Neidio i'r cynnwys

Gemau Doethineb/Rhan 22

Oddi ar Wicidestun
Rhan 21 Gemau Doethineb

gan John Jones (Ioan Eifion)

Nid oes dim y derbyniais i gymaint o les oddiwrthynt yn fy mywyd a sylwadau cywir, opiniynau da, ac anogaethau tyner a didwyll benyw synwyrol a hawddgar.—Syr S. Romilly.

Merched CYMRU.—Yr oedd gynt yn Nghymru lawer o wragedd cedyrn, yn rhyw gawresau wrth rianod yr oes hon, megys er engraifft, Margaret uch Ifan, o Benllyn, Llanddeiniolen, Arfon, yr hon oedd yn nodedig am hela ysgyfarnogod a llwynogod, yn feddianol ar y daeargwn, y bytheiadgwn, a'r milgwn goreu yn ei hoes, ac o foreu hyd hwyr, gyda'i chwn yn ei helwriaeth yn aml y ceid hi ar fynyddoedd Eryri, a manau ereill; yn medru lladd gwair ei hun ar ei thyddyn, gweithio gwaith gôf, pedoli ei cheffylau, &c. Un arall o gedyrn wragedd Cymru ydoedd Catrin o'r Berain, yr hon ydoedd fam i Syr John Salsbri, yr hon gwedi marwolaeth ei gwr cyntaf a briododd Syr Rhisiart Clough. Pan oedd yn dilyn corff ei gwr cyntaf i'r bedd, gosgorddwyd hi gan Syr R. Clough, ac yn dilyn yr oedd brawd Syr John Wynne o Wydir, o'r enw Morris Wynn, yr hwn, wrth weled cadernid Catrin, a'i sirioldeb yn angladd ei gwr, a feiddiodd, wrth ddyfod o'r Eglwys, gynyg ei hun iddi, yn foneddigaidd, fel ail wr; hithau a'i hatebodd yn foesgar, gan ddywedyd ei bod wedi gwneuthur addewid o'r fath gyda Syr R. Clough wrth fyned i'r Eglwys. Ond, ebai hi, os deuai y fath ymweliad â Syr Rhisiart ag a ddaeth â John, ei gwr cyntaf, ei bod yn sicrhau y cae ef fod yn drydydd gwr iddi; ac fe gyflawnwyd ewyllys y naill a'r llall, fel y dengys hen gofrestrau eglwysig hyd y dydd hwn. Bu Catrin farw a chladdwyd hi Medi 1, 1591, yn Eglwys Llannefydd, swydd Dinbych.

Pwy bynag a roddo y byd hwn a'r byd arall yn aml ger ei fron, ac a edrycho yn graff ar y ddau, a wêl y naill yn myned yn llai, a'r llall yn myned yn fwy yn barhaus.

DIRWEST.—"A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturia wrth fab ei chroth? Ië, hwy a allant anghofio" wedi meddwi. Ysgrifena y dirwestwr brwdfrydus a ffyddlawn John Hockings (yr hwn a adwaenir fel milwr dirwestol, wrth yr enw Birmingham Blacksmith), yr hanesyn canlynol am wraig yn Wisconsin, yn yr America:—" Mary Mason oedd fam i blentyn llygaid glas anwyl, ond yr oedd Mary yn feddwyn parhaus. Y gwanwyn diweddaf, yr oedd ei phlentyn yPwy bynag a roddo y byd hwn a'r byd arall yn aml ger ei fron, ac a edrycho yn graff ar y ddau, a wêl y naill yn myned yn llai, a'r llall yn myned yn fwy yn barhaus. Yn dri mis oed; ei mam, fel arferol, a aeth i geisio ei chwerwon, ac wrth ymsymud tuag adref, hi a syrthiodd, a gollyngodd ei phlentyn; cyfododd ac aeth adref i'w gwely. Pan ddeffrodd yn y boreu, edrychodd am dano yn y gwely, ond nid oedd i'w gael; llefodd allan, a daeth amryw ati i'r ty; ac wrth weled gwaed ar ei gwyneb, gofynasant, pa beth oedd yn bod? Yna, cofiodd ei bod wedi syrthio, a bod y plentyn ganddi ar y pryd, o herwydd clywodd ef yn nadu. Felly aethant i ymofyn am dano, a chawsant y benglog, yn nghyd â'i draed a'i ddwylaw: ond yr oedd y rhanau eraill wedi eu difa gan fleiddiaid a moch; er hyn, ni effeithiodd arni i'w diddyfnu oddiwrth ei drwg arferiad, ond os rhywbeth, aeth yn waeth. Tri mis ar ol hyny, cefais gyfleusdra i ymddiddan a hi—cymerodd yr ardystiad dirwestol; ac yn awr er ys pedwar mis, ni chyffyrddodd âg ef: ond y mae i'w gweled bob Sabboth yn ei dillad a'i hiawn bwyll mewn lle addoliad."

Nid ydym byth yn nes at Grist na phan y byddom yn ymgolli mewn syndod sanctaidd wrth feddwl am ei gariad annhraethadwy.—Dr. Owen.

Y mae yr hunan gyfiawn yn gwau gwe o'u hymysgaroedd eu hunain, yr hyn a brawf yn we y pryf copyn iddynt yn y diwedd. — W. Romaine.

THOMAS HOOD A'R YSTUMOG. I ddangos ei bleser mewn llyfrau, pan waharddai y meddyg fwydydd iddo, dywedai, "Mae pob cigfwyd, o ŷch hyd wningen, yn cael eu gwahardd, a phob diodydd cryfach na'r gwlybwr sydd yn darostwng llwch ac yn golchi pinafores. Ond y mae gwledd rheswm, a dyfroedd meddwl, yn rhydd i mi eto. Os gwaherddir beef i mi, y mae genyf Bulwer a Cowper; os gwaherddir mutton i mi, mae Lamb genyf; ac yn lle pork, mae genyf Bacon a Hogg. Am ddiod, y mae yn galed i Gristion osod ei wyneb fel Twrc yn erbyn sudd y grawnwin; ond os na chaf win, mae Butler genyf; ac os gwrthodir gwirod, mae ysbrydion dewisedig Tom Browne a Tom Moore genyf."

DUW, MOMENT, TRAGYWYDDOLDEB.—Dywed teithiwr i'w sylw gael ei dynu, mewn gwesty yn Savoy, at ddalen fawr oedd ar y mur, a deallodd fod y cyffelyb ddalen yn hongian ar furiau pob tŷ yn y plwyf. Dyma y geiriau oedd mewn llythyrenau breision ar y ddalen:—"Duw—Moment—Tragywyddoldeb: Duw, sydd yn dy weled—moment, sydd yn dianc oddiarnat—tragywyddoldeb, sydd yn dy aros; Duw, yr hwn wyt yn ei wasanaethu mor wael; moment, yr hon wyt yn ddefnyddio mor ddibwrpas; a thragywyddoldeb, yr wyt yn mentro iddo mor anystyriol."

BARN ARCHDDIACON ABERTEIFI AM Y WASG GYMREIG.—Wedi i'r hen glerigwyr ymneillduedig fyned ymaith, aeth eu holynwyr i ddechreu rhoddi addysg eu hunain i'r ymgeiswyr yn eu mysg am y weinidogaeth. Ymffurfiasant i drefniant rheolaidd, ac yn raddol gwasgarasant eu hymdrechiadau o'r pulpud at yr ysgol, ac at y wasg—ac nid heb lwyddiant gyda y naill a'r llall. Maent yn dysgu y bobl i ddarllen yn eu Hysgolion Sabbothol, ac y maent yn porthi eu harchwaeth gynyddol a llenyddiaeth gylchgyhoeddiadol mewn modd cyfaddas i'w hanghenion. Gan ddeall fod eu nerth yn dibynu llawer ar ymlyniad y Cymro at iaith ei wlad, maent yn feunyddiol yn gwneuthur y dafodiaith yn gymhwysach at bob amcan llenyddol—ac y mae y bobl yn galw am yr ymdrech hwn. Yr wyf yn deall fod pedwar o eirlyfrau newyddion, Cymraeg a Saesoneg, yn y wasg yr awr hon. Gallaf chwanegu fod y wasg Ymneillduol yn Nghymru, yn ol fy marn i, yn cael ei hynodi gan ragoriaeth amlwg ar y cyhoeddiadau sydd yn cael eu rhoddi allan dan nawdd yr offeiriaid. Yn mysg y rhai diweddaf nid wyf yn gweled dim a ellir eu cymharu i'r Amserau a'r Traethodydd.—Llythyr at Esgob Tyddewi, dyddiedig Mawrth, 1848.

JUBILEE VICTORIA, 1897.

Tyrodd parch i'n Victoria,—y forwyn
Fawrwych, hir deyrnasa;
A'i choron dyrch, a'r enw da
Ynddi'n em y flwyddyn yma.
Ioan Eifion.



Argraphwyd gan W. Gwenlyn Evans, Caernarfon.


Nodiadau

[golygu]