Neidio i'r cynnwys

Gemau Doethineb/Rhan 4

Oddi ar Wicidestun
Rhan 3 Gemau Doethineb

gan John Jones (Ioan Eifion)

Rhan 5

Yr unig ddyn i'w ofni ydyw y dyn nad yw yn ofni Duw.

Mae un dyferyn o gysur oddiwrth Dduw yn fil gwell nag afonydd o hyfrydwch y creadur.

Peidiwch byth ag ofni gwneuthur yr hyn sydd iawn. Nid yw yr hwn sydd yn ceisio boddhau pawb yn boddhau neb.

GWEDDI.

Cri gwylaidd cywir galon—yw Gweddi
O egwyddor union :
Hi ddyrch mewn ffydd ei heirchion,
A gras ddwg o orsedd Ion.
Eifionydd.


DARLLEN Y LLYFR. — Darfu i ddyn oedd newydd gyhoeddi cyfrol fechan o ganeuon gyfarfod Mr. Jones yn ddiweddar, a chymerodd yr ymddiddan canlynol le: "A ddarllenasoch chwi fy llyfr?" "O! do, darllenais ef i gyd." "Sut yr oeddych yn ei hoffi ?" "Fy anwyl syr, gallaf eich sicrhau fy mod wedi ei osod o'r neilldu gyda llawer iawn o bleser !"

Os gadewi iddynt osod y llô ar dy ysgwyddau, nid hir yr arosant cyn gosod y fuwch yno hefyd.

Nid oedd raid i'r llofrudd yn y ddinas noddfa fyned adref i ymofyn lluniaeth, yr oedd yno ddigon ar ei gyfer; ni raid i neb sydd yn Nghrist fyned allan ohono i ymofyn cynhaliaeth.

Y mae yn iawn i anifail wneuthur ei oreu o'r byd hwn—ei fyd ef ydyw. Ond dynion ydym ni—y mae anian byd arall ynom: tragwyddoldeb yw elfen ein gwlad gartrefol.

MEDDYLIAU DRWG.–Gall llawer o bethau drwg ymgynyg i'r meddwl na byddwn yn gyfrifol am danynt, os na roddwn lety a chroesaw iddynt. Nid oes genyf help os daw mintai o ladron at fy nrws i geisio derbyniad a llety; ond os bydd i mi eu croesawu, yr wyf yn gydgyfranog a hwynt. Os bydd y galon yn gwahodd meddyliau drwg i mewn, ac yn aelwyd iddynt, yn lle eu gyru ymaith, y mae yn gydgyfranog a hwynt, ac yn gyfrifol am danynt;" ond nid oes ganddi help fod y lladron hyn yn troi at ei drws ac yn ceisio llety ganddi. "Meddyliau ofer a gasheais," ebe Dafydd. — Williams o'r Wern

IEUAN GLAN GEIRIONYDD.

Tra haul fe gofir trylen—Emynydd
Minion yr Iorddonen;
Wedi dwys "oedi" di—wên,—mae'r "ochr draw,"
Uwch ei harswydaw'n chwareus ei aden.
Trebor Mai.


MEISTR PLWYF.—Rhyw foreu, yr oedd athraw cloff, gwledig, yn hopian gyda'i ddwy ffon tua'i drigfa drwstfawr, cyfarfu âg ef ryw bendefig, yr hwn a ofynodd iddo ei enw, a pha fodd yr oedd yn cael ei fywioliaeth. "Fy enw," eb efe, "yw R. T., ac yr ydwyf yn feistr ar y plwyf." Yr ateb hwn a chwanegodd gywreinrwydd ei arglwyddiaeth, ac a ddymunodd gael gwybod pa fodd yr oedd ef yn feistr y plwyf. "Yr wyf," ebe yr ysgolfeistr, "yn feistr ar blant y plwyf; ac y mae y plant yn feistradoedd ar eu mamau; a'r mamau yn llywodraethesau ar y tadau; ac o ganlyniad, yr wyf yn feistr ar yr holl blwyf." Boddhawyd ei arglwyddiaeth i'r fath raddau â'r cyfryw ateb rhesymegol, fel ag yr anrhegodd yr ysgolfeistr yn haelionus.

Duw sydd yn gwellau, ond y meddyg a gaiff y clod.

Y mae hen ddynion yn myned at farwolaeth, ond marwolaeth yn dyfod at ddynion ieuainc.

Dylem gofio na bydd crefydd yn y capel yn ddim ond oferedd, os na bydd crefydd yn ein tai a'n cartrefleoedd.

Mae cri yr edifeiriol am faddeuant trwy waed yr Oen yn bereiddiach yn nghlustiau y Goruchaf na pheroriaeth swynol telyn yr archangel.

YR IESU.

Y Gŵr waedodd i'm gwaredu—â gwir
Serch garaf fawrygu:
Yn y tân yn enaid du,
Y buaswn heb Iesu.
Parch. W. Nicholson.


Un ffordd i roddi lle i ddiafol yw bod yn ddiofal a difater yn ei gylch. Os mynwn beidio rhoddi lle i ddiafol y mae yn rhaid i ni ofalu am wrthwynebu pechod ynom ein hunain mewn modd neillduol. Os mynwn fod yn filwyr da i Iesu Grist, a pheidio rhoddi lle i ddiafol, y mae yn rhaid i ni wisgo arfogaeth Duw, ïe, a'r holl arfogaeth.—R. Jones, Llanllyfni.

"A ddangosasoch y cyfrif i'ch dyledwr?" ebai cyfreithiwr wrth ddyn ag oedd yn ei osod ar waith i godi dyled, "Do, syr," atebai y dyn. "Wel, pa beth a ddywedodd wrthych ?" "Dywedodd wrthyf am fyned at y diafol." "A pha beth a wnaethoch chwithau wedi hyny ?" "Myfi a ddaethym atoch chwi, syr."

Rhaid i chwi faddeu llawer o gamweddau mewn ereill; ond na faddeuwch un camwedd ynoch eich hun.

Y mae'n hyfryd i farw â'n pen ar fynwes Crist, a bod yr enaid yn cael ei gusanu ymaith o'r corph gan wefusau cariad Dwyfol. —Spurgeon.

Mae gwir rinwedd yn debyg i afon—po ddyfnaf y byddo, lleiaf oll ydyw ei sŵn.

Nid ydyw o nemawr bwys mewn cydmariaeth pa fodd y trinir dyn oddiallan gan ereill: y mater pwysicaf iddo ef ydyw, pa fodd y llywodraethir ef oddimewn ganddo ef ei hun.

Boreu teg a fydd dydd cyfodi o'r bedd i'r Cristion. Diosga ei arfogaeth, a cheidw ei darianau, ei esgidiau, a'i gleddyf. Pan gyfoda yn y boreu, nid esgidiau rhyfel, ond esgidiau gogoniant a wisga; nid cleddyf, ond palmwydd ; nid gweddio a gwylio, ond gwaeddi, Iachawdwriaeth i'n Duw ni, a chanu y gân newydd. ——Christmas Evans.

I BOB EFFAITH Y MAE ACHOS.

Mae rhyw Un mawr a hynod—Ei duedd,
A deall diddarfod,
Yn y gorchwyl o'n gwarchod;
A dyna ben—Mae Duw'n bod!
Robyn Ddu Eryri.


Darfu i wraig briod, yn ddiweddar, ymgynghori â'i chyfreithiwr ar y cwestiwn cywrain canlynol :Gan fy mod wedi priodi Mr. Green er mwyn ei gyfoeth, a'r cyfoeth hwnw yn awr wedi ei wario; onid ydwyf, yn mhob ystyr, yn weddw, ac at fy rhyddid i briodi rhywun arall?

Mae y cybydd yn debyg i ysbwng—rhaid ei wasgu cyn ceir dim ohono.

Y mae pob hen ferch wedi gadael ei deugain oed wedi pasio Penrhyn Gobaith Da.

Mae y dyn hwnw nad yw yn mwynhau ei gyfoeth yn debyg i asyn yn cario aur a pherlau, ac yn ymborthi ar ddrain ac ysgall.

Gofynodd dyn anystyriol i weinidog yr Efengyl, un tro, " A ellwch chwi ddweyd wrthyf beth ydyw oed y diafol?" " Y mae yn rhaid i chwi gadw cofnodau eich teulu eich hun, fy nghyfaill," atebai y gweinidog.

Y GOLOΜΕΝ.

Edn dôf, diniwed hefyd, —a roddir
I arwyddo'r Ysbryd,
Yw'r Golomen, bob enyd;
A'i chân yn gwynfan i gyd.
Clwydfardd.

Gofynwyd i'r diweddar Barch. J. Evans, Llwynffortun, beth oedd ei farn am y dyn meddwa syrthiodd dros y bont yn ei feddwdod, ac a foddodd. "Dylem gymeryd yn araf iawn," ebe yntau, "oblegid nid oes neb a wyr na chafodd drugaredd rhwng y bont a'r afon."

Yr oedd gweinidog yn ymweled â hen Gristion ar ei wely angeu, yr hwn oedd bob dydd yn disgwyl am ei ymddatodiad. "Wel, fy nghyfaill," ebe'r gweinidog, "pa fodd yr ydych yn ymdeimlo heddyw ?" "Yr wyf yn teimlo fod pob peth yn dda," oedd yr atebiad a roddid mewn tawelwch a difrifwch; "pob peth yn dda, ond fy mod dipyn yn drafferthus gyda'r mudo."

Nodiadau

[golygu]