Neidio i'r cynnwys

Gemau Doethineb/Rhan 6

Oddi ar Wicidestun
← Rhan 5 Gemau Doethineb

gan John Jones (Ioan Eifion)

Rhan 7 →

MOR COCH.—Yr oedd ffordd y Mor Coch yn ddyogel i Israel; ond pan aeth Pharaoh iddi, collodd ei fywyd; 'doedd dim busnes ganddo fyned iddi—Private road a agorodd Jehofah i'w family ei hun ydoedd.

Y DYNGED AR OL MARW.

Fe ddaw dydd barn—barn heb wyrni:—f'enaid,
Yn mha fan y byddi?
Ai yn y nef? ni wni!
Ynte rhan mewn trueni!
—Eben Fardd.


Dyn ieuanc, yr hwn oedd aelod gyda'r Wesleyaid a feddyliodd ei fod wedi ei alw i bregethu, ond yr oedd ei gyfeillion o feddwl gwahanol, ac yn fynych a wrthwynebasant iddo barhau i wasanaethu. Dygwyddodd i Mr. Wesley ymweled a'r lle yn yr amser yna, pryd y darfu i rai o'r aelodau gwyno wrtho yn nghylch awyddfryd y dyn ieuanc hwn. Pan glybu Mr. Wesley hyn, efe a gynygiodd iddo gael dewis ei destyn, a phregethu o'i flaen ef, i'r hyn y cytunwyd; o ganlyniad, Mr. Wesley a eisteddodd y tu ol iddo yn y pwlpud. Yn ystod ei bregeth, y dyn ieuanc a ddwyfol gynorthwywyd gymaint, fel y tybiodd Mr. Wesley yn sicr ei fod wedi ei alw i'r gwaith, ac a'i hanogodd i ddal ati. Wedi i Mr. Wesley adael y lle, cyfeillion y dyn ieuanc a ofynasant iddo pa fodd yr aeth trwyddi mor dda, "Myfi a ddywedaf i chwi," ebai efe, "mi a osodais Dduw o'm blaen, a Mr. Wesley y tu oli mi; a thrwy y moddion hyny y gwnaethym." Oddiwrth hyn sylwodd un o'i gyfeillion mai felly y dylai pob pregethwr wneuthur, hyny yw, gosod Duw o'i flaen, a dyn o'i ol.

Yr hwn sydd a Christ ganddo ni all fod yn dlawd, a'r hwn sydd heb Grist ganddo ni all fod yn gyfoethog.

AWGRYM I'R BONEDDIGESAU. Bydd i natur dda wneuthur i fyny ddiffyg neu absenoldeb harddwch; ond nis gall harddwch yn hir wneuthur i fyny ddiffyg neu absenoldeb natur dda.

YR IESU.

Iesu hael, dros Ei elyn,—yn brydlon,
I'n brawdle wnai ddisgyn:
Dal dyrnod Duwdod, wed'yn,
A llid Ior, wnai yn lle dyn.
—Garmonydd.


TRECHU CYFREITHIWR.—Ychydig amser yn ol, yr oedd un o wŷr y gyfraith yn myned ar ei farch i daith; ac wedi myned dipyn o ffordd, troes at dŷ i ofyn am gyfarwyddyd, gan ei fod yn lled ddyeithr yn y parthau hyny. Dywedodd gwraig y tŷ wrtho am fyned yn ei flaen am hyn a hyn, a throi ar y llaw aswy. "Ond," ebe hi, "yr wyf yn dod yn y cyfeiriad hwnw, ac mi a ddangosaf y ffordd i chwi." "Mae cwmni drwg," atebai y cyfreithiwr, "yn well na bod heb un cwmni." Cyd—deithiodd y ddau am lawer o filltiroedd; ac o'r diwedd, gofynodd y cyfreithiwr i'r wraig yn mha le yr oedd efe i droi. "Yn mha le i droi, yn wir," meddai y wraig, "chwi ddylasech droi chwe' milldir yn ol." "O!'r faeden ddrwg," gwaeddai y cyfreithiwr, "paham na ddywedaset hyny wrthyf?" “Wel,” meddai y wraig, yn bur ddidaraw, " y mae cwmni drwg yn well na bod heb un cwmni." Gadewir i'r darllenydd gasglu beth oedd effaith yr atebiad hwn ar y cyfreithiwr siomedig; ond gellir sicrhau iddo gyfarfod a'i drech yn y wraig ffraethbert hon.

Cofied pob pregethwr fod Duw yn un o'i wrandawyr.

Y mae yn ddigon hawdd caru cyfaill; ond Cristion yn unig a all garu gelyn.

IAITH ANGAU WRTHO EI HUNAN.

Marwolion y môr wyliaf;—ïe'r byd
Efo'r bedd gysylltaf:
Pwy o'r plant uwch gwywiant, gaf
Dan elor y dyn olaf!
—Ap Glaslyn.


CYLCH BYD A BYWYD GAN CATWG FAWR. Tlodi a bair ymgais; ymgais a bair lwyddiant; llwyddiant a bair gyfoeth; cyfoeth a bair falchder; balchder a bair gynhen; cynhen a bair ryfel; rhyfel a bair tlodi; tlodi a bair heddwch; heddwch tlodi a bair ymgais; ac ymgais a dreigla yr un cylch ag o'r blaen.

Yr oedd bachgenyn yn Eifionydd yn hoff iawn o ddilyn pregethwyr o'r naill gapel i'r llall ar y Sabbothau. Un tro yr oedd yn myned gyda'r Parch. R. Lloyd, Beaumaris. Gofynodd Mr. Lloyd iddo a oedd ef yn hoff o bregethwyr, "Ydwyf," ebai y bachgen. Gofynodd Mr. Lloyd iddo a fyddai yn gweddio dros bregethwyr, "Byddaf," oedd yr ateb, "ac yn enwedig dros ddau." Gofynodd Mr. Lloyd pwy oedd y ddau hyny, “John Williams, Llecheiddior, a chwithau, syr," oedd yr ateb, "Paham yr wyt yn gweddio drosom ni mwy na rhyw rai ereill," "O," ebai y bachgen, “ yr ydwyf yn gweddio am i chwi gael rhywbeth i ddweyd, ac yn gweddio dros John Williams, Llecheiddior, am iddo beidio dweyd gormod."

CYDWYBOD.—Llysgenadwr Duw yw y gydwybod yn enaid dyn, yn amddiffyn iawnderau y nefoedd. Rhaglaw ydyw, os mynir, ar un o daleithiau y Brenin tragwyddol, i bleidio ei hawliau, i sefyll dros ei ddeddfau, ac i amddiffyn ei gymeriad.—Parch. O. Hughes, Talysarn.

YMADAWIAD Y PARCH. S. ROBERTS, M.A., LLANBRYNMAIR.

Mil trymach, trymach fydd tramwy—Brynmair,
Bryn mêl a phob arlwy;
Nid Brynmair fydd Brynmair mwy,
Am adeg, ond Bryn Meudwy.
—Caledfryn.


Yr ydym yn edrych ar y diluw fel moddion yn llaw Duw i argraphu ar yr oesau dilynol atgasrwydd Duw yn erbyn pechod a phechadur. Mae yn wir mai golygfa ddychrynllyd oedd canfod parotoadau y farn hon i ddisgyn ar y byd, oblegid, mor fuan ag y gosodwyd Noah mewn diddosrwydd, dyma'r cymylau yn dechreu ymgasglu, y corwynt yn chwibanu, yr awyr yn duo, yr anifeiliaid yn ffroeni y dymhestl, y llewod yn rhuo, yr ehediaid yn ymwau trwy eu gilydd, y llew cadarnaf wedi myned i grynu gan ofn, i welwi mewn dychryn, ac i bangfeydd gan fraw. Golygfa ofnadwy hefyd o farn oedd gweled y gawod frwmstanaidd yn disgyn ar ddinasoedd y gwastadedd, gweled y ddaear yn agor ei safn i lyncu Cora, Dathan, ac Abiram yn fyw i uffern; a'r gwahanol amlygiadau o farnedigaethau yn yr anialwch a Chanaan ar y genedl Israelaidd. Nid oddiar hoffder yr oedd Duw yn tywallt y barnedigaethau hyn, ond yr oedd yn gwneyd y cyfan er mwyn cael dyn i'w le.—Parch. R. D. Roberts, Llwynhendy.

Cartref budr a yrr y gŵr i grwydro.

Nid oedd afon yr Aipht yn hollti, ond troi ei lliw wrth gael ei tharo; felly calon Pharaoh.

IESU GRIST.

Iesu yw 'Nghymwynaswr,—fy Ngheidwad
A fy nghadarn Farnwr;
Fy Nuw mad, fy Nhad, fy Nhŵr,
Fy Mrenin, a fy Mhrynwr.
—M. Ebrill.


ASYN PWY?—Methodd darlithydd un tro gadw ei gyhoeddiad, ac anfonodd wr ieuanc yn ei le. Wedi cyraedd o'r gŵr ieuanc gerbron y gynulleidfa, efe a ddywedodd: "Nid myfi ydyw y darlithydd, ac nid wyf yn wraig i'r darlithydd, na'i was, na'i ŷch, na'i asyn." "Wel, asyn pwy ydych, ynte?" gofynai un o'r gwrandawyr yn hollol dawel.

YNYS MΟΝ.

Byw yn hon lle ce's fy ngeni,—fy Ior,
Yw f' hiraeth a'm gweddi;
Yn naear Mon rhoi mi
Wely tawel 'rol tewi.
—T. Nicholson.


Un tro pan oedd y Parch. John Williams, Llecheiddior, yn areithio ar ddirwest yn Lerpwl, dywedai, "Nid oes dim nerth ynoch chwi, pobl y trefi yma. Yr ydych wedi myned yn wan fel brwyn wrth yfed y diodydd meddwol. Dyma fi sydd wedi byw ar laeth enwyn a bara ceirch, yr ydwyf yn gryfach na'r un ohonoch. Mi wasgwn i unrhyw ddau ohonoch." Dywedodd rhywun hyny wrth y bwli oedd yn y dref, ac aeth hwnw i'r tŷ yr oedd yn lletya ynddo, gan ei herio i ymladd; dychrynodd hyny ef yn fawr.—Parch. H. Hughes, Brynkir.

Nodiadau

[golygu]