Neidio i'r cynnwys

Gemau Doethineb/Rhan 19

Oddi ar Wicidestun
Rhan 18 Gemau Doethineb

gan John Jones (Ioan Eifion)

Rhan 20

Y LLYFR DWYFOL A'R EGLWYS.—Nid yr eglwys sydd i farnu y Llyfr, ond y Llyfr sydd i'w barnu a'i llywodraethu hi. Y mae yr eglwys i roddi y byd i'r Arglwydd Iesu; ond trwy y Llyfr y mae hyn i gael ei wneuthur. Heb y Beibl ni bydd eglwys ond milwr heb ei arfau—lighthouse heb oleuni—trostan heb sarph bres arni—cwmpas heb nodwydd—teml heb sancteiddiolaf ynddi. Trwy offerynoldeb y Llyfr y mae yr eglwys i wneyd wyneb y ddaear fel wyneb y nefoedd. Y Llyfr ydyw "bwyell" y Salmydd, sydd yn tori i lawr y "dyrysgoed," i ddechreu arloesi yr anialwch. Y Llyfr ydyw "afon" Ezeciel, sydd yn rhedeg yn fendithion y ffordd y treigla hi. Ei nôd eithaf hi ydyw cyraedd y Môr Marw, i iachau dyfroedd hwnw; ond wrth fyned mae hi yn taenu gwyrddlesni a phrydferthwch ar bob peth y ffordd y cerdd hi. Y mae pysgod mawrion yn ei dyfroedd hi, a choed ffrwythlawn yn harddu ei glanau hi. Yr oedd ei ffrydiau hi wedi llawenhau dinas Duw o'r blaen, ac yn awr y maent yn rhedeg o'r ddinas yn fendithion i'r byd. Nid yw yr eglwys eto, heb son am y byd, ond prin wedi agor ei llygaid ar yr hyn ydyw gwerth y Llyfr Dwyfol i'r byd. Parch. E. Morgan, Dyffryn.

GARDD GETHSEMANE.

Ha! Gethsemane! mae iti enwogrwydd
Urddasol, uwch gerddi y byd,
Cynullfan Anfeidrol Greawdydd,
A Llywydd y cyfan yn nghyd;
Yn nyfnder ei ingoedd dirwasgol,
Neillduodd i ymbil â'i Dad,
I weithio y "bwriad tragwyddol,"
Er rhoi i bechadur ryddhad.
::—R. Williams, Criccieth.


Yn un o ymweliadau y Parch. George Whitfield âg America, gweinidog o'r enw Lathrop, pan mewn cyfeillach âg ef un boreu, a adroddodd iddo hanes am ryw amgylchiad a ddaethai dan ei sylw yn bersonol. Yr oedd Mr. Lathrop yn adrodd yr ystori mewn dull oer a digynhwrf, fel nad oedd yn ymddangos fod yr adroddiad yn gwneyd un math o effaith ar y cymdeithion. Ond yr oedd Mr. Whitfield yn canfod pwrpas yn yr hanes; ac yn ei bregeth ar brydnawn y dydd hwnw, efe a ddygodd yr ystori i mewn, gan ei hadrodd gyda'i deimlad brwd ef, nes yr oedd Mr. Lathrop ei hun, a'r cymdeithion ereill, o dan yr adroddiad effeithiol ohoni yn methu ymatal rhag wylo yn hidl.

PROFIAD GOSTYNGEDIG PAUL.—Mae yr olwg eithafol oedd gan Paul arno ei hunan, ac fel yr oedd efe yn gweled mwy—fwy o'i anheilyngdod, yn orlawn o addysg. Yn mlwyddyn ein Harglwydd 59, mae yn ei weled ei hunan y lleiaf o'r apostolion, ac heb fod yn addas i gael ei alw yn apostol, am iddo erlid eglwys Dduw. Yn y flwyddyn 64, wedi pum' mlynedd ychwaneg o gynydd mewn gras, mae wedi myned yn llai na'r lleiaf o'r holl saint. Ond yn y flwyddyn 65, ac nid hir cyn ei fod i dderbyn ei goron yn y nefoedd, efe yw y penaf o bechaduriaid. Fel hyn y mae y Cristion, fel y mae yn myned i lawr mewn hunan yn myned i fyny yn Nuw; ac fel y mae yn myned i fyny yn Nuw yn myned i lawr mewn hunan.—Dr. Cheever.

LLYFR NEWYDD IOAN EIFION.

Ar faes llên bu'n hufenu—ystôr dêg,
Brasder dawn i Gymru;
Ffraethebion byw—ceinion cu,
Aidd enaid i'n dyddanu.
Machraeth Mon.


Beth ydyw y peth hwnw, er ei fod y duaf o ran sylwedd, eto sydd yn goleuo y byd? Inc.

Gŵr synwyrol ger Bangor-yn-Arfon a roddodd waith i ddyn cryf ac iach i ddyrnu ŷd, ac ar ol ychydig ddyddiau fe'i trodd ymaith. Aeth gwraig y dyn at y meistr, a gofynai, "Pa beth a wnaeth fy ngŵr i chwi, Mr. Thomas?" "Ni wnaeth efe ddim i mi," meddai yntau. "Rhaid oedd iddo wneyd rhywbeth," meddai'r wraig, "onide ni fuasech yn ei droi ymaith." "Naddo, naddo," meddai'r meistr, " pe buasai yn gwneuthur rhywbeth, cawsai aros."

YR EOS.

Ochenaid leddf ei chân dlos—anadlir
Yn odlau yr Eos:
Gwae ei phigyn gaiff agos
Alw'r nef i lawr y nos.
Tudno.


TRAGYWYDDOLDEB.—O! dragywyddoldeb! pe byddai holl gyflawnder y ddaear a'r môr, wedi eu cyfnewid i dywod; a'r awyr hyd y ffurfafen ddim ond tywod, ac i aderyn bychan ddyfod unwaith mewn mil o flynyddoedd, a chludo ymaith y ddegfed ran o dywodyn o'r pentwr difesur hwn. O! y nifer anamgyffredadwy o flynyddoedd a dreulid ymaith cyn cludo y twmpath dirfawr hwnw o dywod i ffordd! Acer hyny, pe byddai yn y diwedd fodd i'r pechadur ddyfod o uffern, fe fyddai rhyw obaith; ond y gair yma, Tragywyddoldeb, sydd yn tori y galon. O! y dychryn ydyw hyn i'r annuwiolion, i feddwl cyhyd ag y byddo Duw yn dragywyddol, ei fod yn byw byth i ddial arnynt.—Watson. Y mae dyn gwylaidd yn sefydlog, dyn gostyngedig yn ofnus, a dyn gwag—ogoneddus yn rhyfygus.

Meistres: "Mae y crwt yna sydd gyda ni yn ddiraddiad i'r heol." Ei Feistr: "Paid a thrafferthu, wraig fach, y Cyngor Sirol sydd i ofalu am yr heol."

Y DIWEDDAR GIRALDUS, UTICA, AMERICA, GOLYGYDD "Y WAWR."

Gloew egyr bri'r Golygydd,—mor addwyn
Bu'n ymroddol deithydd;
A'i Wawr deg yn gwasgar dydd
Yn awyr y "Byd Newydd."
—Machraeth Mon.


YMDRECHY CRISTION.—Pa beth a wnaf, Arglwydd? Yr ydwyf yn llafurio ac yn ymdrechu hyd y gallaf, yn erbyn fy llygredigaethau cnawdol, a'r drygau ysbrydol, y rhai sydd yn ymosod yn erbyn fy enaid, ac weithiau byddaf yn cael fy ngorthrechu allan o'r maes, ac wedi fy nghloffi; dy drugaredd ydyw fy mod yn fyw, a minau yn cael rhuthro arnaf mor greulon gan dywysogaethau ac awdurdodau! rhyfeddod fawr fyddai fy ngweled yn ddiangol o'r fath ddwylaw heb glwyf. Hyd yn nod dy was sanctaidd hwnw wrth ymdrechu a'th angel dy hun am fendith a aeth ymaith dan hecian, er iddo lwyddo; os felly, syndod fyddai gweled adyn egwan fel myfi, wrth ymdrechu âg angylion drwg er gocheliad y felldith, yn dyfod ymaith a dim ond craith neu anaf; ond bendigedig a fyddo dy enw, y clwyfau yr ydwyf yn eu derbyn nid ydynt farwol, a phan y syrthiwyf, ni byddaf ond ar fy ngliniau, pryd y codaf gyda nerth adnewyddol a gobaith buddugoliaeth.—Esgob Hall.

Hi: Mae yn syndod na allwn siarad heb gweryla.
Efe: Ac eto pan yn cweryla nid ydym yn siarad.

Fe ddywedodd Ethel: "Yr ydych yn gwybod fod arnaf eisieu gwr sydd yn hawdd i'w foddhau. Atebodd Maud yn wawdlyd: "Peidiwch anesmwytho, fy nghyfeilles; dyna yn union y math a gewch."

Dyma fel y canodd Dafydd i'r gath pan yn fachgenyn:

Deg ewin Heilin hiliwyd—yn llymion,
Llama berth a chronglwyd;
Dedwydd ar gig da ydwyd,
Tỳn o'r nen lygoden lwyd.


Bardd: "Mae y darn barddonol yma, syr, wedi costio i mi wythnos o lafur caled." Golygydd (ar ol ei ddarllen): "Dyna i gyd? Pe buaswn i yn cael cyhoeddi y ddedfryd arnoch chwi gawsech fis o lafur caled."

Yr oedd hen wraig gall yn Llanuwchllyn yn fawr ei hymdrech yn erbyn drygioni. A hi yn gwau hosan gerllaw ei drws un prydnawn, daeth cymydog heibio ac arno arwyddion yfed cwrw. " Yr ydych wedi bod yn yfed heddyw eto, Tomos bach," meddai'r hen wraig. "Buom," meddai yntau, "ac yr wyf yn methu gweled yn fy myw pa niwed sydd mewn yfed ychydig gwrw." "Mae'n debygol na welwch, Tomos bach, yr ydych yn myned yn hen, fel finau; nis gallaf fi weled i wau hosan heb wydr, a chyferbyn a'm llygaid y byddaf fi'n ei ddodi; ond yr ydych chwi yn dodi y gwydr ar eich gwefus bob amser; a pha fodd y gellwch weled, Tomos bach?"

Nodiadau

[golygu]