Gemau Doethineb/Rhan 17
| ← Rhan 16 | Gemau Doethineb gan John Jones (Ioan Eifion) |
Rhan 18 → |
Un tro yr oedd Siencyn Penhydd mewn ymddiddanion â'r blaenoriaid. Yr oedd yr hynaf a'r blaenaf ohonynt yn achwyn ar y sychder a'r syrthni gyda hi, ac yn ymddangos fel pe buasai wedi colli tir yn ei ysbryd gyda chrefydd, oddiwrth y peth y gwelwyd ef. Torodd Siencyn allan yn danbaid, gan ddywedyd, "Jack, Jack, hoga dy gryman: hoga dy gryman, Jack. Ti yw y medelwr blaenaf yn y fan hyn, er's llawer blwyddyn bellach; ac yn wir, chwareu teg, medelwr go dda hefyd. Ond yn awr, y mae'r peth yn wahanol; y mae bwlch yn dy gryman. Eto, mi dy gynghoraf di i fyned a dy gryman i'r maen y bûm i wrtho y boreu heddyw: fe ddaw hwnw ag ef i awch eto." Yna, gyda llais dyrchafedig, gwaeddodd, "Jack, hoga dy gryman, onide fe ddaw Arglwydd y fedel i dy droi oddiar y grwn, am dy fod ar y ffordd i fyned yn y blaen." Dywedir fod yn anmhosibl darlunio effeithiau y dywediad uchod ar y brawd ei hun, ac ar y cyfarfod yn gyffredinol. Yr ydoedd fel pe gwefrasai yr Hollalluog bob cnawd.
I'R HAUL.
Golau eurawg leuerydd,—ëwn, tanbaid,
Tywynboeth olwynydd;
Planed losgawl, ysplenydd,
Pair o dân yn peri dydd.
—Eryron Gwyllt Walia.
Gorsedd GRAS.—Os ydwyt yn wir Gristion, y mae gorseddfainc y gras yn eiddo i ti. Dy Dad sydd yn eistedd arni. Dy Waredwr a'i taenellodd â'i waed ei hun. Yr Ysbryd Glân sydd yn dy ddirgel—dynu i ben—linio o'i blaen; a phan yr wyt yno, yr addewid i ti ydyw, "Lleda dy safn, a mi a'i llanwaf." John Newton. AWGRYMIADAU O BARTHED LLWYDDIANT.Prif ddirgelwch llwyddiant yw gwaith caled. Nis gall dim ond bratiau a thlodi ddyfod o ddiogi. Saim penelin yw yr unig ystwff i wneyd aur. Dim chwysu—dim ffynu. Rhaid i'r hwn fyddo am gael wyau y frân ddringo y goeden. Rhaid i bob dyn wneyd ei ffortiwn ei hunan y dyddiau presenol. Llewis crys torchedig a sicrhant y dillad goreu; a bydd yr hwn nad oes arno gywilydd o'r ffedog yn fuan yn alluog i wneyd hebddi. "Diwydrwydd yw mam lwc dda." Y mae dwy siop yn debyg i ddwy ystôl y mae dyn yn syrthio i'r llawr rhyngddynt. Na fydd uwchlaw dy fusnes. Y mae yr hwn a godo ei drwyn ar ei waith yn ymrafaelio a'i fara a'i ymenyn. Gôf gwael yw yr hwn sydd yn ofni ei wreichion ei hunan. Nwyddau da, pwysau llawn, a phris rhesymol sydd yn dwyn cwsmeriaid i'r siop, ond nid yw dynion yn canmol y siop lle y twyllir hwynt. Nid yw twyllwyr byth yn llwyddo; neu os gwnant, rhaid iddynt wneyd hyny yn Llundain, lle y daliant ddigon o gwsmeriaid newydd i fyw arnynt. Gall y saethwr hir—fwaog daro'r marc weithiau, ond ergyd dêg yw yr oreu. Y mae pwrs twyllwr yn llawn tyllau. Paid byth ymdroi mewn afradlonrwydd, oddigerth dy fod am wneyd ffordd fer i'r tlotty.— Spurgeon.
IECHYD.—Y gyfrinach pa fodd i gael iechyd da, yn gwneuthur y pedwar peth canlynol:—1. Codi yn foreu. 2. Ymarferyd â gweithio neu gerdded allan yn yr awyr agored. 3. Cadw y corph yn lân. 4. Cyfodi oddiwrth y bwrdd heb orlwytho y cylla. Fe all dyn, mae yn wir, oddiar ryw achosion, fod yn afiach er y pethau hyn; ond gyda hwynt, bydd ei afiechyd yn llai, ac hebddynt, nis gall feddu iechyd da o gwbl.—Hen Lyfr.
ROWLAND HILL A'R ANTINOMIAD.—Galwodd dyn o ddaliadau Antinomaidd unwaith ar y Parch. Rowland Hill, i'w hyfforddi yn fanylach, meddai efe, yn y wir Efengyl, gan fod ei bregethau yn rhy ddeddfol. "A ydych chwi," gofynai Mr. Hill, "yn dal fod y Deg Gorchymyn yn rheol buchedd i Gristionogion?" "O, nac ydwyf," oedd yr ateb; "wedi i ni farw i'r ddeddf, nid oes a fynom â hi." Mr. Hill yn ddioed a ganodd y gloch, ac wedi i'r gwas ymddangos, efe a ddywedodd wrtho, "John, dangoswch y drws i'r dyn yma, a chedwch eich llygaid arno nes y byddo wedi myned allan o gyraedd pob dilledyn neu unrhyw beth arall sydd yn y neuadd."
GOHEBIAETH GYFEILLGAR.
Gorweddais, glynais yn glaf,—a nychais
Dan ochain drwy'r gauaf;
'Rwy'n gaeth—mae hiraeth am haf,
Wedi oerni du arnaf.
—Dafydd Ddu Eryri.
MUR MAWR CHINA.—Gan nad yw mesur a maintioli yr adeilad rhyfeddol hwn yn adnabyddus i'r cyffredin, feallai y bydd yr ychydig hysbysiadau canlynol yn dderbyniol gan y rhai na wyddant ragor nag am ei fodolaeth. Meddylir i'r Mur nodedig hwn gael ei adeiladu oddeutu 213 o flynyddoedd cyn geni Crist. Y mae yn 714 0 filldiroedd Almaenaidd o hyd, yn 14eg o droedfeddi o led, ac yn 26ain o uchder. Gan hyny, pe buasai yr un defnyddiau yn cael eu gwneyd yn fur o un droedfedd o drwch, a 23ain o uchder, cyrhaeddasai oddiamgylch y byd ddwy waith! Y DOSBARTHIADAU BEIBLAIDD.—Os mynem lwyddo yn yr amserau hyn, rhaid i ni fod yn ofalus am gario yn mlaen ddosbarthiadau Beiblaidd. Dylem ddilyn yr esiampl a roes ein Harglwydd i ni yn hyn. Beth yn amgen na dosbarth Beiblaidd oedd ganddo Ef pan yn esbonio i'r dysgyblion yn yr Ysgrythyrau y pethau am dano ei hun? Mae cyfundrefn y dosbarthiadau Beiblau yn ein heglwysi yn wir angenrheidiol; a dylid anog i hynyma ar gyfrif yr anhawsder i athrawon yr Ysgol Sabbothol gael bechgyn a genethod wedi cyraedd oedran penodol i ddyfod i'w dosbarthiadau (yn Lloegr). Dylent fod yn ddolen gysylltiol rhwng yr Ysgol Sabbothol a'r eglwys. Càn gynted ag y byddo bachgen yn addas i fyned allan o ddosbarth y bechgyn, dylai fod dosbarth gwŷr ieuainc yn barod i'w dderbyn ar unwaith; ac wedi iddo fyned yn hynach, dylai fod rhyw sefydliad yn barod i berffeithio ei addysg.—Spurgeon.
I'R CYMRO BACH.
Y da wladwr diledach—i'w genedl
Mae'n gweini'n ddirwgnach:
Ni feddwn un ufuddach,—
Gem yw i'r byd, Gymro bach.
—Cynddelw.
Y PRIDD YN DARFOD.—Fel yr oedd mam a'i dwy eneth bach yn edrych ar ddyn neillduol o fychan yn ngorsaf Afon Wen, "Mam," meddai yr eneth hynaf, yr hon oedd rhwng pedair a phump oed, "Sut y mae'r dyn yna mor fychan?" "O," atebai'r fam, "fel yna y gwnaeth Iesu Grist o." Yr eneth fach bert a ddywedai yn sobr, "Y pridd ddarf'odd, debyg, mami." Cofio yr oedd y fechan ei bod wedi clywed y gwnaed dyn o bridd y ddaear.—Ll.
EDIFEIRWCH.—Fulgentius, wedi gofyn paham y mae cyffes Dafydd yn cael ei hystyried yn brawf o wir edifeirwch, mwy na'r eiddo Saul, a ddywedai, fod y naill yn cashau pechod, tra nad oedd y llall ond yn ofni cosbedigaeth ei bechod yn y byd hwn. Ofn yn unig ydoedd cyffes Saul, ond ofn a chariad hefyd ydoedd cyffes Dafydd. Hyn oedd ffynonell dagrau Petr; hyn oedd bywyd a hyawdledd Dafydd yn yr emynau tra rhagorol hyny a elwir yn Salmau edifeiriol, lle mae geiriau galar am bechod yn cyffroi ymysgaroedd Duw i'w faddeu, a chysuron gras yn y profiad o faddeuant yn cario yr hwn ydoedd yn galaru megis i'r nefoedd, yn orlawn o lawenydd a hyfrydwch. Mae edifeirwch (os goddefir i ni siarad felly) yn atal Duw yn ei ffordd, pan y byddo wedi ei ddigio trwy gamwedd, ac yn myned allan i ddial arnynt â'i gosbedigaethau cyfiawnaf; ïe, y mae megis yn rhwymo dwylaw y dinystrydd, ac ni oddef iddo gael ei ewyllys. Ni fedd llygad tosturiol Duw ddim gallu i wrthsefyll edifeirwch, pa bryd bynag y delo i'w wydd ef.—Hooker.
"Dychweliad melus," meddai y gwr, pan y taflodd y wraig y bowl siwgr ato.
GEIRIAU A MEDDYLIAU.—Nid ydych yn gwneyd dim lles wrth newid geiriadaeth crefydd. Os newidiwch y geiriau, chwi a newidiwch y meddyliau. Nid oes cyfieithu arnynt. Nid oes eiriau cwbl gyfystyr i'w cael yn ngeirlyfr yr Ysbryd Glân. Po fwyaf a astudiwyf ar iaith, dyfnaf yw fy argyhoeddiad fod meddyliau yn anwahanol gysylltiedig wrth eiriau, pob meddwl wrth ei air ei hun. Os peidiwch ag arfer y gair, chwi a gollwch y meddwl.—Dr. Duncan—"Colloquia Peripatetica."