Neidio i'r cynnwys

Gemau Doethineb/Rhan 16

Oddi ar Wicidestun
Rhan 15 Gemau Doethineb

gan John Jones (Ioan Eifion)

Rhan 17

Sut bynag y daeth pechod i'r galon, ein pwynt pwysig ni yw defnyddio ffordd Duw i'w yru allan. Nid colli amser i holi sut yr aeth y gwartheg i'r ŷd, ond heb oedi eu troi allan.

Nis gall dim roddi heddwch i'r hwn sydd yn mynu bod mewn rhyfel â'i gydwybod.

Y mae Cristionogion weithiau yn ddigon drwg, ond y mae y byd yn llawer gwaeth.

Beth yw helaethrwydd Iawn Mab Duw? Y mae mor helaeth fel na bydd neb yn golledig am fod prinder ynddo; y mae mor helaeth fel pe credai pawb yn Nghrist, y byddai pawb yn gadwedig. Y mae digon o le yn yr Iawn, ac etholedigaeth gras, i gadw pawb a gredant.—C. Evans.

GWLEDD Y METHDALWR.—Y mae Dr. Franklin yn adrodd yr hanesyn canlynol am Mr. Denham, masnachwr Americanaidd, gyda'r hwn yr aeth ar fordaith i Loegr. "Yr oedd wedi bod gynt," meddai, "mewn masnach yn Bristol; methodd, ac yr oedd yn ddyledwr i lawer o bobl; cyfrandalodd (compound), ac aeth i America; yno, trwy ddilyn ei orchwyl yn ddiwyd fel masnachwr, casglodd gyfoeth mawr mewn ychydig o flynyddoedd. Ar ol dychwelyd i Loegr yn y llong gyda mi, gwahoddwyd ei hen ofynwyr i gydwledda âg ef, yn mha le y diolchodd iddynt am eu tiriondeb yn cymeryd swm llai nag oedd yn ddyledus; a phan nad oeddynt yn disgwyl dim ond y wledd, cafodd pob dyn o dan ei blât, ar y newidiad cyntaf, order ar y banc am yr holl swm oedd yn aros heb ei dalu, yn nghyda llôg." Dyma engraifft nodedig o wir onestrwydd, a theilwng o efelychiad gan bob un a deflir i amgylchiad cyffelyb.

GWAED AC ATHRYLITH.—Pan glywom son am ŵr o athrylith, mawr fydd yr awydd ynom am wybod ei hanes, a'r anhawsderau oedd ar ei ffordd i gyraedd enwogrwydd; canys yn mysg dosbarth o ddynion y mae mwyaf o atalfeydd ar ei lwybrau y mae mwyaf o athrylith yn gyffredin. Nid llawer o wŷr y "gwaed uchel" sydd yn feibion athrylith. Y mae eithriadau anrhydeddus i hyn, y mae'n wir, ond eithriadau ydynt. Er profi y gosodiad hwn, ni raid i ni ond edrych i ddau Dŷ Seneddol Prydain Fawr; canys yn y lleoedd hyny, mae'n debyg, y mae mwyaf o gyfleustra i foneddigion, neu deulu y "gwaed," ymgyfarfod o un man yn y deyrnas ond yn mha le y mae yr athrylith? A geir yn mhlith yr un nifer o gyfreithwyr, o ddadleuwyr, o feddygon, neu o bregethwyr, cyn lleied o ddynion o wir athrylith ag sydd yno? Neu, a oes yn mysg ein beirdd a'n peroriaethwyr gynifer o ddynion mor ddiamcan i gyflawni y gwaith y cymerant arnynt ei wneuthur, ag a geir yn Senedd Prydain Fawr? Prin y mae yno un yn mhob haner cant a all wneyd fawr fwy o orchest na thraddodi rhyw araeth ar ol ciniaw: y mae ymaflyd mewn pwnc y bydd eisieu athrylith i'w drafod yn hollol o'u cyraedd. Os mynir cael rhywbeth a sylwedd ynddo, rhaid myned i chwilio am feibion athrylith, y rhai a geir agos bob amser wedi hanu o blith y canolradd a'r iselradd. Nid oedd gan Syr R. Peel fawr o "waed" i ymffrostio ynddo; a'r un peth ellir ei fynegu am Joseph Hume, John Bright, G. Thompson, W. J. Fox, a Richard Cobden; nid ar eu "gwaed," ond ar eu hathrylith y mae y gwŷr hyn yn pwyso. Beth oedd gan (Arglwyddi) Eldon, Lyndhurst, Denman, Campbell, ac ereill, i ymddiried ynddo ond eu hathrylith? Dichon fod doethineb Rhagluniaeth yn dyfod i'r golwg yn hyn; sef ei bod yn rhoddi athrylith i ddynion sydd heb eu "geni a llwy arian yn eu geneuau," fel y dywedir. Efallai pe cawsai pawb eu geni yn gyfoethogion, nad aethai dim cymaint ag sydd o waith meddwl yn mlaen mwy nag o waith corph.—Caledfryn.

CYFRAITH AC NID EFENGYL.—Periglor yn Nghaint, yr hwn oedd yn gadael ei ddyledswydd yn yr eglwys i gael ei chyflawni gan ei gurad, ond yn dra selog yn ei swydd fel ustus heddwch, a ddywedai yn ffyrnig wrth grwydryn a ddygid o'i flaen, "Mi ddysgaf fi y gyfraith i ti, adyn drwg; cei weled hyny." "Yn wir, syr," ebai y dyn, "byddai yn llawer mwy cymwys i chwi ddysgu yr Efengyl i mi."

Llawer o ddynion enwog, y rhai nad ymddengys eu henwau mewn hanesyddiaeth, a gawsant eu rhan o ogoniant daearol; ond yn awr gorweddant yn y llwch, a'r holl ogoniant â pha un yr addurnwyd hwynt a ddiflanodd ymaith. Ereill, y rhai y mae eu henwau wedi eu cofrestru, a gogoniant pa rai a fu unwaith yn disgleirio yn ngolwg dynion, a aethant ymaith fel goruchion disglaer ar noson dywyll. Ond ni all hyn ddigwydd i breswylyddion y byd nefol; canys y mae tragywyddoldeb yn argraphedig ar bob coron gogoniant. Pob anrhydedd a gyfranwyd, heb wir deilyngdod nis gallant barhau; a phan addurner y drygionus â hwynt, y maent yn diflanu yn ebrwydd, a'r rhai diles a deflir i ddyfnderoedd o warth haeddianol. Ond effaith gwir ragoroldeb yw gogoniant yn y nefoedd, ac o ganlyniad rhaid iddo fodoli a blodeuo yn ddiderfyn.—Edmondson.

SARAH A'I MAM.—Un diwrnod, yn St. Louis, yr oedd amryw ferched wedi dyfod ar ymweliad am y prydnawn i dŷ cyfaill iddynt, pan y cymerodd yr amgylchiad a'r ymddiddan canlynol le:—Yr oedd plentyn pump oed i un o'r boneddigesau wedi bod yn euog o ymddygiad anfoesgar ac anweddaidd—yr hyn sydd yn dra annymunol mewn plant bach ar bob adeg, ond yn fwy felly yn nhai dyeithriaid. Ceryddodd ei mam hi mewn ysbryd caredig, gan ddyweyd, "Sarah, rhaid i chwi beidio gwneyd hyn yna." Yn fuan, anghofiodd y plentyn ei cherydd, ac aeth wedi hyny mor drystiog ag erioed. Dywedai y fam yn llym drachefn, "Sarah, os bydd i chwi wneyd hyn yna eto, mi a'ch cosbaf." Ond cyn hir, gwnaeth Sarah "hyny drachefn." Pan oedd y cwmpeini ar ymadael bawb i'w fan, aeth y fam am fynud i dŷ cymydog, gan fwriadu dyfod yn ol drachefn i geisio y plentyn. Darfu i'r meddwl am fyned gartref adgofio i Sarah y gosbedigaeth y dywedasai ei mam yr oedd i'w disgwyl, a throdd hyny ei hanfoesgarwch a'i hanfeddylgarwch yn dristwch a galar. Wedi i foneddiges ieuanc oedd yn bresenol ddeall yr achos, mewn trefn i'w thawelu, dywedai wrthi: "Na ofelwch, gofynaf i'ch mam beidio eich chwipio." "O!" ebe Sarah, "ni wna hyny un lles, oherwydd nid yw fy mam yn arfer dweyd anwiredd." Y mae yn werth pob peth wrth addysgu plentyn, ei ddwyn i deimlo na byddai ei fam byth yn dywedyd anwiredd.


Y FELLTEN A'R DARAN.

Y fellten wyllt, a'r daran,—y peiriant
Sy'n puro'r nef lydan;
Yw uchenaid groch anian,
Neu lef Duw trwy lif o dân.
Emrys.


MERCHED EWROP. Y mae y gwragedd, medd hen ysgrifenydd, yn garcharorion yn Itali, yn gaethforwynion yn Spaen, yn feistresi yn Germany, yn foneddigesau yn Ffrainc, ac yn frenhinesau yn Lloegr.

FY AWR OLAF.

Ar Iesu gwiwlwys trwy ras y galwaf,
Oddiwrth y tonau yn ddiwarth tynaf,
I nef y nefoedd mewn nwyf y nofiaf,
O wely angeu yn fy awr olaf;
A bythol swynol seiniaf—ei foliant,
A'i wir ogoniant yn bur a ganaf.
—Ioan Eifion.


DECHREUAD PECHOD.—Dywed wrthyf, medd un, am ddechreuad pechod, a chwymp angylion. Dywed wrthyf, medd un arall, a allasai Duw waredu dynolryw heb aberth? Ein Harglwydd a geryddodd ysbryd gwag—ymofyngar Petr (Ioan xxi. 21, 23), pan y'i tueddodd i ofyn cwestiynau yn hytrach na chadw at wirioneddau eglur, a dilyn ei ddyledswydd. Y mae hyn yn gyffelyb i ddyn a'i dŷ ar dân yn dywedyd, Ni ddiffoddaf mohono, nes gwybod pa fodd y dechreuodd ef.—Cecil.

ER COF AM MR. DAVID JONES, LLANBERIS,
TAD CERIDWEN PERIS, A PHERTHYNAS AGOS I AMRYW
ENWOGION EREILL.

Addfwyn sant oedd efe'n siwr,—yn onest,
Ac yn uniawn gredwr:
Cymeriad plaen, di-staen, di-stwr,
Oedd eon fawr weddïwr.
Geraint.


Nodiadau

[golygu]