Gemau Doethineb/Rhan 15
| ← Rhan 14 | Gemau Doethineb gan John Jones (Ioan Eifion) |
Rhan 16 → |
CHWEDL AM Y PARCH. ROWLAND HILL.—Pan oedd y Parch. R. Hill unwaith yn ymdeithio wrtho ei hunan, ymosodwyd arno gan leidr penffordd, yr hwn, trwy gryndod ei lais a'i ddull, a ymddangosai yn ieuanc yn ei alwedigaeth. Ar ol rhoddi i'r dyn ei arian a'i oriawr, cywreinrwydd a barodd iddo ei holi am yr achosion a wnaeth iddo gymeryd y fath orchwyl peryglus. Cyfaddefodd y dyn yn rhwydd ei fod allan o waith, a bod ei wraig a'i blant ar drengu o newyn, ac i anobaith ei yru yn ysbeiliwr; ond mai dyma y weithred gyntaf o'r fath a gyflawnasai efe. Mr. Hill wedi ei daraw gan gywirdeb amlwg y dyn, ac yn teimlo am ei gyfyngder, a hysbysodd iddo ei enw, a pha le yr oedd yn byw, ac a barodd iddo alw gydag ef dranoeth. Y dyn a wnaeth felly, ac a gymerwyd yn ddioed i wasanaeth y duwinydd dyngarol hwn, lle yr arosodd hyd ei farwolaeth. Ac nid amlygodd Mr. Hill yr amgylchiad i neb, hyd oni adroddodd efe y cwbl yn y bregeth angladd a bregethodd efe ar farwolaeth ei was.
Dywedai Mrs. Harris wrth ei gŵr (cenhadwr yn Burma), "Gwyddoch nad oes arnaf ofn marw. Mi a ymdrechais tra bûm yn Burma i ddysgu y Careniaid pa fodd y dylai Cristion fyw: yn awr, yr wyf yn hyderu y gallaf ddangos iddynt sut y gall Cristion farw."
Dywedai Mrs. Harris wrth ei phlant, "Peidiwch a meddwl am danaf yma," gan bwyntio i'r ddaear; "ond meddyliwch am danaf gerbron gorseddfainc Duw a'r Oen." Wedi dewis ei dillad bedd, a'u rhoddi am dani, diangodd ei hysbryd gerbron yr orseddfainc. Cawsom ddifyrwch neillduol un diwrnod wrth glywed bachgen gwledig yn ateb nifer o fechgyn oedd o'i gwmpas. Gofynodd iddynt, "Pa beth sydd debycaf i haner cosyn?" Dechreuodd y bechgyn ddyfeisio yn uniongyrchol. Dywedai rhai mai y lleuad, ereill mai haner maen llifo; ond rhoddasant i fyny cyn hir. "Ond yr haner arall, y ffyliaid," ebe y gofynydd.
ERFYNIAD.
Trwy y niwl at Ior y nen—ni awn oll,
Yn awr, mewn gwir angen:
A'th dyner law, Dad Awen,
O! gwylia Di ein gwlad wen.
—Gutyn Arfon.
"Wele yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd." Pregethwch Grist beth bynag; cysylltwch bob peth â Christ, efe a wnaiff y tro i bechadur. Cedwch y drws yn ddigon llydan i bechaduriaid ddyfod ato ef; gwell ei cholli hi yr ochr hono na'r llall. Byddwch yn fwy am bethau nag am eiriau. Darllenais am henafiaid Groeg y byddai eu dywediadau yn fyr ac yn gynwysfawr: rhoddent fôr o fater mewn dyferyn o eiriau. Mae rhai yn dda am baentio y derw a'r ffawydd, fel yr ymddangosant yn hardd; ond gweithio y coed eu hunain yw y goreu. Goreu po leiaf o baent fyddo genym yn ein pregethau—sylwedd wnaiff y tro.—Wm. Charles.
Y DEDWYDD.
O fôr, o faenor, o fynydd,—agos
O eigion afonydd,
Y daw Duw, ar hyd y dydd,
A da i adail y Dedwydd.
—Sion Tudur.
HANESYN CHINEAIDD.—Yr oedd gan Kin-Tsong, brenin Tsi, geffyl a werthfawrogai ac a hoffai yn fawr; yr hwn a fu farw drwy ddiofalwch y gwas. Y brenin yn ei gynddaredd a ymaflodd mewn gwaewffon i'w drywanu yn y fan. Yn ffodus, yr oedd Iyan Tsi yn bresenol ar y pryd."Fy arglwydd," meddai, "fe fydd y dyn farw mewn anwybodaeth o echryslonrwydd ei drosedd." "Wel," ebe y brenin, "argyhoedda ef yn gyntaf." Cymerodd Iyan y waewffon, a chan droi at y troseddwr, dywedodd: "Fab anffodus! gad i mi ddangos i ti fawredd dy drosedd. Yn gyntaf, yr wyt wedi achosi marwolaeth ceffyl a ymddiriedwyd i'th ofal, am hyny rhaid i ti farw. Yn ail, achosaist i'w Fawrhydi fyned i'r fath dymher, nes yr oedd yn ei wylltineb am dy ladd. Y mae y trosedd yma yn fwy na'r cyntaf. Yn ddiweddaf, fe glyw pawb drwy'r deyrnas, yn nghyda'n cymydogion, fod ein harglwydd y brenin wedi rhoi cyd-greadur i farwolaeth o achos ei geffyl, trwy yr hyn y mae yn sicr o golli ei enw da. Dyna dy drosedd mwyaf. Mor erchyll yw canlyniadau dy ddiofalwch! A ydwyt yn awr yn eu canfod yn eglur?" "Gad iddo fyw," ebe y brenin, " yr wyf yn maddeu iddo." Bu y dull doeth hwn yn foddion i ateb dyben cosb trwy argraphu drwg y weithred ar feddwl ereill, a sicrhau na wnelai y gwas mo'r drwg ond hyny, a thueddu y brenin i faddeu.
DIM.
Dim! o Ddim, yn ddiamau,—lluniwyd
Holl anian a'i throellau;
Dim ydyw dyn, briddyn brau,
Ow! fenaid, Dim wyf finau.
—Edyrn o Fon.
"GWERTHFAWR WAED CRIST."—Yr oedd gwerth y gwaed yn tarddu oddiwrth werth y bywyd, a gwerth y bywyd yn tarddu oddiwrth fawredd y Person. Pan y mae dyn yn cael ei ferthyru, nid yw yr enaid yn marw, ac er hyny y mae yr enaid yn trosglwyddo gwerth i fywyd y corph, ac yn rhoddi rhyw bwysfawrogrwydd anghydmarol fwy i angeu dyn nag i angeu yr anifail. Ond er mor fawr y gwahaniaeth rhwng dyn ac anifail, nid yw ond gwahaniaeth graddau. Creadur yw dyn yr un modd a'r anifail. Ond y mae cymaint o wahaniaeth rhwng dyn a Duw ag sydd rhwng creadur a Chreawdwr. Ac eto, yn mherson yr Arglwydd Iesu Grist, y mae y Creawdwr wedi dyfod i undeb agosach â'r ddynoliaeth nag yw yr undeb rhwng ein heneidiau ni a'n cyrph. Er, feallai, nad yw yn addas dyweyd fod Duw wedi marw, eto yr oedd yr Hwn a fu farw yn Dduw: yr oedd Person anfeidrol y Mab yn yr holl ufudd—dod; yr oedd y Person anfeidrol yn y dyoddefiadau; yr oedd y Person anfeidrol yn yr angeu; yn rhoddi gwerth a haeddiant anfeidrol yn y cwbl i fod yn "Iawn dros ein pechodau ni; ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr dros bechodau yr holl fyd."—Y Parch. Lewis Edwards, D.D.
I JOHN JONES, MAB W. A MARTHA JONES, BRYN MEURIG, TALYSARN.
O aelwyd hoff, a gofal tad,—a mam
Yn hedd iddi'n wastad,
Mab gwylaidd ym mhob galwad
Dywysai Duw i'w ystâd.
—Hywel Cefni, Talysarn,
CYSUR AR WELY ANGEU.—" Byddaf farw yn ddedwydd," ebe gŵr ar fin marw wrth ei wraig, yr hon oedd yn wylo wrth ochr ei wely yn ddefosiynol, "os addawch beidio priodi eich cefnder, Charles." "O, gwnewch eich meddwl yn dawel," ebe hithau yn gysurlawn, "ni ddigwydd hyny, canys yr wyf wedi addaw priodi ei frawd."
NIWL LLUNDAIN.
Dyma fŵg o dom y fall,—yn gnwd tew,
Mae'n gwneyd haul yn gibddall,—
Pob un yn ddwl—pawb yn ddall,
Teurwn dyma Aipht arall !
—Hwfa Mon.
Priodolir a ganlyn i'r enwog Rowland Hill. Un Sabboth tra yr oedd yn pregethu trodd dau ddyeithr i mewn i'w gapel, cerddasant ar hyd y rhodfa, a chan nad oedd lle iddynt eistedd, safasant a gwrandawsant ar y bregeth. Yn y man troisant i fyned allan; ond cyn iddynt gyraedd y drws dywedodd y pregethwr," Yr wyf yn myned i ddweyd ystori." Ataliodd hyn y dyeithriaid, a throisant drachefn i wrandaw. "Yr oedd dyn unwaith," meddai y llefarwr, "a arferai ddweyd pe bai ganddo holl fwyelli y byd, a'r rhai hyny wedi eu gwneuthur yn un fwyall fawr, a holl goed y byd wedi eu gwneuthur yn un pren mawr; a phe medrai lywio y fwyall hono a thori y pren i lawr, efe a'i gwnai yn fflangell fawr, ac a fflangellai yr annuwiolion hyny sydd yn troi eu cefnau ar yr Efengyl, ond yn aros i wrando ar hen stori."
Mae tunell o ofid yn ysgafnach nag wns o warth.