Neidio i'r cynnwys

Gemau Doethineb/Rhan 20

Oddi ar Wicidestun
Rhan 19 Gemau Doethineb

gan John Jones (Ioan Eifion)

Rhan 21

Nis gellir caboli gem heb ei rwbio i'r cyflwr hwnw; ac nis gellir perffeithio dyn heb iddo fyned trwy lawer o brofedigaethau a themtasiynau y byd.

Bachgenyn Bach: Mam, ydw i'n methu deall yr hen ddaearyddiaeth yma. Mam: Beth sy'n ddyrys i ti, machgen i? B. B.: Beth yw diffaethwch? M.: Lle noethlwm, moel, lle nad oes dim yn tyfu arno. B.: Ydwy'n deall 'nawr, mam; lle moel fel pen fy nhad.

LLYFRAU ADDYSG.—Mae Duw wedi rhoddi i ni bedwar Llyfr: Llyfr Gras, Llyfr Natur, Llyfr y Byd, a Llyfr Rhagluniaeth. Mae pob digwyddiad yn ddalen yn un o'r llyfrau hyn: nid yw yn gweddu i ni fod yn esgeulus yn yr ymarferiad o'r un ohonynt. Cecil.

GWERTH A PHWYS GWEDDI.—Y darn mwyaf ymarferol o arfogaeth y Cristion yw gweddi. Mae gweddi i'w hymarfer bob amser: peidio gwneyd dim heb weddi, gwneyd pob peth yn ddefnydd gweddi, a gwneyd gweddi yn ddiwedd pob peth. Rhoddir mwy o briodoliaethau i weddi nag i ddim a berthyn i Gristion: rhoddir wrthi waeddi, llefain, galw, ceisio, gofyn, curo, taerni, ymgodi, ymdrechu, myned. Gweddi yw y daith a'r gwaith at ac wrth orsedd gras. Ffaeledd mawr ar Gristion yw diffyg yn nghylch gweddi: rhy fach o feddwl am weddi, rhy fach o weddi, rhy fach o hyder mewn gweddi, rhy fach o anwyldeb at weddi, rhy fach o obaith mewn gweddi, rhy fach o afael ar weddi, rhy fach o gysur wedi gweddi, a rhy fach o sicrwydd am ffrwyth gweddi. Ofnir mwy rhag nad yw y gweddio yn iawn na rhag bod gweddio yn rhy fach. Po fwyaf o weddi, mwyaf o feddu.—Y diweddar Barch. Thomas Richard.

Y dydd o'r blaen, mewn ysgol ddyddiol, gofynodd yr athraw i ddosbarth o fechgyn beth oedd y gwahaniaeth rhwng ynys a gorynys. Wedi gwasgu y cwestiwn heb lwyddo i gael atebiad boddhaol, dyma fachgen bychan yn gwaeddi, "Mi wn i, syr. Yn gyntaf, ceisiwch ddau wydryn; llenwch un â dwfr, a'r llall â llaeth. Yna deliwch wybedyn, a dodwch ef yn y dwfr. Mae y gwybedyn hwnw yn ynys, oherwydd y mae yn cael ei amgylchu â dwfr. Ond meddyliwch eich bod yn ei roddi yn y llaeth, yna fe fydd yn orynys, oherwydd y mae bron yn cael ei amgylchu â dwfr." Ni raid dyweyd fod y bachgen ar ben y dosbarth ar unwaith.

YR ENFYS.

Agoriad addysg i'r di—Dduw i wel'd
Anfeidroldeb Gwir—Dduw,
Yw'r Enfys dêr; neu fys Duw,
'N haner dolen, er diluw.
Owen Gethin Jones.


GORSEDDFAINC Y GWEINIDOG.–Adroddir yn mywgraphiad y Parch. Dr. Leifchild, pan y byddai gweinidog yn achwyn wrtho oherwydd angharedigrwydd diaconiaid, y dywedai efe wrth y cyfryw, "Os gallwch chwi bregethu yn dda, chwi a ellwch feiddio y diaconiaid; ond os na ellwch bregethu yn dda, gall y diaconiaid eich beiddio chwi. Eich nerth mwyaf sydd yn gorwedd mewn dal y bobl; ac nis gellwch eu dal hwy yn hir ond trwy y pregethu a fyddo yn dda drwyadl. Gellwch ymweled â hwy, a chymeryd tê gyda hwy bob prydnawn, os mynwch; y mae hyny yn foddhaol mewn un ffordd; ond ofer fydd y cwbl os na theimlant hwy eich bod yn ŵr galluog yn y pwlpud. Y pwlpud yw gorseddfainc y gweinidog—yno y mae efe yn frenin!"

MILLDIROEDD GWAHANOL WLEDYDD.—Nid oes ond ychydig o bethau a chymaint o amrywiaeth ynddynt ag sydd yn y mesur hwn; a hyny nid yn unig mewn gwahanol wledydd, ond hefyd mewn gwahanol daleithiau o'r un wlad. Yn ol cyfrifiad Dr. Halley, cydmerir hwynt â'r filldir Seisnig fel y canlyn:—Y filldir gyfreithlon Seisnig a gynwysa 5280 troedfedd, neu 1760 llathen. Y vorst Rwsiaidd sydd ychydig yn ychwaneg na 34 milldir Seisnig. Y filldir Dyrcaidd, yr Eidalaidd, a'r Rufeinig, ychydig yn llai na'r un Seisnig. Y filldir Arabaidd yn nghylch 114 Seisnig. Yr Albanaidd, a'r Wyddelig, yn nghylch 11⁄2 Seisnig. Yr Indiaidd, yn agos i 3 Seisnig. Milldir yr Is—Ellmyn, yr Yspaeniaid, a'r Pwyliaid, sydd yn nghylch 32 Seisnig. Yr Almaenaidd sydd fwy na 4 Seisnig. Y Swedaidd, y Danaidd, a'r Hungaraidd, o 5 i6 Seisnig. Y Ffrengig, yr hon a eilw y Ffrancod league, yn agos i 3 Seisnig. League forawl y Saeson sydd 3 milldir Seisnig.

ARFERION IUDDEWIG.—Oddiwrth yr hyn a ddarllenwn yn y Beibl, y mae yn amlwg fod ymborth yr Iuddewon yn wael a garw iawn. Yr oedd yn benaf yn fara, llaeth, mêl, reis, a llysiau. Dywedir fod Ioan Fedyddiwr yn ymborthi ar locustiaid a mêl gwyllt. Darlunir gwlad Canaan fel yn llifo o laeth a mêl; ac y mae yr Arabiaid eto yn ystyried y rhai hyn yn ddanteithion. Anaml yr oedd gan yr Iuddewon gig, oddieithr ar eu haberthau a'u gwyliau pwysig. Gan nad oeddynt yn fynych yn bwyta cig, ymddengys eu bod yn ei ystyried yn flysfwyd. Cawl ffacbys Jacob, yr hwn a achlysurodd Esau i werthu ei enedigaeth—fraint, sydd yn dangos mor wael oedd bwyd y patriarchiaid; ac oddiwrth ddymuniad Esau i archwaethu cig, yr ymddengys nad oedd yn gyffredin. Y wledd a ddarparodd Abraham i'r angylion, a'r hyn a barotôdd Gedeon a Manoah ar y cyffelyb achosion, sydd yn dangos fod cig yn cael ei ystyried fel rhywbeth mwy nag ymborth cyffredin. Gallwn hefyd gofio am y wledd a ddarparwyd i'r afradlon edifeiriol; a sylwi ar y rhan a roes Samuel heibio i Saul pan oedd yn ei ddisgwyl, sef yr ysgwyddog, a'r hyn oedd arni (I Sam. ix. 24), yr oedd hyn yn cael ei roddi heibio i Saul fel nod o wahaniaeth a pharch. Yn Deuteromium, pen xii. 20, y mae bwyta cig yn cael siarad am dano fel prawf o iechyd a llwyddiant. Bara a goffeir yn fynych yn y Beibl. Yd deifiedig, yr hwn a ddyhidlid cyn ei fod yn llawn aeddfed, a gresid neu a sychid yn y dywysen, ac a fwyteid heb wneyd dim yn ychwaneg iddo. Yr yd yn gyffredin a wneid yn flawd, ac a eplesid, neu a wneid yn ysgafn â lefain, ac a dylinid yn fara. Y blawd hwn a wneid â llaw—felinau bychain, y rhai oeddynt ddwy gareg gron a gwastad, un ar y llall; a'r uchaf a droid o amgylch tra y tywelltid yr yd rhyngddynt Un o gerig y melinau hyn a daflodd gwraig ar ben Abimelech, Barn. ix. 53. Gwel hefyd Mat. xviii. 6. Y glo ag y darllenwn am dano yn y Beibl ydoedd lo o goed, a golosg—goed. Yr oeddynt hefyd yn arfer drain, mieri, a choed o bob math (Psalm lviii. 9. Preg. vii. 6). Crybwyllir hefyd am wellt (Mat. vi. 30). Yr amrywiol fathau hyn o danwydd ydynt grybwylledig yn fynych yn y Beibl; ac megis ag y maent oll yn bethau a lysg ymaith yn fuan iawn, felly y dull disymwth ag y daw dinystr ar y drygionus gan ddigofaint Duw a osodir allan trwy y cydmariaethau hyn.

DELW A DYN.—Gŵr ieuanc o Ysgotiad o'r wlad, pan wedi dyfod ar ymweliad i ddinas Edinburgh, wedi clywed am arddangosiad delwau cŵyr o ddynion hynod, a benderfynodd fyned i'w gweled; ac yno wrth y drws enynwyd ei gydymdeimlad gan yr olwg ar hen ŵr cloff truanaidd oedd yn sefyll ar ddwy fagl. Mewn tosturi ato, efe a estynodd iddo geiniog; ond yr oedd yn synu wrth weled nad oedd y dyn yn ymddangos am ei chymeryd. "Hwdiwch, druan," medd efe, "dyma geiniog i chwi;" ond nid oedd y llall yn rhoi un ateb; ac nid nes i rai ereill oedd yn myned i mewn dori i chwerthin y deallodd efe mai dyn cŵyr oedd yr hwn nad estynai ei law at y geiniog. Wedi myned i mewn i'r arddangosfa, efe a benderfynodd na chymerai ei dwyllo drachefn, ac aeth i fyny ac i lawr gan graffu ar y lluaws delwau, pan y denwyd ei sylw gan un neillduol yn nghanol y lleill oedd â'i lygad gwydraidd yn ymddangos yn syllu yn fywiog ar ryw wrthddrych yn y pen pellaf i'r ystafell. Efe a drodd o gwmpas y fath ddelw gampus o ddyn, gan grâff edrych arno o'i ben i'w draed, ac nis gallodd ymatal heb roddi ei law ar ei ysgwydd ac ar hyd ei fraich, gan ddywedyd wrth edrychydd arall a ddaethai hyd ato y munyd hwnw, "Wel, rhyfedd iawn wr! onid yw hwn yn naturiol? ni feddyliais erioed y gallesid gwneyd cŵyr mor debyg i ddyn byw!" a chan edrych i lygaid y ddelw, fel y tebygasai efe, mawr oedd ei syndod a'i fraw wrth weled y cyfryw ddelw o ddyn yn estyn ei ben ato, ac yn uchel chwerthin allan. Rhedodd ymaith yn ddioedi gan ddywedyd, "Yr wyf yn methu cael gwahaniaeth yn y marw ar y byw, nac yn y byw ar y marw."

Nodiadau

[golygu]