Gemau Doethineb/Rhan 14
| ← Rhan 13 | Gemau Doethineb gan John Jones (Ioan Eifion) |
Rhan 15 → |
DUW YN EIN GWYLIO.—Yr oedd rhyw ŵr a arferai fyned i feusydd ei gymydogion yn y cynhauaf i ladrata ŷd. Un hwyr, efe a ddygodd ei fab gydag ef, bachgen wyth mlwydd oed. Wedi clustymwrando ac edrych i bob cŵr oddiamgylch, dywedai y tad, "Johnny, fachgen, dal y sach; yn awr yw yr amser; nid oes yma neb yn unlle i'n gweled." "Fy nhad," ebe Johnny yn ddystaw, "yr ydych wedi anghofio edrych i fyny yna." Y dyn, gan dybied fod y bachgen wedi gweled rhywun, a ollyngodd i lawr y sach yn ddychrynedig, gan ofyn, "Yn mha le y gweli di ef?" "Fy nhad," meddai yntau, "chwi a anghofiasoch edrych i fyny i weled a ydyw Duw yn ein gwylio." Aeth yr ateb i galon y tad, gadawodd yr ysgubau yn llonydd, dychwelodd adref, ac nid anturiodd ladrata mwyach.
IESU YN DDIGON.
Pwys fy enaid roddaf arno,
Disgwyl wrtho beunydd wnaf;
O'i gyflawnder anchwiliadwy,
Yn mhob gofwy digon gaf;—
Digon imi yn yr anial,
Fe gynhalia f'enaid gwan;
A phan groeswyf yr Iorddonen.
Iesu ddeil fy mhen i'r lan.
—William Williams, Criccieth
"Os byth y myni wraig," ebe uchelwr Rhufeinaidd wrth ei fab, myn fenyw a feddo ddigon o synwyr i fedru arolygu cael pryd o fwyd; yn meddu digon o chwaeth i fedru gwisgo am dani ei hun; digon o lendid fel ag i olchi ei gwyneb cyn boreufwyd; a digon o ddeall i atal ei thafod pan na byddo ganddi ddim i'w ddywedyd."
MARTIN LUTHER.—Yn ewyllys ddiweddaf, neu lythyr cymun, y diwygiwr enwog hwn, y mae y geiriau hynod a ganlyn:—"Arglwydd Dduw, diolchwyf i ti weled yn dda fy ngwneuthur yn dlawd ac anghenus ar y ddaear. Nid oes genyf na thŷ, na thir, nac arian, i'w gadael ar fy ol. Ti a roddaist i mi wraig a phlant, y rhai wyf yn awr yn eu cyflwyno yn ol i ti. Arglwydd, cadw, dysg, ac amddiffyn hwynt, megis y gwnaethost â minau."
DARLLEN Y BEIBL.—Swyddog milwraidd Ffrengig, tra yn ngharchar yn Reading yn amser rhyfel Ffrainc, wedi cael gafael ar Feibl a'i darllenodd; argyhoeddwyd ef o gamsyniad anffyddiaeth, a gwelodd ogoniant crefydd Crist, a chofleidiodd hi. Pan ddirmygid ef gan ei gymdeithion, dywedai, "Ni wnaethum ond yr hyn a wnaeth fy nghydymaith ysgol, Barnadot, yr hwn a ddaeth yn Lutheriad." "Ond daeth ef yn Lutheriad er mwyn coron," ebai ei gyfeillion." "Er mwyn coron yr wyf finau yn cofleidio gwirionedd y Beibl: gyda hyn o wahaniaeth, yr oedd ef yn ceisio coron Sweden, minau goron y nefoedd."
Rhyw ddyn newynllyd wedi cael ei euog—farnu am ladrad a holwyd gan un o'r gwyddfodolion crefyddol, ai nid oedd ei gydwybod wedi ei ddysgu i ymatal oddiwrth y weithred? "Och fi," ebai y troseddwr, "yr oedd fy nghylla yn llefain mor groch fel nas medrwn glywed llais cydwybod."
Pan oedd yr Arglwydd yn myned i dynu i lawr yr hen balas oedd Efe wedi gyfodi ar fynydd Sinai, fe ofalodd yn mlaenaf am gario'r llestri arian, sef y deg gorchymyn, i'r palas newydd ar fynydd Seion.—Parch. H. Rees.
Pan ddaw newyddion drwg yn rhy ddiweddar i fod o les i dy gymydog cadw nhw i ti dy hun.Pan mae dyn yn edrych ar bechod yn fach, y mae ar y ffordd i'r tir na wêl yr un pechod yn fawr.—Parch. J. Thomas, Carno.
Y DDWY DAITH.—Rhai a änt yn llawen i ddistryw; ereill dan wylo i ogoniant.—Mason.
Peth ofnadwy yw i ddyn gael ei gymeryd o'r byd gan angeu, cyn ei gymeryd yn gyntaf o'r byd gan ras.—Ralph Venning.
DYFFRYN MADOG.
Gweledig yw gwaelodion—y llynau,
Sy'n llenyrch o feillion:
E daenwyd preswyl dynion
Lle bu dw'r a llwybr y dòn.
—Alltud Eifion.
Yr hwn sydd yn gaeth i'r byd sydd â melldith Canaan arno—"Gwas gweision a fyddi di." Fe gasaodd y byd Dduw heb achos, ac yntau a garodd y byd heb achos.
Clywir pobl yn son yn fynych am ymsefydlu yn y byd: yr un peth fyddai meddwl bwrw angor i ganol Môr y Werydd, neu son am fod careg wedi ymsefydlu pan y byddo yn treiglo i lawr ar hyd llechwedd y bryn.
EUOGRWYDD AC OFN.—Ffrwythau pechod ydynt euogrwydd ac ofn; oblegid pan dderfydd pechu fe dderfydd ofni—pan sycho hen gorsydd pechod ni cheir gwel'd yr un Jacko' Lantern byth mwy yn ceisio dy arwain ar gyfeiliorn.—Y Parch. Dafydd Rowland, Bala.
Pan oedd brawd crefyddol yn cwyno unwaith wrth Mr. Jones o Edeyrn, ei fod yn ofni yn fawr mai efe oedd wedi ymaflyd mewn crefydd, ac nad oedd crefydd wedi ymaflyd ynddo ef—"Paid a thrafferthu dy hun," meddai Mr. Jones, " nid yw ddim gwahaniaeth os daethoch o hyd i'ch gilydd ryw ffordd."
Y DAFARN.
Drws agored i'r segurwyr,—nythle
Y noethlwm ddiotwyr,—
Lle i waghau llogell gwyr,—
Drud fwyniant i'r difenwyr.
—J. T. Jones, Pwllheli.
TARDDIAD PECHOD.—" Llawer o ddadleu sydd wedi bod," ebe Mr. Newton, " yn nghylch tarddiad pechod. Eglur yw fod pechod yn y byd, a phob dyn yn bechadur. Y mae mor eglur a hyny fod Duw, yn ei drugaredd, wedi trefnu ffordd i ddianc rhag pechod, yn ei arglwyddiaeth, ei halogrwydd, a'i gosb: fy ymchwiliad i a gaiff fod am adnabod y ffordd hon."
MAM CYSTENYN FAWR.—Nid aml y cawn hanes mor hynod yn nghofnodion yr hynafiaid, a'r un am Elen, mam Cystenyn. Ei thad oedd westywr o Gymro, yn cadw gwesty ar un o'r ffyrdd Rhufeinig yn Mhrydain, ac Elen weithiau, o'r hyn lleiaf, yn gwasanaethu yn lle march—was. Syrthiodd un o swyddogion y fyddin Rufeinig mewn cariad ati,priododd hi, a daeth merch y Cymro isel, yn uchel Ymherodres y byd, ac yn fam Cystenyn Fawr. Dr. Lindsay Alexander, yn "Hanes yr Hen Eglwys Frytanaidd."
Y FFORDD I ADNABOD DYN.—Yr hyn yw dyn yn ymarferol, hyny ydyw yn wirioneddol. Gall y dyn goreu wneyd o'i le yn ddamweiniol, a'r dyn gwaethaf wneyd gweithred dda weithiau: gall y ddafad syrthio i'r llaid, ond yr hwch a orwedd ynddo.
Y DDAFAD.
Un ddôf, dlôs, yw'r Ddafad lân,—a thra hoff,—
Hawdd ei thrin yn mhobman:
Mawr ei chynydd; merch anian,—
Yn dwyn gwledd o dan ei gwlân.
—Namorydd.
GWERTH ATHRYLITH.—Gofynodd rhai o wŷr y llys i'r ymherawdwr Sigismund, paham y dangosai y fath anrhydedd i bobl o radd isel, ar gyfrif eu gwybodaeth. Atebodd yr ymherawdwr, "Gallaf mewn un dydd greu lluoedd o farchogion, ond nis gallaf mewn blynyddoedd greu athrylith mewn un. Duw yn unig a all godi dynion doeth a dysgedig. Nis gall y fantais o ddysgeidiaeth, nac amgylchiadau ffafriol, greu talentau, lle ni hauodd Tad yr ysbrydoedd hadau athrylith yn eneidiau dynion."
GRYM CYDWYBOD.—Prynasai dilynwr i Pythagoras bâr o esgidiau, ac a addawodd dalu am danynt ar ddydd penodol. Pan ddaeth yr amser talu, galwodd i gyflawni ei addewid: cafodd wybod fod y gwerthwr wedi marw; teimlai yn llawen: "Caf yr esgidiau a'r arian," ebai efe. Eithr ni oddefai cydwybod hyn. Aeth yn ol i dŷ y crydd, a thaflodd yr arian ar y bwrdd, a dywedodd, "Os ydyw wedi marw i'r byd i gyd, y mae yn fyw i mi."