Neidio i'r cynnwys

Gemau Doethineb/Rhan 13

Oddi ar Wicidestun
← Rhan 12 Gemau Doethineb

gan John Jones (Ioan Eifion)

Rhan 14 →

PAROTOI Y GALON.—Rhaid i ddyn ac ymbarotoi ei galon i dderbyn "gair y deyrnas" cyn y caria ei heffeithiau nefol arni; megis y dywed y prophwyd Joel, "Rhwygwch eich calon, chwelwch at yr Arglwydd," &c. Nis gall y lefain weithio a chyfnewid ŷd heb ei falu; na, cyn y gall gario un math o ddylanwad arno, rhaid ei falu yn flawd ystwyth, tyner a meddal; rhaid tylino y blawd cyn y bydd yn addas i dderbyn y lefain. Felly gyda golwg ar y galon ddynol, rhaid ei meddalu, a'i darostwng i deimlad addas, cyn y bydd iddi gael ei lefeinio âg ysbryd a bywyd Crist. Fel y mae yr amaethwr yn braenaru ac yn arloesi y tir mewn trefn i'r hâd da gael dyfnder daear a dwyn ffrwyth, felly rhaid cael parotoad y galon i'r Efengyl.—Parch. J. J. Williams, Penygroes.

GWEDDI DDIRGEL. Y mae gweddi ddirgel yn gyffelyb i long, ond mai llong fechan yw hi: y mae yn cychwyn gartref yn yr ystafell, ac yn myned allan i spring tide trugaredd. Gwrandewch arni yn cychwyn am funyd:—"Y tlawd hwn a lefodd," dyna hi yn cychwyn; "a'r Arglwydd a'i clybu," dyna hi yn office y gwaed; ddaw hi yn ol? daw yn llawn fel llong marsiandwr,—"ac a'i gwaredodd o'i holl drallod."—Y diweddar Barch. John Williams, Garn.

YSBRYD CRISTIONOGAETH YN Y PLENTYN. Pan dderbynid bachgenyn pedair-ar-ddeg oed yn aelod i'r eglwys y dydd o'r blaen, gofynwyd iddo beth oedd yn ysgogi ei feddwl yn yr amgylchiad. Atebodd, "Meddwl ydwyf fod Iesu Grist wedi gwneyd cymaint drosof fi, a'i bod yn llawn bryd i finau ddechreu gwneyd rhywbeth drosto yntau." Onid oedd yr un brofiad yn union ag apostolion Crist, pan ddywedent, "Cariad Crist sydd yn ein cymell ni."

Pan roddwyd ei ddewisiad i'r Tywysog Conde ar ol ei ddal yn garcharor gan Siarl IX., brenin Ffrainc, naill ai myned i wasanaeth yr offeren, neu ei osod i farwolaeth, neu oddef carchariad parhaus; efe a atebodd, "Trwy gymorth Duw ni ddewisaf byth mo'r cyntaf; ac am y lleill, gadawaf hwy i Ragluniaeth Duw ac ewyllys y brenin."

SINAI A CHALFARIA.

Os swn y ddeddf yn Sinai ddu—rua
Yr euog i grynu,
Calfaria lân dry'n gân gu
Yng ngrasol angeu'r Iesu.
—Pedrog.


SEIRIOL A CHYBI.—Dywed traddodiad am Seiriol a Chybi y cyfarfyddent unwaith bob wythnos yn agos i Glorach, yn mhlwyf Llandyfrydeg: ac oherwydd y byddai Seiriol ar daith yr ymweliad hwn bob amser yn teithio a'i gefn at yr haul; y boreu yr haul yn y dwyrain, a'r prydnawn, wrth ddychwelyd, yr haul yn y gorllewin, a Chybi i'r gwrthwyneb, yn teithio a'i wyneb i'r haul, gelwid hwy Seiriol Wyn, a Chybi Felyn. Gan fod y ddau hyn mewn bri mawr gan Gymry Gwynedd, mewn amser diweddarach, gwnai y Mynachod cardodaidd ddefnydd mawr ohonynt yn eu teithiau cardodaidd. Cludent luniau bychain o goed o'r ddau sant, i'w newid am ŷd, caws, a chig moch, &c. Dywedant fod llun Seiriol yn feddyginiaeth anffaeledig i amryw glefydau, a llun Curig mor effeithiol i yru ysbrydion drwg o dai ffermydd ac ysguboriau, am hyny dywedai y bardd,

"Un ohonynt a ddygai
Gurig lwyd dan gwr ei gôl,
Gwas arall a ddygai Seiriol.
—R. Llwyd, Beaumaris.


RHEOL I DDEWIS GWR.—Eliza Embert, boneddiges ieuanc yn Persia, a lwyr benderfynodd wrthod boneddwr gyda'r hwn yr oedd i ymbriodi, oblegid iddo ddirmygu crefydd. Wedi iddi roddi cerydd hynaws iddo, atebodd, "Nad allai dyn o'r byd ddim bod mor hen ffasiwn a pharchu Duw a chrefydd." Eliza a ddychrynodd! Ond wrth ddychwelyd ati ei hun, dywedai, "O'r munyd, syr, y deallais i nad ydych yn parchu crefydd, yr wyf fi yn peidio a bod yn eiddo i chwi." Yr hwn nad yw yn caru ac yn anrhydeddu Duw, ni all garu ei wraig yn ffyddlawn a chywir.

GWEN.

Ryfedd wên, llwyr foddineb—arni geir
Yn goron anwyldeb;
Ei cham—ddeall ni all neb,
Daw â'r enaid i'r wyneb.
—Madog.


Ceisiodd un anog Esgob Hooper i ymwrthod â'i gredo yn hytrach na dyoddef merthyrdod, gan ddyweyd, "O, syr, ystyriwch fod bywyd yn felus, a marwolaeth yn chwerw." "Ydynt," atebodd y merthyr gwrol "ond mae bywyd tragwyddol yn fil melusach, a marwolaeth dragwyddol yn anrhaethol chwerwach:" felly efe a aeth yn amyneddgar at y stanc; ac yn y 80 flwydd o'i oedran, dywedir iddo drengu yn y fflamau, mor dawel a phlentyn yn ei wely.

CENFIGEN. Poenir y dyn cenfigenus, nid yn unig gan yr holl ddrygau a ddyoddefir ganddo ef ei hun, ond gan yr holl dda a fwynheir gan ereill. Gwneir ef yn bruddaidd, nid yn unig gan ei gwmwl ei hun, ond gan lewyrch haul ereill.

Cred in UNIG.—Y mae marchnad wedi ei chyfodi gan Dduw er delio â phechaduriaid. Y man yr agorwyd hi oedd yn y Prynedigaeth, y nwydd a gynygir yw bywyd tragywyddol, a'r term i'w gael yw "Cred yn unig."—Parch. Foulk Evans, Machynlleth.

YR ADDA DIWEDDAF.—Ni chollasom hi oll yn yr Adda cyntaf, ond gwyliwn ei methu gyda'r Ail; oblegid hwn yw y diweddaf—nid oes un i ddyfod ar ei ol. Os misiwn ni hwn, misio'r last train am byth i fywyd tragywyddol fydd hi.—Parch. Joseph Thomas, Carno.

ESBONIAD GWERTH EI GOFIO.—" A llefarasant bob un wrth ei gymydog." Y felldith sydd yn dilyn lluaws crefyddwyr yr oes hon ydyw eu bod yn llefaru bob un am ei gymydog, ac nid wrth ei gymydog. Mwy o lefaru wrthynt, a llai am danynt, a wna les.

DYDD Y FARN.

Dydd i'r Anfeidrawl Fythawl fod—gynal
Gogoniant Ei hanfod,—
Heb ail na thebyg yn bod
Yn nyddiadur ei Dduwdod!
—Gwilym Alltwen.


ENAID.—Canwyll ydyw yr enaid nas gall rhuthriadau corwyntoedd marwolaeth ei rhoddi allan—nad oes digon o ddwfr yn yr Iorddonen i'w diffodd, na digon o dân yn uffern i'w llosgi. Sylwedd ydyw nad oes digon o bryf yn uffern i'w ddifa—nas gall meithder tragywyddoldeb ei falurio—tonau tanllyd digofaint ei dreulio—na thragywyddol bwys gogoniant ei lethu.—Parch. R. Davies, Tre Taliesin.

PETHAU I'W CADW.—Ein calon yn ddiesgeulus (Diar. iv. 23); gorchymynion Duw (1 Ioan iii. 24); y gwirionedd (Diar. xxiii. 23); cydwybod dda (I Tim. i. 19); y tafod oddiwrth ddrygioni (Salm xxxiv. 13); ein hunain yn ddifrycheulyd (Iago i. 27); y dydd Sabboth (Exod. xx. I).

PARCH. JOHN NEWTON.—Fel yr oedd Newton yn gwanychu yn ei synwyr, arferai ddyweyd fod dau beth nas gallasai byth eu hanghofio: I. Ei fod yn bechadur mawr. 2. Fod Crist yn Waredwr mawr.

Edrych i FYNY.—Aeth bachgen bach unwaith i'r môr gyda'i dad, i ddysgu bod yn forwr. Un diwrnod dywedodd ei dad wrtho, "Tyr'd, machgen i, ddoi di byth yn forwr heb ddysgu dringo: gâd i mi gael gweled a elli di ddringo i ben y mast." Yr oedd y bachgen yn llanc bach gwisgi, ac yn mhen mynud neu ddwy yr oedd wedi dringo yn uchel. Ond pan aeth i'r top a gweled y dyfnder mawr dano, dychrynodd, a gwaeddodd ar ei dad, "O, nhad, fe gwympaf! fe gwympaf! Yr wyf yn sicr o gwympo! beth wnaf fi?" "Edrych i fynyedrych i fyny, fy machgen," gwaeddai y tad; os edrychi i lawr, äi yn benysgafn; ond os cedwi dy lygad ar y faner sydd ar dop yr hwylbren, ti ddisgyni yn ddyogel." Ddarllenwyr ieuainc, os daw rhyw daro arnoch, edrychwch i fyny at Iesu Grist, a chwi ddeuwch allan o'ch holl beryglon yn ddyogel. Y plant sydd yn gweddio, edrych i fyny y maent.

GOFAL CRIST, A GOFAL EI WEISION.—Gor'uchafiaeth ar ei holl elynion ydyw gofal yr Iachawdwr; ffyddlondeb i'w orchymynion ydyw gofal ei weision.—Anon.

Nodiadau

[golygu]