Gemau Doethineb/Rhan 18
| ← Rhan 17 | Gemau Doethineb gan John Jones (Ioan Eifion) |
Rhan 19 → |
GWELL I DDUW DORI I NI.—Ychydig iawn o ddynion sydd yn gwybod y ffordd i drin cyfoeth heb fyned yn lythion ac yn feilchion, na byw mewn tlodi heb gablu. Ymddiried yn Nuw am ddigon o fara, dogn dydd yn ei ddydd, yw y bywyd mwyaf cysurus ar y ddaear; myned i'r nefoedd rhwng y ddau. Mi gefais y dorth unwaith gan fy Nhad nefol, a dywedodd wrthyf, "Dyna—tor drosot dy hun;" ond wrth dori, mi a dorais fy nwylaw, collais y dorth, a syrthiais i ofidiau mawrion. Gwelir peth felly weithiau: yr ydym yn meddwl y gallem drefnu pethau yn hapus ein hunain; ond yn y man dacw bethau yn myned yn ddiflas rhwng ein dwylaw. Arglwydd, tòr di dafell, ddydd yn ei ddydd, bellach hyd fy marw. Carve thou for me, O Lord! "Na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth; portha fi â'm digonedd o fara."—Y diweddar Barch. Morgan Howells.
CRIST Y MEDDYG PERFFAITH.
Pob cur a dolur, drwy'r daith,—wellheir
Yn llaw'r Meddyg perffaith:
Gwaed y Groes a gŵyd y graith,
Na welir mo'ni eilwaith.
—Ioan Madog.
Y PREGETHWR INDIAIDD.—Pan yr oedd y Parch. Mr. Kirkland yn genhadwr at yr Oneidas, yr oedd efe un prydnawn Sabboth yn ei deimlo ei hun yn analluog i bregethu gan anhwyldeb; ac efe a ddywedodd wrth un o'r Indiaid dychweledig, a elwid Peter Dda, fod yn rhaid iddo ef anerch y gynulleidfa. Yr oedd Peter yn dra anfoddlawn a hwyrfrydig i fyned at y gwaith; ond o'r diwedd boddlonodd mewn ufudd—dod i Mr. Kirkland, ac wedi peth rhagymadrodd, dechreuodd gyfeirio sylw ei wrandawyr at Iesu Grist. "Pa beth, fy mrodyr," meddai, "yw eich golygiadau chwi am yr Iesu? Chwi a atebwch, hwyrach, ei fod yn un hynod am ei garedigrwydd, a bod hyny i'w weled yn y gwyrthiau a wnaeth. Yr oedd, yn y cwbl, meddwch, yn dirion iawn. Fe wnaeth i fara borthi miloedd oedd ar lewygu. Fe gyfododd o farw i fyw fab i wraig weddw, i'r hon yr oedd ei lafur yn angenrheidiol er ei chynal mewn henaint. Felly, fy mrodyr: ac ai dyna eich holl syniadau am y Gwaredwr? A ydych chwi yn gweled ynddo ddim mwy na dyn rhyfedd am ei garedigrwydd? Os felly, mae genych feddwl rhy fach am dano. Gwrandewch: pan ddaeth Iesu i'r byd yma, efe a daflodd ei wrthban o'i gwmpas, ond yr oedd y Duw oddifewn—yr oedd y Duw oddifewn!"
YR YRFA YSBRYDOL.—Yr wyf yn eich cynghori i beidio rhoi gorphwysdra i'ch enaid, na hûn i'ch amrantau, hyd nes byddoch wedi cael hyd i ryw beth a wyneba, ac a ddeil y dymhestl. Ni ddaw pawb adref erbyn nos o'r sawl a dybiant eu bod wedi troi eu hwynebau at y nefoedd; a llawer a redant yn gyflym, o'r rhai a fethant y gamp. Miloedd a dwyllir ac a gywilyddir am eu gobaith. Mi a welaf fod proffes gyffredinol, ac enw yn mysg dynion, yn awr, yn cael ei ystyried yn ddigonol i gludo proffeswyr i'r nefoedd.
GORPHENWYD.
Gorphenwyd cafwyd y cyfiawn—Aberth,
Gobaith i'r anghyfiawn;
Tros enaid du rhoes uniawn,
Drwy ei loes anfeidrol Iawn.
—Cennin
Tomos: Wel, Danni, sut wyt yn hoffi dy athrawes newydd?" Dan: "Fawr o beth, Tom; yr oedd yn gofyn i mi ddoe pwy ddarganfyddodd America? Hi ddylasai wybod hyny, 'does bosib'."
Dic: "Pa ddiwrnod o'r wythnos wyt ti yn feddwl yw yr un mwyaf lwcus i gael ei eni arno?" Dan: Yn wir, Dic, nid wyf yn gwybod, threiais i erioed ddim ond un."
AR GERDYN COF GWRAIG IEUANC.
Y wraig ieuanc, er gwywo—o'i heinioes,
Côf anwyl fydd eto;
Nefol, dawel flodeuo
Bydd ei rhin uwch bedd a'i rô.
—Cyndeyrn.
MWY NAG UN WEINIDOGAETH.—Pan yr oedd yr Arglwydd John Russell yn Ysgotland, darfu i wraig o'r Ucheldiroedd deithio pellder dirfawr dros y mynyddoedd i ddyfod i'r fan lle yr oedd ei Arglwyddiaeth yn aros. Yr oedd hi wedi clywed mai yr Arglwydd Johny oedd Prif "Weinidog " holl deyrnas Lloegr, ac, fel y cyfryw, yr oedd y chwaer hon yn disgwyl ei glywed "yn pregethu pregeth orddwfn;" a mawr oedd ei siomedigaeth pan y deallodd nad oedd y "Gweinidog" penaf yn yr holl wlad yn arfer pregethu o gwbl!
"DYDD MAWR EI DDIGTER EF."
Heuliau dywyllir fel deillion!—Pwy a saif?
Cwymp sêr yn adfeilion!
Clyw'r beddau'r clir rybuddion,—
Yn mhair y dydd fflamia'r dòn!
—Eifion Wyn.
AMGYLCHIADAU.—Pe yr ysgrifenid llythyr at y gair dylanwadol hwnw, amgylchiadau, gan derfynu, "Ydwyf, syr, eich gostyngedig a thra ufudd wasanaethydd," gallai y rhan fwyaf o bobl roddi eu henwau wrtho, heb wyro dim oddiwrth y gwirionedd manylaf.—Horace Smith.
NIWL.
Rhyw amdo yn oer ymdaith—ydyw'r Niwl,
Dry y nos yn hirfaith;
A daw a'i olwg dulaith,—
Mwgwd tew yn mygu taith.
—John Griffith (Maesyn), Gwàr y Rhos.
GWASANAETHU TRWY DDYODDEF.—Dychwelwyd yr hen Betty at yr Arglwydd yn ddiweddar ar ei bywyd; ac er ei bod yn dlawd iawn, yr oedd hi yn hynod weithgar. Ymwelai â'r cleifion; allan o'i thlodi, hi a roddai i'r rhai oedd yn dlotach na hithau; casglai ychydig arian oddiwrth ereill at yr achos da pan na byddai ganddi ddim ei hunan i'w roddi; a dywedodd wrth lawer am gariad y Gwaredwr. O'r diwedd, aeth i ddyoddef llawer oddiwrth anwyd trwm a'r gewynwst (rheumatism); a bu raid iddi aros yn ei gwely am fisoedd, yn hoenus a digymhorth. Aeth gweinidog da i ymweled â hi, yr hwn a ofynodd iddi ai nid ydoedd hi, oedd mor ddiwyd, yn teimlo yn chwith wrth gael ei rhwymo gan gystudd. "Nac ydwyf ddim, syr," oedd ei hateb. "Pan oeddwn yn iach, yr oeddwn yn clywed yr Arglwydd yn dyweyd wrthyf, "Betty, ewch yma; Betty, ewch acw. Betty, gwnewch hyn; Betty, gwnewch y llall;" ac mi geisiwn inau wneyd hyny oreu y gallwn. Ond yn awr yr wyf yn ei glywed yn dyweyd wrthyf, "Betty, gorwedd yna a phesycha."—Dr. James Hamilton.
GWEDDIAU WEDI EU GWRANDAW. Yr oedd dyn du yn rhodio trwy heolydd Llundain, ac yn ochr un heol fe welai saer maen yn gweithio ar gareg i'w dodi yn mur palas gorwych oedd yn cael ei adeiladu gerllaw. Gan gyfarch y saer maen, efe a ddywedodd wrtho am adeilad gwychach a mwy parhaus na hwnw yr oedd ef yn ei adeiladu. "Pa le y mae hwnw?" meddai y saer maen. "Yn y nefoedd," meddai y dyn du; mae Duw wedi parotoi trigfanau yno i'r rhai a'i carant ef, nas gall dyn ddychymygu am ddim tebyg iddynt o ran harddwch a gogoniant." "Pa le y dysgasoch chwi bethau fel hyn?" ebai y saer maen. "Yn ngorllewin Affrica," oedd yr ateb, "gan genhadwr a anfonwyd allan gan Gymdeithas Genhadol Llundain; ac yr wyf wedi dyfod i Loegr i dderbyn dysg, ac yna i ddychwelyd i bregethu yr Efengyl i bobl fy ngwlad." "Rhyfedd iawn!" meddai y saer maen; "yr wyf wedi bod yn gweddio am lwyddiant yr Efengyl yn mysg y paganiaid am yr ugain mlynedd diweddaf, ac yn rhoi ceiniog yn yr wythnos tuagat hyny. Yn awr, diolch i Dduw, dyma fi yn cael siarad â phagan dychweledig. Wele atebiad hyfryd i'm gweddiau."
DATGUDDIAD AC YMCHWILIAD.—Lle nid oes datguddiad ni ddylai fod ymchwiliad. Sail pob gwir ymchwiliad yw gwir ddatguddiad. Sail pob ymchwiliad lle nad oes datguddiad yw rhyfyg i anturio, a balchder i ddyfeisio, a chyfyngder i dreisio, a chywreinrwydd i'w blesio, oddiar elyniaeth, i ddodi gosodiad dyn uwchlaw gosodiad Duw; canys dangoswyd y cwbl i ddyn beth sydd dda, a pha beth a gais yr Arglwydd ganddo.—Y diweddar Barch. Thomas Richard.