Gemau Doethineb/Rhan 2
| ← Rhan 1 | Gemau Doethineb gan John Jones (Ioan Eifion) |
Rhan 3 → |
Mae y Cristion, tra yn y byd hwn, yn cael ei gylchynu yn wastad gan ei elynion: felly ni ddylai fod un amser heb ei arfogaeth.
Nid oes un dyn ar y ddaear yn ddigon cryf i orchfygu ei hun heb gymhorth Duw.
Y mae pob caredigrwydd a wneir i arall yn gam at fod yn debyg i Iesu Grist.
Dichon pan mai wrthym ein hunain yr ydym yn y perygl mwyaf. Cofiwn Dafydd ar nen y ty.
BEDDARGRAPH.
O! fedd oer ein Dafydd Ddu,—henadur
A hynododd Gymru:
Ewythr i feirdd—athro fu,
Cefn wrthynt i'w cyfnerthu.
Dewi Wyn o Eifion.
Y mae cyfoeth yn fynych fel y dienyddwr, yn rhoddi gorchudd ar wyneb dynion rhag iddynt weled eu diwedd, ac yna yn eu crogi.
Y mae y llen sydd yn cuddio oddiwrthym ddigwyddiadau y blynyddoedd dyfodol yn cael ei gwau gan ddwylaw cariad.
Bydd mor gywir i ti dy hunan, fel nas gelli fod yn anghywir i ereill.
Dywed Dr. Johnson mai dau ysgogydd mawr y meddwl dynol ydyw yr awydd i wneyd da, a'r ofn i wneyd drwg.
Y Saeson, lle bynag y teithiant, a adawant yn wâg ar eu holau naill ai potel soda water, potel gwrw, neu botel physig.
Y CRISTION GWAN.
Mordeithio mewn tymhestloedd 'rwyf,
A chreulawn iawn yw'r gwynt;
Yn aml heb un llyw na rhwyf,
Na chwmpawd ar fy hynt;
Wrth godi'm golwg tua'r nef,
Gwatwara'r cefnfor croch fy llef.
Ai tybed deuant byth i ben
Y fordaith hon mewn hedd,
Dan d'wniad haul yr asur nen,
A gwên yn lloni'm gwedd;
Fy Nuw! fy Nuw! nid oes ond ti,
Yn unig all fy ngwared i.
O! taena'th law drugarog fawr
Dros blentyn gwan ar gefn y lli';
Gostega dwrf y môr yn awr,
A gwrando fy nhruanaidd gri;
Fy Nuw! fy Nuw! O clyw fy llef,
A dwg fi'n lân i borthladd nef.
I. G. Aled.
Mae bywyd yn dyfod yn ddiwerth a diflas pan na bydd genym gyfeillion na gelynion.
Gwneyd da am ddrwg sydd debyg i Dduw, gwneyd da am dda sydd debyg i ddyn, gwneyd drwg am ddrwg sydd debyg i anifail, gwneyd drwg am dda sydd debyg i ddiafol.
Y mae hanesyddiaeth hynafol yn adrodd am ddau athronydd yn cydymddiddan yn nghylch bendith. Y naill a ddywedodd, Bendith fawr yw i ddyn feddu yr hyn mae yn ddymuno; a'r llall a atebodd, Bendith fwy yw i ddyn beidio dymuno yr hyn nad yw yn ei feddu.
Y DYN TLAWD.
Isel yw dyn, sâl ei daith, —os i lawr,
Iselach fydd eilwaith;
Ond uchel daw a chlod iaith,
Os i fyny saif unwaith.
P. A. Mon.
Llong ydyw amser na bydd byth yn angori.
Pan y gwena llwyddiant, gochelwch ei dwyll.
Gall un gair caredig droi ymaith lifeiriant o ddigofaint.
Ni ddylai yr hwn na all gadw ei gyfrinach ei hun gwyno os gwna rhywun arall ei hysbysu.
Wedi i ddyn golli ei gydwybod, nid oes ganddo wed'yn ddim sydd yn werth i'w gadw.
Nis gall neb fod yn farnwr ar ofid arall : "Y galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei hun."
Gall aur brynu agos i bob peth yn y byd hwn, oddigerth yr hyn y mae ar ddyn ei eisieu fwyaf, sef dedwyddwch.
Os wyt yn ewyllysio cael peidio dy gyfrif yn ffôl yn ngolwg ereill, na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun.
GWRAIG GELWYDDOG.
Dywedodd a fedrodd tra fu—o gelwydd,
Gwyliwch ei dadebru,
Neu hi ddywed, 'rwy'n credu,
I bawb mai'n y nef y bu.
Ellis Owen.
Daw siarad drwy natur, ond distawrwydd drwy ddeall.
"Pa fodd y diangwn ni os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint ?" Dyma gwestiwn nad oes neb ar y ddaear a all ei ateb; 'dall neb yn uffern ei ateb; 'dall neb yn y nefoedd ei ateb; 'dall Duw ei hun ddim ei ateb; ac eto mae eisieu ei ofyn, "Pa fodd y diangwn ni?"
"Fy enaid sydd ynof fel un wedi ei ddiddyfnu." Felly y mae eneidiau pawb sydd yn byw ar fronau y byd.
TANGNEFEDD YSBRYDOL.
(Edmeston.)
Tyr'd, dawel hedd, gydymaith nefol, cu,
A gwna dy drigfan dan fy nwyfron i;
Duw sy'n dy roi, ac nid oes neb all ddwyn
Oddiarnaf byth dy rin a'th wenau mwyn.
Tymhestlog fyd, a chalon ddrwg, ddi—ras,
Bâr ofn o fewn, ac ymrysonau o fa's;
Ond gall fy Nuw roi imi heddwch llawn,
Er grym y storm, a rhwystrau cryfion iawn.
Tragwyddol haf, ffurfafen las a chlir,
Grist'nogaidd ffrwd â'i dwfr yn maethu'r tir,
Gyfoethog ford mewn anial diffaeth, mawr,
Gobenydd clyd im' roi fy mhen i lawr,—
Hyn oll yn nghyd yw'r hedd roir gan fy Nuw,
Fy nhrysor penaf fo tra byddwyf byw;
A phan y dêl yr olaf dywell awr,
Yn nghwmni hwn dymunwn ado'r llawr.
—Anthropos.
Bydd yn foddlawn ar wneyd yr hyn sydd iawn, a gadawa i ereill siarad am danat fel y dewisont.
Y mae cyngor fel yr eira, po dyneraf y disgyna hwyaf oll yr arosa, a dyfnach y sudda i'r galon.
Gall brenhinoedd enill coronau, ond nis gallant orchfygu angeu.
Dyn go dda yw y dyn y mae ei elynion mewn trafferth i dd'od o hyd i'w feiau.—J. Gwyndud Jones.
Gofynodd un o gyfoedion y diweddar Barch. R. Humphreys, Dyffryn, iddo, "Sut y mae hyn yn bod, Richard, nid oeddym ni yn eich ystyried chwi mor galled a ni pan oeddym yn blant." "Oni wyddost ti, Morris," ebe yntau, "fod llysieuyn mawr yn cymeryd mwy o amser i ymagor." Mewn difyrwch y dywedodd hyn, ond yr oedd yn hollol wir.
TRAFFERTHION BYDOL.
Gyda gorchwylion geudeb, yn nghynwrf
Anghenion meidroldeb,
Nychu wneir, fel na cha' neb
Hedd i wel'd tragwyddoldeb.—Berw.
"Y mae meddyliau yn eiddo sydd yn perthyn i bawb, frodyr," meddai Mr. Spurgeon wrth ei efrydwyr. "Nid wyf yn synu os yw pobl ereill yn lladrata fy meddyliau i, gan fy mod i yn lladrata cymaint oddiar bobl ereill. Am danaf fi, yr wyf yn begian, yn benthyca, ac yn lladrata, o bob man yn y byd; ond pan wyf yn lladrata cob rhywun, yr wyf yn ei thori i gyd yn ddarnau, ac yn gwneyd gwasgod ohoni."