Neidio i'r cynnwys

Gemau Doethineb/Rhan 7

Oddi ar Wicidestun
Rhan 6 Gemau Doethineb

gan John Jones (Ioan Eifion)

Rhan 8

Buasai gweithredoedd Paul, neu ei ddysgeidiaeth, yn ddigon i'w anfarwoli; ac yn gymaint ag iddo gyflawni y ddau, a hyny yn nglyn â lledaeniad teyrnas Dduw yn y byd, nid rhyfedd fod hanes am ei droedigaeth dair gwaith yn llyfr yr Actau, ac yntau mewn gwahanol ddulliau yn meddiannu haner y Testament Newydd.—Parch. L. Probert, D.D.

IAITH Y NEF.

Pan yn y nef ni gartrefwn, ein hiaith
Ein hun a siaradwn;
Ac yno Cymraeg ganwn,—
Yntau'r Sais gaiff wneyd rhyw swn.
Llewelyn Twrog.


YR EPISTOL AT YR HEBREAID.—Nid oes un awdwr cyntefig yn dal mai Paul a ysgrifenodd yr Epistol yn yr iaith Roeg, yr iaith yn yr hon y ceir ef yn awr yn y Testament Newydd. Haera y rhai sydd yn dal mai Paul yw yr awdwr iddo ei ysgrifenu yn Hebraeg. Gwelsom fod y golygiad hwn yn sicr o fod yn gyfeiliornus. Gan hyny, os nad yn Hebraeg yr ysgrifenwyd yr Epistol, pa sail o gwbl sydd genym i gredu oddiwrth y tystiolaethau hyn mai Paul a'i hysgrifenodd?—T. C. Edwards, M.A., D.D., Bala.

TREM TRWY FWYADUR.

Pur ryfedd yw gwel'd pryfyn—aelodog
Fel eidion gyferbyn:
Rhifo torf o'r pryfaid hyn—
Haid farus mewn dyferyn!
Hywel Tudur.


Y mae diogi yn teithio ar ful, ac angen yn ei ddilyn ar farch.

Yr oedd asen Balaam yn gweled yn well nag ef, pan wedi ei ddallu gan wobr anghyfiawnder.

Os dymuna oferddyn wybod gwerth gini, gofyned am fenthyg un i foneddwr dyeithr iddo.

ENGLYN O UN GYDSAIN I ERYRI.

Awyr oer arw rewa—yr Eirig,
Oer arw o'r oera;
Oer, oer, oer, yw yr eira,
Eryri oer orawr ia.
O. Dinorwig.


Buasai dyledswyddau moesol yn rhwymedig ar ddynion, hyd yn nod pe buasai Duw heb eu gorchymyn. Buasai dyn o dan rwymau i garu Duw â'i holl galon, a'i gymydog fel efe ei hun, pe na fuasai y Creawdwr wedi gorchymyn hyny, gan fod y ddyledswydd yn ymgodi oddiar natur perthynas dyn â Duw ac a'i gyd-ddyn; ond ni fuasai rhwymau ar Abraham i offrymu Isaac, nag ar Moses i daro y graig, nac ar Gristionogion i weinyddu Swper yr Arglwydd, oni buasai fod Duw wedi gorchymyn hyny. Dengys hyn fod dyledswyddau crefyddol allanol yn amrywio mewn gwahanol gyfnodau, yn ol natur yr oruchwyliaeth a fyddo mewn grym ar y pryd. Nid oedd bedydd a Swper yr Arglwydd yn rhwymedig ar yr Iuddewon, ac nid yw y Cristionogion o dan rwymau i aberthu a myned i Jerusalem i'r gwyliau blynyddol; ond y mae deddf fawr cariad goruchel at Dduw i barhau yn ddiysgog fel y mynyddoedd cedyrn yn mhob oes, ac o dan pob goruchwyliaeth.—Parch. H. Jones, D.D., Llangollen.

Golygfa ddymunol iawn oedd gweled yr eunuch galluog hwnw o Ethiopia, yn darllen llyfr y prophwyd Esaiah yn ei gerbyd, wrth ddychwelyd o'r ŵyl yn Jerusalem. Anfonwyd Phylip yr efengylydd, gan Ysbryd yr Arglwydd, i'w gyfarfod ar y ffordd, i wneyd trefn iechydwriaeth trwy angeu Crist yn adnabyddus iddo; a'r cwestiwn cyntaf a ofynodd Phylip i'r boneddwr urddasol oedd, "A wyt ti yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen?" (Act. viii. 26—40.) Y mae o'r pwys mwyaf i ninau, yn gystal a'r swyddog anrhydeddus hwnw, ddeall y pethau y byddwn yn eu darllen yn yr Ysgrythyrau sanctaidd, oblegid nis gellir cael gwir leshad oddiwrth y gwirionedd heb ei ddeall.—Parch. O. Evans, D.D., Llundain.

BLODEUYN Y GLASWELLTYN.

Yr awel oer a wywodd y gwelltyn,
A'i flod'yn ef lwydodd;
Yna swrth iawn y syrthiodd,
Dyna wna mab dyn un modd.
Taliesin o Eifion.


Gall plentyn ofyn cwestiwn na all athronydd ei ateb yn aml. "Pwy sydd yn gwneyd y gwair?" meddai hogyn wrth ei fam. "Duw." "Pa bryd?" "O hyd." "Ar ddydd Sul?" "Ië, ar ddydd Sul." "Onid yw yn bechod gwneyd gwair ar y Sul?"

BLODEUYN Y GLASWELLTΥΝ.

Am chwe' awr ar glawr y glyn—y lledai
Y lliwdeg flodeuyn;
Ac er ei dardd, hardd mewn hyn,
Ni cheidw hyd chwech wed'yn.
Absalom Fardd


Dywed un dyn enwog mai y geiriau mwyaf anhawdd eu llefaru ydynt, "Gwnaethum gamsynied." Ysgrifenodd Ffrederick Fawr at ei Senedd, wedi colli brwydr bwysig, "Collais y frwydr, ac arnaf fi fy hunan yn hollol yr oedd y bai." Dywed Goldsmith fod yr addefiad yna wedi gosod mwy o anrhydedd arno na'r holl frwydrau a enillodd yn ystod ei fywyd. Na fyddwn yn rhy falch i addef bai lle byddo.

BEDDARGRAPH Y CYBYDD.

Yn y bedd hwn Cybydd huna,—un fu
Fwya'i fâr am elwa;
Aur oedd ei dŵr a'i dduw da:
Ysgydwch bwrs 'e goda !
Gwilym Cowlyd.


CYFLOG PECHOD YW MARWOLAETH.—Y mae pechod yn talu ei weision trwy eu cosbi. Cofiwyf amgylchiad yn fy hanes pan yn fachgen sydd wedi bod i mi fel dameg o'r gwirionedd difrifol hwn. Gwahoddwyd fi, gyda dau neu dri ereill o fechgyn a gyd-chwareuent a mi, gan ddyn i'w ardd; a dododd i ni, gyda ein bod i mewn, dasg bob un, gan addaw i ni geiniogau wedi ei gorphen. Yr oeddym yn barod iawn i roddi i fyny ein chwareu gyda'r rhagolwg o enill cyflog! Gweithiasom yn galed a dygn am oriau. Wedi gorphen ohonom y dasg a ddodwyd i ni, aethom at y gwr am ein ceiniogau. Yn lle y ceiniogau, tynodd roden o'r gwrych, a rhoddodd hi gyda nerth creulon ar draws ein hysgwyddau; a gorfuwyd ni i ddianc nerth ein traed. Fel hyn y mae pechod yn talu cyflog i'r rhai a'i gwasanaethant yn ffyddlon!—Parch. A. J. Parry.

Gwell ydyw dilyn y doeth na bod yn arweinydd i ffyliaid.

ENGLYN A'R GAIR "DIM" YNDDO WYTH GWAITH,

"I'R TLAWD." Ow! dim addysg na dim moddion,—dim tŷ
Dim tân, dim cyfeillion;
Dim golud na dim gwiwlon,
Dim o'r ddaear hygar hon.
J. E.


CYNGOR.—Beth bynag a ddaw i'th gyfarfod yn nhrefn naturiol pethau, derbyn ef fel o law Duw gan fod yn sicr na ddaeth i'th ran ond trwy ei ganiatad, a than ei gyfarwyddyd.

JONAH YN MOL Y MORFIL.

Yn mawr fol y morfilyn—bu Jonah
Dan benyd—wr cyndyn;
A challach, ystwythach dyn,
O beth, ydoedd byth wed'yn.
Hiraethog.


MADARCH (Mushrooms).—Gan fod yn y wlad hon lawer yn casglu, ac yn bwyta madarch, a chan fod yn dra hawdd i'r un mwyaf cyfarwydd â hwynt gael ei dwyllo trwy gymeryd y rhai gwenwynig yn lle yr iawn ryw, yr hyn a fu yn achos o angeu i lawer, yr ydym yma yn rhoddi o flaen ein darllenwyr y cyfarwyddyd canlynol i brofi eu pureidd-dra. Rhodder ychydig halen ar y sylwedd yspwngaidd, sef yr ochr nesaf i'r ddaear iddynt, ac yn mhen ychydig efe a dry naill ai yn felyn neu yn ddu; os yn felyn, y mae y cyfryw fadeirch yn wenwyn angeuol; ond os yn ddu, gellir eu bwyta yn ddiberygl. Ni ddylai neb eu bwyta heb wneuthur y prawf rhad hwn.—Eurgrawn.

Nodiadau

[golygu]