crefydd yw eu gorchwyl, y byd yn eilun drylliedig, angeu yn groesawus. Y rhai sydd yn credu y mae Crist ganddynt yn eu calonau, nefoedd yn eu llygaid, a'r byd o dan eu traed. Ysbryd Duw yw eu harweinydd, ofn Duw yw eu ceidwad, pobl Dduw yw eu cymdeithion, addewidion Duw yw eu diddanwch, sancteiddrwydd yw eu ffordd, a'r nefoedd yw eu cartref.—Cyf. T. R. J., Bagillt, CADWEDIGAETH Y PAGANIAID.—Gofynai dyn, a garai gywreinrwydd yn fwy na defnyddioldeb, i weinidog yr Efengyl, "A fydd paganiaid duwiol yn y nefoedd?" "Nid myfi, syr, fydd barnwr y byd, am hyny nis gallaf eich ateb; eithr hyn a ddywedaf, os byth yr ewch chwi i'r nefoedd, os na chewch hwynt yno, cewch reswm priodol paham na byddant yno."

Y FRIALLEN.

Tydi, friallen fechan, dlos,
Wyt blentyn cyntaf anian,
Ddanfonodd Duw i agor drws
I'r blodeu darddu allan.

Mae'th ymddangosiad ar y fron
Yn llawn o wir dlysineb,
Try'r corwynt llym yn awel fwyn,
A chwardd â'th dawel wyneb.

Ti ddeni lygaid plentyn bach
I syllu ar dy degwch,
Ac eto, nis gall meddwl bardd
Ddarlunio 'th lwyr brydferthwch.
Μ. Huws, Hafodlas.


BUCHEDD SANCTAIDD. Y mae gan fuchedd sanctaidd lais. Mewn tonau mwy argyhoeddiadol, y mae yn adleisio hyfforddiadau y gwefusau, y rhai a fuont eisoes fel ffynon doethineb. Y mae yn llefaru pan y mae y tafod yn ddistaw; ac y mae naill ai yn hudoliaeth gyson neu yn gerydd parhaus.—J. H. Hinton.

Enllib a borthir gan gymaint o ffrydiau a'r Nilus; ac yn fynych mae cymaint o anhawsder eu holrain i'w tarddiad.

DYN.—O! y fath sylwedd rhyfedd yw enaid dyn! Beth ydyw dyn? dim ond abwydyn y llwch, nid yw yn gwybod nac yn deall ei hunan yn iawn, ac eto nid oes dim a leinw ei serchiadau ond goludoedd anfeidroldeb. Beth ydyw dyn? dim ond perchenog mynud awr, yn myned o un fynud i fynud arall, heb ddim yn ei feddiant ond yr amser presenol, ac eto, nid oes dim a leinw ei serchiadau am gymaint ag un mynudyn, ond holl ddyfnderoedd dirgeledigaethau tragwyddoldeb diddechreu a thragwyddoldeb diddiwedd, y ddau yn cydgyfarfod yn yr YDWYF anfeidrol, a'r Duw hwn mewn Cyfryngwr yn eiddo iddo yntau. Hyn a leinw enaid dyn.—Y Parch. Lewis Edwards, D.D.

HUW MORUS (EOS CEIRIOG).—Yr oedd y forwyn wedi codi rywbryd yn hynod o foreu, i gorddi; ac yr oedd y beirdd, Huw Morus, ac Edward Morus, yn eu gwely, ac yn methu yn lân a chysgu. Ebe Huw Morus:

"Trwst â gordd, trystio dugell—dychryn—gwsg,
Trwm trwblgwsg, trem treblgell;
Twrw plethgwl'm—tripa laethgell,
Twrw naw cawr, taranau cell."


'Beth ydyw y mater, Huw?" ebe Edward Morus, yr hwn hefyd ydoedd yn fardd go enwog. "Gwneyd englyn i'r eneth yna sydd yn corddi yr ydwyf," ebe H. M. "Twt!—thâl o ddim byd!" ebe E. M. 'Rhyw dwrw fel hyn ydwyf fi yn ei glywed:

"Dip-dap, lip-lap, gip-gap gwpan,—cabl-abl,
Oera nabl, a'r drebl driban;
Croch och wchw—garw twrw taran,
Gwaedd g'oedd gwydd gwedd giaidd gân."


Y mae tywyllwch yn datguddio y ser, megis ag y mae trallod yn datguddio gwirioneddau; ni byddwn byth yn gweled y ser hyd nes bydd yn anmhosibl i ni weled dim arall yn mron, ac felly y mae gyda gwirionedd.

CYDWYBOD.

Ni oddef ei thangnefedd—i undyn
Heb uniondeb buchedd;
Deil ei barn, hyd ael y bedd,
I arianu gwirionedd.
Lewis Jones, Llanddulas.


URDDASOLRWYDD DYN.—Nid yw dyn ond corsen, a'r gorsen wanaf mewn natur; ond y mae yn gorsen feddyliol. Ni raid i'r holl fydysawd megis ymarfogi i'w ddyfetha; y mae hyd yn nod tarth, neu ddyferyn o ddwfr, yn ddigon i'w ddinystrio. Ond eto, pe byddai i'r holl fydysawd syrthio arno, ei wasgu, a'i ladd, eto byddai dyn yn fwy urddasol na'r oll o'r hyn a syrthiasai arno; oblegid byddai ef yn gallu deall am ei ddinystr, pan na byddai y bydysawd yn deall am ei fuddugoliaeth. Felly, mewn meddwl y mae ein hurddasolrwydd ni yn gynwysedig; yn ganlynol, yr ydym i ddyrchafu ein hunain, nid trwy gynorthwy gofod (space) a pharhad, ond trwy rym a gallu y meddwl. Boed i ni, ynte, efrydu y gelfyddyd o feddwl yn iawn, oblegid dyma sylfaen moesau (ethics).—Pascal.

DARLLAW

Daw y grawn, wedi 'i goroni—â llaw
Hollalluog, ini;
Llaw feidrol, ar ei hol hi,
A dry hwnw'n drueni.
Plenydd.


Nodiadau

[golygu]