Gemau Doethineb/Rhan 5
| ← Rhan 4 | Gemau Doethineb gan John Jones (Ioan Eifion) |
Rhan 6 → |
Y mae yn fwy dyogel i ddyn farnu yn ffafriol am ei gyd—ddynion.
Nid yw y galon falch byth yn ffrwytho mwy na'r mynydd uchel.
Y FUWCH.
Gan y Fuwch ceir cig yn faeth,—a 'menyn,
I'n mynych gynaliaeth,—
Caws, gwêr, a llawnder o'i llaeth,
I gynal bri coginiaeth.
Gwyneddon.
PREGETH Y FLWYDDYN.—Yn fy ymweliad byr â'r ddaear, gwelais gyfnewidiadau mawrion: gwelais rew ac eira, oerni a gwres, haf a gauaf, ystormydd a thawelwch; gwelais y dail yn blaguro, a gwelais hwy eilwaith yn syrthio; siglais gryd i dorf aneirif o blant, ac agorais feddau i gynulleidfa o feirwon. Bûm yn dyst o olygfeydd rhyfeddol ar y tir ac ar y môr. Yn awr, gwrandewch arnaf fi, chwi blant Amser. Bûm unwaith yn ieuanc a heinyf: trwsiais fy hun â choronbleth o ddail, fy anadl oedd awelon haf, fy ngwên oedd gwrid y wawr; medais y cynhauaf melyndeg, cesglais y grawnwin a chnydau y winllan. Ond yn fuan teimlais gysgodion nos marwolaeth yn hongian dros fy aeliau; fy nyddiau a aethant yn fyrach, fyrach. Cesglais gyfoeth, ond nis gwn pwy a'i mwynha. Adeiledais dai, ond nis gwn pwy a'u preswylia. Nid ydwyf ond ymwelydd â'r ddaear o fyd mawr yr ysbrydoedd. Farwolion! prynwch yr amser: nid yw eich bywyd ond tarth yn cilio. Wele fi yn myned. Mae yr awrlais bron ar ddeuddeg. Daethum o dragwyddoldeb, a dyma fi yn myned i dragwyddoldeb. Ffarwel! Ffarwel!!D. Oliver Edwards.
Gwell myned i'r gwely heb swper na chodi ohono mewn dyled.
"Yr wyf fel Balaam, wedi cael fy atal gan angel," ebai coegyn, pan y eyfarfu â geneth ieuanc brydferth mewn culffordd. "Ac yr wyf finau fel yr angel, wedi cael fy atal gan asyn," oedd yr ateb.
Mae celwydd fel pysgodyn marw ar dir sych: gall neidio ac ymysgwyd, a chadw cryn swn am beth amser; ond ni wna niwaid yn y byd. Gadewch lonydd iddo, a bydd farw ohono ei hun.
"Byddai yn well i chwi gymeryd tipyn o snuff er eich cadw yn effro yn ystod y bregeth," ebe pregethwr wrth un o'i wrandawyr cysglyd. "Byddai yn well i chwithau roi tipyn o snuff yn y bregeth," oedd yr atebiad.
IESU O NAZARETH.
Yn lleddf, fel oen i'r lladdfa,—drwy ing byd,
Dringa i ben Calfaria;
A gwan ddyn, rhag i wên dda—'i gyrhaeddyd,
O'i bell daranfyd yn bolltio'r Wynfa!
Dyfed.
Dylai pawb wybod am hanes ei gysylltiadau crefyddol ei hun. Peth annaturiol ydyw i rai fod yn ddyeithr i'w cysylltiadau perthynasol. Dengys oerder a difaterwch. Peth peryglus ydyw bod yn ddyeithr i gysylltiadau ac amgylchiadau masnachol. Dyma sydd yn cyfrif am drallod llawer o fasnachwyr, a'u teuluoedd. Ond mwy annaturiol pheryglus ydyw i ddynion fod yn ddyeithr i'w cysylltiadau crefyddol. Mae yn well methu gyda phob peth na chyda chrefydd, am mai "penaf peth yw doethineb."—Parch. H. Jones (W.).
Os mynwch fod yn ddoeth, byddwch ewyllysgar i gymeryd eich dysgu.
Dirwest yw arweinydd rheswm a ffrwyn nwydau, nerth yr enaid, a sylfaen rhinwedd.
DYLED.—Mae myned i ddyled yn debyg iawn i lygoden yn myned i "drap"—yn hawdd iawn myned i mewn, ond yn anhawdd ofnadwy myned allan.
TEIMLAD Y SAINT YN NHY'R ARGLWYDD.
Arglwydd ein Ior, gwledd i ni—ydyw d'od
I dŷ mawl a gweddi;
O dirion Dad, arwain di
Dy ddeiliaid i addoli.
Meigant.
Dygwyd hen wraig fel tyst gerbron yr ynadon, a gofynwyd iddi dynu ymaith ei bonet, yr hyn a wrthododd, gan ddyweyd, "Nid oes yr un gyfraith i orfodi dynes i dynu ei bonet." "O," meddai un o'r ynadon, " yr ydych chwi yn gwybod y gyfraith. Hwyrach y carech chwi ddyfod ac eistedd ar y fainc i'n dysgu ni." "Na, diolch yn fawr i chwi,” atebai yr hen wraig, " y mae yna ormod o hen wragedd eisoes."
BETH YW MEDDWYN ?—Blinder i orchwyledd—gelyn i foesgarwch—lindys i ddiwydrwydd—storm mewn cymdeithas—bedd i olud—goruchwyliwr i'r darllawydd (brewer)—cymwynaswr y tafarnwr—cydymaith y cardotyn—poen i'r heddgeidwad—llofrudd i'w synwyrau—gwrthddrych gwawd i'w gymydogion—gwae i'w wraig—melldith i'w blant—gwarth i ddynoliaeth—a chythraul i'w enaid ei hun. Da fyddai i ddynion ieuainc gadw hyn o linellau yn eu cof.
Y mae angeu yn y dyddiau yma yn bylchio Seion yn fawr; ond mae Duw yn cau y bylchau fel nas gall dyn nag angel weled eu holion. Parch. E. Jones (W.), Talysarnau.
IAWN CRIST.
Duw Ior a phechaduriaid—unwyd
Yn yr Iawn bendigaid;
Ac yn Ei gur digon gaid
I lanw gwagle enaid.
Isaled.
TWRCI.—Dywedir ei bod yn arferiad yn Twrci i dduo gwyneb tŷ celwyddwr adnabyddus. Och! pe bai y cyfryw arferiad yn cael ei osod ar droed yn y deyrnas hon, y mae lle i ofni yr anurddid llawer o'n trefi mwyaf prydferth. Dywed un newyddiadur Seisnig yr ymddangosai trefi cyfain mewn dwfn alar—wisgoedd, ac y byddai llawer o'r heolydd mewn du o'r naill ben i'r llall.
HEN LANC.—Dywedai hen lanc, y dydd o'r blaen, mai yr oll a ddymunai ef gael mewn gwraig ydoedd tymer dda, iechyd, synwyr cryf, gwyneb prydferth, corph hardd, cysylltiadau perthynasol parchus, trefniadaeth deuluol, sirioldeb, galluoedd difyrol, talentau ymddiddanol, moes—arferion coeth, ac arian—dim ond hyny!
Pan oedd Cato yn tynu at derfyn ei fywyd, efe a ddywedai wrth ei gyfeillion nad oedd dim yn rhoddi mwy o gysur iddo ef yn ei hen ddyddiau na'r coffadwriaeth boddhaus o'r ychydig droion caredig a chymwynasgar a wnaeth efe i ereill. Yr oedd gweled ereill yn gysurus a dedwydd trwyddo ef, yn ei wneyd ef yn wirioneddol felly.
Yr oeddynt yr ochr yma i'r mynydd yn trefnu gwledd i Iesu Grist, a'r ochr arall i'r mynydd yn trefnu croes iddo.—Dr. O. Davies.
PWY SYDD FWYAF.
Ymawydd am y mwyaf—dyn i lawr,
Dyna loes i'r eithaf;
Da yw i ni, medd Duw Naf,
Ymryson am yr isaf.
—D Jones, Treborth
CROGI Y TELYNAU AR YR HELYG.—Yr oedd y pregethwr pert ac enwog hwnw, y diweddar William Jay, yn pregethu ar y geiriau hyny yn Psalm 137, "Ar yr helyg o'u mewn y crogasom ein telynau." Rhanai ei destyn i'r tri phen tarawiadol a ganlyn:—1. Y mae gan bob dyn ei lawenydd, onide beth a wnai efe a thelyn? 2. Y mae ganddo ei drallod, onide beth a wnai yn crogi ei delyn i fyny? 3. Y mae ganddo obaith, onide paham na ddrylliai ei delyn yn chwilfriw?
YR ANIFAIL.—Yr oedd gwr oedd yn ei broffesu ei hun yn rhydd—feddyliwr, neu anffyddiwr, yn dadleu mewn cwmni nad oedd gan ddyn enaid nag ysbryd, gan ddwyn yn mlaen luaws o bethau a alwai efe yn rhesymau dros y syniad hwnw. Nid oedd neb yn y cwmni yn cymeryd y drafferth o'i ateb, ond yn edrych fel rhai oedd yn ddigon ganddynt lygadrythu ar y siaradwr. Efe a drodd at un foneddiges oedd yn bresenol, ac a ofynodd iddi, mewn dull ymffrostgar, beth oedd ei meddwl hi am ei athrawiaeth ef. "Mae yn ymddangos i mi, syr," atebai hi, "eich bod yn arfer llawer o ddawn i brofi eich hun yn anifail, ac nid yn ddyn."