Gemau Doethineb/Rhan 3
| ← Rhan 2 | Gemau Doethineb gan John Jones (Ioan Eifion) |
Rhan 4 → |
I'R PARCH. DAFYDD THOMAS, LLANGEFNI.
Nid siolwag ddyn disylwedd—yw Thomas,
Ond diamhur nodwedd;
Awdwr syw, dyry o'i sedd
Yn firain, waith o fawredd.
—Syntax Mon.
Bèr yw y bont rhwng gorfoledd a galar.
Y mae arian yn was da, ond yn feistr drwg.
Y mae y dyn sydd bob amser mewn brys yn sicr o farw felly.
"O Bozra yn goch ei ddillad." Merchyg Iesu yn llwyddianus trwy rengau y gelynion, a holl ddreigiau Gehennah fawr yn gelaneddau dan ei draed, a'u gwaed rhedegog ar ei wisgoedd yn arwydd o'i fuddugoliaeth! Ond pan ddaeth i fyny o frwydr Calfaria, arwyddion o'i dragwyddol fuddugoliaeth oedd ei waed ei hun!
CROES CRIST.
Nid crog odidog, dywedaf,—ond hon,
O tani'r ymgrymaf:
I hon yr ymfoddlonaf;
Gras i gyd o'r Groes a gaf.
—Sion Lleyn.
Y CRYD.
Cwch un bach yn cychwyn byw yn hafan
Nefol mebyd ydyw;
A Duw, mewn cariad menyw,
Yn nerthol lŷn wrth ei lyw.
Ioan Môn.
Mae casineb, yn gystal a chariad, yn ddall.
Ni wna can' mlynedd o ymofidio dalu dimai o ddyled.
Y mae Cenfigen yn saethu at ereill, ac yn archolli ei hun.
Peth ynfyd iawn ydyw cario heddyw flinderau yfory a threnydd.
Nid oes un ddynes hagr yn gwybod ei bod yn hyll hyd nes y byddo rhyw fwystfil o ddyn yn dyweyd hyny wrthi.
Y MEL.
Sugn melus a ganmolaf—yw y Mêl,
Fel y maeth pereiddiaf:
Yn ei ddîl y nôdd welaf,
Wedi 'i hel hyd flodau haf.
—Tudwal.
Y mae y tafod yn myned at y dant dolurus.
Y mae y dyn doeth yn rhoddi terfyn ar ei ddigofaint.
Dywedir am yr ysgorpion, os cynheuir cylch o dân o'i chwmpas, y colyna ei hun i farwolaeth. Felly y gwna Cenfigen, pan amgylchynir hi â llwyddiant un arall.
Cewch agos bob dyn yn achwyn ar ei ddiffyg cof; ond ni chlywir neb yn cwyno am ei ddiffyg barn.
"CYMRU LAN, GWLAD Y GAN."
Yr Andes ä'n ddyffryndir,—y Werydd
A droir yn gyfandir,—
Dyffryn Clwyd i Ffrainc gludir,
Cyn yr ä tân cân o'r tir.
—Dewi Arfon.
Y mae tri heddwch i'w dymuno—heddwch gwladol, heddwch teuluol, a heddwch yn nghydwybodau dynion.
CEIDWAD Y CARCHAR.
Y gŵr ddeil yr agoriad—i orchwyl
Y Carchar yw'r Ceidwad:
Swyddwr rhag pob troseddiad,
A'i glo yn amddiffyn gwlad.
—Meilir Môn
Gofynodd hen wraig unwaith i Abulfeda, " O brophwyd, pa beth a ddylwn i wneyd tuagat gael myned i Baradwys?" "Fy nghyfeilles dirion," atebai y prophwyd; "rhaid i mi ddyweyd wrthych nad oes dim hen wragedd yn myned yno." "Pa beth," ebe yr hen wraig yn ffrochwyllt, "dim hen wragedd yn cael myned i Baradwys!" "Nag oes," meddai yntau yn dawel; "maent yn wastad yn cael eu gwneyd yn ieuainc cyn myned i mewn trwy y porth."
"Yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd." Felly ofer yw i elynion Seion geisio ymosod arni hi, canys nid yw ei Brenin byth yn absenol.
Y mae dyn heb grefydd fel llong yn y dymhestl heb lyw nac angor.
Y mae yn haws dyweyd na gwneyd. Gwna sydd orchymyn, ond gwneyd sydd ufudd-dod i'r gorchymyn. Dylid gwybod pa bryd i gyflawni y naill a'r llall.
Dywedir mai Adda oedd yr unig ddyn lwcus a fu erioed ar y ddaear. Nid oedd dim mamau yn nghyfraith yn y dyddiau hyny.
Beth ydyw hwnw sydd yn rhwymo dau berson yn nghyd, ond nad ydyw yn cyffwrdd ond yn unig âg un?—Y fodrwy briodasol.
Dirmyg ydyw y cerydd mwyaf llym.
Calon y Cristion yw y peth goreu a fedd, er cymaint y mae yn achwyn arni.
Y BEIBL.
O law Duw yn loew y daeth—y pur Lyfr,
Perl o'i ysbrydoliaeth:
Rhodd Iôr cu i'r rhydd a'r caeth,
A chôd aur Iachawdwriaeth.
—R. W. (Beuno), Porthmadog.
Cydwybod dda, a meddwl boddlawn, a wna ddyn yn ddedwydd mewn unrhyw sefyllfa.
Gelyn peryglus yw gwenieithwr.—Nac adrodd yr oll a wyddost, na chreda yr oll a glywi, na waria yr oll a feddi.—Gwylym Ros.
Mae yr amaethydd yn gweled y fendith yn y gawod wlaw, ac yn gwenu dan y cwmwl dudew : felly y mae y saint dan drallodion.
Y mae y Cristion, mewn perthynas i bechod, yn dymuno tri pheth: sef, cyfiawnhad, fel na byddo pechod yn euogfarnu; sancteiddhad, fel na byddo yn teyrnasu; gogoneddiad, fel na byddo yn bod.
Os collwch eich anadl, peidiwch rhedeg i chwilio am dano; chwi a ddeuwch o hyd iddo yn llawer cynt wrth sefyll yn llonydd.
YR YSGOLFEISTR.
Diwyd agorwr deall,—sigla fyd,
Yw'r Ysgolfeistr diball :
Heb draha cywira wall,
A sieryd wrth oes arall.
—Hywel Cernyw.
Dywedodd Jerusha wrth Eseciel na wnai hi ei briodi os na wnai ef arwyddo yr ardystiad dirwestol, ac felly efe a arwyddodd ddau. Gofynodd Jerusha iddo paham yr oedd yn gwneyd hyny; ac atebodd Eseciel yn ddiniwed ei fod wedi arwyddo dau, fel, os digwyddai iddo dori un, y gallai er hyny gadw y llall.
Nid oedd holl ddyfroedd y dylif, er boddi byd euog, yn gallu dangos casineb Duw at bechod mor eglur ag yr oedd un dyferyn o'r gwaed a dywalltwyd ar y groes.
Gall un cam gwâg, un arferiad drwg, un cyfaill llygredig, un egwyddor benrhydd, ddinystrio eich holl ragolygon, a siomi holl obeithion y rhai sydd yn eich caru.
Gofynwyd i hen ŵr duwiol, pa fodd yr oedd yn gallu goddef ei ofidiau mor dawel: "Ysgafnheir y ddyrnod," meddai, "trwy wasgu yn nes at yr hwn y mae y wialen yn ei law."