Gemau Doethineb/Rhan 8
| ← Rhan 7 | Gemau Doethineb gan John Jones (Ioan Eifion) |
Rhan 9 → |
Y SÊR
Clyw, asur! ser clysion,—beth ydynt?
Bathodau'r angylion?
Neu lewyrch oddiar loewon
Lestri aur palasdy'r Ion?
—Alafon.
ESIAMPL CRIST I'W BOBL.—I. Yn ei addfwynder a'i ostyngeiddrwydd (Matth. xi. 29). 2. Yn ei fywyd difeius, a'i weithredoedd didramgwydd (I Petr ii. 22). 3. Yn ei dawelwch a'i foddlonrwydd mewn cyflwr isel (Luc xii. 29). 4. Yn ei barch a'i ufudd—dod i'w rieni (Luc ii. 51). 5. Yn ei ddiwydrwydd a'i ddyfal—barhad "yn cerdded o amgylch gan wneuthur daioni" (Act. x. 38). 6. Ynei dosturi tuagat y gofidus a'r anghenus (Luc vii. 13). 7. Yn ei barodrwydd i faddeu pechodau (Luc xxiii. 34). 8. Yn ei amynedd o dan ddyoddefiadau a gwawdiaeth ei elynion (1 Petr ii. 23). 9. Yn ei ddiolchgarwch i'w "Dad, Arglwydd nef a daear" (Matth. xi. 25. 10. Yn ei ofid oherwydd pechodau a gyflawnid gan y bobl (Marc iii. 5). 11. Yn ei fynych arferiad o weddio yn y dirgel (Luc xxii. 39—41). 12. Yn ei waith yn ymostwng i ewyllys ei Dad, ac yn ei ogoneddu.
Y PRIF-ATHRAW JOHN RHYS, RHYDYCHAIN.
Yn llys moliant dyrcha lleisiau miloedd
Enw'r mawr ddoethawr mewn Celtaidd ieithoedd,
Rhys alluog, gwr enwog a'i rinoedd
Yma'n addurn i wlad y mynyddoedd,
Addas gawr goleuddysg, c'oedd,—o'n entyrch
Ni chilia llewyrch haul ei alluoedd.
—R. E. Jones. Llanberis.
MYN'D ALLAN.—Gofynodd myfyriwr i'r proffeswr: A all unrhyw beth fyn'd, ac heb fyn'd i unlle? Y proffeswr: Yr wyf fi yn meddwl fod hyny yn anmhosibl. Y myfyriwr: Felly, byddwn yn ddiolchgar i chwi am ddyweyd wrthyf i ba le y mae y goleuni yn myn'd pan y mae yn myn'd allan?
RHITH.
Eilun honiadol ei nodwedd—yw Rhith,
O'r hyn sydd wir sylwedd:
Gwna'r llofruddiog wisgo gwedd,
A swyn tegwch sant agwedd.
—H. E. Jones (Hywel Cefni), Talysarn.
Amser yn ol daeth boneddwr, ag arno eisiau gweled yr awdwr hyglod Mr. a galwodd wrth ei ddrws, gan ofyn a oedd yr awdwr gartref, i'r hyn yr atebwyd yn gadarnhaol, a chyfeiriwyd ef i'r ystafell lle yr oedd y gŵr dysgedig yn eistedd ynghanol ei lyfrau, ac yn prysur ysgrifenu ei draethawd. Wedi i'r gŵr boneddig eistedd enyd yn yr ystafell, teimlai y lle yn hynod o frŵd, a sylwodd, "Y mae'r ystafell hon gan boethed a phobty." "Felly y dylai fod," ebai yr awdwr parod-ffraeth, "canys yma yr wyf fi yn gwneyd fy mara."
ENGLYN I'R PRYF-GOPYN.
Yn yr hwn nid oes gydsain.
O'i wiw wy i weu e ä—a'i weau
O'i wyau e weua;
E weua ei we aua,
A'i weau yw ieuau iâ.
—S. ap Tydfil, Trehomer.
Darfu i un berswadio ei gyfaill i briodi dynes fechan, am mai doeth o ddau ddrwg ydoedd dewis y lleiaf.
YR EIDDEW.
Gwas'naethgar, hygar blanhigyn—ro'es Duw
Ar ei 'stâd fawr ddillyn,
I ddal tai, â'i ddwylaw tyn,
Yn sad ar wyntoedd sydyn.
—Ieuan Dwyfach.
Dywedir fod haner y boblogaeth yn methu penderfynu i ba le yr änt i wario eu harian. Y mae yr haner arall yn ceisio dyfeisio yn mha le y cänt arian i'w gwario.
MURMUR Y MOR YN Y NOS.
O! fôr mawr, dy furmuron—a fynant
Fy enaid o'i gyffion;
Hydreiddiawl ymadroddion
'Wyllys Duw yw llais y dòn!
—Llew Llwyfo.
Dywedir fod yn Berlin ddyn sydd wedi claddu saith o wragedd, ac fod ei holl famau-yn-nghyfraith yn byw gydag ef yn awr. Bernir mai efe yw y dyn mwyaf gwydn ar y ddaear.
Gofynodd cyfaill un tro i Milton a wnai efe addysgu ei ferched yn y gwahanol ieithoedd. Atebodd yntau, "Na, syr, gwell peidio: y mae un tafod yn llawn ddigon i ferch!"
"Yr wyf wedi bod yn ddirwestwr holl ddyddiau fy mywyd!" llefai areithydd dirwestol. Yn y fan clywid llais o ganol y gynulleidfa: "Do, ond beth am eich nosweithiau?—dyna'r pwnc."
Un diwrnod aeth dyn, yr hwn a dybiai ei hun yn lled ddoeth, at yr hen bregethwr hynod Rowland Hill, a gofynodd, "Yn awr, Mr. Hill, a ydych chwi yn tybied y gwnai gwydraid o wirod yru gras allan o fy nghalon?" Nag ydwyf," ebe Mr. Hill, "oblegid nid oes dim ynddi i'w yru allan."
YR HUNANOL.
Y Fi heddyw ganfyddwn,—yn unig
Hunanol mewn myrddiwn;
Fe gollai'r byd ei begwn,
A rhewai'r haul, ar air hwn!
—Elfyn.
Y MAB AFRADLON.—Yr oedd gwraig ieuanc yn ymresymu â'i gŵr, yr hwn, er ei mawr siomedigaeth a'i gofid, oedd wedi troi allan yn oferddyn, gan ymroi i ddiota a meddwdod. "Ho," ebe ef, "nid wyf fi ond fel y mab afradlon: yr wyf yn bwriadu, fel yntau, diwygio yn mhen tipyn o amser." "Eisieu aros yn gyntaf sydd arnoch, dybygwn," atebai hi, "nes i mi, fel chwithau, fod fel yr afradlon, yn marw o newyn. Ond gan mai dyna eich penderfyniad, yr wyf finau yn penderfynu bod fel yr afradlon hefyd, oherwydd mi a godaf, ac a äf at fy nhad." Ac felly, yn ddioed, ymaith yr aeth i'w hen gartref at ei theulu, gan adael rhwng ei gŵr meddw a'i gymdeithion mochynaidd.
GLYN CYSGOD ANGEU.
Glyn llwm, llaith, glyn lle mae llu—yn myn'd
Drwyddo'n mhell i'w barnu;
Nid oes neb yn gwynebu
Un glyn dêg yn y glyn du.
—Dewi Glan Dulas
Dywed Darwin fod un acer o dir porfa yn cynwys chwe' mil ar hugain o bryfed.
SEREN Y GOGLEDD.
Seren wir dêg, llusern ar dŵr—y nen,
Siriola nos gwyliwr;
Mynegfys, ar ddyrys ddw'r,
O law angel, i longwr.
—Morwyllt.
Un tro, cwympodd boneddiges i'r afon, a llwyddodd bachgen tlawd i'w hachub. Pan gafwyd hi i'r lan yn ddyogel, estynodd ei gŵr swllt i'r bachgen dewr. Ar waith rhai o'r edrychwyr yn dangos anfoddlonrwydd yn ngwyneb crintachrwydd ei phriod, dywedodd y bachgen, wrth roddi y swllt yn ei logell: "Peidiwch beio y boneddwr—efe a ŵyr oreu beth yw ei gwerth: feallai, pe buaswn heb ei hachub, y buasai yn rhoddi sofren imi!"
Y DYFODOL.
Du gyfnod yw'r dyfodol,—y caddug
A'i cuddia ef bythol;
Deall gair o'i dywyll gôl
Ni fedra y ddawn feidrol.
—R. Williams (Trebor Cybi.), Talysarn.
HEB DDERBYN ENLLIB.—Yr oedd Dr. Johnson unwaith yn nghwmni merched oedd yn siarad yn anmharchus am foneddigesau oedd yn absenol. Un ohonynt a ddywedodd fod ei chyfeilles yn arfer paentio ei gruddiau, pan y sylwai y Doctor: "Hwyrach, wedi y cwbl, mai mwy diniwed ydyw i foneddiges gochi ei gruddiau ei hun na duo cymeriadau pobl ereill."